Deiseb Gwahardd gwleidyddion rhag derbyn rhoddion.

Gan fod rhoddion oddi wrth unigolion a busnesau wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i achub y blaen o ran gweithredu a gwahardd yr arfer o roi a derbyn rhoddion gwleidyddol. Rydym yn gweld mwy a mwy o roddion amheus oddi wrth endidau sydd naill ai’n ceisio cael cefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rhywbeth neu’n ceisio dylanwadu ar ymgyrchoedd arweinyddiaeth ac etholiadau. Byddai cael gwared ar y cyfraniadau ariannol hyn yn sicrhau chwarae teg i bob plaid o ran ymgyrchu.

Rhagor o fanylion

Yr enghraifft fwyaf diweddar yw Prif Weinidog newydd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething, yn derbyn rhodd o £200,000 oddi wrth DEG ar ôl i’r cwmni hwnnw gael benthyciad o £400,000 gan Fanc Datblygu Cymru sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru! Mae hefyd wedi cael £25,000 mewn rhoddion oddi wrth VEEZU, sydd dan y chwyddwydr mewn perthynas â’i yrwyr.
Mae fel bod hyn, yn ei farn ef, yn iawn. Dwi’n dweud wrthych nad yw hyn yn iawn o gwbl. Mae unrhyw arian sy'n dod oddi wrth Lywodraeth Cymru yn arian cyhoeddus. Rydym yn talu ein trethi am wasanaethau i'r cyhoedd, nid i fusnesau daro bargeinion.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi stop ar yr arfer atgas hwn unwaith ac am byth a sicrhau bod POB plaid yn cael tegwch i ymgyrchu heb sgiw ariannol. Mae pleidiau yn codi arian trwy danysgrifiadau aelodau ac ati, a dim ond y cronfeydd hynny ddylai gael eu defnyddio i ariannu ymgyrchoedd.
A wnaiff Llywodraeth Cymru fagu plwc a gweld na all yr arfer hwn barhau mwyach a bod angen iddo ddod i ben ar unwaith?

Llofnodi’r ddeiseb hon

41 llofnod

Dangos ar fap

250

Ar ôl casglu 250 llofnod...

Caiff pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod ei chyfeirio at y Pwyllgor Deisebau

Ar ôl 10,000 llofnod...

Caiff deisebau sydd â mwy na 10,000 llofnod eu hystyried ar gyfer dadl yn y Senedd

Rhannu’r ddeiseb hon