{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau.json?page=1&state=open","first":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?state=open","last":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=3&state=open","next":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=2&state=open","prev":null},"data":[{"type":"petition","id":247039,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247039.json"},"attributes":{"action":"Rydym yn galw ar y Senedd i wrthod unrhyw gamau i ddifa moch daear yng Nghymru.","background":"Mae Lloegr wedi lladd ¼ miliwn o foch daear ond mae ganddi gyfradd uwch o achosion o TB buchol na Chymru O HYD. Mae'r ddwy wlad wedi sicrhau gostyngiadau ar bob metrig allweddol, ond llwyddwyd i wneud hyn yng Nghymru heb unrhyw gamau i ddifa moch daear. Mae bron i 95% o fuchesi yng Nghymru yn rhydd o TB buchol yn swyddogol, sy’n agos at y lefel isaf mewn dau ddegawd. Clefyd sy’n effeithio ar wartheg yw hwn, ac mae mesurau sy’n benodol i wartheg wedi bod yn effeithiol yn y ddwy wlad. NID OES UNRHYW dystiolaeth wyddonol i ddangos bod difa moch daear wedi chwarae unrhyw ran yn y gostyngiadau yn Lloegr.","additional_details":"Byddai difa moch daear yn ddisynnwyr ac yn difrodi bywyd gwyllt ymhellach, ac mae’r dystiolaeth yn dangos nad yw’n cael unrhyw effaith ar TB buchol. Dylai Cymru fod yn falch o'i record a pheidio â mynd yn ôl ar yr hyn a gyflawnwyd hyd yma.\r\nByddai mabwysiadu model o ladd bywyd gwyllt sydd eisoes wedi'i ddangos i fod yn aneffeithiol yn ffolineb llwyr ac yn hynod anghyfrifol. Mae Cymru’n ymfalchïo yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac rydym yn annog y Senedd i barhau i roi’r ddeddfwriaeth hon wrth wraidd polisi i ddileu TB a gwrthod galwadau i ddifa moch daear.\r\nRhaid i ymgynghoriad cyhoeddus llawn gyd-fynd ag unrhyw newid mewn polisi yng Nghymru.\r\n\r\nDangosfwrdd TB y DU 2026\r\nhttps://www.gov.uk/government/statistics/incidence-of-tuberculosis-tb-in-cattle-in-great-britain/\r\nDadansoddiad o effaith difa moch daear ar dwbercwlosis buchol yn ardal risg uchel Lloegr, 2009–2020, Cofnod Milfeddygol 2022, Langton et al\r\nhttps://bvajournals.onlinelibrary.wiley.com/doi/full/10.1002/vetr.1384\r\n\r\n","state":"open","signature_count":24584,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-19T11:38:27.165Z","updated_at":"2026-10-17T05:48:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-21T13:18:52.367Z","closed_at":"2026-11-11T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-19T12:16:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-07-23T22:22:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":"2026-07-25T19:53:10.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Sarah Reisz","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"amaethyddiaeth","name":"Amaethyddiaeth Coedwigaeth a Bwyd"},{"code":"lles-anifeiliaid","name":"Lles Anifeiliaid"}]}},{"type":"petition","id":247110,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247110.json"},"attributes":{"action":"Ailgychwyn llawdriniaethau cadarnhau rhywedd ar unwaith a diogelu cleifion Gwasanaeth Rhywedd Cymru'r GIG.","background":"Rydym yn galw ar y Senedd a Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru i wneud y canlynol:\r\n\r\nAilgychwyn ar unwaith y llawdriniaethau cadarnhau rhywedd hynny a oedd wedi cael eu trefnu a'u cymeradwyo ar gyfer cleifion sydd eisoes wedi cwblhau asesiadau.\r\n\r\nSicrhau bod unrhyw adolygiad clinigol parhaus yn cael ei gynnal ar yr un pryd, a hynny heb amharu ar ofal cleifion gweithredol, sefydledig.\r\n\r\nCyhoeddi cylch gorchwyl clir a thryloyw ac amserlen bendant ar gyfer yr adolygiad annibynnol o Wasanaeth Rhywedd Cymru","additional_details":".Ar 24 Awst 2026, gwnaeth Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru uwchgyfeirio Gwasanaeth Rhywedd Cymru i lefel 3 ar gyfer \"Gwasanaeth sy'n Peri Pryder\", gan atal ar unwaith ac yn ddiwahân bob atgyfeiriad llawfeddygol, pob asesiad a phob llawdriniaeth drefnedig a oedd yn ymwneud â chadarnhau rhywedd.\r\nCymerwyd y penderfyniad hwn yn sgil pwysau gwleidyddol allanol a sylwadau trydydd parti ynghylch nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer un categori llawfeddygol (llawdriniaeth i wryweiddio’r frest). Fodd bynnag, ymatebodd y corff comisiynu drwy gau’r llwybr llawfeddygol yn llwyr, gan atal triniaethau hollol wahanol—gan gynnwys llawdriniaethau benyweiddio a thriniaethau adlunio organau cenhedlu—ar gyfer cleifion heb unrhyw gysylltiad â’r ystadegau dan sylw.\r\nMae canslo ar fyr rybudd lawdriniaethau meddygol angenrheidiol a oedd wedi cael eu cymeradwyo ymlaen llaw yn achosi trawma seicolegol difrifol i gleifion agored i niwed sydd wedi bod yn aros, yn hollol ddidwyll, ers blynyddoedd. Rhaid i waith craffu gweinyddol ac adolygiadau clinigol gael eu cynnal ochr yn ochr â gofal parhaus, nid ar draul diogelwch cleifion, ymreolaeth gorfforol, ac urddas dynol sylfaenol.","state":"open","signature_count":18020,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-29T10:55:32.320Z","updated_at":"2026-10-16T14:46:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-03T15:51:21.459Z","closed_at":"2027-03-03T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-29T10:59:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-04T09:09:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":"2026-09-05T14:44:10.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Christopher May","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":247000,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247000.json"},"attributes":{"action":"Peidio â chau cyffyrdd yng Nghasnewydd","background":"Fel cymudwyr yng Nghasnewydd, rydym yn gwrthwynebu cau cyffyrdd ar yr M4. Mae defnyddio ffyrdd lleol a llwybrau ysgol i liniaru priffyrdd yn hel traffig heibio i’n cartrefi, yn difetha ein heconomi, ac yn peryglu bywydau ein plant. Mae'r rhan fwyaf o ysgolion Casnewydd yn sefyll yn ymyl priffordd. Mae boddi’r ffyrdd hyn dan gludiant nwyddau traffordd yn achosi tagfeydd, aer gwenwynig, a risg uchel o ddamweiniau i’r rhai sy’n cerdded i’r ysgol ac oddi yno. Rydym yn mynnu bod Llywodraeth Cymru yn diystyru cau cyffyrdd.","additional_details":"Mae cofnodion cyhoeddus swyddogol yn dangos bod ofnau ein cymuned yn gwbl gyfiawn. Mewn sesiwn ffurfiol yn y Senedd, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth yn Llywodraeth Cymru fod y weinyddiaeth wrthi’n pwyso a mesur \"pob opsiwn ffordd arall\", gan gynnwys cau cyffyrdd lleol ar yr M4 yn benodol [South Wales Argus]. Ar ben hynny, fel y darlledwyd gan ITV News, mae'r Llywodraeth, dro ar ôl tro, wedi gwrthod diystyru cau’r cyffyrdd penodol hyn. Mae'r newid polisi hwn yn golygu y bydd cerbydau traffordd sy’n cludo nwyddau dros bellter hir yn gorfod mynd drwy galon dinas Casnewydd. Bydd symud tagfeydd o’r draffordd i strydoedd y ddinas yn achosi tagfeydd parhaol ar draws cymdogaethau lleol, yn amharu ar dargedau ansawdd aer, ac yn peri aflonyddwch difrifol, parhaol i deuluoedd [South Wales Argus].","state":"open","signature_count":13614,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-02T17:28:38.874Z","updated_at":"2026-10-17T05:41:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-14T14:40:09.776Z","closed_at":"2027-01-14T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-02T17:34:40.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-14T06:25:00.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":"2026-10-09T20:56:50.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Danielle powell","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"trafnidiaeth","name":"Trafnidiaeth"}]}},{"type":"petition","id":246942,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246942.json"},"attributes":{"action":"Rhaid sicrhau na chollir yr unig ganolfan endometriosis drydyddol yng Nghymru sydd ag achrediad y BSGE.","background":"Yng Nghymru, dim ond un ganolfan drydyddol arbenigol sydd ag achrediad y BSGE ar gyfer trin achosion cymhleth o endometriosis ymdreiddiol dwfn. (1)\r\nWrth gyhoeddi ei gofrestr risg, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi nodi risg bosibl o golli achrediad y BSGE erbyn mis Rhagfyr 2026, a fyddai’n arwain at ganlyniadau difrifol i'r sefydliad o safbwynt ariannol, clinigol ac enw da. Nodir hefyd nad oes unrhyw gyllid ar gael, felly nid oes datrysiad ar hyn o bryd.\r\n","additional_details":"Cyflwr cronig yw endometriosis sy'n effeithio ar tua un o bob 10 o fenywod a'r rhai a bennwyd yn fenywod ar adeg eu geni. Yn aml, mae angen ymyrraeth lawfeddygol arbenigol i drin y cyflwr, ac mae llawer o fenywod yn treulio blynyddoedd yn aros am ddiagnosis a thriniaeth briodol. Byddai colli'r ganolfan achrededig hon yn golled drychinebus i ofal iechyd menywod yng Nghymru. Mae'r ddeiseb hon yn galw ar y Senedd i ymyrryd i fynd i’r afael â’r risg sy'n wynebu’r ganolfan endometriosis ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.\r\n\r\n(1) BSGE – Cymdeithas Endosgopi Gynaecolegol Prydain\r\n","state":"open","signature_count":11455,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-04T11:33:25.493Z","updated_at":"2026-10-16T23:02:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-08T10:30:17.477Z","closed_at":"2026-12-08T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-04T11:41:40.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-09T09:24:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":"2026-10-08T08:20:30.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Emrys Price-Jones","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":246936,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246936.json"},"attributes":{"action":"Herio’r gwaharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru","background":"Cafodd y ddeddfwriaeth ei phasio’n gyflym ac heb ystyriaeth briodol, gan anwybyddu argymhellion trawsbleidiol. Rwyf am annog y llywodraeth newydd i ailystyried y gwaharddiad, ac i ddiddymu’r ddeddfwriaeth, gan weithredu yn lle hynny’r canllawiau blaenorol a argymhellwyd gan y pwyllgor a sefydlwyd i edrych ar y mater. Cymeradwywyd y gwaharddiad ar sail tystiolaeth annigonol a gwybodaeth a oedd wedi hen ddyddio ac anghywir.\r\n","additional_details":"","state":"open","signature_count":10508,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-25T13:25:26.128Z","updated_at":"2026-10-16T20:27:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-01T10:27:23.101Z","closed_at":"2026-12-01T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-25T20:13:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-07T17:33:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":"2026-09-11T23:16:30.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"martyn kitt","rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":247123,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247123.json"},"attributes":{"action":"Atal unrhyw gamau sy’n arwain at golli gwelyau a chyfleusterau, yn ogystal â chau ysbytai cymunedol, o ganlyniad i’r adolygiad o ofal iechyd gwledig ym Mhowys","background":"Nid cau pob un ond 60 o welyau ysbytai cymunedol dan arweiniad meddygon teulu ym Mhowys, lle nad oes ysbyty cyffredinol na hosbis, yw'r ffordd o ddarparu gofal. Mae’n rhaid ailystyried gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn radical, yn hytrach na gwneud toriadau llym.\r\n\r\nRwy'n galw ar y Senedd a'r Gweinidog Iechyd i ddechrau ymchwiliad llawn a chynnal dadl ar gamau i ddarparu a chyflenwi gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig, ac i sicrhau nad oes unrhyw newid yn nifer y gwelyau, y gwasanaethau na'r ysbytai ym Mhowys cyn i’r gwaith hwn gael ei wneud.\r\nMae’n rhaid i ni gynllunio ar gyfer y dyfodol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol bob amser. Mae atal yn well na gwella, ac mae pob un ohonom am gael gofal yn nes at adref, gan fyw'n annibynnol yn ein cartrefi ein hunain a chael gofal brys neu ofal mewn ysbyty cyffredinol pan fydd ei angen arnom.\r\n","additional_details":"Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) mewn trafferthion ariannol:\r\nhttps://herald.wales/mid-wales/powys/powys-health-board-records-33m-deficit-withdraw-delivering-savings-targets/.\r\n\r\nEr y bydd mesurau ataliol yn helpu i leihau costau yn y tymor hir, ymddengys mai ateb tymor byr BIAP yw cael dim ond 60 o welyau ym Mhowys a chau ysbytai cymunedol - https://www.bbc.co.uk/news/articles/c9w0jj2lgn4o.\r\n\r\nNid oes ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mhowys. Yn y cyd-destun hwn, mae cwtogi ar wasanaethau lleol presennol yn golygu mwy o deithio, colli apwyntiadau, dirywiad mewn iechyd, mwy o dderbyniadau brys, mwy o gostau i’r GIG ac iechyd gwaeth ymhlith y boblogaeth. Mae angen ailystyried gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn radical, gan osgoi toriadau eithafol i gyrraedd targedau ariannol. Ein hiechyd ni sy'n dod yn gyntaf!\r\n\r\nMae crynodeb \"Gwella Gyda'n Gilydd\" ar gael isod:\r\nhttps://biap.gig.cymru/amdanom-ni/gwella-gydan-gilydd/\r\n","state":"open","signature_count":10326,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-09T14:14:16.416Z","updated_at":"2026-10-16T20:54:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-22T20:50:26.981Z","closed_at":"2027-03-22T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-10T21:49:20.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-23T11:20:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":"2026-10-13T20:15:30.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Catherine Duerden","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":247069,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247069.json"},"attributes":{"action":"Cymryd camau brys fel nad yw’r rhai sydd ag Enseffalomyelitis Myalgig Difrifol yng Nghymru yn cael eu gadael heb ofal meddygol hanfodol mwyach","background":"Mae’r gwasanaethau a ddarperir i bobl sydd ag Enseffalomyelitis Myalgig (ME) yn parhau i fod yn anghyson ledled Cymru. Yn benodol, mae pryderon mawr o hyd ynghylch y gwasanaethau sydd ar gael i’r rhai sydd â’r ffurf ddifrifol ar y cyflwr. Mae hyn yn gadael rhai teuluoedd sy’n wynebu penderfyniadau sy’n effeithio ar fywyd heb arweiniad meddygol.\r\n\r\nMae dioddefwyr yn gorfod aros mewn ystafelloedd tywyll; mae angen gofal 24 awr y dydd arnynt; ac mae rhai yn methu siarad, bwydo eu hunain, goddef golau neu sain, neu hyd yn oed eistedd i fyny.\r\n\r\nBydd camau arfaethedig yn sicrhau bod pobl sydd ag ME Difrifol yn gallu cael gafael ar ofal meddygol diogel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, gan gynyddu’r posibilrwydd o wella.","additional_details":"Rydym yn pwyso ar y Llywodraeth i sicrhau bod y rhai sydd mewn angen dirfawr yn cael cymorth brys a hirdymor.\r\n\r\nDyma’r camau gweithredu a luniwyd ar y cyd gan y cyrff a ganlyn: Severe ME Difrifol Cymru (SMEDC), Cymdeithas Cefnogi ME a CFS Cymru (WAMES), Action for ME (AfME), Long Covid Support (LC Support).\r\n\r\n1. Creu Grŵp Arbenigol Cenedlaethol o weithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw i gydweithio i lunio Strategaeth a Chynllun Cyflawni Cymru Gyfan ar gyfer ME a Covid Hir, gan sicrhau tegwch gwasanaethau a chydymffurfedd â chanllawiau NICE (NG206 ME/CFS), ar draws pob oedran a phob lefel difrifoldeb.\r\n\r\n2. Penodi Arweinydd/Arweinwyr Clinigol / Ymgynghorydd/Ymgynghorwyr Meddygol Cymru Gyfan ar gyfer ME a Covid Hir i gydlynu gofal ar draws byrddau iechyd, lleihau amrywiadau rhanbarthol, cefnogi achosion cymhleth, ac arwain hyfforddiant a thriniaeth, gan sicrhau bod Cymru’n parhau i gyd-fynd ag ymchwil ddatblygol.\r\n\r\n3. Datblygu Strategaeth Ymchwil ME/CFS a Covid Hir i gyflymu’r gwaith ymchwil a wneir yng Nghymru drwy’r Sector Gwyddorau Bywyd / Hwb Gwyddorau Bywyd erbyn 2027.\r\n\r\n4. Ystyried canlyniadau hirdymor mewn strategaethau cynllunio/atal pandemig yn y dyfodol, gan adolygu canllawiau ynghylch Atal a Rheoli Heintiau.\r\n","state":"open","signature_count":3504,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-05T16:08:39.492Z","updated_at":"2026-10-16T18:57:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-10T10:38:26.006Z","closed_at":"2027-02-10T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-06T04:16:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-08-10T16:25:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Shauna Chambers","rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":246979,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246979.json"},"attributes":{"action":"Dylid defnyddio Cymru nid Wales fel yr enw swyddogol ar ein gwlad, a defnyddio un enw yn unig ar gyfer ein henwau lleoedd","background":"Nid Wales yw enw ein cenedl. Ystyr Wales yw 'estroniaid' ac fe'i gorfodwyd arnom, ac mae'n adlewyrchu'n wael pwy ydym ni fel pobl.\r\n\r\nA ninnau â Llywodraeth sy'n edrych tuag allan, nawr yw'r amser i ni fynnu ein bwriad ein hunain o ran sut rydym yn cael ein gweld ledled y byd, yn iaith ein cenedl gan ddefnyddio'r enw a ddewiswyd gan ein cenedl.\r\n\r\nNawr hefyd yw'r amser i ni roi'r gorau i ddefnyddio dau enw ar gyfer lleoedd ag enwau Cymraeg dyfnach, hŷn. Gallwn yn synhwyrol gadw rhai enwau ag ystyron hanesyddol deuol a phwysig eraill.","additional_details":"Mae safle Cymru ar y llwyfan rhyngwladol yn fach iawn iawn o'i gymharu â'r Alban ac Iwerddon, ond â Llywodraeth newydd mewn grym sy'n edrych tuag allan, mae gennym gyfle i newid hynny.\r\n\r\nMae Twrci a Tsiecia yn enghreifftiau o wledydd sydd wedi newid eu henwau, ac rydym hefyd wedi gweld llwyddiant ein parciau cenedlaethol yn defnyddio enwau Cymraeg ac yn ennill sylw rhyngwladol ehangach.\r\n\r\nCafodd deiseb flaenorol ar y pwnc dros 10,000 o lofnodion ac fe’i hanwybyddwyd gan Lywodraeth Lafur. Roedd y ddeiseb, a grëwyd gan Arfon Jones, yn dweud: Enw sydd wedi ei orfodi ar Gymru yw’r enw ‘Wales’, sydd yn ei hanfod ddim yn air Cymraeg o gwbl.  Mae’r byd i gyd bron yn gwybod am Wales oherwydd ei chysylltiad Seisnig a Lloegr ers 1282.\r\n\r\n\"Nid oes fawr neb yn gwybod am Gymru a bod ganddi iaith a diwylliant unigryw ei hunan sydd yn hollol wahanol i’r gwledydd eraill o fewn y Deyrnas Unedig.\"\r\nMae gennym gyfle i ailosod, i ailfrandio ac i adnewyddu ein cenedl a'i dinasoedd, ei threfi a’i phentrefi - byddai hyn yn ddechrau hyderus a gobeithiol.","state":"open","signature_count":3035,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-23T13:39:08.793Z","updated_at":"2026-10-16T07:42:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-30T07:57:24.252Z","closed_at":"2026-12-30T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-23T13:45:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-30T10:54:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"John Price","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"y-gymraeg","name":"Y Gymraeg"}]}},{"type":"petition","id":246928,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246928.json"},"attributes":{"action":"Galw am Ymchwiliad i Dŵr Cymru, y cwmni “nid-er-elw”","background":"Yn y bôn, mae’n methu yn ei ddyletswydd statudol i ddiogelu iechyd y cyhoedd, bioamrywiaeth, ac amgylchedd naturiol Cymru. Mae data diweddar yn dangos bod y fframwaith rheoleiddio a gweithredu presennol yn gwbl anaddas i’r diben. O dan fodel unigryw “nid-er-elw” a gynlluniwyd i ddiogelu budd y cyhoedd, mae strwythur yr arweiniad corfforaethol yn gyson wedi sicrhau tâl uchel a chyflogau chwe ffigur i’r gweithredwyr, a hynny wrth i filiau cwsmeriaid godi ac ecosystemau afonydd lleol ddirywio.","additional_details":"Mae data o 2025 yn datgelu bod Dŵr Cymru wedi cofnodi ei flwyddyn waethaf erioed ar gyfer digwyddiadau llygredd difrifol, gan reoli 11 o ddigwyddiadau mawr, dinistriol i’r amgylchedd - cynnydd o 83% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. (1)\r\nDyfarnodd Cyfoeth Naturiol Cymru sgôr perfformiad “Coch” i’r cwmni cyfleustodau am ddigwyddiadau difrifol. Arweiniodd y methiant hwn at gosbau enfawr, gan gynnwys gofyniad i dalu £40 miliwn yn dilyn ymchwiliadau i gamadrodd am ddata gollyngiadau a pherfformiad amgylcheddol - ond NID DYNA’R DARLUN CYFAN O BELL FFORDD.\r\n\r\n(1) Cynllun Lleihau Digwyddiadau Llygredd Dŵr Cymru 2026: https://corporate.dwrcymru.com/cy-gb/community/environment/pollution-incident-reduction-plans","state":"open","signature_count":2108,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-22T06:57:19.854Z","updated_at":"2026-10-16T18:26:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-04T08:24:40.624Z","closed_at":"2026-12-03T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-22T07:03:20.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-06T22:42:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Ajay Owen","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}]}},{"type":"petition","id":247036,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247036.json"},"attributes":{"action":"Rhoi’r gorau i bob datblygiad ar fawndiroedd ledled Cymru!","background":"Mae mawndiroedd yng Nghymru yn darparu storfa carbon bwysig, maen nhw’n storio 30% o’n carbon ar y tir. Maent yn hanfodol o ran ein goroesiad: mae mawndiroedd iach yn storio mwy o garbon na holl goedwigoedd y byd gyda’i gilydd.\r\nMaent hefyd yn darparu cynefin hanfodol i blanhigion, anifeiliaid, adar a phryfed, ac yn helpu i atal llifogydd yn wyneb tywydd cynyddol anwadal. Ni ellir symud nac ail-greu mawndir; unwaith y bydd wedi’i ddarnio neu ei ddinistrio, mae’n cael ei golli.\r\nMae mawndiroedd hanfodol Cymru mewn perygl oherwydd\r\n•plannu coed ar gyfer coedwigaeth fasnachol,\r\n•datblygiadau ffermydd gwynt mawr (megis Waun Hesgog a Lluest y Gwynt ym Mynyddoedd Cambria, sy’n ceisio caniatâd ar hyn o bryd),\r\n•defnydd cynyddol o gerbydau oddi ar y ffordd,\r\n•tanau gwyllt,\r\n• adeiladu ffyrdd,\r\n•llosgi tymhorol.\r\nMae datgarboneiddio ynni a chynyddu gorchudd coed yn bwysig ar gyfer mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ond ni all hynny fod ar draul mawndir!\r\nMae’r 60 neu fwy o ddatblygiadau adnewyddadwy diwydiannol ar raddfa fawr a gynigir yn bygwth tua 36% o adnodd mawndir Cymru.\r\n","additional_details":"Rhaid amddiffyn ac adfer pob mawndir yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth frys yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.\r\nMae echdynnu mawn ar gyfer gerddi wedi'i wahardd, nawr mae’n rhaid inni atal cyfeintiau llawer mwy rhag cael eu dinistrio gan y gweithgareddau eraill hyn.\r\nCyflwynir y ddeiseb hon gan ymgyrchwyr cymunedol, Grŵp Gweithredu Waun Hesgog, Cyfeillion y Ddaear Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a Chymdeithas Mynyddoedd Cambria.\r\n","state":"open","signature_count":2002,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-17T08:10:00.019Z","updated_at":"2026-10-16T16:03:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-21T10:46:44.660Z","closed_at":"2027-01-21T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-17T12:12:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-07-27T08:20:00.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Jennifer Lloyd","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}]}},{"type":"petition","id":246914,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246914.json"},"attributes":{"action":"Mae angen mwy o gyllid ar ofal a chymorth ym maes iechyd atgenhedlol a gynaecolegol menywod","background":"Mae angen sicrhau bod mwy o gymorth, cefnogaeth a thriniaethau ar gael i fenywod sy'n dioddef o broblemau iechyd gynaecolegol ac atgenhedlol. Yn hytrach na chael gwybodaeth sydd yn hen neu gael ein hanwybyddu, mae angen mwy o gymorth arnom i'n helpu i reoli a thrin ein symptomau, boed hynny ar gyfer gofal wedi camesgoriad, cyflyrau fel syndrom ofarïau polycystig, endometriosis, menopos neu unrhyw gyflwr arall.","additional_details":"Mae angen sicrhau bod mwy o gymorth, cefnogaeth a thriniaethau ar gael i fenywod sy'n dioddef o broblemau iechyd gynaecolegol ac atgenhedlol. Yn hytrach na chael gwybodaeth sydd yn hen neu gael ein hanwybyddu, mae angen mwy o gymorth arnom i'n helpu i reoli a thrin ein symptomau, boed hynny ar gyfer gofal wedi camesgoriad, cyflyrau fel syndrom ofarïau polycystig, endometriosis, menopos neu unrhyw gyflwr arall.\r\nMae angen mwy o gyllid ar gyfer gofal a chymorth i fenywod sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd atgenhedlol a gynaecolegol. Rydym yn pryderu bod gwybodaeth anghywir, hen a diwerth yn cael ei rhoi, ac nad yw'n helpu i reoli'r symptomau. Mae llawer o fenywod yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu neu eu diystyru pan fyddant yn codi’r materion hyn.\r\n\r\nRydym am roi’r gorau i weld menywod yn cael cyfarwyddiadau i ‘golli pwysau’ neu’n cael cynnig dulliau atal cenhedlu fel triniaeth. Mae angen trin ymwrthedd i inswlin o ddifrif a dylai mwy o opsiynau fod ar gael o ran triniaeth. Mae angen cydnabod symptomau poenus, mislif afreolaidd neu absennol, blinder ac anghydbwysedd hormonaidd o ddifrif a dylai mwy o driniaeth fod ar gael. Mae angen gwell gofal ar gyfer pob cyflwr gan gynnwys y menopos, endometriosis a syndrom ofarïau polycystig (a elwir hefyd yn PMOS). Ni ddylai menywod orfod mynnu bod eu lleisiau yn cael eu clywed ac ni ddylid eu hanwybyddu a rhoi cyngor diog iddynt. Credwn fod angen newidiadau sylweddol.\r\n","state":"open","signature_count":1857,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-15T15:35:06.612Z","updated_at":"2026-10-15T22:43:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-05-20T15:28:23.541Z","closed_at":"2026-11-20T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-15T16:06:10.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-07-14T06:43:20.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Darci Agnew","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":246949,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246949.json"},"attributes":{"action":"Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad brys o’r trothwy 182 diwrnod ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru","background":"Yn ddiweddar, cododd y Senedd y trothwy ar gyfer bod yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi busnesau bach o 70 diwrnod o ddefnydd i 182 diwrnod. Mae’r trothwy hwn yn anodd iawn i'w gyflawni, yn enwedig mewn ardaloedd mewndirol. Mae’n cael effaith andwyol ar dwristiaeth, ac mae busnesau'n cau ar raddfa ofidus.","additional_details":"Mae'r rhan fwyaf o'r llety gwyliau hyn yn adeiladau fferm sydd wedi cael eu haddasu neu'n llety sy'n anaddas i bobl fyw ynddynt yn barhaol. Nid ydym yn cymryd tai oddi wrth bobl sydd am brynu am y tro cyntaf. Rydym yn darparu llety gwyliau ar raddfa fach ac yn darparu cyflogaeth a refeniw i fusnesau lleol.","state":"open","signature_count":1843,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-10T08:49:27.854Z","updated_at":"2026-10-16T07:41:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-12T08:18:34.323Z","closed_at":"2026-12-12T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-10T09:06:30.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-12T21:59:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Adrienne Mortlock","rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":246989,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246989.json"},"attributes":{"action":"Dylid cyflwyno trwyddedu cryfach ar gyfer llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel yng Nghymru","background":"Gall llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel gefnogi twristiaeth yng Nghymru, ond defnyddir rhai eiddo mawr ar gyfer digwyddiadau, dathliadau ac arosiadau grŵp sy'n achosi sŵn ac aflonyddwch dro ar ôl tro i drigolion cyfagos. Nid yw pwerau cynllunio, pwerau iechyd amgylcheddol na phwerau ymddygiad gwrthgymdeithasol ar hyn o bryd bob amser yn caniatáu i gynghorau weithredu'n effeithiol. Mae fframwaith trwyddedu llety ymwelwyr Llywodraeth Cymru yn gyfle i roi pwerau cliriach i gynghorau i osod amodau ac i amddiffyn cymunedau.","additional_details":"Ni ddylai trigolion orfod colli cwsg o un penwythnos i’r llall cyn bod gan gynghorau'r grym i weithredu. Ar draws Gogledd Cymru, lleisiwyd pryderon ynghylch llety ymwelwyr â chyfradd meddiannaeth uchel yn achosi sŵn ac aflonyddwch dro ar ôl tro, gan gynnwys ger Maenor yr Hen Ysgol yn Helygain a Maenor Môr y Rhos yn Llandrillo-yn-Rhos.\r\n\r\nMae'r achosion hyn yn tynnu sylw at fwlch ehangach yn y gyfraith. Caiff rhai eiddo eu marchnata ar gyfer arosiadau grwpiau mawr, dathliadau a digwyddiadau, ac mae ynddynt gyfleusterau a all arwain at eu bod yn gweithredu'n debycach i leoliadau preifat na llety gwyliau traddodiadol. Ac eto mae’r cynghorau yn aml yn dibynnu ar bwerau cynllunio, ac ar bwerau o ran sŵn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol i ymateb, a hynny ar ôl i'r niwed ddigwydd.\r\n\r\nByddai cyfundrefn drwyddedu gryfach yn darparu'r gallu i bennu amodau clir ymlaen llaw, gan gynnwys cynlluniau rheoli sŵn, rheolaethau ar fannau adloniant tu allan, cael rheolwyr cyfrifol enwebedig a sancsiynau effeithiol pan fydd achosion o ailadrodd aflonyddwch difrifol. Byddai hyn yn amddiffyn trigolion, yn cefnogi gweithredwyr cyfrifol ac yn rhoi hyder i gymunedau y gall y system ymateb cyn i broblemau waethygu.\r\n","state":"open","signature_count":1766,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-28T19:14:36.517Z","updated_at":"2026-09-23T09:46:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-08T22:20:36.133Z","closed_at":"2027-01-08T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-28T19:36:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-07-10T06:40:20.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Fran Lister","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cymunedau-a-tai","name":"Cymunedau a Tai"},{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}]}},{"type":"petition","id":246916,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246916.json"},"attributes":{"action":"Cyflwyno Dyletswydd i Atal Trais Rhywiol ym Mhrifysgolion Cymru","background":"Nid yw myfyrwyr yng Nghymru yn cael eu diogelu gan ddyletswydd gyfreithiol sy'n ei gwneud yn ofynnol i brifysgolion atal trais rhywiol. Gyda 24.5% o fyfyrwyr y DU yn dioddef camymddwyn rhywiol, yn ôl y Swyddfa Fyfyrwyr, mae angen gweithredu ar frys.\r\n\r\nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyfforddiant gorfodol ynghylch cydsyniad ac ymyrryd mewn sefyllfaoedd niweidiol i bob myfyriwr ac aelod o staff, systemau adrodd clir, cyhoeddi data tryloyw ynghylch trais rhywiol a pholisïau sy'n canolbwyntio ar oroeswyr i wneud campysau yn fwy diogel a sefydliadau yn atebol.","additional_details":"Mae myfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn cael eu rhoi dan anfantais oherwydd diffyg gofynion statudol rhagweithiol ar gyfer atal trais rhywiol mewn addysg uwch.\r\nEr bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau i fynd i'r afael â thrais rhywiol yn ehangach, rhaid i waith atal gael ei ymestyn i brifysgolion lle mae myfyrwyr yn byw, yn astudio ac yn cymdeithasu.\r\n\r\nYn Lloegr, cyflwynodd y Swyddfa Fyfyrwyr Amod E6, gan greu canlyniadau rheoleiddiol i sefydliadau sy'n methu â mynd i'r afael ag aflonyddu a chamymddwyn rhywiol. Ar hyn o bryd nid oes gan Gymru amddiffyniad cyfatebol, gan adael myfyrwyr ar ôl.\r\nNid yw trais rhywiol yn anochel; caiff ei alluogi gan ddiffyg gweithredu. Mae myfyrwyr yn haeddu diogelwch, atebolrwydd, a dyletswydd i atal niwed yn y gyfraith.\r\n\r\nCEFNDIR:\r\nMyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd yn dweud iddi gael ei herlid am ffioedd ar ôl iddi gael ei threisio- https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-67240860\r\nGoroeswr trais rhywiol: Gallai hyfforddiant staff prifysgol ynghylch trais rhywiol fod wedi fy achub i-https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-68294038\r\n","state":"open","signature_count":1600,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-18T17:37:09.104Z","updated_at":"2026-10-16T10:14:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-05-20T15:24:09.418Z","closed_at":"2026-11-20T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-18T17:39:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-05-21T10:27:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Rebecca Rumsey","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"}]}},{"type":"petition","id":247121,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247121.json"},"attributes":{"action":"Rhoi pwerau cyflymach a chryfach i gynghorau i atal dympio anghyfreithlon a datblygu anawdurdodedig.","background":"Mae cymunedau ledled Cymru yn gweld tir yn cael ei glirio, rwbl a gwastraff yn cael eu tipio, a llwybrau mynediad yn cael eu creu dros benwythnos, a hynny heb rybudd na chaniatâd cynllunio. Erbyn i gamau gorfodi gael eu cyflawni, bydd y drwg wedi cael ei wneud. Gellir apelio yn erbyn hysbysiadau, mae pwerau dros dro yn mynd yn ddi-rym ar ôl 28 diwrnod, ac mae gwaharddebau’n gofyn am amser ac arian cyhoeddus sydd weithiau y tu hwnt i awdurdodau lleol.","additional_details":"Mae Coedpoeth a'r Mwynglawdd wedi dioddef oherwydd gwaith anawdurdodedig a gwastraff yn cael ei ddympio’n anghyfreithlon ar gyn-weithfeydd mwyngloddio ger tirwedd warchodedig, gyda lorïau'n tipio gwastraff yn ystod y nos. Mae hyd yn oed hysbysiadau stop dros dro wedi methu ag atal hyn, sy’n dangos nad yw pwerau gorfodi cynllunio yn addas at y diben. Mae’r un patrwm i’w weld ledled cefn gwlad Cymru.\r\n\r\nMae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi mesurau yn Lloegr i gau safleoedd gwastraff anghyfreithlon, gan gynnwys dronau, mwy o swyddogion i Asiantaeth yr Amgylchedd, a dirwyon llawer uwch. Mae gwastraff a chynllunio yn feysydd datganoledig, felly mae modd i Lywodraeth Cymru gymryd camau tebyg a chau'r bwlch cynllunio sy'n gadael i safleoedd o'r fath agor yn y lle cyntaf.\r\n\r\nRydym yn galw ar y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i gryfhau camau gorfodi ym maes cynllunio, gan gynnwys: hysbysiadau stop estynadwy; dileu cyd-fantoli risg; cosbau llymach, gyda phwerau i atafaelu cerbydau; adennill costau ar gyfer adfer; a dyletswydd i gydweithio ar awdurdodau, Cyfoeth Naturiol Cymru a'r heddlu.\r\n","state":"open","signature_count":1488,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-09T09:17:01.340Z","updated_at":"2026-10-17T04:27:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-15T12:33:08.248Z","closed_at":"2027-03-15T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-09T11:06:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-15T17:09:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Andrew Ranger","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}]}},{"type":"petition","id":247067,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247067.json"},"attributes":{"action":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhan gaeedig o Lwybr Cwm Garw yn cael ei hadfer a’i throsglwyddo ","background":"Rydym yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhan gaeedig o Lwybr Cwm Garw yn cael ei throsglwyddo o Network Rail UK i Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a thrwy hynny sicrhau dyfodol llwybr cymunedol poblogaidd iawn. Dylai’r cytundeb hwn gynnwys ymrwymiad gan Network Rail UK i gyfrannu at gostau atgyweirio seilwaith y llwybr i safon foddhaol cyn ei drosglwyddo.\r\n","additional_details":"","state":"open","signature_count":1289,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-05T11:49:53.184Z","updated_at":"2026-10-12T21:23:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-06T13:33:10.796Z","closed_at":"2027-02-06T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-05T18:43:10.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-08-06T19:47:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Kyle Galtry","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"trafnidiaeth","name":"Trafnidiaeth"}]}},{"type":"petition","id":246951,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246951.json"},"attributes":{"action":"Dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i drefnu briff ar y teledu dan arweiniad y llywodraeth ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd a natur","background":"Mae'r dystiolaeth wyddonol yn glir bod newid hinsawdd a cholli natur yn peri bygythiad cynyddol i Gymru. Fodd bynnag, mae'r ddadl gyhoeddus yn cael ei llunio fwyfwy gan gamwybodaeth. Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i drefnu briff yn ystod oriau brig ar y teledu ynglŷn â’r argyfwng hinsawdd a natur, wedi’i gyflwyno gan arbenigwyr annibynnol, gan nodi:\r\n\r\n- gwir raddfa a natur brys y bygythiadau sy'n wynebu Cymru;\r\n\r\n- y dewisiadau y mae'r genedl yn eu hwynebu os yw am liniaru'r bygythiadau hyn.\r\n","additional_details":"Dylai'r briff gyd-fynd â'r egwyddorion ar gyfer briff dan arweiniad y llywodraeth fel y'u nodir gan sefydliad National Emergency Briefing: https://www.nebriefing.org/briefing-principles\r\nhttps://www.llyw.cymru/llywodraeth-cymrun-datgan-ei-bod-yn-argyfwng-ar-yr-hinsawdd\r\nhttps://ymchwil.senedd.cymru/erthyglau-ymchwil/yr-argyfwng-natur-atal-colli-bioamrywiaeth-erbyn-2030-yn-her-aruthrol/\r\nhttps://www.sciencedirect.com/science/article/abs/pii/S0140673624020002\r\n","state":"open","signature_count":1271,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-10T15:20:32.671Z","updated_at":"2026-10-16T13:57:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-15T12:04:35.563Z","closed_at":"2026-12-15T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-10T17:19:10.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-16T12:49:50.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Thomas Caird Bullough","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}]}},{"type":"petition","id":247145,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247145.json"},"attributes":{"action":"Dechrau profion wedi’u targedu ar Bridd, Dŵr a Gwaed mewn ardaloedd yng Nghymru sy’n wynebu risg o Fiffenylau Policlorinedig (PCBau) a halogion eraill ","background":"Yn dilyn canfyddiadau'r rhaglen ddogfen ddiweddar gan y BBC, 'Buried', mae wedi gwawrio ar gymunedau ledled Cymru fod tir halogedig ar stepen eu drws.\r\n\r\nMae llawer yn y cymunedau hyn wedi gweld drostynt eu hunain dystiolaeth o safleoedd dympio heb ddim i nodi yn swyddogol bod y tir yn halogedig, a safleoedd lle nad yw data profion ar gael i'r cyhoedd, neu lle nad yw profion yn digwydd.\r\n\r\nMae ein cymunedau'n teimlo eu bod wedi mynd yn angof a’u bod yn ddiymgeledd yn wyneb risg anfesuradwy.","additional_details":"Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i weithio gyda chynghorau lleol i ddechrau cyfundrefn brofi helaeth a phenodol yn y cymunedau sy’n wynebu risg.\r\n\r\nYn benodol, cyfundrefn wedi’i thargedu o brofion tir a dŵr ar gyfer yr ystod lawn o PCBau (PCB 7 a WHO 12) a halogion carsinogenaidd eraill sy'n effeithio ar iechyd, a hynny ochr yn ochr â chyfundrefn fyddai’n profi gwaed gwirfoddolwyr. \r\nTrwy wneud hyn, byddai gan Gymru set ddata sylfaenol glir o lefelau halogiad PCBau yn y cymunedau hynny sy’n wynebu risg.\r\n\r\nMae ein trigolion yn gwybod nad yw profion gwaed ar gyfer PCBau ynddynt eu hunain yn cynnig ateb pendant i’r risg. Byddai caniatáu inni wirfoddoli ar gyfer y math hwn o brofion yn rhoi profion sylfaenol i'r DU (sef rhywbeth nad oes gennym ar hyn o bryd) a byddai’n sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru’r data i ateb anghenion iechyd posibl.\r\n\r\nByddai profion penodol ar gyfer tir a dŵr ar safleoedd yr amheuir bod dympio wedi digwydd arnynt yn rhoi'r atebion sydd eu dirfawr angen ar ein cymunedau. Rydym yn haeddu cael eglurder ynghylch y risgiau a allai fod yn llechu o dan ein traed.\r\n","state":"open","signature_count":915,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-21T18:08:28.618Z","updated_at":"2026-10-15T16:34:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-30T10:17:13.979Z","closed_at":"2027-03-30T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-21T18:11:40.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-30T20:08:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Katie Witherden","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}]}},{"type":"petition","id":247014,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247014.json"},"attributes":{"action":"Rhoi moratoriwm ar unwaith ar brosiectau ynni gwynt ar y tir sy'n defnyddio tyrbinau sy’n 200 metr neu’n uwch.","background":"Mae tystiolaeth gynyddol, sydd wedi'i hadolygu gan gymheiriaid, fod y defnydd o dyrbinau gwynt mawr, modern yn achosi niwed difrifol i iechyd pobl a'r amgylchedd.\r\nNid yw Canllawiau Sŵn 2026 yn cynnig unrhyw amddiffyniad rhag sŵn amledd isel nac is-sain, nac ychwaith rhag modylu osgledau (pwlsio) ar amleddau is.\r\nMae'r polisi’n seiliedig ar hen ddata sydd bellach yn amherthnasol. A dweud y gwir, nid oes unrhyw ddata dilys ynghylch lefelau pwysedd sain mewn senarios ar gyfer y byd sydd ohoni.  Yn groes i'r canllawiau, GELLIR modelu’r broses o luosogi is-sain ar gyfer pellteroedd gwahanu diogel, a rhaid gwneud hynny.\r\n","additional_details":"Mae adnoddau modelu sŵn tra-chywir ar gael, sydd wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid, a fyddai’n llawer gwell na’r hyn sy’n cael ei ddefnyddio, sef dulliau modelu sŵn nad ydynt yn ymdrin ag amleddau isel, tywydd, tirwedd ac ati.\r\nDylai’r cam o sicrhau pellteroedd gwahanu diogel oddi wrth eiddo preswyl a gweithleoedd fod yn rhan ofynnol o bob prosiect ac adroddiad effaith lleol.\r\nMae’r effeithiau sy’n gysylltiedig â dod i gysylltiad â lefelau uchel o is-sain wedi'i fodylu’n osgledol am 35 i 40 mlynedd yn gwbl anhysbys ac nid ydynt yn cael eu cydnabod gan awdurdodau.\r\nNid yw’r mater hwn yn cael sylw yn y Canllawiau Sŵn newydd, a luniwyd yn eu cyfanrwydd gan y diwydiant a'i ymgynghorwyr cyflogedig. Anwybyddwyd y dystiolaeth annibynnol.\r\nRhaid sicrhau nad yw trigolion Cymru yn wynebu perygl o ganlyniad i’r ras i gynhyrchu ynni adnewyddadwy pan fo technoleg amgen fwy diogel yn cael ei datblygu'n gyson.\r\nRydym yn gofyn am ymchwiliad agored, annibynnol a thryloyw, ac rydym am roi terfyn ar unwaith ar bob prosiect ynni gwynt ar raddfa fawr sydd wedi cael caniatâd, boed yn y broses gynllunio neu yn y cyfnod cyn cynllunio, tan y bydd yr ymchwiliad hwn wedi'i gwblhau.\r\n","state":"open","signature_count":818,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-11T09:38:37.106Z","updated_at":"2026-10-12T19:12:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-20T12:22:00.353Z","closed_at":"2027-01-20T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-11T09:56:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-07-20T21:28:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Save This Land CIC","rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":246905,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246905.json"},"attributes":{"action":"Mae angen cynorthwyo gyda newidiadau mawr i'r problemau parcio yn Ysbyty Maelor Wrecsam, gogledd-ddwyrain Cymru.","background":"Hoffwn i Lywodraeth Cymru drafod y mater hirhoedlog hwn a gwneud newidiadau i flaenoriaethu’r defnydd o’r maes parcio yn Ysbyty Maelor ar gyfer cleifion, staff ac ymwelwyr. Mae'n ardal enfawr, ond mae'n gwbl llawn cyn 9.00am. Mae cleifion yn colli apwyntiadau. Mae angen rhwystrau, ffordd i gleifion ac ymwelwyr efallai ddefnyddio sgan QR ar eu llythyrau apwyntiad a ffi resymol i atal defnyddwyr yr ysbyty nad oes ganddynt gysylltiad â hi rhag cael mynediad am ddim.","additional_details":"Rwyf wedi cael profiad personol o geisio parcio fy nghar ar gyfer apwyntiadau ac wedi gorfod mynd i ganol y dref a thalu i barcio mewn maes parcio gwag y cyngor ac yna gerdded 15 neu 20 munud yn ôl i fyny i'r ysbyty. Mae gen i arthritis a chyflwr ar y galon ac rwy'n credu ei bod yn hunanol ac yn amharchus iawn disgwyl i bawb, gan gynnwys pensiynwyr a theuluoedd ifanc, orfod gwneud hyn. Mae'n achosi llawer o boen a straen.\r\nHelpwch i wella'r sefyllfa hon os gwelwch yn dda. Mae wedi bod yn digwydd ers blynyddoedd. Rhaid gwneud rhywbeth.\r\n","state":"open","signature_count":813,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-03-24T13:54:45.452Z","updated_at":"2026-10-15T14:55:26.102Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-03-25T17:22:31.098Z","closed_at":"2026-11-02T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-03-24T14:05:10.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-05-19T16:45:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Vivienne Party","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"trafnidiaeth","name":"Trafnidiaeth"}]}},{"type":"petition","id":247136,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247136.json"},"attributes":{"action":"Dim mwy o oedi: Sicrhewch Enhertu i gleifion â chanser metastatig y fron HER2-isel yng Nghymru","background":"Mae Enhertu yn driniaeth sy’n gallu rhoi mwy o amser i bobl â chanser metastatig y fron HER2-isel. Mae ar gael i gleifion cymwys yn Lloegr ac mae wedi bod ar gael yn yr Alban ers 2023, ond mae pobl yng Nghymru yn dal i aros. Ni ddylai mynediad at driniaeth ddibynnu ar ba ochr o’r ffin mae rhywun yn byw. Rydyn ni’n galw am fynediad drwy GIG Cymru ac amserlen glir ar gyfer ei ddarparu.\r\n","additional_details":"Mae’r degau o filoedd o bunnoedd a godwyd gan SheUltra Cymru ar gyfer Breast Cancer Now yn cefnogi ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd. Mae’r prosiect yn ymchwilio i wneud canser triphlyg-negyddol y fron yn fwy sensitif i gemotherapi. Mae hwn yn fath gwahanol o ganser y fron i’r canser HER2-isel sy’n cael ei dargedu gan Enhertu, ond mae’n dangos cyfraniad pwysig Cymru at ymchwil canser y fron.\r\n\r\nDydy hi ddim yn gwneud synnwyr bod ymchwil bwysig yn digwydd yng Nghymru tra bod cleifion cymwys yma’n aros am driniaeth sydd ar gael dros y ffin.\r\nFi ydy Huw Williams, sylfaenydd SheUltra Cymru, ultramarathon menywod yn unig mwyaf y byd. Rydw i’n byw gyda chanser niwroendocrin cam pedwar nad oes modd ei drin, felly dwi’n gwybod beth mae’r gobaith o gael mwy o amser yn ei olygu i gleifion a’u teuluoedd.\r\n\r\nMae Lloegr a’r Alban wedi gweithredu. Rhaid i Gymru fod nesaf.","state":"open","signature_count":794,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-17T08:31:36.208Z","updated_at":"2026-10-16T22:05:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-21T12:37:54.027Z","closed_at":"2026-10-31T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-17T09:21:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-28T17:17:50.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Huw Williams","rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":247089,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247089.json"},"attributes":{"action":"Diddymu'r Isafbris Uned alcohol ar gyfer gwerthiannau manwerthu","background":"Mae'r Senedd wedi pasio deddf sy'n pennu isafbris uned alcohol o 50c yr uned ar hyn o bryd. Bydd hynny'n codi i 65c yr uned ar 1 Hydref 2026. ","additional_details":"Ar hyn o bryd, mae litr o unrhyw wisgi yng Nghymru yn costio o leiaf £20 (mwy nag yn Lloegr). O 1 Hydref 2026, bydd y pris lleiaf yn codi i £26. Bydd pris lleiaf litr o jin yn £24.38 a litr o win yn £8.45.\r\n\r\nBydd y cynnydd hwn yn effeithio ar bob diod alcoholig. Y bobl dlotaf yng nghymdeithas Cymru sy'n cael eu taro galetaf.","state":"open","signature_count":679,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-18T09:12:36.698Z","updated_at":"2026-10-16T21:30:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-18T14:37:52.904Z","closed_at":"2027-02-18T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-18T09:31:40.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-10-04T11:21:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Tom Walden-Jones","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"economi-a-chyllid","name":"Busnes, Economi a Chyllid"}]}},{"type":"petition","id":246924,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246924.json"},"attributes":{"action":"Gosod gofyniad ar gynghorau Cymru i flaenoriaethu ansawdd, parhad a diogelwch wrth gomisiynu gofal cymdeithasol","background":"Rydym am weld gofyniad ar gynghorau Cymru i gymryd y camau a ganlyn:\r\n* Cyhoeddi sut mae contractau gofal yn cael eu dyfarnu.\r\n* Gwahardd y broses o gomisiynu ar sail y gost isaf yn unig.\r\n* Gwella’r oruchwyliaeth o ddarparwyr gofal cartref.\r\n* Ymchwilio i fethiannau mewn arferion comisiynu.\r\n* Cyflwyno lefelau staffio gofynnol a hyfforddiant estynedig ar gyfer staff.\r\n","additional_details":"Mae awdurdodau lleol yng Nghymru yn comisiynu gwasanaethau gofal hanfodol ar gyfer pobl hŷn a phobl anabl drwy gontractau gyda darparwyr preifat a darparwyr trydydd sector. Mae pryderon wedi’u mynegi ynglŷn â’r ffaith y gall arferion comisiynu flaenoriaethu ymdrechion i leihau costau uwchlaw parhad ac ansawdd gofal.\r\nGall hyn gyfrannu at ruthro wrth gynnal ymweliadau, lefelau trosiant uchel ymhlith y staff, cymorth anghyson, a phwysau ar weithwyr gofal drwy arferion amserlennu afrealistig a chyflogau isel. Mae'r materion hyn yn effeithio ar bobl sy’n agored i niwed, gofalwyr di-dâl, a staff rheng flaen ledled Cymru.\r\nCafwyd hanesion gan deuluoedd a chymunedau lleol sydd wedi tynnu sylw at bwysau parhaus o fewn y sector gofal cymdeithasol. Mae angen mwy o dryloywder a safonau cenedlaethol cryfach er mwyn sicrhau bod cynghorau'n comisiynu gofal mewn modd diogel a theg, ac ar sail ansawdd y canlyniadau yn hytrach na chost yn unig.\r\nCredwn y dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r broses a ddilynir gan awdurdodau lleol wrth gomisiynu gwasanaethau gofal, a chredwn y dylai gyflwyno safonau cenedlaethol cliriach ar gyfer comisiynu moesegol a chynaliadwy.\r\n","state":"open","signature_count":649,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-20T15:13:13.738Z","updated_at":"2026-09-30T21:54:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-05-21T09:45:38.977Z","closed_at":"2026-11-21T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-20T15:16:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-05-24T09:55:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Lilly Chelsea lloyd","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}]}},{"type":"petition","id":247100,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247100.json"},"attributes":{"action":"Rhoi mynediad drwy'r GIG i Lecanemab a Donanemab ar bresgripsiwn","background":"Rwyf wedi bod yn rhan o ymchwil i glefyd Alzheimer ers 15 mlynedd a hoffwn gael y cyfle i gael mynediad at gyffuriau a allai ohirio symptomau clefyd Alzheimer, nid yn unig i mi fy hun ond i bawb sy'n dioddef o ddementia.","additional_details":"Mae Lecanemab a Donanemab yn gyffuriau sydd wedi'u trwyddedu gan MHRA y DU, ar gyfer trin symptomau Alzheimer ysgafn. Mae wedi'i brofi'n glinigol i arafu dilyniant clefyd Alzheimer. Dangosodd treialon clinigol eu bod wedi arafu dechrau Clefyd Alzheimer cynnar ymysg pobl.\r\n\r\nMae bron i 1 miliwn o bobl yn byw gyda Dementia yn y DU, sy’n costio tua £42 miliwn y flwyddyn i'r economi.\r\n\r\nMae clefyd Alzheimer teuluol yn cyfrif am lai nag 1% o'r holl achosion o Ddementia. Bydd pobl sy'n cario'r mwtaniad genetig hwnnw'n datblygu symptomau Clefyd Alzheimer cyn 65 oed.","state":"open","signature_count":626,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-23T17:29:15.958Z","updated_at":"2026-10-02T19:21:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-24T13:54:41.008Z","closed_at":"2027-02-24T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-23T17:53:20.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-08-24T18:46:20.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Joanne Harrigan","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":247115,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247115.json"},"attributes":{"action":"Ysbyty Cyffredinol ar gyfer Powys","background":"Powys yw'r sir fwyaf yng Nghymru ac mae'n sir wledig yn bennaf, sy'n dibynnu llawer ar hyn o bryd ar Fyrddau Iechyd y tu allan i'r sir.\r\nAr hyn o bryd rydym yn ymwybodol o oedi mewn darpariaeth drawsffiniol ac anawsterau ariannu; a gostyngiadau o ran oriau mewn unedau mân anafiadau.\r\nAr hyn o bryd mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP) yn ystyried awgrymiadau a dulliau o arbed £23 miliwn.\r\nGallai'r cynigion hyn arwain at ostyngiad yn y ddarpariaeth ofal yn y sir. DYLEN NI FOD YN EDRYCH AR GYNYDDU’R DDARPARIAETH NID GOSTYNGIAD.","additional_details":"Ar hyn o bryd nid oes gan Bowys fel sir unrhyw ddarpariaeth ysbyty cyffredinol.\r\nMae pob mater brys a gofal iechyd mawr yn cael ei drin y tu allan i'r sir.\r\nGyda’r cyfrif gwelyau y pen ar hyn o bryd yn tua 1.2 fesul 1,000 o drigolion, mae hyn yn hanner cyfartaledd y DU o 2.4. Mae'n debygol y bydd y ddarpariaeth hon mewn gwelyau yn lleihau ymhellach os daw'r cynnig gofal iechyd dwy uned i rym. (Y Drenewydd ac Aberhonddu).\r\nByddai Ysbyty Cyffredinol:\r\nyn cynyddu'r ddarpariaeth gwelyau ym Mhowys, yn lleihau amseroedd teithio.\r\nyn lleihau'r ddibyniaeth ar welyau y tu allan i'r sir.\r\nhefyd yn lleihau'r prinder gwelyau presennol yn y sir sydd ar hyn o bryd yn blocio gwelyau mewn byrddau iechyd eraill, oherwydd prinder gwelyau ym Mhowys.\r\nCyfaddefiad y Bwrdd ei hun yw bod angen 400 o welyau ar y sir, ac ar hyn o bryd mae tua 160!!!\r\nOs byddai'n cael ei weithredu’n gywir, efallai y gallai’r Bwrdd hyd yn oed gynnig lle mewn gwelyau i fyrddau iechyd cyfagos y mae pob ysbyty yn erfyn amdano, gan gynhyrchu incwm!!\r\nDylen ni fod yn chwilio am resymau pam y dylid cynyddu darpariaeth gofal iechyd Powys.","state":"open","signature_count":573,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-02T17:06:38.867Z","updated_at":"2026-10-12T10:25:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-07T14:03:30.937Z","closed_at":"2027-03-07T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-02T17:46:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-08T07:49:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Richard Hall","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":247143,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247143.json"},"attributes":{"action":"Dylid diwygio'r llwybr ASD/ADHD, gyda chyd-gyfrifoldeb ar y meddyg teulu a’r ysgol a hyfforddiant gorfodol ar niwroamrywiaeth.","background":"Gall teuluoedd sy'n ceisio cael asesiad o awtistiaeth neu ADHD yng Nghymru wynebu llwybrau aneglur, cyfathrebu anghyson ac ansicrwydd ynghylch pa faes sydd â'r cyfrifoldeb, ai addysg, gofal sylfaenol neu’r gwasanaethau arbenigol. Gall hyn arwain at aros am amser hir, atgyfeiriadau dro ar ôl tro, poen meddwl a phlant yn methu â chael cymorth priodol wrth iddynt aros am asesiad.\r\n\r\nMae gan weithwyr proffesiynol addysg, gan gynnwys Cydgysylltwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY), rôl bwysig o ran adnabod gwahaniaethau niwroddatblygiadol a gwybod beth yw’r rhwystrau i ddysgu. Fodd bynnag, nid oes gofyniad cyson am hyfforddiant niwroddatblygiadol arbenigol sy'n galluogi gweithwyr proffesiynol i adnabod yr ystod eang o ymgyflwyniadau awtistiaeth ac ADHD.\r\n\r\nDylai hyfforddiant gynnwys yn benodol masgio, cuddliwio, gofid mewnol a nodweddion na sylwir arnynt, a hynny’n fwy cyffredin mewn merched. Gall plant sy'n ymddangos yn academaidd alluog, yn gymdeithasol lwyddiannus, yn ufudd neu'n ymddwyn yn dda fod yn profi anawsterau sylweddol o hyd. Heb hyfforddiant priodol, mae’n bosibl y caiff yr ymgyflwyniadau hyn eu methu neu eu camddeall, yn enwedig pan nad yw poen meddwl yr unigolyn yn amlwg yn yr ysgol.\r\n\r\nDylai Cydgysylltwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol a gweithwyr addysg proffesiynol perthnasol gael mynediad at hyfforddiant cyson sy'n seiliedig ar dystiolaeth er mwyn adnabod nodweddion niwroddatblygiadol, deall masgio a gwybod pan allai fod angen asesiad pellach neu gyngor arbenigol. Dylai hyfforddiant ganolbwyntio ar adnabod anghenion, yn hytrach na’i bod yn ofynnol i weithwyr proffesiynol addysg wneud diagnosis.\r\n\r\nHefyd, dylai cyfathrebu fod yn fwy eglur a dylai cyfrifoldebau gael eu diffinio’n glir rhwng ysgolion, meddygon teulu a gwasanaethau niwroddatblygiadol arbenigol. Ni ddylai teuluoedd orfod bod yn arbenigwyr yn y system na gorfod herio gwasanaethau dro ar ôl tro i gael arweiniad a chymorth priodol.\r\n\r\nRydym yn galw am lwybr ASD/ADHD cliriach a chydgysylltiedig yng Nghymru, gyda chyfrifoldebau wedi’u diffinio ar draws y maes gofal sylfaenol, y maes addysg a’r gwasanaethau arbenigol; am hyfforddiant niwroamrywiaeth gorfodol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer gweithwyr proffesiynol perthnasol, gan gynnwys hyfforddiant ar fasgio ac ymgyflwyniadau nad ydynt yn cael eu hadnabod yn ddigonol; am  gyfathrebu gwell rhwng gwasanaethau; ac am ragor o atebolrwydd o ran adnabod, asesu a chymorth amserol.","additional_details":"","state":"open","signature_count":561,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-18T08:15:10.153Z","updated_at":"2026-10-16T22:05:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-23T09:51:40.729Z","closed_at":"2027-03-23T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-18T08:25:10.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-26T17:10:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Carrie Cooksley","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}]}},{"type":"petition","id":246898,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246898.json"},"attributes":{"action":"Mae angen pwll nofio 50 metr yng ngogledd Cymru.","background":"Ar hyn o bryd, mae angen i nofwyr o ogledd Cymru deithio naill ai i dde Cymru neu i Loegr er mwyn cael mynediad i bwll nofio 50 metr, sy’n annheg a hefyd yn colli’r refeniw y gall twristiaeth ei gyflwyno.\r\nI greu Cymru gynhwysol ac i atal y rhaniad sylweddol o ran cyfleoedd rhwng gogledd a de Cymru, dylai fod o leiaf un pwll 50m yn y gogledd. A rhagor o gaeau 3G a 4G.\r\nBydd hyn yn rhoi cyfle cyfartal i blant a darpar athletwyr hyfforddi a chystadlu ar y lefel uchaf.\r\n","additional_details":"","state":"open","signature_count":554,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-03-18T14:08:08.664Z","updated_at":"2026-10-08T11:30:22.109Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-03-23T14:44:19.168Z","closed_at":"2026-10-31T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-03-18T14:14:30.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-07-27T12:26:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"George Ryan","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"chwaraeon","name":"Chwaraeon"}]}},{"type":"petition","id":246959,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246959.json"},"attributes":{"action":"Galw ar y Senedd i ostwng ardrethi busnes, yn enwedig yn ein trefi. ","background":"Dylid rhoi help i fusnesau lleol a busnesau newydd posibl ac adfywio canol ein trefi. Gyda chynifer o siopau gwag, sydd wrth reswm yn peidio â thalu ardrethi, byddai gostwng ardrethi yn sicr yn denu mwy o fusnesau newydd a byddai mwy o bobl yn ymweld â chanol ein trefi, gan gynhyrchu mwy o refeniw i bawb o ganlyniad. ","additional_details":"","state":"open","signature_count":506,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-14T10:20:19.635Z","updated_at":"2026-10-08T12:42:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-15T14:51:03.621Z","closed_at":"2026-12-15T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-14T20:19:40.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-17T09:15:00.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Dylan Bullard","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"economi-a-chyllid","name":"Busnes, Economi a Chyllid"},{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}]}},{"type":"petition","id":246871,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246871.json"},"attributes":{"action":"Dewch ag uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Gwent yn ôl.","background":"Mae Casnewydd yn ddinas, a hynny ers iddi gael statws dinas yn Jiwbilî Aur y Frenhines yn 2002. Ac eto, yn wahanol i ddinas fodern, cafodd ei huned ddamweiniau ac achosion brys ei symud i Gwmbrân, gydag uned mân anafiadau yn aros yn Ysbyty Brenhinol Gwent, sydd o fewn ffiniau’r ddinas.\r\n\r\nO’r herwydd, mae uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenor yn dioddef gan amseroedd aros eithriadol o hir, ac mae'n rhy fach i wasanaethu'r cymunedau amrywiol o Gasnewydd a'r cymoedd tu hwnt. Byddai ailagor uned ddamweiniau ac achosion brys yn ninas Casnewydd yn dod â gwasanaeth mawr ei angen yn ôl.","additional_details":"Mae cleifion sy’n cyrraedd Ysbyty’r Faenor yn wynebu amseroedd aros hir a rhaid i'r rhai sy'n cyrraedd mewn ambiwlans aros yn hwy byth. Mae’r uned ddamweiniau ac achosion brys yn fechan iawn, gyda dim mwy nag 20 o gadeiriau. Mae'n amlwg ar ôl 5 mlynedd nad yw’n ymarferol iddi wasanaethu Casnewydd a'r cymunedau cyfagos oherwydd ei maint.\r\n\r\nCafodd pobl Casnewydd siom aruthrol pan symudwyd yr uned ddamweiniau ac achosion brys o Ysbyty Brenhinol Gwent ar 17 Tachwedd 2020. Nid yw’n ymarferol i i ddinas fawr gael ei phrif ysbyty mewn tref gyfagos. Ar ben hynny, nid yw uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenor yn gallu diwallu'r galw o Gasnewydd a thu hwnt yn effeithlon.\r\n\r\nRwyf i, a Chasnewydd, am i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan ailagor uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Gwent. Bydd y cam cadarnhaol hwn yn lleddfu’r straen ddifrifol ar uned ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty’r Faenol a bydd yn lleihau amseroedd aros yn gyson ar draws y Bwrdd Iechyd.","state":"open","signature_count":479,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-02-26T03:38:10.533Z","updated_at":"2026-10-16T16:14:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-03-09T11:07:44.995Z","closed_at":"2026-10-17T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-03-02T08:33:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-10-11T13:14:50.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Paul Haugh","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":247153,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247153.json"},"attributes":{"action":"Cyfleusterau noddfa i fabanod ledled Cymru – diogel, preifat a chyfrinachol","background":"Gall rhai rhieni deimlo eu bod ar ben eu tennyn ac na allant ofalu am eu babanod newydd-anedig. Dylai fod gan Gymru opsiwn diogel a chyfrinachol lle gellir trosglwyddo baban yn ddiogel i weithwyr proffesiynol hyfforddedig i gael gofal brys.\r\n","additional_details":"Mae blychau a gwasanaethau noddfa eisoes yn bodoli mewn rhannau o'r Unol Daleithiau a gwledydd eraill. Dylai Cymru ymchwilio i'r modelau hyn ar frys ac ystyried a ellid cyflwyno system debyg yma.\r\n\r\nDylai rhieni mewn argyfwng gael lle diogel i fynd â'u babanod newydd-anedig, 24 awr y dydd, gyda gofal meddygol brys ar gael i'r baban a chefnogaeth briodol i'r rhiant.\r\n\r\nDylai mynediad fod yn ddienw neu'n gyfrinachol, lle bo modd cynnig hynny o dan y gyfraith, gyda gweithdrefnau diogelu cryf yn eu lle.\r\n\r\nRwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i’r mater hwn yn llawn, gan ymgynghori ag arbenigwyr a chymryd camau tuag at sefydlu gwasanaeth noddfa yng Nghymru. Os gall y gwasanaethau hyn weithredu mewn mannau eraill, dylai Cymru ystyried o ddifrif a allwn achub bywydau yma hefyd.\r\n\r\nY nod yw darparu opsiwn diogel arall mewn argyfwng a helpu i atal babanod newydd-anedig rhag cael eu gadael mewn amgylchiadau anniogel.\r\n","state":"open","signature_count":451,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-29T13:19:40.290Z","updated_at":"2026-10-17T05:03:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-10-14T06:50:01.500Z","closed_at":"2027-04-14T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-29T14:05:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-10-14T19:23:50.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Lowri Hughes","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":246917,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246917.json"},"attributes":{"action":"Deddfu ar gyfer Cofrestr Lobïwyr","background":"Mae gan bron pob democratiaeth Orllewinol Gofrestr Lobïwyr, sy’n cofnodi cyfarfodydd rhwng, ar y naill law, gwleidyddion, eu cynghorwyr, swyddogion ac eraill sy’n gysylltiedig â’r weinyddiaeth; ac, ar y llaw arall, gwmnïau, cyrff proffesiynol, lobïwyr, elusennau, grwpiau pwyso a sefydliadau ymgyrchu.","additional_details":"Dylai’r Gofrestr gynnwys y wybodaeth ganlynol, a bod ar gael yn hawdd ar gyfer craffu cyhoeddus:\r\n1/ Lleoliad ac amser y cyfarfod.\r\n2/ Diben y cyfarfod.\r\n3/ Enwau’r rhai a oedd yn bresennol, a phwy neu ba gorff yr oeddent yn eu cynrychioli.\r\n4/ Y pynciau a drafodwyd.\r\n5/ Canlyniadau’r cyfarfod.\r\n","state":"open","signature_count":392,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-05-19T11:40:33.591Z","updated_at":"2026-10-03T11:52:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-05-21T13:59:48.778Z","closed_at":"2026-11-21T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-05-19T11:58:40.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-05-22T17:24:00.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Royston Jones","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cyfansoddiad","name":"Cyfansoddiad"}]}},{"type":"petition","id":247076,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247076.json"},"attributes":{"action":"Cryfhau codau a chanllawiau statudol i wella diogelwch a chymorth i blant awtistig ledled Cymru","background":"Atal niwed y gellir ei osgoi a gwella diogelwch i blant awtistig drwy well ymwybyddiaeth, addysg am ddiogelwch dŵr, dyfeisiau diogelwch gwirfoddol a gwell cymorth gan wasanaethau brys a rheng flaen. Dylid cryfhau’r canllawiau presennol - gan gynnwys y Cod Ymarfer ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth a chanllawiau o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 - i asesu anghenion a mynd i’r afael â risgiau diogelwch i’r plant nad ydynt mor ymwybodol o berygl.\r\n\r\nByddai hyn yn rhoi mwy o sicrwydd i deuluoedd wrth barchu preifatrwydd ac annibyniaeth plant.","additional_details":"• Datblygu safonau gofynnol, gyda chyllid neu gymorth cydgysylltiedig i roi’r un cymorth diogelwch ni waeth ble rydych chi’n byw.\r\n• Sicrhau hyfforddiant cyson ar gyfer sefyllfaoedd brys neu sefyllfaoedd sy’n ymwneud â diogelu: ar gyfer staff addysg, gwasanaethau iechyd ac ambiwlans, darparwyr cyfleusterau hamdden a staff rheng flaen eraill. Dylai hyfforddiant gwmpasu gwahaniaethau o ran cyfathrebu, gorlwytho synhwyraidd, colli rheolaeth yn llwyr, diffyg ymwybyddiaeth o berygl, crwydro, a sut i ddynesu at blentyn awtistig a’i gefnogi yn ddiogel.\r\n• Sicrhau mynediad cyfartal at gyfleoedd cenedlaethol o ran nofio a diogelwch dŵr gan gynnwys y rhaglen nofio a diogelwch dŵr i ysgolion. Gallai addasiadau rhesymol priodol gynnwys grwpiau llai, sesiynau tawelach, cymorth ychwanegol neu hyfforddwyr sy’n ymwybodol o awtistiaeth.\r\n• Datblygu cynllun gwirfoddol ar gyfer plant sydd mewn perygl arbennig, ee dyfeisiau GPS neu dechnoleg arall, a dulliau adnabod diogelwch am ddim neu â chymhorthdal - cardiau neu freichledau sy’n cynnwys gwybodaeth hanfodol. Pob un gyda chaniatâd priodol a mesurau diogelu preifatrwydd a data.\r\n\r\nDylai Llywodraeth Cymru weithio gyda gwasanaethau perthnasol, pobl awtistig, rhieni a gofalwyr i ddatblygu dull cyson o weithredu ar gyfer Cymru gyfan.","state":"open","signature_count":380,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-13T14:01:51.529Z","updated_at":"2026-10-12T08:56:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-20T14:01:23.258Z","closed_at":"2027-02-13T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-13T14:05:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-17T05:51:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Kimberley williams","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"gofal-cymdeithasol","name":"Gofal Cymdeithasol"},{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}]}},{"type":"petition","id":246948,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246948.json"},"attributes":{"action":"Cyfleusterau newid gwell i bobl sy'n byw gyda stoma","background":"Jo-Anne Gravell ydw i, ac ym mis Hydref 2019 fe gefais ddiagnosis o ganser y coluddyn cam 4. O ganlyniad i'm triniaeth a'r llawdriniaeth a achubodd fy mywyd, rwyf bellach yn byw gyda stoma parhaol. Rwyf yn oroeswr balch, ond mae byw bob dydd gyda stoma yng Nghymru yn golygu wynebu rhwystrau sylweddol a diangen, a hynny oherwydd y diffyg difrifol o gyfleusterau newid cyhoeddus digonol.\r\n\r\n","additional_details":"Mae toiledau cyhoeddus safonol ledled Cymru yn hollol anaddas ar gyfer gofal stoma.\r\nMae angen i doiledau gael silffoedd sydd â digon o le i osod cyflenwadau meddygol glân allan yn hylan.\r\nBachau ar y drysau i gadw dillad a chyflenwadau ffres oddi ar loriau gwlyb.\r\nDrychau yn y lle iawn ar gyfer gweld beth sy’n digwydd yn ystod y broses newid.\r\nBin gwaredu hygyrch, cynnil yn y ciwbicl ei hun.\r\nHeb y pethau sylfaenol hyn, mae unigolion sy'n byw gyda stomâu yn aml yn gorfod newid eu bagiau mewn amodau anhylan—weithiau ar lawr toiled—neu wynebu gorbryder ac unigedd difrifol, yn gaeth yn eu cartrefi oherwydd yr ofn o beidio â chael rhywle glân i fynd.Rydym yn haeddu urddas, preifatrwydd a glendid. Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu canllawiau gorfodol a fyddai’n sicrhau bod toiledau cyhoeddus a hygyrch ledled Cymru yn cael eu huwchraddio i fodloni'r gofynion safonol ar gyfer gofal stoma. Drwy wneud yr addasiadau bach ond hanfodol hyn, gall Cymru sicrhau bod goroeswyr canser a phob un sy'n byw gyda stoma yn gallu byw bywyd cyhoeddus llawn heb danseilio eu hiechyd a'u hunan-barch.","state":"open","signature_count":372,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-09T18:16:09.828Z","updated_at":"2026-10-01T03:21:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-11T14:25:20.458Z","closed_at":"2026-12-11T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-09T18:22:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-13T11:08:50.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Sara Jo-Anne Gravell","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}]}},{"type":"petition","id":247044,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247044.json"},"attributes":{"action":"Gwella cyfleoedd cyflogaeth Band 5 i nyrsys sydd newydd gymhwyso yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu cynllun gweithlu sy'n cynnig digon o gyfleoedd Band 5 i nyrsys sydd newydd gymhwyso ac sy'n graddio yng Nghymru, fel bod myfyrwyr sy’n cael eu hyfforddi yng Nghymru yn cael cyfle teg i ddechrau eu gyrfaoedd yn GIG Cymru.","additional_details":"Mae nyrsys sy’n astudio yng Nghymru yn cwblhau dros 2,300 o oriau ar leoliadau clinigol ac yn ymrwymo i flynyddoedd o hyfforddiant. Mae llawer yn cydbwyso lleoliadau di-dâl gyda gwaith â thâl ac ymrwymiadau teuluol oherwydd eu bod nhw eisiau gwasanaethu GIG Cymru.\r\n\r\nEr gwaethaf hyn, mae llawer o nyrsys sydd newydd gymhwyso yn ei chael hi'n anodd sicrhau swyddi Band 5 ar ôl graddio. Mae hyn yn peri risg o golli gweithwyr proffesiynol medrus i rannau eraill o'r DU neu i yrfaoedd eraill, er mai Cymru sy’n buddsoddi yn eu haddysg.\r\n\r\nRydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio gyda GIG Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a byrddau iechyd i wella’r broses o gynllunio'r gweithlu a chreu digon o gyfleoedd i nyrsys sydd newydd gymhwyso ddechrau eu gyrfaoedd yng Nghymru.\r\n\r\nFel nyrs yn y flwyddyn olaf o astudio, rwy'n bryderus iawn, ar ôl blynyddoedd o hyfforddiant ac aberth, y gallai llawer o raddedigion fod yn methu â dechrau eu gyrfaoedd yn y GIG yng Nghymru.\r\n","state":"open","signature_count":350,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-25T19:32:49.926Z","updated_at":"2026-09-29T18:51:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-30T14:49:23.861Z","closed_at":"2027-01-30T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-25T19:50:40.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-08-07T14:07:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Ellie Atkins-Tate","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":247092,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247092.json"},"attributes":{"action":"Amddiffyn ffrwythlondeb menywod sydd ag endometriosis lle mae eu ffrwythlondeb mewn perygl","background":"Mae endometriosis yn effeithio ar oddeutu 1 o bob 10 o fenywod a gall effeithio’n sylweddol ar eu ffrwythlondeb. Gall y problemau y mae menywod yn eu hwynebu gynnwys nifer yr wyau sydd ganddynt wrth gefn, niwed i’w hofarïau a dirywiad cynnar o ran eu ffrwythlondeb, a gall triniaeth a llawdriniaeth effeithio ymhellach ar eu potensial i atgenhedlu. Ac eto nid yw GIG Cymru yn ariannu, fel mater o drefn, y broses o rewi wyau menywod ag endometriosis sydd mewn perygl o golli eu ffrwythlondeb. Mae’r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod endometriosis fel rhywbeth sy’n peryglu ffrwythlondeb, a darparu mynediad teg at wasanaethau diogelu ffrwythlondeb.","additional_details":"Gall endometriosis fygwth ffrwythlondeb drwy endometriomâu ofaraidd, llai o wyau wrth gefn a niwed a achosir gan lawdriniaeth. Mae ESHRE yn argymell trafod diogelu ffrwythlondeb gyda menywod ag endometriosis ofaraidd helaeth, ac mae NICE yn cydnabod yr angen i ystyried ffrwythlondeb a nifer yr wyau wrth gefn wrth reoli’r cyflwr.\r\n\r\nYng Nghymru, gall gymryd bron 10 mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis, sy’n golygu bod y clefyd yn datblygu am flynyddoedd mewn rhai menywod cyn iddynt gael gofal arbenigol. Ac eto nid yw GIG Cymru yn ariannu, fel mater o drefn, y broses o rewi wyau menywod sydd mewn perygl o golli eu ffrwythlondeb oherwydd endometriosis.\r\n\r\nMae’r ddeiseb hon yn galw am lwybr GIG Cymru ar sail tystiolaeth, sy’n darparu asesiad ffrwythlondeb ac, lle bo’n glinigol briodol, arian cyhoeddus i rewi wyau menywod sydd mewn perygl sylweddol o golli eu ffrwythlondeb.\r\n","state":"open","signature_count":333,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-19T12:21:27.881Z","updated_at":"2026-10-12T02:22:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-20T15:55:39.928Z","closed_at":"2027-02-20T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-19T12:32:10.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-08-21T22:46:20.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Eve Williams","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":247101,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247101.json"},"attributes":{"action":"Dylid cyflwyno TGAU Astudiaethau Natur yng Nghymru","background":"Mae TGAU Astudiaethau Natur yn cael ei gyflwyno yn Lloegr ond nid yng Nghymru. Yn Lloegr bydd yn rhoi cyfle i wneud 20 awr o waith maes i astudio a chysylltu â natur. Bydd yn datblygu sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ecolegol y bydd eu hangen ar unigolion mewn byd sy'n newid. Bydd o gymorth i lesiant pobl ifanc, sy'n ffynnu drwy wneud gweithgareddau ymarferol yn yr awyr agored. Ar ben hynny, mae astudio ecosystemau wedi'i ddileu o'r cymhwyster TGAU Daearyddiaeth newydd, a elwir 'Gwnaed yng Nghymru', ac mae hyn yn gadael bwlch.","additional_details":"Ysgrifennodd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd at Gymwysterau Cymru ar 20 Hydref 2025 ar ôl clywed pryderon nad yw manyleb cymhwyster TGAU newydd CBAC bellach yn cynnwys tectoneg platiau ac ecosystemau. Er bod sylw i'r cynnwys hwn yn y manylebau gwyddoniaeth cyfredol, mae’n digwydd o safbwynt gwyddoniaeth yn hytrach nag o safbwynt daearyddiaeth. Felly, nid oes dim, neu ychydig iawn o ystyriaeth sydd, o effeithiau dynol ar ecosystemau, a rheolaeth ecosystemau. \r\nDywedwyd wrtha i unwaith, os nad yw plentyn yn cael profiad o fyd natur cyn iddo fod yn 12 mlwydd oed, na fydd yn gwneud hynny fel oedolyn, a dywedodd seicolegydd plant wrtha i yn ddiweddar pa mor bwysig yw i blentyn yn ei arddegau ymgysylltu â natur er mwyn ei lesiant. Rydym mewn argyfwng natur ac argyfwng hinsawdd, ac mae llifogydd, sychder a diogelwch bwyd yn effeithio arnom. Mae un o bob pum rhywogaeth bellach mewn perygl o fynd yn ddiflanedig. Mae Cymru a'r DU ymhlith y cenhedloedd sydd wedi'u disbyddu fwyaf o ran natur. Mae ein heconomi yn dibynnu arno. Mae addysg yn hanfodol ac allweddol i sicrhau newid.\r\n","state":"open","signature_count":327,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-24T20:49:15.712Z","updated_at":"2026-10-16T22:04:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-01T11:42:41.468Z","closed_at":"2027-03-01T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-24T21:30:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-30T07:15:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Carolyn Thomas","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}]}},{"type":"petition","id":247050,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247050.json"},"attributes":{"action":"Dylai Llywodraeth Cymru ddeddfu i wneud biniau glanweithdra yn orfodol mewn toiledau cyhoeddus dynion","background":"O fy niagnosis canser y prostad fy hun, rwy'n gwybod pa mor anodd, chwithig, ac yn aml ddiraddiol yw gorfod defnyddio padiau glanweithdra pan nad oes bin glanweithdra mewn toiledau dynion imi gael gwared ar y pad gydag urddas. Mae hyn yn aml yn golygu nad wyf yn mynd allan.\r\n\r\nRwy'n ymgyrchu dros finiau i fechgyn ym mhob toiled cyhoeddus yng Nghymru. Mae Bro Morgannwg eisoes wedi croesawu fy ymgyrch - gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gallwn wneud gwahaniaeth i gymaint o ddynion gyda'r gefnogaeth hylendid sylfaenol hon.","additional_details":"Mae hyn yn achos pryder cyffredin gyda dynion eraill rwy'n siarad â hwy yn fy ngrŵp canser, CHILL - Cancer Help In Local Lives, sy'n profi'r angen am newid.\r\n","state":"open","signature_count":320,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-27T15:33:58.933Z","updated_at":"2026-10-15T07:23:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-29T11:54:18.599Z","closed_at":"2027-01-29T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-27T15:58:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-08-05T17:40:00.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Phillip E Grant","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cymunedau-a-tai","name":"Cymunedau a Tai"},{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"},{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}]}},{"type":"petition","id":246875,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246875.json"},"attributes":{"action":"Newid polisi’r dreth gyngor: dylai lletyau gwyliau dalu eu ffordd","background":"Yn 2024, ni thalodd dros 10,000 o dai/fflatiau a ddefnyddiwyd fel llety gwyliau yng Nghymru unrhyw drethi o gwbl – dim treth gyngor, a dim trethi busnes: mae hyn yn golled o tua £48 miliwn mewn refeniw treth gyngor ar gyfer y flwyddyn honno yn unig.*","additional_details":"Mae'r \"bwlch\" cyfreithiol yn caniatáu newid i dalu trethi busnes pan gyrhaeddir trothwy rhent**. Yna mae gwerth ardrethol isel yn golygu bod y perchnogion yn cael rhyddhad ardrethi busnesau bach o 100%: golyga hyn eu bod nhw’n talu dim. Rydym am i Lywodraeth Cymru gau’r \"bwlch\" treth gyngor hwn.\r\n\r\nMae'r ddeiseb hon hefyd am roi gwybod am y canlynol:\r\n1. Dyfarnwyd taliadau Covid-19 o £10,000 i lawer o letyau gwyliau a restrir ar y gofrestr ardrethi busnes;\r\n2. Amcangyfrifwyd bod y gost i Lywodraeth Cymru (2021-2022) o ddarparu rhyddhad ardrethi busnesau bach i letyau gwyliau yn £17 miliwn ***\r\n\r\nDylai’r dreth gyngor gael ei thalu ar dai/fflatiau sy'n cael eu marchnata a'u gwerthu fel eiddo domestig: mae nifer y nosweithiau rhent yn amherthnasol.\r\n\r\nCyfeiriadau:\r\n*Gwybodaeth Rhyddid Gwybodaeth gan awdurdodau lleol yng Nghymru (2024); Treth gyngor Band \"D\" (a phremiwm lle bo'n berthnasol) a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfrifiadau. \r\n**Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022. \r\n***Memorandwm Esboniadol Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022, dyddiedig 24 Mai 2022.\r\n","state":"open","signature_count":314,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-03-01T18:02:38.938Z","updated_at":"2026-10-13T16:14:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-03-25T09:34:46.490Z","closed_at":"2026-11-02T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-03-01T18:31:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-07-12T13:34:20.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Jacqueline Cullimore","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"llywodraeth-leol","name":"Llywodraeth Leol"}]}},{"type":"petition","id":247091,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247091.json"},"attributes":{"action":"Datblygu Cynllun Iechyd Dynion i Gymru","background":"Mae dynion yng Nghymru yn wynebu anghydraddoldebau iechyd sylweddol, gan gynnwys disgwyliad oes is a chyfraddau marwolaeth cynnar yn sgil llawer o achosion blaenllaw.\r\n\r\nHefyd gall dynion fod yn llawer llai tebygol o droi at wasanaethau iechyd a chael cymorth pan fydd ei angen arnynt.\r\n\r\nGallai Cynllun Iechyd Dynion cydgysylltiedig fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau hyn, helpu i atal problemau ac ymyrryd yn gynnar, a sicrhau bod gwasanaethau’n gwneud yn well o ran diwallu anghenion dynion ledled Cymru.","additional_details":"Dylai Cynllun Iechyd Dynion fabwysiadu dull cyfannol at iechyd corfforol a meddyliol dynion, gan gydnabod y rhyng-gysylltiad rhwng yr elfennau hyn.\r\n\r\nDylai ystyried meysydd fel iechyd meddwl ac atal hunan-laddiad, canser a chlefyd cardiofasgwlaidd, camddefnyddio sylweddau, ffyrdd iach o fyw, ynysu cymdeithasol, mynediad at ofal iechyd, a phenderfynyddion cymdeithasol ehangach o ran iechyd.\r\n\r\nDylai’r Cynllun nodi’r anghydraddoldebau y mae gwahanol ddynion yn eu hwynebu a gosod blaenoriaethau clir a chamau gweithredu mesuradwy ar gyfer gwella canlyniadau. Dylai’r gwaith o’i ddatblygu gynnwys dynion, gweithwyr iechyd proffesiynol, ymchwilwyr a sefydliadau perthnasol y trydydd sector.\r\n\r\nMae gwledydd fel Iwerddon, Awstralia a Lloegr wedi datblygu strategaethau cenedlaethol ar gyfer iechyd dynion, ac mae Canada a Seland Newydd yn datblygu dulliau tebyg.\r\n\r\nGall a dylai Cymru ddysgu o’r enghreifftiau hyn a datblygu cynllun sy’n addas i anghenion dynion yng Nghymru.\r\n","state":"open","signature_count":310,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-18T23:20:15.109Z","updated_at":"2026-10-16T18:24:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-20T16:00:08.303Z","closed_at":"2027-02-20T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-19T12:14:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-09T11:11:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Andrew Jenkins","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":246910,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246910.json"},"attributes":{"action":"Adfer y cymorth ariannol am wythnosau ychwanegol i fyfyrwyr bwrsariaeth nyrsio a bydwreigiaeth y GIG.","background":"Nid yw llawer o nyrsys a bydwragedd dan hyfforddiant yn gallu cael deupen llinyn ynghyd, ac ni allant hawlio budd-daliadau'r wladwriaeth oherwydd eu bod mewn addysg uwch, a hynny hyd yn oed os oes ganddynt ddibynyddion. Disgwylir iddynt hefyd fynychu lleoliadau HEB DÂL yn gweithio patrymau shifft llawn 12.5 awr yr un fath â nyrs neu fydwraig gofrestredig. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru bellach wedi dileu'r lwfans wythnosau ychwanegol ar gyfer cyrsiau dros 30 wythnos a 3 diwrnod o fenthyciadau myfyrwyr oherwydd newid ym mholisi Llywodraeth Cymru os oes gan y myfyriwr Fwrsariaeth y GIG, sy’n gwaethygu caledi.\r\n","additional_details":"","state":"open","signature_count":308,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-03-26T12:03:49.785Z","updated_at":"2026-09-24T20:55:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-03-27T14:28:09.668Z","closed_at":"2026-11-04T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-03-26T12:12:30.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-06-18T09:29:50.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Sarah Grady","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":246997,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246997.json"},"attributes":{"action":"Comisiynu ymchwiliad cyhoeddus i berfformiad Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr","background":"Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau uwchgyfeirio llymach ers 11 mlynedd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd bellach wedi datgan y bydd y Bwrdd Iechyd yn cael cymorth ychwanegol, gan gynnwys adolygiad o’r sefydliad ac arbenigedd gweithredol ychwanegol ar draws amrywiaeth o feysydd.\r\n\r\nDylai cyhoedd y rhanbarth gael rôl yn y broses hon, yn hytrach na bod yn dderbynwyr adroddiad y canlyniadau yn unig. Dylid cynnal ymchwiliad cyhoeddus yng Ngogledd Cymru.\r\n","additional_details":"","state":"open","signature_count":285,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-02T12:21:58.820Z","updated_at":"2026-10-05T21:48:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-08T22:13:18.240Z","closed_at":"2027-01-08T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-06T09:07:50.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-08-25T17:07:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Roger Keith Seddon","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":246889,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246889.json"},"attributes":{"action":"Rhaid Diogelu Adeiladau Cymunedol a Sicrhau Tryloywder wrth Ailddatblygu’r Stryd Fawr yng Nghymru","background":"Ar hyd a lled Cymru, mae llawer o drefi a phentrefi yn colli adeiladau cymunedol hanesyddol, fel tafarndai a lleoliadau’r stryd fawr drwy gael eu hailddatblygu neu eu newid yn dai amlfeddiannaeth. Yn aml iawn, mae’r adeiladau hyn yn rhan bwysig o hunaniaeth lleol a bywyd cymdeithasol. Dim ond pan gaiff hysbysiadau ffurfiol eu cyhoeddi, yn aml, y daw trigolion yn ymwybodol o gynigion. Dylai Llywodraeth Cymru gryfhau polisi cynllunio i ddiogelu adeiladau cymunedol a sicrhau tryloywder cliriach ac ymgynghori pan gaiff newidiadau mawr eu cynnig.","additional_details":"Mae cynigion ailddatblygu diweddar mewn cymunedau fel Treherbert wedi codi pryderon am golli neu newid adeiladau cymunedol hirsefydlog. Yn aml iawn, dim ond pan gaiff hysbysiadau cynllunio eu cyhoeddi y daw trigolion yn ymwybodol o hyn.\r\nByddai tryloywder cliriach, ymgynghori cryfach a diogelu adeiladau cymunedol yn well yn helpu i sicrhau bod datblygiadau yn cefnogi cymunedau cynaliadwy ar hyd a lled Cymru.\r\n","state":"open","signature_count":285,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-03-12T06:55:37.429Z","updated_at":"2026-10-08T11:24:10.540Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-03-12T13:12:20.485Z","closed_at":"2026-10-20T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-03-12T07:28:20.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-03-14T15:18:10.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Barrie Murphy","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cymunedau-a-tai","name":"Cymunedau a Tai"},{"code":"cynllunio","name":"Cynllunio"}]}},{"type":"petition","id":246943,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246943.json"},"attributes":{"action":"Stopio erledigaeth, bwlio ac aflonyddu mewn prifysgolion yng Nghymru! Mae myfyrwyr yn ei deimlo ac yn aros i ffwrdd. Mae'n wenwynig!","background":"Mae mwy na 660 o staff addysgu wedi colli eu swyddi ers 2024. Nid yw hyn yn rhwystro nifer o ddarlithwyr amser llawn, ac maent yn brwydro yn y Tribiwnlys Cyflogaeth gan honni, ymhlith pethau eraill, diswyddiad ar sail cyhuddiadau ffug, diswyddiad anghyfreithlon, diswyddiad annheg, tystiolaeth ffug, torri contract, methiant i ddatgelu contract, erledigaeth, chwythu'r chwiban a gwahaniaethu (gan gynnwys gwahaniaethu sy'n deillio o anabledd). Mae'n bryd i'r Senedd gynnal ymchwiliad - dim ffydd mewn MEDR sy'n gyfrifol am faterion llywodraethu mewn Addysg Uwch. Mae Plaid Cymru yn ymrwymo i gynnal ymchwiliad ond nid oes penderfyniad eto ynghylch ei union gylch gwaith. Mae'n amlwg bod yn rhaid i'r ymholiad fod ar draws y sector, gan fynd i'r afael â chyllid a diwylliant gwaith.","additional_details":"Darllenwch yr erthyglau hyn i gael gwybodaeth:\r\nhttps://www.bbc.co.uk/news/articles/cx21n34n1nvo\r\nhttps://www.bbc.co.uk/news/articles/c237dlmnx2zo#:~:text=Staff%20at%20a%20Welsh%20university,after%20a%20vote%20last%20Wednesday.\r\nhttps://www.bbc.co.uk/news/articles/c749zq12dlno\r\nhttps://albertschram.blogspot.com/2026/03/the-structural-collapse-of-welsh-higher.html\r\n","state":"open","signature_count":281,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-04T14:19:38.598Z","updated_at":"2026-10-14T10:54:30.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-12T14:26:47.133Z","closed_at":"2026-12-04T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-04T15:38:40.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-07-29T15:41:40.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Stefan Conrad Alexander Halikowski Smith","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}]}},{"type":"petition","id":247117,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247117.json"},"attributes":{"action":"Ystyried hyblygrwydd yn y cynllun gofal plant 12.5 awr a ariennir ar gyfer pob plentyn 2 oed ledled Cymru.","background":"Fel rhieni sy’n gweithio ac sy’n defnyddio darpariaeth ffurfiol meithrinfa ddau ddiwrnod yr wythnos yn unig, mae'r rheol gofal plant 12.5 awr bresennol yn gwbl anhygyrch.\r\n\r\nMae cyfyngu oriau a ariennir i slotiau dyddiol anhyblyg o 2.5 awr, dros bum niwrnod, yn ein gorfodi i gynyddu oriau meithrinfa neu golli ein hawl i ofal plant.\r\n\r\nMae’r polisi’n siomi teuluoedd sy’n gweithio drwy wrthod gadael i’r oriau hanfodol hyn a ariennir gael eu cywasgu i’n hamserlenni meithrin presennol.","additional_details":"Rydyn ni’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio’r canllawiau statudol ar gyfer cynlluniau gofal plant a ariennir, yn benodol Dechrau’n Deg, er mwyn caniatáu i'r 12.5 awr wythnosol gael eu darparu’n hyblyg, yn hytrach na’u cyfyngu i 2.5 awr y dydd dros 5 diwrnod.\r\n\r\nMae'r strwythur 5 diwrnod anhyblyg presennol yn gorfodi rhieni sy’n gweithio i anfon eu plant i feithrinfa am 5 diwrnod yr wythnos, dim ond i gael mynediad at eu hawl gyfreithiol.\r\n\r\nMae’r cynllun yn cosbi teuluoedd sy’n defnyddio meithrinfa 4 diwrnod neu lai yr wythnos, ac sy’n gweithio ochr yn ochr â phatrymau sifftiau hyblyg y byd gwaith modern.\r\n\r\nByddai caniatáu i awdurdodau lleol a darparwyr gael y rhyddid i gywasgu'r 12.5 awr hyn i lai o ddiwrnodau, a rhai hirach, yn cael gwared ar y rhwystrau hyn.\r\n\r\nBydd yn sicrhau y gall rhieni sy’n gweithio ddefnyddio’r gofal a’r gefnogaeth a ariennir, sydd ar gael iddynt, i’r eithaf, er mwyn sicrhau sefydlogrwydd economaidd yr aelwyd. Rydym o’r farn y byddai gwneud hynny yn annog canlyniadau datblygiadol cryfach i blant. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i foderneiddio’r polisi hwn i gefnogi bywyd gwaith cyfoes.\r\n","state":"open","signature_count":268,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-09-04T21:15:19.611Z","updated_at":"2026-10-14T17:27:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-09-08T14:42:46.347Z","closed_at":"2027-03-08T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-09-05T13:51:20.000Z","referral_threshold_reached_at":"2026-09-28T15:50:30.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Shahrabun Chapman","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"plant-a-phobl-ifanc","name":"Plant a Phobl Ifanc"}]}},{"type":"petition","id":247074,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247074.json"},"attributes":{"action":"Sicrhau cydymffurfiaeth orfodol â chanllaw NICE rhif 73, data cenedlaethol, a monitro arbenigol blynyddol ar gyfer gofal endometriosis","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gofal endometriosis yng Nghymru, gan weithredu system genedlaethol ar gyfer monitro a thriniaeth ddiogel sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Rydym am i’r Llywodraeth gyflwyno gofyniad i gydymffurfio'n llawn â chanllaw NICE rhif 73, mewn perthynas ag archwilio ac atebolrwydd; creu cofrestrfa genedlaethol ar gyfer endometriosis; a sicrhau bod triniaeth arbenigol yn digwydd yn flynyddol, a hynny’n orfodol. Mae’r gofal a ddarperir ar hyn o bryd yn anghyson, yn anniogel, ac yn brin o ddata. Byddai'r diwygiadau hyn yn sicrhau bod gofal atebol a chyfartal yn cael ei ddarparu.","additional_details":"Yng Nghymru, mae angen system strwythuredig ac atebol ar gyfer gofal endometriosis, sy'n sicrhau bod pob claf yn cael ei reoli’n gyson, o dan arweiniad arbenigwyr. Dylid sicrhau bod rhaid i fyrddau iechyd ddilyn canllaw NICE rhif 73 yn llawn, gan gynnwys trefniadau archwilio ffurfiol, dyletswyddau adrodd, a chanlyniadau pan na chaiff canllawiau eu gweithredu. Mae creu cofrestrfa genedlaethol ar gyfer endometriosis yn hanfodol o ran cofnodi llwybrau diagnostig, cofnodi camau’r clefyd yn gywir, cofnodi’r baich o ran symptomau, cofnodi technegau llawfeddygol, cofnodi cymhlethdodau, cofnodi’r cyfnodau rhwng achosion o’r clefyd yn dychwelyd, cofnodi’r effaith ar ffrwythlondeb, a chofnodi datblygiad anabledd. Byddai'r data hyn yn caniatáu i Gymru olrhain canlyniadau, nodi amrywiadau rhanbarthol, a chynllunio gwasanaethau yn seiliedig ar dystiolaeth wirioneddol yn hytrach na rhagdybiaethau. Byddai cynnal adolygiadau arbenigol blynyddol gorfodol yn sicrhau asesiad parhaus o boen, yr effaith ar organau, effeithiolrwydd triniaeth, a'r risg o’r clefyd yn dychwelyd, gan atal menywod rhag cael eu gadael heb driniaeth ddilynol. Mae’r gofal a ddarperir ar hyn o bryd yn brin o strwythur, goruchwyliaeth, a chanlyniadau mesuradwy. Heb y diwygiadau hyn, nid oes modd i Gymru ddarparu gofal diogel a chyfartal, na deall gwir raddfa'r niwed a achosir gan oedi o ran cael diagnosis a monitro annigonol. ","state":"open","signature_count":213,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-08-10T16:05:42.022Z","updated_at":"2026-10-14T20:51:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-14T08:47:42.977Z","closed_at":"2027-02-14T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-08-10T21:05:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Nicola Rogers","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":246980,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246980.json"},"attributes":{"action":"Cyfraith Georgia ar gyfer tai diogel brys ar gyfer goroeswyr cam-drin risg uchel","background":"Mae Cyfraith Georgia yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin darpariaeth tai i oroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol risg uchel fel mater o ddiogelu brys, nid fel digartrefedd arferol. Gall menywod sy’n gweithio ac nad ydynt yn hawlio budd-daliadau fod mewn perygl difrifol o hyd, ond maent yn wynebu rhwystrau ychwanegol wrth gael mynediad at loches, adleoli diogel a thai blaenoriaeth oherwydd eu bod mewn gwaith. ","additional_details":"Mae’r ddeiseb hon yn seiliedig ar brofiad byw a thystiolaeth ehangach sy’n dangos y gall goroeswyr gael eu gadael mewn perygl pan nad yw systemau tai yn ymateb yn ddigon cyflym i risg hysbys. Ni ddylai menyw sydd wedi’i hasesu fel achos risg uchel gan yr holl wasanaethau - yr heddlu, Cynhadledd Asesu Risg Aml-Asiantaeth, neu wasanaethau Cynghorydd Annibynnol ar Drais Domestig neu Gynghorydd Annibynnol ar Drais Rhywiol – gael ei gadael i aros am fisoedd am ddiogelwch, ei lleoli mewn llety dros dro anniogel, neu ei gwrthod rhag llwybrau ymarferol i ddiogelwch oherwydd ei bod yn gweithio ac nad yw’n hawlio budd-daliadau.\r\n\r\nByddai Cyfraith Georgia yn ei gwneud yn ofynnol i ymatebion tai mewn achosion o gam-drin risg uchel gael eu trin fel penderfyniadau diogelu brys. Byddai’n cefnogi adleoli ar frys o fewn dyddiau, nid misoedd; symud rhwng awdurdodau lle nad yw lleoliad lleol yn ddiogel; cyfyngiadau ar lety dros dro anaddas; a neilltuo stoc tai cymdeithasol yn benodol ar gyfer goroeswyr risg uchel a symudiadau ymlaen o lochesi.\r\n\r\nNid yw incwm yn atal trais. Nid yw bod mewn gwaith yn lleihau’r risg gan droseddwr. Pan fo risg yn hysbys, nid yw oedi yn niwtral - beth bynnag fo’r statws ariannol.\r\n","state":"open","signature_count":184,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-06-24T21:32:03.185Z","updated_at":"2026-10-08T04:08:50.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-06-30T10:37:25.991Z","closed_at":"2026-12-30T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-06-24T21:38:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Georgia","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"gofal-cymdeithasol","name":"Gofal Cymdeithasol"}]}},{"type":"petition","id":247156,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247156.json"},"attributes":{"action":"Creu llwybr Cymru gyfan rhwng gofal niwroddatblygiadol preifat a gofal y GIG","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno llwybr Cymru gyfan sy'n ei gwneud yn ofynnol i fyrddau iechyd y GIG adolygu’n ffurfiol asesiadau preifat o awtistiaeth ac ADHD yn erbyn safonau clinigol cyhoeddedig. Dylai'r llwybr hefyd ei gwneud yn ofynnol i'r byrddau iechyd esbonio'n ysgrifenedig pryd mae tystiolaeth yn cael ei darparu, ystyried gofal a rennir neu ofal cydgysylltiedig lle bo hynny'n briodol yn glinigol. At hynny, dylai nodi bod rhaid iddynt adolygu gofal a thriniaeth pan na pharheir â gofal yn breifat neu pan fo angen i'r GIG ei hadolygu.","additional_details":"Caiff teuluoedd geisio asesiadau preifat o ADHD neu awtistiaeth oherwydd bod amseroedd aros y GIG yn hir. Gall problemau godi wedyn os nad yw gwasanaethau'r GIG yn derbyn neu'n parhau ag asesiad neu driniaeth a gychwynnwyd yn breifat, gan ddal plant rhwng gwasanaethau.\r\n\r\nNid yw'r ddeiseb hon yn gofyn i'r GIG dderbyn pob diagnosis preifat yn awtomatig. Mae'n gofyn am broses glir ledled Cymru fel bod tystiolaeth breifat yn cael ei hadolygu yn erbyn safonau cyhoeddedig, bod teuluoedd yn cael gwybod yn ysgrifenedig y rhesymau am wrthod tystiolaeth, bod gofal a rennir neu ofal cydgysylltiedig yn cael ei ystyried lle bo'n briodol, ac nad yw plant yn cael eu gadael heb driniaeth tra bod pwy sy’n gyfrifol am eu gofal yn aneglur.\r\n\r\nMae'r nod yn syml: dylai penderfyniadau gael eu seilio ar ansawdd clinigol, diogelwch cleifion a budd gorau'r plentyn — nid dim ond ar y cwestiwn a gafodd asesiad ei ariannu'n breifat neu ei gomisiynu gan y GIG.\r\n","state":"open","signature_count":177,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-10-05T09:39:06.543Z","updated_at":"2026-10-16T18:46:10.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-10-10T11:37:39.055Z","closed_at":"2027-04-10T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-10-05T16:33:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Jamie Arr","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"iechyd","name":"Gwasanaethau Iechyd a Gofal GIG"}]}},{"type":"petition","id":247049,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247049.json"},"attributes":{"action":"Gwneud y brechlyn ar gyfer yr eryr yn fwy hygyrch","background":"Rydw i wedi dioddef ers 7 wythnos gyda’r eryr ar fy wyneb yn lledaenu i fy llygad, gan achosi dallineb am rai diwrnodau a llid ar fy ymennydd, gan wneud i mi gael trawiad a chwympo a bod mewn cyflwr lle nad oeddwn i’n ymateb, gan arwain at gyfnod o bythefnos yn aros mewn ysbyty. Rwy’n credu bod hyn oherwydd oedi o ran cael y feddyginiaeth wrthfeirysol oedd ei hangen arnaf. ","additional_details":"Dydw i ddim yn cael gyrru am o leiaf 6 mis. Mae wedi effeithio ar fy ngwaith, fy mywyd yn gyffredinol, a sut rwy’n gallu gofalu am fy merch. Rwy’n byw gyda phoen yn ddyddiol erbyn hyn. Dydw i ddim yn gallu cael y brechlyn oherwydd fy oedran – dim ond 33 ydw i. Mae’n rhaid bod yn 65 oed i fod yn gymwys i gael y brechlyn, ac eithrio’r rai sydd â system imiwnedd sydd wedi’i wanhau’n sylweddol.\r\n","state":"open","signature_count":176,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-27T12:15:27.712Z","updated_at":"2026-10-08T04:10:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-08-04T09:13:47.330Z","closed_at":"2027-02-04T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-27T12:17:20.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Natalie Franklin","rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":247043,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/247043.json"},"attributes":{"action":"Rhoi’r gorau i wario ein harian y tu allan i Gymru","background":"Rydw i wedi darganfod bod Llywodraeth Cymru yn gwario / anfon degau o filiynau o bunnoedd i wledydd neu brosiectau eraill.\r\nWir? Gwariwch yr arian hwnnw yma! Ar ein pobl ni.\r\nMae'n hollol aneglur i mi sut mae gwario tua 50 miliwn ar swyddfeydd tramor yn helpu pobl Cymru fel dim ond un enghraifft o wariant tramor.\r\n","additional_details":"","state":"open","signature_count":169,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-07-25T11:34:50.890Z","updated_at":"2026-10-08T09:56:20.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-07-27T11:32:00.627Z","closed_at":"2027-01-27T23:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-07-25T16:51:40.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Nik Mason","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"economi-a-chyllid","name":"Busnes, Economi a Chyllid"}]}},{"type":"petition","id":246886,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/246886.json"},"attributes":{"action":"Integreiddio Addysg am Hil-laddiad ac Erchyllterau Torfol i'r Cwricwlwm i gefnogi'r cynllun Gwrth-Hiliaeth yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu canllawiau sy'n addas i’r oedran ar gyfer addysgu hil-laddiad ac erchyllterau torfol o fewn Cwricwlwm Cymru. Bydd astudiaethau achos cymharol, anragnodol, gan gynnwys Rwanda, Burundi, Bosnia, a'r Holocost, yn cefnogi gwrth-hiliaeth, hawliau dynol, dinasyddiaeth fyd-eang, cynhwysiant, a dysgu moesegol, gan helpu pobl ifanc i gydnabod a herio gwahaniaethu, meithrin empathi, dealltwriaeth a chyfrifoldeb cymdeithasol, a chryfhau nod Cenedl Noddfa Cymru.","additional_details":"Mae addysg am hil-laddiad ac erchyllterau torfol yn hanfodol ar gyfer meithrin empathi, rhesymu moesegol, a dinasyddiaeth ymgysylltiedig ymhlith pobl ifanc, a hynny drwy gyfleu sut mae rhagfarn a gwahaniaethu yn gallu dwysáu nes troi’n drais. Byddai addysg o’r fath yn cefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol ac ymrwymiadau Cenedl Noddfa Llywodraeth Cymru, gan ymgorffori addysg ataliol a dealltwriaeth o ddadleoli dan orfodaeth. Gellid ymgorffori canllawiau addas i oedran, anragnodol yn y Dyniaethau ac Iechyd a Llesiant. Byddai astudiaethau achos cymharol – yr Holocost, Hil-laddiad 1994 yn erbyn y Tutsi yn Rwanda, Ikiza 1972 yn Burundi, a’r Hil-laddiad ym Mosnia ym 1995 – yn galluogi dysgwyr i adnabod patrymau gwahaniaethu a thrais ar raddfa fyd-eang. Byddai canllawiau cenedlaethol yn cefnogi athrawon ac yn sicrhau bod addysg o ansawdd uchel ac yn atebol yn ei chrynswth.","state":"open","signature_count":164,"threshold_for_referral":250,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2026-03-11T00:03:46.150Z","updated_at":"2026-09-22T18:00:40.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2026-03-12T16:43:20.659Z","closed_at":"2026-10-20T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2026-03-11T00:09:50.000Z","referral_threshold_reached_at":null,"referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":null,"submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":"Bowen Cole","rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"addysg","name":"Addysg"},{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"}]}}]}