{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau.json?page=43&state=archived","first":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?state=archived","last":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=54&state=archived","next":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=44&state=archived","prev":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=42&state=archived"},"data":[{"type":"petition","id":1673,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1673.json"},"attributes":{"action":"Gwneud i brifysgolion Cymru ystyried Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch","background":"​Gan ei bod yn orfodol i bobl ifanc sy'n astudio Safon Uwch ac Uwch Atodol gwblhau Bagloriaeth Cymru, siawns y dylai prifysgolion yng Nghymru dderbyn y cymhwyster, fel pob Safon Uwch arall, ar gyfer pob cwrs.\n\n","additional_details":"​Un enghraifft o gwrs nad yw'n derbyn Bagloriaeth Cymru fel Safon Uwch yw Iaith a Lleferydd ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Nid oes unrhyw gyrsiau Iaith a Lleferydd eraill yng Nghymru.\n\n","state":"completed","signature_count":71,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-11-11T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:06:39.900Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-11-11T00:00:00.000Z","closed_at":"2020-01-25T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-11-11T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2020-01-25T00:00:00.000Z","referred_at":"2020-01-25T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:06:39.899Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1599,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1599.json"},"attributes":{"action":"Dylid stopio berwi cramenogion yn fyw (cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati)","background":"​Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth Cymru wella'r mesurau amddiffyn i gramenogion a gwahardd yr arfer creulon o ferwi cimychiaid, crancod, cimychiaid afon, corgimychiaid ac ati yn fyw.\n\n \n\nMae sŵolegwyr wedi darganfod bod cimychiaid a chramenogion eraill, yn wahanol i fodau dynol, yn METHU â mynd i 'sioc', felly mae taflu nhw i botaid o ddŵr BERWEDIG yn peri iddynt ddioddef yn hwy. Pan fydd anifeiliaid eraill, gan gynnwys bodau dynol, yn dioddef poen eithafol, mae'r system nerfol yn ymdopi drwy stopio gweithio. Mae gwyddonwyr wedi darganfod ei bod yn cymryd hyd at 45 eiliad i gimychiaid a chrancod farw pan gânt eu taflu i botaid o ddŵr BERWEDIG (sef rhywbeth a fyddai'n hollol annerbyniol ar gyfer anifail ag asgwrn cefn fel buwch neu fochyn). I roi persbectif i'r mater, os cânt eu datgymalu, gall y system nerfol barhau i weithio am hyd at awr.\n\n \n\nNod Deddf Lles Anifeiliaid yw amddiffyn anifeiliaid, gan ddeall bod creaduriaid ymdeimladol yn gallu teimlo poen, ac mae dyletswydd foesol arnom i BEIDIO â pheri dioddefaint. O dan y Ddeddf mae'n drosedd peri dioddefaint diangen i unrhyw anifail, o ran eu cadw ac ar adeg eu lladd. Mae'n golygu bod modd erlyn pobl neu sefydliadau sy'n esgeuluso neu gam-drin anifeiliaid 'gwarchodedig'. Mae 'anifeiliaid a ffermir', pysgod ac ymlusgiaid oll yn cael eu diogelu dan y Ddeddf hon. Ond nid felly y mae yn achos infertebratau megis crancod, cimychiaid, cimychiaid afon a chorgimychiaid.\n\n \n\nAt hynny, daethpwyd o hyd i gramenogion byw ar werth, yn aros eu tynged ar badelli iâ, wedi'u pacio a'u rhwymo'n dynn mewn tanciau neu blastig i'r cwsmer eu lladd gartref. Yn y Swistir, mae berwi cimwch yn fyw yn cael ei ystyried yn weithred o greulondeb wrth anifail. Erbyn hyn mae'n rhaid i bobl y Swistir stynio neu ladd anifeiliaid cyn eu berwi, ac ni cheir cadw cimychiaid yn fyw ar iâ.\n\n \n\nDylid ehangu Deddf Lles Anifeiliaid 2006 i gynnwys cramenogion, gan gynnwys cimychiaid, crancod, corgimychiaid, cimychiaid afon ac ati.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":2016,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-08-16T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-24T14:36:22.088Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-08-16T00:00:00.000Z","closed_at":"2020-01-25T00:00:00.000Z","completed_at":"2022-05-08T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-08-16T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2020-01-25T00:00:00.000Z","referred_at":"2020-01-25T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-24T14:36:22.038Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1658,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1658.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd Parcio ar Balmentydd - Addewid Palmant (Pavement Promise)","background":"​Galwaf ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i orfodi gwaharddiad ar barcio ar balmentydd.  \n   \nRwy'n ymgyrchu i ddod â pharcio ar balmentydd i ben. Mae'n fater cynyddol sy'n effeithio ar fy hun a chymaint o rai eraill yng Nghymru bob dydd gan beryglu eu diogelwch. Mae'n fater enfawr i'r rheini ag anabledd a'r rhai â chadeiriau gwthio. Mae hyn yn arbennig o anodd pan fydd cerbydau'n parcio ar y cwrb isel neu'r palmant botymog.  \n   \nAr sawl achlysur mae'r cerbyd sydd wedi'i barcio ar y palmant yn achosi i'r olygfa o'r ffordd ddod yn gyfyngedig. Mae hyn yn achosi i'r sefyllfa ddod yn beryglus i unrhyw un sy'n gorfod mynd ar y ffordd i basio'r cerbyd. Mae risg llawer uwch i'r rheini sydd â nam ar eu golwg neu ddefnyddwyr cadeiriau olwyn symud i'r peryglon anhysbys.  \n   \nDylai fod gan bawb yr hawl i annibyniaeth. Fodd bynnag, pan fydd cerbydau'n parcio ar y palmant, mae hyn yn cyfyngu'r rhai na allant yrru ac sy'n dibynnu ar y palmant i deithio o amgylch eu cymuned. Gall hyn hefyd arwain at unigedd a phryder.  \n   \nDylid ymdrin â hyn nawr fel bod gan genedlaethau'r dyfodol yr un siawns o annibyniaeth a diogelwch i bawb yn ein cymunedau.\n\n","additional_details":"​Mae gen i a fy mab nam ar ein golwg. Mae'r mater hwn yn ei gwneud hi'n anodd iawn inni gael mynediad i'n cymuned yn ddiogel. Rydw i wedi siarad â llawer o bobl sydd hefyd yn ei chael hi'n anodd.  \n   \nFe wnes i a fy mab greu ymgyrch o'r enw Addewid Palmant (Pavement Promise). Rydyn ni am i bawb addo peidio â pharcio ar y palmant.  \n   \nRwy'n teimlo y dylid cael tîm penodol i weithio ar y mater hwn. Efallai ffordd ryngweithiol/ar-lein i bobl gyflwyno gwybodaeth.  \n   \nRydw i am i fy mab gael cymaint o annibyniaeth ag y gall yn ei ddyfodol mewn modd diogel. Helpwch fi i gadw ein cymunedau'n ddiogel.\n\n","state":"completed","signature_count":801,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-17T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:06:09.953Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-17T00:00:00.000Z","closed_at":"2020-01-24T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-11-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-17T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2020-01-24T00:00:00.000Z","referred_at":"2020-01-24T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:06:09.949Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"cymunedau-a-tai","name":"Cymunedau a Tai"},{"code":"trafnidiaeth","name":"Trafnidiaeth"}]}},{"type":"petition","id":1608,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1608.json"},"attributes":{"action":"Cynnig Prawf Sgrinio Canser y Coluddyn ar ôl 74 oed","background":"Mae'r GIG yn Lloegr, yr Alban a Chymru yn cynnig prawf sgrinio Canser y Coluddyn bob 2 flynedd i rai rhwng 60 a 74 oed.  \n  \nYn Lloegr a'r Alban, gallwch wneud cais am becyn sgrinio bob dwy flynedd ar ôl 74 oed. NID yw hyn ar gael i'r rhai dros 74 oed yng Nghymru.  \n  \nMae'r ddeiseb hon yn gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod profion sgrinio canser y coluddyn ar gael fel y mae yn Lloegr a'r Alban.  \n  \nMae dod â'r profion sgrinio i ben yn 74 oed yng Nghymru yn awgrymu nad ydym yn gwerthfawrogi ein henoed yn yr un ffordd ag y maent yn gwneud yn Lloegr a'r Alban. \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":69,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:06:28.665Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2020-01-24T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2020-01-24T00:00:00.000Z","referred_at":"2020-01-24T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:06:28.665Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1597,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1597.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffair. #OperationGoldfish","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i wahardd pysgod aur rhag cael eu rhoi i ffwrdd mewn ffeiriau.\n\nMae pysgod aur yn dal i gael eu rhoi i ffwrdd fel gwobrau mewn ffeiriau ar hyd a lled y wlad. Maent yn greaduriaid cymhleth a all fyw am hyd at 25+ mlynedd a thyfu rhwng 25-45cm. Cânt eu cadw mewn amodau gwael a'u rhoi i bobl sy'n ennill ar fympwy, ac oherwydd hyn maent ond yn byw am ychydig fisoedd fel arfer. Mae hwn yn draddodiad hynafol a, thrwy addysg ddiweddar, rydym wedi dod i sylweddoli ei fod yn anfoesol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":2416,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-08-05T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:05:45.069Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-08-05T00:00:00.000Z","closed_at":"2020-01-15T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-09-28T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-08-05T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2020-01-15T00:00:00.000Z","referred_at":"2020-01-15T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:05:45.068Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1668,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1668.json"},"attributes":{"action":"Addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion a hyfforddiant EPI-PEN gorfodol","background":"Nid oes cyfraith yn bodoli yn unman yn y DU ar hyn o bryd sy'n cynnig addysg ar alergeddau bwyd mewn ysgolion o oedran cynradd ac i fyny.   \n  \nRydyn ni eisiau newid hynny! Byddai cynnig sesiynau addysgol mewn ysgolion o fudd i blant sydd mewn perygl o anaffylacsis. Byddai'n helpu pobl eraill i ddeall alergeddau bwyd, sef cyflwr meddygol na fyddech yn ymwybodol o'i sgîl-effeithiau oni bai eich bod yn adnabod rhywun sydd â'r cyflwr.\n\nRydym yn gobeithio y byddai cyflwyno sesiynau addysgol ar alergeddau bwyd hefyd yn cael gwared ar y stigma sy'n gysylltiedig â nhw, yn dileu bwlio ac yn cynnig rhagor o gefnogaeth i blant sydd â'r cyflwr hwn.   \n  \nY cyfan y mae'n ei gymryd yw un cyffyrddiad neu un tamaid, ac, heb ddefnyddio epi pen, gallech fod yn wynebu sefyllfa drasig iawn.   \n  \nByddai cyflwyno hyfforddiant 'epi pen ' gorfodol hefyd yn cael gwared ar y pryder i deuluoedd sydd â rhywun ag alergeddau bwyd. Byddai athrawon a staff ysgol yn gwybod beth yw arwyddion hanfodol adwaith alergaidd, ac felly byddai modd iddynt sylwi ar anaffylacsis yn gynt.   \n  \nMae Archie's Allergies yn elusen newydd sy'n cynnig cymorth, cyngor a gwybodaeth am bwysigrwydd bod yn ymwybodol o alergeddau.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":173,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-11-08T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:05:10.107Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-11-08T00:00:00.000Z","closed_at":"2020-01-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-12-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-11-08T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2020-01-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2020-01-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:05:10.106Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1593,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1593.json"},"attributes":{"action":"Eli haul mewn ysgolion","background":"​Mae pob plentyn mewn perygl o losg haul yn yr ysgol neu ar daith ysgol. Mae hyn yn achosi problemau iechyd tymor byr ond mae hefyd yn achosi problemau hirdymor fel canser croen. Gellid osgoi hyn yn hawdd drwy ganiatáu i ysgolion roi eli haul arnynt gyda chydsyniad eu rhieni. Mae llawer o opsiynau ar gyfer gwneud hyn heb i'r athrawon orfod cyffwrdd y plant os yw hyn yn broblem.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":120,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-07-25T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:04:14.397Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-07-25T00:00:00.000Z","closed_at":"2020-01-03T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-07-16T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-07-25T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2020-01-03T00:00:00.000Z","referred_at":"2020-01-03T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:04:14.396Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1620,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1620.json"},"attributes":{"action":"Annog y defnydd o 'Cymru' a 'Cymry' wrth gyfeirio atom ein hunain yn y Gymraeg a'r Saesneg","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyfeirio at ein gwlad fel Cymru, a'r genedl fel Cymry, yn y Gymraeg a'r Saesneg ym mhob datganiad swyddogol. Mae tarddiad y termau \"Wales\" a \"Welsh\" yn cyfeirio atom fel estroniaid a thaeogion yn ein gwlad ein hunain. Mae'n bryd i ni ddiffinio ein hunain yn hytrach na chael ein diffinio gan genedl arall - a symbol o hynny fyddai cyfeirio atom ein hunain fel Cymry a'n gwlad fel Cymru.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":127,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-08-28T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:04:05.524Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-08-28T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-08T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-08-28T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:04:05.523Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1659,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1659.json"},"attributes":{"action":"Deiseb ar gyfer Meddygfa Glanyfferi","background":"Rydym yn teimlo'n gryf iawn ei bod yn hanfodol cadw meddygfa Glanyfferi.  \n   \nMae arnom angen doctor, nyrs a fferyllfa i gynnig y gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen ar bentref lle mae'r rhan fwyaf o'r trigolion dros 50 oed.  \n   \nMae'n rhan greiddiol o Ganolfan Gymunedol Calon y Fferi, sy'n hygyrch iawn. Mae ymweld â'r ganolfan yn gyfle i gwrdd â phobl ac mae'n lliniaru teimladau o unigrwydd ac unigedd. Mae'n helpu i gynnal iechyd corfforol ac iechyd meddwl ar lefel leol. Nid yw trafnidiaeth gyhoeddus yn rheolaidd, ac mae hynny'n golygu ei bod yn anodd i bobl sydd â phroblemau wrth symud fynd i ganolfannau meddygol eraill.\n\n \n\nMae'r rhan fwyaf o bobl am aros yn eu cartref eu hunain wrth iddynt heneiddio, ac mae'n bosibl bod hyn yn fwy cynaliadwy ac yn gwneud mwy o synnwyr ariannol pan fo gwasanaethau a chwmniaeth heb fod yn bell. Byddai'n gam am yn ô li orfodi'r holl drigolion i adael y pentref am driniaeth.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":117,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-17T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:04:15.068Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-17T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-17T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T08:04:15.067Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1674,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1674.json"},"attributes":{"action":"Cael gwared ar y geiriau sy’n hyrwyddo adfer adnoddau olew a nwy o Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru","background":"​Gan fod eich Llywodraeth bellach wedi datgan argyfwng hinsawdd, gofynnwn y dylid cael gwared ar y geiriau hyn o’r Cynllun Morol drafft: “manteisio i’r graddau mwyaf posibl yn economaidd ar ddatblygu ac adfer adnoddau olew a nwy’r DU er mwyn darparu cyflenwad diogel a dibynadwy o danwyddau ffosil i fusnesau a defnyddwyr yng Nghymru a’r DU”.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":253,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-11-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:03:59.748Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-11-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-12-20T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-11-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-12-20T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-12-20T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T08:03:59.747Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1585,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1585.json"},"attributes":{"action":"Cyfleusterau toiled Changing Places","background":"​Mae'r ddeiseb hon yn annog Llywodraeth Cymru i wneud newidiadau ar unwaith i reoliadau adeiladu a chynllunio er mwyn sicrhau y darperir cyfleusterau toiled Changing Places, gyda mainc newid i oedolion, teclyn codi a digon o le i 2 ofalwr yn yr holl adeiladau cyhoeddus mawr pan gânt eu hadeiladu, eu hailddatblygu neu eu hailwampio.\n\n","additional_details":"​Achos enghreifftiol   \n\"Mae fy merch yn 9 oed ac mae ganddi gyflwr o'r enw oedi datblygiadol cyffredinol ac mae'n defnyddio cadair olwyn. Mae ei hanabledd yn golygu nad yw'n gallu eistedd yn syth heb gymorth ac mae'n ddi-eiriau, felly ni all ddweud wrthyf pan fydd angen iddi fynd i'r tŷ bach. Mae hyn yn golygu ei bod yn gwisgo cewynnau. Pan fydd angen newid ei chewyn pan na fyddwn gartref, rydym yn aml yn cael trafferth dod o hyd i gyfleusterau i wneud hynny. Mae'n mynd yn rhy fawr ar gyfer uned newid cewynnau i fabanod a'n hunig opsiwn arall yw llawr y toiled, sy'n aflan, yn aflanwaith ac, yn fy marn i, yn annynol yn ogystal â bod yn anurddasol. Mae hon yn sefyllfa gwbl annerbyniol ac afresymol i unrhyw un. Hefyd, bob tro rwy'n ei chodi, rwy'n ymwybodol fy mod yn rhoi fy hun mewn perygl o anaf acíwt i'r cefn, a bydd y perygl hwn yn cynyddu wrth iddi fynd yn hŷn ac yn fwy. Ni allaf gredu sut y mae pobl yn llwyddo i newid cewynnau oedolion fel hyn.  \n Mae miloedd o bobl anabl ar draws Cymru y mae arnynt angen y cyfleusterau a gynigir gan doiled Changing Places.  \n Dywed Safonau Prydeinig 8300/2018 y dylid darparu toiledau Changing Places mewn adeiladau a chyfadeiladau mwy, megis:  \n A/ Terfynfeydd neu gyfnewidfeydd trafnidiaeth mawr, e.e. gorsafoedd trenau mawr a meysydd awyr  \n B/ Gwasanaethau traffordd  \n C/ Cyfleusterau chwaraeon a hamdden, gan gynnwys gwestai mawr  \n D/ Canolfannau diwylliannol, megis amgueddfeydd, neuaddau cyngerdd ac orielau celf a chanolfannau ffydd   \nE/ Stadia ac awditoria mawr  \n F/ Mangreoedd manwerthu masnachol mawr a chanolfannau siopa  \n G/ Adeiladau allweddol yng nghanol trefi, e.e. neuaddau tref, canolfannau dinesig a phrif lyfrgelloedd cyhoeddus   \nH/ Sefydliadau addysgol   \nI/ Cyfleusterau iechyd, megis ysbytai, canolfannau iechyd a phractisau cymunedol   \nJ/ Atyniadau ymwelwyr eraill, megis parciau thema, traethau sy'n cael eu monitro a pharciau  \n   \nGall Llywodraeth Cymru wneud yn well na'r sefyllfa bresennol a gwneud toiledau Changing Places yn orfodol ar gyfer adeiladau cyhoeddus mawr fel y'u rhestrir yn BS8300/2018 ac mae'n rhaid i hyn ddigwydd.\n\n","state":"completed","signature_count":1273,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-07-08T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:03:35.988Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-07-08T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-12-12T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-07-08T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-12-12T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-12-12T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:03:35.983Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"cynllunio","name":"Cynllunio"}]}},{"type":"petition","id":1583,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1583.json"},"attributes":{"action":"Dylid Darparu Adran Blinder Cronig yng Nghymru","background":"Nid oes Adran Blinder Cronig o gwbl yng Nghymru! Mae Blinder Cronig yn cael ei anghofio neu ei ystyried fel iselder. Hoffwn weld adran yn cael ei sefydlu gyda'r bwriad y bydd unigolion yn cael eu hasesu yn iawn. Dywed meddygon teulu 'nid oes gwellhad' neu 'nid ydych chi wedi cael eich asesu'. Heb adran Blinder Cronig, ni ellir cynnal ymchwil i ddod o hyd i iachâd llwyr na ffordd o gynnal asesiad.  \n  \nRwy'n dioddef gan y cyflwr hwn ers 23 mlynedd. Dechreuodd ar ôl wythnos o dwymyn boeth, gyda gwres o 104 ar y pumed diwrnod. Ychydig a wyddys am Flinder Cronig. Ysgrifennais Ddeiseb yn ddiweddar a gasglodd 65 llofnod yn gofyn am i adran gael ei sefydlu yng Nghymru; dangosodd fod gan 20 ohonynt aelodau teulu neu ffrindiau sy'n dioddef gan y cyflwr. Mae mor wanychol ac mae'n wastraff o fywyd. Ni ellir meddwl, canolbwyntio na gwneud dim byd corfforol heb orfod mynd i'r gwely wedyn. Gall gymryd dyddiau i ddod dros yr ymdrech leiaf.  \n  \nGwelais fenyw yn cael ei chyfweld ar y teledu. Roedd hi mewn Clinig Blinder Cronig ac yn dweud ei bod wedi cael trwyth Myers, sy'n cynnwys fitaminau a mwynau, ac roedd yn teimlo mor dda, fel hi ei hunan eto.  Nid yw'r driniaeth hon ar gael ar y GIG. Rwyf am roi cynnig arni i weld ai dyma'r ateb, ond mae angen dod o hyd i glinig preifat i weinyddu'r trwyth Myers. Y llynedd, cefais 'gyfnod o bum diwrnod' o feddwl clir ac egni. Nid wyf yn gwybod a oedd hyn oherwydd fy mod yn cymryd capsiwl o fitamin B-gymhlyg bob dydd am ychydig. Gwelais ddoctor Meddygaeth Gyffredinol yn Ysbyty Llandochau yn ddiweddar [mae'n gweld llawer o bobl ac arnynt flinder cronig]. Dywedais wrtho am y trwyth hwn ac mae ganddo ddiddordeb mewn clywed am ganlyniad y driniaeth. Byddaf yn adrodd yn ôl iddo. Yn y cyfamser, a wnewch chi gefnogi'r ddeiseb hon? Mae bach o obaith yn hanfodol, a'r unig ffordd yw sicrhau bod yr help cywir ar gael yn y lle cyntaf. Gan beidio â byw bywyd anghyflawn. Diolch.\n\n","additional_details":"​Mae canolbwyntio yn wael; mae'n anodd amgyffred gwybodaeth yn llawn. Mae'n amhosibl cynllunio neu drefnu pethau. Mae cynhyrfu yn lluddedig. Ni ellir gwneud gwaith corfforol heb orfod mynd i'r gwely wedyn. Gall gymryd ychydig ddyddiau i fwrw blinder ar ôl gwneud unrhyw beth egnïol, ac mae cerdded unrhyw bellter yn broblem. Gall eistedd o flaen cyfrifiadur am 30 munud fod yn dreth ar egni rhywun. Mae siopa yn broblem fawr oni bai bod bygi y gellir ei ddefnyddio i fynd o amgylch y siop. Yn aml bydd rhaid siopa ar-lein, sy'n flinedig iawn. Rwyf wastad wedi bod yn berson gweithgar gyda llawer o ddiddordebau. Mae dyddiau lle na allaf wneud dim ond eistedd. Nid yw bywyd ond rhwystredigaeth. \n\n","state":"completed","signature_count":155,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-07-05T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:03:01.413Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-07-05T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-12-11T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-11-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-07-05T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-12-11T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-12-11T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:03:01.413Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1579,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1579.json"},"attributes":{"action":"Addysgu Llesiant Mislifol mewn Ysgolion: Peidio â Gadael Cymru Tu Ôl","background":"Fy enw i yw Jade, ac am 15 mlynedd dywedwyd wrthyf i fod y boen ddifrifol yr oeddwn yn ei phrofi fel rhan o'm cylchred mislifol yn gwbl normal. Roeddwn i'n dioddef o boen enbyd, blinder, a phroblemau cysylltiedig â'r coluddyn a'r bledren - a hyn oll wrth geisio mynd drwy'r ysgol, mynd drwy oed aeddfedrwydd, a phasio fy arholiadau.  \n  \nByddwn i wedi hoffi gwybod nad oedd yr hyn yr oeddwn yn ei brofi yn normal - ond yn hytrach symptomau cyflwr cyffredin o'r enw endometriosis sy'n effeithio ar 1 o bob 10 menyw o'r oed aeddfedrwydd i'r menopos. Dim ond un o lawer o gyflyrau mislifol sy'n effeithio ar bobl ifanc yw endometriosis - mae eraill yn cynnwys PCOS, PMDD, ac adenomyosis. Nid wyf am i unrhyw un sy'n dioddef o gyflwr iechyd mislifol wneud hynny ar ei phen ei hun fel y gwnes i.  \n  \nDrwy weithio gydag Endometriosis UK, fy ngobaith yw y gallwn ni lwyddo i berswadio'r Cynulliad Cenedlaethol i addysgu lles mislifol mewn ysgolion. Yn ogystal â helpu i chwalu'r tabŵau ynghylch iechyd mislifol ac annog pobl i siarad yn agored am eu mislif, byddai hyn hefyd yn addysgu am ba brofiadau sy'n normal a pha brofiadau nad ydynt yn normal.  \n  \nPe bawn i'n cael fy addysgu yn yr ysgol am ba brofiadau sy'n normal a pha brofiadau nad ydynt yn normal o ran poen sy'n gysylltiedig â mislif, gallwn i fod wedi gofyn am help ac osgoi blynyddoedd o ddryswch a thorcalon.  \n  \nI lawer, mae'r ysgol yn gyfnod hapus i edrych yn ôl arno. Ac er fy mod yn bendant i mi gael cyfnodau da, y peth rwy'n ei gofio fwyaf yw cwympo i gysgu yng nghefn y dosbarth a gorfod rhoi'r gorau i gymnasteg ysgol. Byddai athrawon yn fy nhrin i fel nad oeddwn i eisiau bod yno, ac nid oedden nhw hyd yn oed yn gofyn pam. Mewn gwirionedd, roeddwn i'n rhy flinedig ac mewn gormod o boen i wneud unrhyw beth.  \n  \nO 2020, bydd plant yn Lloegr yn dysgu am lesiant mislifol fel rhan o'r cwricwlwm ysgolion. Dyna un pwnc y gallaf i ond dymuno iddo fod ar y cwricwlwm pan oeddwn i yn yr ysgol. Efallai na fyddai athrawon wedi fy anwybyddu i, ond yn hytrach wedi fy ngalluogi i gael yr help yr oedd ei angen arnaf.  \n  \nEr bod y ffaith y bydd y rheini yn Lloegr yn dechrau dysgu am lesiant mislifol yn gam enfawr ymlaen, rhaid peidio â gadael Cymru tu ôl. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn adolygu'r cwricwlwm ac mae gennym gyfle i sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael yr addysg y mae ei hangen arnynt.  \n  \nA fyddech cystal â llofnodi fy neiseb i wneud llesiant mislifol yn rhan o'r cwricwlwm Cymreig.  \n  \nGyda'n gilydd, gallwn ddileu'r stigma a rhoi i blant â chyflyrau mislifol y gefnogaeth y maent yn ei haeddu. O'r diwedd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":846,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-07-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:02:46.603Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-07-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-12-06T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-07-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-12-06T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-12-06T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:02:46.602Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1645,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1645.json"},"attributes":{"action":"Cyllidebu Ysgolion ar gyfer ADY","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i glustnodi cyllideb ychwanegol i ysgolion ar draws Cymru, er mwyn medru darparu'r addysg ychwanegol sydd ei hangen ar ddisgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ac i wireddu amcanion Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.\n","additional_details":"Mae diffyg adnoddau gan ysgolion ar gyfer cefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial.  \n   \nMae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn datgan y canlynol:  \n \"Mae gan berson anghenion dysgu ychwanegol os oes ganddo anhawster dysgu neu anabledd (p'un a yw'r anhawster dysgu neu'r anabledd yn deillio o gyflwr meddygol ai peidio) sy'n galw am ddarpariaeth ddysgu ychwanegol.\"  \n   \nAr hyn o bryd nid oes gan ysgolion ddigon o adnoddau i fedru cynnig y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol sydd ei hangen ar eu disgyblion.  \n","state":"completed","signature_count":106,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:01:52.384Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-11-29T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-01-12T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-11-29T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-11-29T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:01:52.383Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1638,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1638.json"},"attributes":{"action":"Peidiwch â chyflwyno’r syniad i drwyddedu cŵn sioe, cathod sioe a cheffylau a ddangosir","background":"​Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Reoliadau newydd ynghylch Arddangosfeydd Anifeiliaid sy'n cynnwys cynnig y bydd angen trwyddedu ac archwilio unrhyw un sy'n arddangos (dangos) ci neu gath (neu rywogaethau anifeiliaid anwes eraill) yng Nghymru. Mae miloedd o gŵn a chathod a cheffylau yn dod i Gymru bob blwyddyn i gael eu dangos felly mae cynllun trwyddedu o'r fath nid yn unig yn anymarferol ac yn ddiangen ond bydd hefyd yn cael effaith ar economi Cymru. Dylai cŵn (sydd wedi'u cofrestru gyda'r Kennel Club), cathod (sydd wedi'u cofrestru gyda'r Governing Council of the Cat Fancy) neu geffylau a ddangosir â llaw a chyda chyfrwy gael eu heithrio rhag cofrestru. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ychwanegu 'cadw cŵn, cathod a cheffylau sy'n cymryd rhan mewn digwyddiadau cystadleuol' at Reoliad 3(4) sy'n rhestru nifer o weithgareddau eithriedig a gynigir na ddylent fod yn ddarostyngedig i'r cynllun trwyddedu arfaethedig.\n\n","additional_details":"​Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn dangos eu cŵn ond yn bwysicach fyth mae miloedd lawer yn fwy o arddangoswyr yn dod i Gymru o bob rhan o'r Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon i gystadlu mewn sioeau a gynhelir yn y wlad. Nid oes ffigurau ar gael ar gyfer cathod na cheffylau ond mae dwy sioe bencampwriaeth fawr sydd rhyngddynt yn denu dros 11,000 o gŵn a thros 200 o sioeau agored bob blwyddyn sy'n denu cannoedd ym mhob un. Ni fydd perchnogion y cŵn hyn y tu allan i Gymru wedi'u trwyddedu ac felly ni fyddant yn gallu mynychu. \n\n","state":"completed","signature_count":4242,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-09-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-04-13T08:39:45.619Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-09-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-11-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-09-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-11-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-11-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-04-13T08:39:45.618Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1652,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1652.json"},"attributes":{"action":"Hysbysiad cynharach ynghylch cyllidebau cynghorau gan Lywodraeth Cymru #AchubEinGwasanaethau","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyllidebau i gynghorau erbyn canol Ionawr 2020 fan bellaf er mwyn i awdurdodau lleol, yn gyntaf, gydymffurfio â'r holl ofynion deddfwriaethol mewn perthynas â'r broses gosod cyllidebau ar gyfer y dreth gyngor, ac yn ail fel y gallant roi cyllidebau deddfwriaethol priodol i ysgolion er mwyn iddynt hwy gydymffurfio â'u canllawiau eu hunain a osodwyd gan Lywodraeth Cymru.\n\n \n\nMae Cangen Castell-nedd Port Talbot o UNISON yn credu bod pob cyngor yng Nghymru o dan bwysau cyllidebol eithafol, gydag ambell ddarpariaeth gwasanaeth wedi'u colli ac eraill ar fin cael eu colli, a chan bod adolygiad gwariant hefyd ar y gweill, nid oes gan wasanaethau cyhoeddus ddim dealltwriaeth bellach o oblygiadau'r adolygiad hwn.\n\nMae Llywodraeth Cymru wedi cynnig y bydd y Gyllideb Ddrafft yn cael ei chyhoeddi ar 19 Tachwedd 2019, gyda'i Chyllideb Derfynol yn cael ei rhoi ym mis Chwefror, ond hyd yma does dim rhybudd o hyd pryd fydd y Gyllideb Llywodraeth Leol wirioneddol ar gael. Bydd goblygiadau deddfwriaethol ysgubol i BOB awdurdod lleol yn sgîl hyn, pan fydd yn rhaid iddynt gymeradwyo cyllidebau yn seiliedig ar ffigurau setliad drafft i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion statudol ynghylch gosod Biliau'r Dreth Gyngor.\n\n   \n Mae'r amserlen arfaethedig yn rhoi anawsterau real iawn i gynghorau, oherwydd bydd angen newid pob cyfarfod craffu, cyfarfodydd Cabinet dilynol a chyfarfodydd y Cyngor. Canlyniad hyn yw y gallai cyfraddau'r dreth gyngor fod wedi'u chwyddo, ac y darganfyddir yn ddiweddarach y byddai ffigurau'r setliadau wedi caniatáu rhagor o hyblygrwydd.\n\nCynghorau lleol yw'r prif gyflogwyr yn eu hardaloedd yn aml, a bydd unrhyw ostyngiad i'w cyllid yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth a'r gallu i'r gwasanaethau hanfodol hyn fod yn gynaliadwy, ac aros yn fewnol.\n\n","additional_details":"Rydym yn llwyr gefnogi gweledigaeth Llywodraeth Cymru y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau sydd â chysylltiadau da, sy'n fywiog, yn hyfyw ac yn gynaliadwy, gydag economi leol gref ac ansawdd bywyd da. Er mwyn i'r weledigaeth hon lwyddo, fodd bynnag, mae'n rhaid i ni ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, sydd yn ei dro yn sicrhau diogelwch a lles ein preswylwyr ledled Cymru, a bydd canlyniadau gwell i bawb.\n\n \n\nDaw'r cynlluniau gwariant cyfredol i ben ym mis Mawrth 2020, ond mae'r holl arwyddion presennol yn dweud wrthym na fydd yr amserlen ar gyfer ffigurau'r setliad yn rhoi unrhyw gronfeydd cymeradwy inni tan fis Mawrth 2020. Mae hyn yn warthus: ni all unrhyw gyflogwr gynnal menter gwerth miliynau o bunnoedd heb gyllideb.\n\nMae nifer y cynghorau sydd bellach mewn sefyllfa i osod cyllideb anghyfreithlon yn frawychus, a gwaethygir hyn gan gynigion grant heb eu hamseru, a rhai o'r rhain nad oeddent mewn llaw tan ddiwedd y flwyddyn gyllidebu.\n\nMae grantiau Cyllid Ewropeaidd a grantiau penodol Llywodraeth Cymru yn cyfrannu'n aruthrol at y gwasanaethau a ddarperir. Yn ogystal, mae angen i ni ystyried llinellau amser wrth ddyfarnu grantiau yr ymddengys eu bod yn cael eu rhoi ar ôl i'r flwyddyn ariannol ddechrau. Nid yw hyn yn gefnogol i waith cynllunio'r gweithlu nac i ddarparu gwasanaethau.\n\nMae angen diwygio sylweddol i sicrhau cynaliadwyedd ariannol hirdymor gwasanaethau lleol, ac i ddod â'r anghydraddoldebau systemig rhwng cyllido darpariaethau cyhoeddus i ben. Mae angen rhagor o ymreolaeth a rheolaeth ar awdurdodau lleol dros gynhyrchu refeniw, gyda mecanweithiau wedi'u sefydlu ar gyfer awdurdodau lleol. Mae Cyrff Gwarchod o ran Archwilio Cyhoeddus wedi bod yn tynnu sylw at y difrod sylweddol sy'n cael eu gwneud i wasanaethau hanfodol, a heb fuddsoddiad mawr yn y gwasanaethau hyn, ni fydd awdurdodau lleol yn gallu darparu gwasanaethau i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, fel yr ifanc, neu bobl oedrannus iawn, ar adeg pan mae galw cynyddol am ddarparu gwasanaethau.\n\n","state":"completed","signature_count":191,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-04T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:03:49.325Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-04T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-11-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-04T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-11-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-11-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T08:03:49.325Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1691,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1691.json"},"attributes":{"action":"Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent","background":"​Hoffai'r bobl isod fynegi pryder ynghylch y drafnidiaeth gyhoeddus wael sy'n cael ei darparu ym Mlaenau Gwent. Mae'r sefyllfa hon wedi arwain at drigolion yn dioddef anawsterau wrth geisio teithio i'r gwaith. Maent hefyd yn cael problemau wrth geisio teithio i ysbytai ac apwyntiadau doctor er mwyn cael sylw meddygol. Mae'r toriadau hefyd wedi gwneud y broses o deithio ar yr amseroedd gorau yn llafurus ac, mewn rhai achosion, yn amhosibl.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1332,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2020-01-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:01:42.360Z","rejected_at":null,"opened_at":"2020-01-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-11-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-02T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2020-01-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-11-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-11-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:01:42.359Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1653,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1653.json"},"attributes":{"action":"Gwella mynediad i’r anabl yng ngorsaf reilffordd Trefforest fel blaenoriaeth","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu uwchraddio Gorsaf Reilffordd Trefforest i alluogi myfyrwyr anabl i gael mynediad i Brifysgol De Cymru mewn modd cynaliadwy a chydag urddas.  \n   \nGorsaf reilffordd Trefforest yw'r prif fynediad o ran trafnidiaeth gyhoeddus i Brifysgol De Cymru. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi addo buddsoddi mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru fel rhan o raglen wella 15 mlynedd ond, i lawer o bobl ifanc anabl sy'n dymuno cael mynediad i addysg brifysgol yn annibynnol, bydd y gwelliannau hyn yn rhy hwyr.  \n   \nMae'r trefniadau presennol yn yr orsaf yn golygu bod yn rhaid i bobl anabl alw am help ac yna aros i staff yr orsaf fwy na lai eu cario ar draws y bont droed. Mae hyn yn amhriodol ac yn is na'r safonau mynediad y dylem eu disgwyl ar gyfer pobl anabl yn yr 21ain ganrif. Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu gwelliannau i orsaf Trefforest, yn benodol i ddarparu mynediad addas i bobl anabl.\n\n","additional_details":"​Dechreuodd y prif ddeisebydd y ddeiseb hon ar ôl bod yn dyst i'r darpariaethau mynediad i'r anabl cyfredol ar waith yn ystod wythnos gyntaf y tymor. Methodd y ddarpariaeth yr hyn y byddai am ei weld ar gyfer ei ffrindiau a'i theulu ag anableddau, yn enwedig y rhai na fyddai'r ddarpariaeth bresennol yn ddigonol ar eu cyfer.  \n   \nMae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwneud addasiadau rhesymol i alluogi pobl anabl i gael mynediad at addysg, cyflogaeth a gwasanaethau eraill. O ystyried y cyhoeddiad gan Trafnidiaeth Cymru am welliannau a gynlluniwyd, mae'n ymddangos yn gwbl resymol i'r orsaf allweddol hon fod yn flaenoriaeth, cyn derbyn y garfan nesaf o fyfyrwyr a fydd yn dechrau eu haddysg brifysgol ym mis Medi 2020.\n\n","state":"completed","signature_count":232,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-05T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:01:06.541Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-05T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-11-11T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-05T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-11-11T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-11-11T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:01:06.533Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[{"code":"cydraddoldeb","name":"Cydraddoldeb a Hawliau Dynol"},{"code":"trafnidiaeth","name":"Trafnidiaeth"}]}},{"type":"petition","id":1594,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1594.json"},"attributes":{"action":"Cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm yn lladd-dai Cymru","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid digonol i ddiogelu lles anifeiliaid fferm adeg eu lladd yng Nghymru.  \n  \nDiben Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014 yw diogelu anifeiliaid adeg eu lladd. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) eu cymhwyso a'u gorfodi'n gywir, a rhaid bod digon o gyllid iddi allu cyflawni ei dyletswyddau o dan y Rheoliadau.  \n  \nAr hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn darparu dim ond £20,000 y flwyddyn i'r ASB ddiogelu lles anifeiliaid adeg eu lladd ar draws o leiaf 23 o ladd-dai yng Nghymru, sydd gyda'i gilydd yn lladd degau o filiynau o anifeiliaid bob blwyddyn. Mae'r swm hwn yn druenus ac yn gwbl annigonol i dalu am yr holl waith gofynnol, gan gynnwys gwaith effeithiol i fonitro arferion lles, ymchwiliadau, gorfodaeth, cyngor cyfreithiol, a'r staff i wneud hynny. Mae faint sy'n cael ei ddarparu yn llawer is na'r hyn y mae'r ASB ei hun wedi dweud (mewn papurau bwrdd) y mae ei angen arni i gyflawni ei dyletswyddau mewn perthynas â lles anifeiliaid adeg eu lladd.  \n  \nDaw cryn dystiolaeth o ymchwiliadau cudd mewn lladd-dai mewn rhannau eraill o'r DU o dorri rheoliadau lles yn rheolaidd, a bod llawer o anifeiliaid yn dioddef camdriniaeth. Nid oes rheswm dros gredu nad yw'r risgiau hyn hefyd yn codi mewn lladd-dai yng Nghymru.  \n  \nMae gan y cyhoedd hawl i ddisgwyl bod rheoliadau lles yn drylwyr ac yn cael eu cymhwyso mewn ffordd gyson. Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ar fyrder ei chyllid i'r ASB at y diben hwn, a chynyddu'n sylweddol y cyllid i ddiogelu lles anifeiliaid adeg eu lladd yn ddi-oed.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1149,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-08-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:00:55.093Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-08-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-11-08T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-11-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-08-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-11-08T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-11-08T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:00:55.092Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1662,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1662.json"},"attributes":{"action":"Ydych chi’n gwrando arnom ni? Hawliau a Pharch i Addysg yn y Cartref!","background":"Nid yw'r canllawiau statudol drafft ar gyfer addysg yn y cartref yn addas at y diben. Bydd yn parhau â'r elyniaeth rhwng awdurdodau lleol ac addysgwyr yn y cartref, a hynny oherwydd yr iaith a ddefnyddir yn y ddogfen a'r nodau y mae am i awdurdodau lleol eu cyflawni.   \n  \nNid oes cefnogaeth ddilys yn cael ei darparu ar gyfer addysgwyr yn y cartref. Nid yw addysgwyr yn y cartref yn cael eu hamddiffyn, eu parchu na'u gwerthfawrogi. Nid yw'r ddogfen hon yn eu cydnabod nac yn eu cefnogi mewn unrhyw ffordd ddilys nac effeithiol.   \n  \nRydym yn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol ymchwilio i'r rôl a'r pwysau y mae Swyddfa'r Comisiynydd Plant wedi'u rhoi ar Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag addysg yn y cartref, ac i ba raddau y mae hyn wedi llywio'r canllawiau o'i gymharu â mewnbwn rhanddeiliaid yn y gymuned addysg yn y cartref.\n\nRydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i lefel ymgysylltiad y Comisiynydd Plant â phlant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref, ac o ystyried faint o waith ymgysylltu y mae hi wedi'i wneud, pam nad yw hi wedi gwrando ar eu barn am addysg yn y cartref a'i bod yn parhau â'i hymgyrch yn erbyn addysgwyr yn y cartref.   \n  \nRydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i weld pam nad oes mesurau yn y canllawiau hyn sy'n amddiffyn addysgwyr yn y cartref ac yn dwyn awdurdodau lleol i gyfrif yn eu hymddygiad mewn perthynas ag addysgwyr yn y cartref.   \n  \nRydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i weld pam nad yw'r canllawiau'n sôn am gyfeirio at elusennau addysg yn y cartref Cymru, nac yn argymell y dylid cyfeirio atynt, a hynny er gwaethaf y ffaith mai dyma'r cyrff gorau ar gyfer rhoi cymorth ac eiriolaeth i addysgwyr yn y cartref yng Nghymru.   \n  \nRydym yn gofyn i'r Cynulliad ymchwilio i weld pa adborth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael gan randdeiliaid sylfaenol ac a yw Llywodraeth Cymru wedi cynrychioli eu safbwyntiau a'u hanghenion yn deg i'r un graddau ag amcanion y Comisiynydd Plant a'r awdurdodau lleol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":512,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:00:42.861Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-11-04T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-07-06T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-11-04T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-11-04T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:00:42.860Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1754,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1754.json"},"attributes":{"action":"Deiseb yn galw am ymchwiliad cyhoeddus gan Lywodraeth Cymru i gam-drin plant hanesyddol ar Ynys Byr","background":"​Fel dioddefyr o gam-drin ar Ynys Byr, rwyn ymrwyn i gael Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad cyhoeddus i camdrin Hanesyddol ar yr ynys. Mae angen y gwir ag atebion at y dioddefwyr, pam bod ymchwiliad sydd dal yn perhausers 29 mlynoeadd wedi ffeili y dioddefwyr. Mae'n bwysyg i gael ymchwiliad i ddiogeli plant y dyfodol. \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":4820,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2020-04-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-24T14:32:59.227Z","rejected_at":null,"opened_at":"2020-04-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-11-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-11-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2020-04-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-11-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-11-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-24T14:32:59.226Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1649,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1649.json"},"attributes":{"action":"Galwad am well gorfodaeth o ffermydd cŵn bach yng Nghymru","background":"Yn dilyn y ffilmiau brawychus o ffermydd cŵn bach yng Nghymru, mae angen i ni weld gwell gorfodaeth o drwyddedu ffermydd cŵn bach gan gynghorau lleol yng Nghymru.\n\nArgymhellion:   \nCau ffermydd cŵn bach sydd ddim yn bodloni'r meini prawf gofynnol  \n Erlyn ffermydd cŵn bach sy'n rhoi lles anifeiliaid mewn perygl  \n Gwell tryloywder o ymweliadau wedi'u rheoleiddio – dylai fod cofnodion cyhoeddus fel y rhai a gyhoeddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar sgoriau hylendid bwytai. Dylai'r cyhoedd allu adolygu'r cofnodion arolygu.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":112,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-24T14:38:15.182Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-11-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-09-12T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-11-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-11-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-24T14:38:15.181Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1646,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1646.json"},"attributes":{"action":"Creu Llwybr Amlddefnydd Lôn Las Môn","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i dynnu ei gwrthwynebiad yn ôl ac i gefnogi'r cynnig bod Network Rail yn caniatáu i Reilffordd Ganolog Ynys Môn gael ei haddasu yn llwybr amlddefnydd di-draffig 18 milltir o Amlwch i'r Gaerwen. Gan nad yw wedi cael ei defnyddio am y 26 mlynedd diwethaf, credwn na allai'r llinell gyflawni unrhyw bwrpas defnyddiol i gludo teithwyr na chludo nwyddau rhwng y Gaerwen ac Amlwch. Yn lle hynny, byddai llwybr amlddefnydd Lôn Las Môn ar agor i'w ddefnyddio gan deuluoedd, cerddwyr, rhedwyr, reidwyr ceffylau a beicwyr hamdden, gan gynnwys y rhai â gofynion mynediad i'r anabl. \n\n","additional_details":"​Yn wahanol i siroedd cyfagos Gwynedd a Chonwy, ychydig iawn o lwybrau di-draffig sydd yna ar Ynys Môn. Er bod dau lwybr beicio cenedlaethol i'w cael ar yr ynys, ffyrdd dosbarth B yw'r rhain ar y cyfan, gydag arwyddion yn nodi eu bod at ddefnydd beicwyr ffordd profiadol yn bennaf. Mae 60 y cant o bobl nad ydynt yn beicio yn nodi ofn traffig fel rheswm dros beidio â defnyddio beic wrth deithio o le i le. Mae llwybr di-draffig fel Lôn Las Môn yn hanfodol i annog mwy o bobl i feicio at ddibenion hamdden a thrafnidiaeth. At hynny, gan fod un digwyddiad traffig ffordd bob dydd ar gyfartaledd yn cynnwys reidwyr ceffylau, byddai reidwyr ceffylau ar Ynys Môn hefyd yn elwa ar lwybr di-draffig, i ffwrdd o gerbydau sy'n symud yn gyflym ac sy'n peri perygl mawr i geffylau a'u reidwyr. Ar ôl iddo gael ei gwblhau, byddai'r llwybr gwyrdd amlddefnydd yn goridor pellter hir di-draffig o dde orllewin i ogledd ddwyrain yr ynys, gan ganiatáu i ddefnyddwyr gysylltu â llwybr arfordirol Ynys Môn yn ogystal â llwybrau cerdded, llwybrau beicio a llwybrau ceffylau eraill. Byddai'r prosiect yn arwain at fanteision economaidd i'r sector twristiaeth ar Ynys Môn hefyd. Mae hen lwybr rheilffordd y Camel Trail yng Nghernyw yn brawf o hynny a thua'r un hyd â llwybr arfaethedig Lôn Las Môn, sef 17.3 milltir. Yn 2015, gwnaeth defnyddwyr y Camel Trail wario tua £6.7 miliwn a chynhyrchu tua £13 miliwn o drosiant busnes. Gyda gordewdra, materion iechyd meddwl a lefelau diabetes math 2 yn cynyddu ar raddfa frawychus, byddai Lôn Las Môn yn caniatáu i'r cyhoedd ymarfer corff mewn amgylchedd di-draffig, i ffwrdd o allyriadau cerbydau a llygryddion, ac ar dir sy'n hygyrch i'r rheini ag anableddau ac anghenion mynediad. Byddai manteision sylweddol yn deillio o'r prosiect hwn i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr, ac yn ddi-os byddent yn gwella ansawdd bywyd pawb ar Ynys Môn. \n\n","state":"completed","signature_count":2216,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-02T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:00:04.214Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-02T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-10-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-09-28T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-02T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-10-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-10-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T13:00:04.213Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1664,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1664.json"},"attributes":{"action":"Tynnu’n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i dynnu'n ôl y canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref.\n\n","additional_details":"​Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi cyhoeddi canllawiau arfaethedig ar gyfer addysg yn y cartref. Mae hyn yn mandadu bod yn rhaid i rieni sy’n addysgu yn y cartref gwrdd â’u hawdurdod lleol a chaniatáu i’r awdurdod lleol gyfweld â’u plant. Rydym wedi cael cyngor cyfreithiol arbenigol sy’n hawlio bod y canllawiau’n anghyfreithlon ac mae’r deisebwyr yn gofyn bod y canllawiau’n cael eu tynnu’n ôl i’w hailystyried yng ngoleuni’r cyngor hwnnw.\n\n","state":"completed","signature_count":5447,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-11-02T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T13:00:19.399Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-11-02T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-10-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-07-06T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-11-02T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-10-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-10-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2019-10-31T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-07T14:51:29.208Z","archived_at":"2021-05-07T13:00:19.398Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yng ngoleuni cyhoeddiad Llywodraeth Cymru na fydd y diwygiadau arfaethedig i reoliadau a chanllawiau addysg gartref yn cael eu dwyn ymlaen cyn etholiadau Senedd 2021: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-canllawiau-statudol-ar-addysg-yn-y-cartref-rheoliadau-drafft-y-gronfa-ddata"},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1654,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1654.json"},"attributes":{"action":"Dim enw dwyieithog i’r Senedd","background":"Rydym ni oll yn gyfarwydd â'r Senedd ac yn gallu ynganu Senedd.\n\nFelly, pam fod angen enw dwyieithog?\n\nMae hyn yn wastraff arian ac yn enghraifft arall o geisio dileu rhagor o'r hyn sy'n gwneud Cymru'n unigryw.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1033,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-11T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:03:39.402Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-11T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-10-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-11-05T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-11T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-10-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-10-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T08:03:39.401Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1538,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1538.json"},"attributes":{"action":"Gwneud thrombectomi ar gael 24-7 i gleifion yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddod â'r anghydraddoldeb i ben o ran mynediad at driniaeth thrombectomi strôc sy'n achub bywydau.  \n   \nMae thrombectomi yn driniaeth a ddefnyddir ar gyfer strôc isgemig lle caiff y ceulad gwaed ei dynnu gyda dyfais arbennig wedi'i osod drwy gathetr. Mae cyfoeth o dystiolaeth sy'n cefnogi ei fanteision o ran lleihau anabledd hirdymor (morbidrwydd), ac achub bywydau (lleihau marwolaethau). Ym mis Ebrill 2017, cytunodd y GIG yn Lloegr i ariannu thrombectomi ar y GIG, bydd yn cymryd blynyddoedd lawer cyn y gall pob claf cymwys ei gael. Nid yw ar gael yn arferol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae cytundebau gyda'r GIG yn Lloegr i gleifion Cymru gael mynediad i'w gwasanaethau yn amrywiol ac yn denau.\n\nMae cleifion fel Colin Rogers yn llythrennol yn marw. Roedd yn 55 oed pan fu farw. Gwrthodwyd triniaeth iddo am ei fod yn ddydd Sul ac nid oedd cytundeb i ganiatáu iddo gael ei anfon i Loegr. Er nad oedd unrhyw sicrwydd y byddai wedi cael ei achub, amcangyfrifir y gallai'r driniaeth hon helpu dros 500 o bobl yng Nghymru. Nid ydym am i bobl y gellid eu hachub farw fel Colin, neu eu gadael ag anableddau dwys.\n\nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddod â'r loteri cod post i ben a gweithredu i achub bywydau pobl yng Nghymru.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":685,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-05-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:54:17.804Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-05-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-10-26T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-11-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-05-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-10-26T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-10-26T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:54:17.803Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1548,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1548.json"},"attributes":{"action":"Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i helpu i ddarparu gwasanaeth yma yng Nghymru i sicrhau bod teuluoedd sy'n colli plant neu bobl ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt.  \n  \nYm mis Chwefror 2012, bu farw fy mab, George, yn sydyn mewn Uned Frys yng Nghymru. Fe gerddon ni allan i'r nos heb ddim, ar ein pennau'n hunain ac mewn braw. Ni ddaeth neb, nid oedd neb yno i estyn llaw, gan adael ffrindiau ac aelodau'r teulu, a hwythau mewn galar hefyd, i'm cynnal i a Paul fy ngŵr. Bum niwrnod ar ôl colli ein mab, bu'n rhaid i mi a'm dau blentyn ifanc arall wynebu torcalon eto pan wnaeth Paul ladd ei hun. Unwaith eto, ddaeth neb.  \n  \nMae angen cymorth ar unwaith ar deuluoedd sy'n wynebu colled o'r fath. Mae angen iddynt wybod y gallant gysylltu â rhywun i ofyn cwestiynau a chael clust i wrando. Mae colli plentyn yn effeithio arnoch am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu drwy'r broses o alaru.  \n  \nNid oes modd cynllunio na pharatoi ar gyfer colli plentyn yn annisgwyl, a gall y profiad ingol hwn effeithio ar iechyd meddwl rhieni, brodyr a chwiorydd a gweddill y teulu. Rydym yn credu bod y cymorth hwn yn hanfodol ac y bydd yn atal teuluoedd rhag gorfod cerdded allan i'r nos heb ddim gobaith, heb ddim cymorth ac, yn bwysicach na dim, heb eu plentyn.\n\n","additional_details":"Ers 2012, rwyf wedi bod yn benderfynol o sicrhau bod teuluoedd yn cael yr un cymorth wrth ffarwelio â'u plant ag a gânt pan fyddant yn eu croesawu i'r byd adeg eu genedigaeth. Sefydlwyd yr elusen 2 Wish Upon a Star i helpu teuluoedd a staff yn ystod y profiad o golli plentyn neu berson ifanc 25 oed neu iau yn annisgwyl. Mae'r cymorth hwn yn cynnwys creu blychau atgofion, cwnsela a sefydlu llwybr cymorth sydd ar gael ar unwaith drwy weithio gyda byrddau iechyd a heddluoedd yma yng Nghymru. Cyfeiriwyd dros 465 o deuluoedd atom ers i ni ddechrau cynorthwyo teuluoedd yn 2015. Mae'r rhesymau dros y marwolaethau'n cynnwys Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS), damweiniau, salwch ac, yn fwy diweddar, mae nifer o bobl ifanc wedi cyflawni hunanladdiad. Rydym wedi cael adborth hynod gadarnhaol gan deuluoedd a staff, ond gwyddom nad yw pob teulu'n cael eu cyfeirio atom ac mae angen ein cymorth o hyd ar nifer ohonynt.  \n  \nMae'r elusen 2 Wish Upon a Star eisoes yn gweithio gyda phob bwrdd iechyd yng Nghymru ac mae pob heddlu yn cefnogi'r fenter. Rydym wedi sefydlu llwybr cymorth uniongyrchol ym mhob Uned Frys ac Uned Gofal Critigol ac mae'r llwybrau hyn wedi'u hamlinellu'n glir yn nogfen PRUDiC Iechyd Cyhoeddus Cymru. Rydym hefyd yn gweithio gyda phob crwner, corffdy, tîm rhoi organau ac Ambiwlans Awyr Cymru, i wneud yn siŵr bod pob teulu'n gwybod amdanom. Fodd bynnag, mae nifer o deuluoedd yn dal yn gorfod ymdopi heb ein cymorth. Rydym wedi clywed am staff sy'n 'anghofio' rhoi blychau atgofion i'r rheini, yn penderfynu nad oes angen cymorth ar deulu bachgen 18 oed gan ei fod 'wedi dechrau eillio' ac sy'n credu 'nad yw'n briodol' cynnig cymorth adeg marwolaeth plentyn. Nid y staff sydd i benderfynu a oes angen cymorth ar deulu.  \n  \nGwyddom, wrth siarad â staff a theuluoedd, fod ein gwasanaeth yn newid bywydau'r rhai sydd wedi colli plentyn neu berson ifanc yn annisgwyl, ac rydym am i Lywodraeth Cymru wneud yn siŵr bod cymorth ar gael i bob teulu pan fydd ei angen fwyaf.\n\n","state":"completed","signature_count":5682,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-05-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-24T14:32:35.410Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-05-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-10-26T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-11-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-05-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-10-26T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-10-26T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2019-10-26T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":"2021-11-03","debate_outcome_at":"2021-11-04T11:48:12.576Z","archived_at":"2026-04-24T14:32:35.380Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2021-11-03","transcript_url":"https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/12492#A67864","video_url":"http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/68d66675-5ac1-4cba-9bf1-a684d7ef93c9?startPos=9629&autostart=True","debate_pack_url":"https://busnes.senedd.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=26526","overview":"Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Tachwedd 2021"},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1535,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1535.json"},"attributes":{"action":"Hyrwyddo'r defnydd o iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried defnyddio iaith arwyddion Makaton ym mhob ysgol yng Nghymru. \n\nRydw i'n chwaer 13 mlwydd oed i fachgen bach sydd â Syndrom Down, sy'n defnyddio iaith Makaton yn bennaf. Rwyf wedi dysgu iaith arwyddion Makaton er mwyn cyfathrebu â fy mrawd, ac oherwydd hyn, penderfynais sefydlu llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i helpu pobl eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i ddysgu. Roedd yn syndod i mi weld cymaint o alw gan bobl sydd am ddysgu Makaton er mwyn cyfathrebu â ffrindiau ac aelodau teulu sydd ag anawsterau dysgu.\n\nCredaf y dylai gael ei gynnwys ym mhob ysgol yng Nghymru ochr yn ochr ag addysgu bob dydd er mwyn caniatáu i bob plentyn ddysgu i gyfathrebu drwy'r dull hwn.\n\nRwy'n angerddol dros gyflawni hyn ac yn credu ei fod yn hawl sylfaenol i bob plentyn yng Nghymru ddysgu Makaton er mwyn chwalu rhwystrau a chamsyniadau, a sicrhau cynhwysiant gwirioneddol yng Nghymru.\n\n","additional_details":"​Mae llawer o ymchwil wedi cael ei wneud i brofi pa mor effeithiol yw defnyddio symbolau ac arwyddion er mwyn cynorthwyo pobl i ddatblygu sgiliau iaith a llythrennedd.  \nMae canfyddiadau ymchwil presennol yn cefnogi'r defnydd o iaith arwyddion gydag oedolion a phlant sydd ag anawsterau deallusol a chyfathrebu.   \nMae astudiaeth hefyd sy'n archwilio'r graddau y mae dysgu iaith arwyddion ochr yn ochr ag iaith dramor yn ystod gwersi ieithoedd tramor modern yn helpu i gefnogi'r eirfa ar lafar sy'n aros yn y cof.   \nMae llawer o bapurau ymchwil wedi'u cyhoeddi sy'n cefnogi defnyddio Makaton, gan gynnwys:-  \n  \n- Birket, E.M. (1984)  \n- Colema, A. (2014)  \n- Cornforth, A.R.T., Johnson, K. Walker, M. (1974)  \n- Ford, J. (2006)  \n- Francis. (2000)  \n- Grove, N. (1980)  \n- Powell, G. (1999)  \n- Reed, A. (2014)  \n- Sheehy, K. Duffy, H. (2009)  \n- Volpato, D. ,Orton, D. and Blackburn, D. (1986)  \n- Walker, M. Armfield, A. (1981)\n\n","state":"completed","signature_count":5024,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-05-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:03:12.987Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-05-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-10-24T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-03-10T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-05-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-10-24T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-10-24T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2019-10-24T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-07T14:46:07.167Z","archived_at":"2021-05-07T08:03:12.986Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yng ngoleuni’r hyblygrwydd bwriadol a natur y Cwricwlwm i Gymru newydd, sy’n golygu mai’r ysgol sy’n arwain, daeth y Pwyllgor i’r casgliad nad oedd fawr ddim pellach y gallai ei gyflawni."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1684,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1684.json"},"attributes":{"action":"Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn cyflwyno Llysgenhadon Llesiant hyfforddedig, fel bod pob plentyn yn cael cyfle i gael cefnogaeth cyfoedion gan fyfyrwyr model rôl sydd wedi'u hyfforddi i fod yn gyfaill i ddisgyblion sy'n agored i niwed yn ystod amser egwyl ac amser cinio, a fydd yn rhoi gwybod am faterion bwlio a bod yno fel ffrind i ddisgyblion a allai deimlo'n unig ar adegau penodol drwy gydol y dydd. Rydym yn gobeithio y bydd Rolau Llysgenhadon Llesiant yn datblygu/esblygu i redeg mentrau mewn ysgolion, yn y sir ac yn genedlaethol, er mwyn sicrhau bod ymgyrch o neges glir o ddim goddefgarwch i fwlio a bod lles yr holl ddisgyblion yn cael ei roi ar y pwys mwyaf ym mhob ysgol, i gefnogi hawliau'r plentyn ymhellach.  Rydym yn gobeithio y bydd y fenter hon yn mynd ymhellach er mwyn helpu i leihau faint o fwlio a welir mewn ysgolion ledled Cymru, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn teimlo'n ddiogel ac yn hapus mewn ysgolion ledled Cymru.\n\n","additional_details":"Yn 2016, cawsom ein dewis i gynrychioli Cymru fel rhan o brosiect ENABLE, menter yn y DU i dreialu gwersi gwrth-fwlio. Roedd rhan o'r fenter yn cynnwys hyfforddi disgyblion i gefnogi cyfoedion. Fodd bynnag, penderfynwyd mynd â hyn gam ymhellach drwy hyfforddi disgyblion i ddod yn llysgenhadon gwrth-fwlio. Ar ôl llawer o drafod gyda'n Senedd Ysgol, esblygwyd y cynllun llysgenhadon, gan newid ei enw i lysgenhadon llesiant. Roeddem am symud i ffwrdd o ddefnyddio'r gair bwlio yn rhy aml gan ein bod yn teimlo nad oedd disgyblion yn deall y gwahaniaeth rhwng gwrthdaro a bwlio. Roeddem hefyd eisiau i ddisgyblion wybod mai llesiant yw ein prif flaenoriaeth. Bydd disgyblion sy'n rhan o'r cynllun yn crwydro ardaloedd o amgylch yr ysgol, yn sylwi ar ddisgyblion sydd ar eu pennau eu hunain neu os ydyn nhw'n gweld bwlio yn digwydd maen nhw'n rhoi gwybod i'r oedolyn agosaf y maent yn ei weld, o'r Pennaeth i oruchwylwyr cinio.\n\nRydyn ni'n cwrdd unwaith y mis fel grŵp a phob blwyddyn rydyn ni'n esblygu'r cynllun ymhellach. Ar hyn o bryd rydyn ni'n edrych ar feinciau cyfeillion fel bod disgyblion sy'n teimlo'n unig yn gallu eistedd yno a bydd llysgennad llesiant yno i'w cefnogi. Mae llawer o'n llysgenhadon hefyd yn aelod o'r Bwrdd Amddiffyn Iau o ganlyniad.\n\n","state":"completed","signature_count":297,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-12-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-24T14:32:48.195Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-12-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-10-09T00:00:00.000Z","completed_at":"2022-07-10T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-12-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-10-09T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-10-09T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-24T14:32:48.194Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1657,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1657.json"},"attributes":{"action":"Dylid Diogelu Coed Yw Hynafol Cymru","background":"Dyma ofyn i chi lofnodi fy neiseb yn galw am i goed Yw hynafol gael eu diogelu yn ôl y gyfraith.\n\nAr hyn o bryd nid yw'r coed prydferth hyn yn cael eu diogelu'n gyfreithiol. Mae'n hollbwysig i ni ddiogelu'r rhan hanfodol hon o'n treftadaeth â mesurau diogelu cyfreithiol penodol cyn i ni golli rhagor o goed. Mae'r coed Yw hyn wedi tyfu ym Mhrydain ers miloedd o flynyddoedd. Maen nhw'n henebion byw ac yn dystion hynafol i hanes ein cyndeidiau a'n gwareiddiad. Rhaid i ni eu diogelu ar fyrder cyn i ragor gael eu colli.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":77,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-10-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-06-04T07:40:30.426Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-10-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-10-07T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-08T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-10-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-10-07T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-10-07T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:54:01.812Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1632,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1632.json"},"attributes":{"action":"Newid cyflymder pentre Cemaes i 30mya","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i leihau'r cyfyngiad cyflymder ym mhentref Cemaes (ar ffordd yr A470 rhwng Machynlleth a Dolgellau) o 40mya i 30mya. Galwn arnynt hefyd i ymestyn ardal y cyfyngiad fel ei fod yn cychwyn wrth arwydd  Cemaes wrth ddod i mewn i'r pentref o gyfeiriad Glantwymyn.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":93,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-09-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:03:04.653Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-09-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-10-06T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-03-10T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-09-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-10-06T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-10-06T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T08:03:04.652Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1411,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1411.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd y defnydd o anifeiliaid mewn syrcasau a sioeau teithiol yng Nghymru.\n\n \n\nAr 17 Gorffennaf 2018, dywedodd Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru: \n\n\"Yn olaf, Lywydd, byddwn yn cyflwyno Bil i wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i'r Llywodraeth hon ac mae'r ffordd yr ydym yn trin anifeiliaid yn adlewyrchiad pwysig o'n gwerthoedd fel cymdeithas. Mae syrcasau yn fusnesau cyfreithlon, ac nid ein bwriad ni yw gwahardd pob math o adloniant syrcas yng Nghymru. Ond mae'r defnydd o anifeiliaid gwyllt yn y cyd-destun hwn yn hen ffasiwn ac yn annerbyniol yn foesol.  Byddwn yn gwahardd eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.\"\n\n \n\nMae syrcas yn ffurf ar gelf ynddo'i hun. Er bod syrcasau wedi'u cysylltu'n gryf â'r defnydd o anifeiliaid yn y gorffennol, mae'n amlwg bod chwaeth y cyhoedd mewn materion o'r fath wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf.  Dangosir hyn gan nifer cynyddol y syrcasau sy'n cynnwys pobl yn unig, ynghyd â llwyddiant y syrcasau hyn. Tra bod y sioeau hyn yn aml yn cael eu perfformio o flaen cynulleidfaoedd llawn heb unrhyw brotestwyr tu allan i'r babell, mae'n deg dweud bod y gwrthwyneb yn wir o ran y syrcasau a'r sioeau teithiol sy'n parhau i ddefnyddio anifeiliaid, hyd yn oed y rhai sy'n defnyddio anifeiliaid nad ydynt wedi'u diffinio fel anifeiliaid gwyllt. \n\n  \n\n","additional_details":"Mae nifer o wladwriaethau a gwledydd yn gwahardd pob anifail mewn syrcasau a sioeau teithiol. Disgwylir i'r Eidal (sydd â chysylltiad hanesyddol â'r diwydiant syrcas anifeiliaid) wneud hyn flwyddyn nesaf. Mae'r pryderon o ran lles sy'n gysylltiedig â defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau, fel teithio, llwytho a dadlwytho parhaus a gorfodi anifeiliaid i berfformio, ynghyd ag amgylcheddau cymdeithasol amhriodol ac annaturiol, yn berthnasol i bob anifail a ddefnyddir yn y modd hwn. \n\n \n\nDylid gwahardd defnyddio anifeiliaid mewn unrhyw sioe deithiol ar gyfer adloniant pur ac i wneud arian i bobl fel menter fasnachol.  Yn anffodus, y llynedd, dywedodd Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, y byddai Llywodraeth Cymru yn trwyddedu arddangosfeydd teithiol sy'n cynnwys anifeiliaid. \n\n","state":"completed","signature_count":1651,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-10-14T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-10T08:17:39.299Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-10-14T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-10-14T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-10T08:17:39.298Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1587,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1587.json"},"attributes":{"action":"Galw am Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i ad-drefnu gwasanaethau o fewn Bwrdd Iechyd Cwm Taf","background":"​Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad barnwrol cwbl annibynnol i reoli a gweithredu rhaglen GIG De Cymru ym Mwrdd Iechyd Cwm Taf a'i heffaith ar y gwasanaethau a ddarperir i bobl yn Rhondda Cynon Taf yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. \n\n","additional_details":"​Mae pryder mawr ymhlith y cyhoedd ynghylch trosglwyddo gwasanaethau o Ysbyty Brenhinol Morgannwg i Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru. Mae'r trosglwyddiadau hyn wedi cael effaith fawr ar breswylwyr Rhondda Cynon Taf. Mae preswylwyr am i'r gwasanaethau ddychwelyd.\n\nPoblogaeth Rhondda Cynon Taf yw 235,000, gyda datblygiadau tai mawr yn codi yn ne'r fwrdeistref ac yn awdurdod cyfagos Caerdydd, sy'n agos at Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Bydd y datblygiadau hyn yn cael effaith ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mae preswylwyr yn mynegi pryderon yn barhaus am fynediad at y gwasanaethau hyn ers i rai o'r newidiadau ddigwydd. Mae'r materion yn cynnwys amseroedd teithio yn achos triniaeth frys, gorfod mynd i glinigau yn rheolaidd a chysylltiadau trafnidiaeth gwael i deuluoedd a ffrindiau ymweld â chleifion, a dim ond rhai o'r sylwadau a wnaed yw'r rhain.\n\nY prif feysydd y mae preswylwyr yn pryderu amdanynt yw:\n\n·                 Mamolaeth - sydd eisoes yn destun ymchwiliad\n\n·                 Pediatreg\n\n·                 Uned Gofal Babanod Arbennig\n\n·                 Adran Damweiniau ac Achosion Brys\n\n·                 Pobl hŷn yn baglu ac yn cwympo, gan arwain at farw yn yr ysbyty\n\n·                 Gwasanaethau y Tu Allan i Oriau\n\n·                 Gwasanaethau Cardiaidd\n\n·                 Effaith ar wasanaethau meddygon teulu/gofal sylfaenol lle mae meddygfeydd meddygon teulu yn cael eu rheoli gan feddygon locwm yn bennaf, sy'n sefyllfa gronig yn y Rhondda yn benodol – methu â recriwtio meddygon teulu\n\n","state":"completed","signature_count":387,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-07-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:53:08.640Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-07-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-07-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:53:08.639Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1601,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1601.json"},"attributes":{"action":"Achub Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru, sef y prif gorff sy'n gyfrifol am ddarparu gofal iechyd yng Nghymru, i atal cynnig Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i gau Ward Sam Davies, ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau yn Ysbyty y Barri, ac i sicrhau bod Ysbyty y Barri yn parhau i ddarparu gwasanaethau iechyd i'r cyhoedd yn y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru.\n\n","additional_details":"​Mae Ward Sam Davies yn ward adsefydlu acíwt pobl hŷn gyda 23 o welyau. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys adsefydlu strôc, adsefydlu orthopedig, ac adsefydlu meddygol ymhlith gwasanaethau iechyd allweddol eraill. Mae gan y ward ddau wely seibiant hefyd.\n\n","state":"completed","signature_count":13265,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:53:40.192Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-10-12T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2019-09-30T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-10-28T16:32:26.313Z","archived_at":"2021-05-07T12:53:40.191Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Cyngor Iechyd Cymuned De Morgannwg a’r deisebwyr. Yng ngoleuni’r ffaith bod Ward Sam Davies yn Ysbyty y Barri wedi aros ar agor a bod y deisebydd yn fodlon â’r sefyllfa bresennol, penderfynodd y Pwyllgor na fyddai’n cyfeirio’r ddeiseb ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn.\r\n\r\nMae’r dystiolaeth a drafodwyd gan y Pwyllgor ar gael yma:\r\nhttps://busnes.senedd.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=26283&Opt=3 "},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1524,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1524.json"},"attributes":{"action":"Iechyd Meddwl Tadau (Iechyd Meddwl Tadau Newydd)","background":"​Mae GIG Lloegr wedi cymryd y \"cam pwysig\" i sgrinio iechyd meddwl tadau a'u cefnogi yn hynny o beth lle mae ar eu partneriaid salwch meddwl amenedigol.   \n  \nHunanladdiad yw'r achos marwolaethau mwyaf ymhlith dynion o dan 50 oed, a chyda dadl newydd yn Senedd y DU, teimlwn y dylai Llywodraeth Cymru fod yn dilyn yr un trywydd ac ariannu iechyd meddwl tadau newydd oherwydd, heb y gefnogaeth hon, gallai effeithio ar famau ac ar ddatblygiad y plant.   \n  \nYn 2015, canfu adroddiad Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant, \"Dads in Distress\", fod 38 y cant o dadau yn poeni am eu hiechyd meddwl eu hunain a bod 73 y cant yn poeni am iechyd meddwl eu partneriaid.  \n  \n Mae 1 o bob 10 tad yn dioddef iselder ôl-enedigol, sy'n ymddangos yn wahanol, mwy o ddicter, yfed, camddefnyddio sylweddau ac, wrth gwrs, mae tadau'n ei chael hi'n anodd bondio â'u plant hefyd.   \n  \nMae'r pwysau ar dadau yn wahanol i'r hyn welwyd flynyddoedd yn ôl, mae cyplau o'r un rhyw, ac mae angen cefnogaeth ar dadau sy'n aros gartref.   \n  \nOherwydd y diffyg cefnogaeth a'r diffyg sgrinio, mae tadau yn aml yn troi at wasanaethau eraill pan fydd hi'n argyfwng ar ôl i'r berthynas ddod i ben, gwaetha'r modd.  \n  \nMae arbrawf Wyneb Llonydd gyda thadau yn dangos pwysigrwydd cefnogi tadau er lles eu hiechyd meddwl oherwydd pwysigrwydd y 1001 diwrnod cyntaf, sef y cyfnod cyn geni ac ôl-enedigol.   \n  \nO gefnogi pob rhiant, bydd canlyniadau llawer gwell i'r teulu cyfan.  \n  \nHoffem weld Cymru yn dilyn cynllun hirdymor newydd GIG Lloegr trwy gynnwys tadau\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":116,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-05-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-08-18T17:07:24.540Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-05-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-09-10T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-05-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-09-10T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-09-10T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T09:02:51.524Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1498,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1498.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd Gwerthu Ffwr Anifeiliaid yng Nghymru","background":"​Mae ffermio anifeiliaid am eu ffwr wedi cael eu gwahardd yn y DU ers dros 16 mlynedd oherwydd y creulondeb sy'n rhan ohono. Fodd bynnag, mae cynhyrchion ffwr yn cael eu mewnforio yn gyfreithlon o wledydd lle nad oes fawr ddim o ran cyfreithiau lles anifeiliaid.   \n  \nMae llawer o'r anifeiliaid yn cael eu dal yn y gwyllt mewn trapiau coes â safnau dur, ac mae achosion lle mae'r anifeiliaid hyn wedi cnoi trwy eu coesau mewn ymgais gorffwyll i ddianc. Hefyd, mae anifeiliaid yn cael eu bridio ar ffermydd ffwr, fel arfer mewn amgylchiadau cyfyng iawn sy'n arwain at drawma meddyliol difrifol, briwiau a chlefydau.   \n  \nPoen a dioddefaint dirfawr yw tynged yr anifeiliaid hyn, ni waeth a ydynt yn cael eu bridio ar ffermydd ffwr neu eu dal yn y gwyllt. Mae'r diwydiant ffwr yn gwbl anfoesol, yn gwbl ddiangen ac yn greulon.  \n   \nRydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog i Lywodraeth Cymru wahardd gwerthu a mewnforio ffwr anifeiliaid. \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":3098,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-04-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:50:20.160Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-04-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-09-06T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-04-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-09-06T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-09-06T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:50:20.160Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1590,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1590.json"},"attributes":{"action":"Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cyngor","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddilyn y gyfraith yn Lloegr sy'n ymgorffori yn y gyfraith hawl preswylwyr, blogwyr a newyddiadurwyr i adrodd, blogio, trydar a ffilmio cyfarfodydd cyngor i sicrhau natur agored a thryloywder. Nid yw hyn wedi digwydd yng Nghymru, a dylid ei gyflwyno er mwyn caniatáu yr un fath yng Nghymru.  \n  \nDylai'r gofyniad hwn ganiatáu i'r cyhoedd, fel arsylwyr cyfrifol, recordio neu ffilmio cyfarfodydd o'r fath heb fod angen caniatâd ymlaen llaw ac i ailddefnyddio'r deunydd yn rhydd er mwyn cyfathrebu'n uniongyrchol ac yn ehangach ag etholwyr.  \n  \nGwnaeth Lloegr gyflwyno'r gyfraith hon a rhoi'r hawliau i ni yn 2014, a dylai Cymru gael yr un hawliau.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":58,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-07-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:49:33.532Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-07-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-09-05T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-02-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-07-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-09-05T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-09-05T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:49:33.531Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1570,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1570.json"},"attributes":{"action":"Ymchwilio i’r ffordd y mae rhieni’n cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu'r ffordd y mae rhieni a theuluoedd, yn enwedig y rheini sydd â phlant anabl, yn cael eu trin gan y gwasanaethau cyhoeddus gan gynnwys y GIG, ysgolion a'r gwasanaethau cymdeithasol.  \n  \nMae teuluoedd yn cael eu bygwth ar gam a'u trin yn wael gan weithwyr proffesiynol fel meddygon, nyrsys, y gwasanaethau cymdeithasol a staff mewn ysgolion. Mae'n rhaid i hyn ddod i ben.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":121,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-06-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:02:55.212Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-06-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-09-02T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-10-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-06-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-09-02T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-09-02T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T08:02:55.212Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1539,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1539.json"},"attributes":{"action":"Bysiau i bobl nid er elw","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i reoleiddio cwmnïau bysiau masnachol a rhoi pwerau a chyllid i Awdurdodau Lleol i gynnal gwasanaethau sy'n diwallu anghenion pobl leol orau. Yn ogystal â darparu mynediad at gyflogaeth ac addysg, mae trafnidiaeth gyhoeddus yn fater cymdeithasol, iechyd a lles sy'n dod yn fwyfwy pwysig wrth i wasanaethau bws gael eu cwtogi, gan effeithio ar iechyd meddwl a chorfforol llawer o drigolion a fydd yn dod yn ynysig yn gymdeithasol ac yn methu â chyrraedd gwasanaethau sylfaenol.\n\n","additional_details":"​Mae cwmnïau bysiau yn cwtogi ar lawer o wasanaethau craidd a arferai weithredu heb gymhorthdal neu gyda braidd ddim cymhorthdal. Nid yw cwmnïau yn tendro am gontractau newydd ac mae rhai yn gofyn am symiau chwe ffigur yn gymhorthdal er mwyn parhau i weithredu. Nid oes modd i Awdurdodau Lleol fforddio hyn gan eu bod yn wynebu pwysau cyllidebol. Ni all Awdurdodau Lleol redeg gwasanaethau mewn cystadleuaeth â'r cwmnïau. Mae'n cymryd gormod o amser i deithio i'r gwaith gan fod gwasanaethau uniongyrchol yn cael eu cwtogi, hyd yn oed os ydynt ar gael, ac mae rhai yn orlawn. Pobl hŷn yw mwyafrif y trigolion sy'n dod i'r llu o gyfarfodydd cyhoeddus a gynhaliwyd gennym, ac maent yn pryderu am gael mynediad at wasanaethau, cadw apwyntiadau iechyd a dod yn ynysig. Mae unigrwydd yn broblem fawr yn ein cymdeithas. Ein nod yw galluogi pobl hŷn i fyw yn eu cartrefi eu hunain yn hirach. Ein nod yw iddynt aros yn feddyliol ac yn gorfforol heini ac egnïol. Mae bysiau cyhoeddus bellach yn fater brys o bwys mawr y mae angen mynd i'r afael ag ef yn gyflym.\n\n","state":"completed","signature_count":514,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-05-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:02:38.123Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-05-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-09-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-11-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-05-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-09-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-09-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T08:02:38.122Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1515,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1515.json"},"attributes":{"action":"Rhwystrwch Ddatblygwyr rhag gosod rhwydi yn y gwrychoedd a’r coed","background":"Gwnewch hi'n drosedd i osod rhwydi yn y gwrychoedd a'r coed i atal adar rhag nythu.  \n  \nMae datblygwyr, ac eraill sydd â diddordeb, yn osgoi cyfreithiau sy'n diogelu adar drwy osod rhwydi yn y gwrychoedd a'r coed i atal adar rhag nythu.  \n  \nMae hyn yn dadwreiddio gwrychoedd a choed sydd o gymorth i fioamrywiaeth ac sy'n darparu'r unig safleoedd nythu sydd ar ôl i adar y mae eu niferoedd yn dirywio'n gyflym.  \n  \nMae gosod rhwydi yn y gwrychoedd a'r coed yn bygwth rhywogaethau o adar sydd ar drai, yn creu perygl o gaethiwo bywyd gwyllt, ac yn creu llawer iawn o wastraff plastig.  \n  \nMae'r arfer hefyd yn torri deddfwriaeth Cenedlaethau'r Dyfodol a basiwyd gan y Senedd eisoes.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1508,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-04-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:02:24.050Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-04-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-08-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-04-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-08-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-08-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T08:02:24.050Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1560,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1560.json"},"attributes":{"action":"Dylid gwahardd defnyddio byrddau A yng Nghymru","background":"Deiseb i wahardd y defnydd o fyrddau A ar gyfer hysbysebu yng Nghymru. Mae byrddau A yn gwneud ein palmentydd yn anniben ac maent hefyd yn peri risg enfawr i bobl anabl gan eu bod yn golygu yn aml fod rhaid i bobl mewn cadair olwyn neu bobl â nam ar eu golwg fynd ar yr heol er mwyn mynd heibio iddynt.  \n  \nMae hyn yn broblem yn arbennig mewn mannau a rennir, megis canol dinasoedd, yn ogystal ag mewn trefi arfordirol lle mae'r palmentydd yn gulach.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":80,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-06-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:48:34.938Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-06-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-08-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-11-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-06-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-08-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-08-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:48:34.937Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1494,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1494.json"},"attributes":{"action":"Atal Ward 35 yn Ysbyty’r Tywysog Siarl rhag Cau","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal unig ward dementia Merthyr Tudful rhag cau. Mae Ward 35 yn Ysbyty'r Tywysog Siarl yn darparu seibiant hanfodol i deuluoedd ac anwyliaid preswylwyr lleol sy'n dioddef clefyd Alzheimer a ffurfiau eraill ar ddementia. Heb yr ased hanfodol hwn, mae bygythiad gwirioneddol o niwed y gellir ei atal i'r bobl fwyaf agored i niwed. Erbyn hyn, ni all llawer o bobl ofalu am aelodau'r teulu sydd â'r cyflwr hwn oherwydd bod angen gofal arnynt hwythau neu oherwydd pwysau gwaith ac ymrwymiadau gofal plant. Ystyriwch y goblygiadau negyddol ehangach o gau'r ward hon a'r boen y byddai'n ei hachosi i lawer o deuluoedd, y byddai eu ward dementia agosaf filltiroedd i ffwrdd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":281,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-03-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T08:02:14.115Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-03-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-03-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T08:02:14.114Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1492,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1492.json"},"attributes":{"action":"Etifeddiaeth Rosa: Dylid cyflwyno cynllun i helpu pobl i gael hawl i ofal milfeddygol ar gyfer eu hanifeiliaid anwes","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno cynllun i helpu perchnogion cyfrifol anifeiliaid anwes i gael hawl i ymgynghoriadau milfeddygol wyneb yn wyneb a gofal ar gyfer eu hanifeiliaid.   \n  \nO eleni ymlaen bydd gan Lywodraeth Cymru bwerau trethu cyfyngedig eu hunain am y tro cyntaf. Ers blynyddoedd lawer mae pobl gyffredin wedi cael trafferthion i dalu costau byw sylfaenol, ac mae hyn yn parhau. Nid oes dim amheuaeth ynglŷn â'r manteision i iechyd meddwl a llesiant pobl o gael anifail anwes. Mae llawer o'r anifeiliaid yn dod yn rhan o'r teulu. I bobl sy'n byw ar eu pennau'u hunain neu'n anghysbell, gall yr anifail fod yr unig gwmni sydd ganddynt.   \n  \nMae gwyddoniaeth filfeddygol, fel y rhan fwyaf o broffesiynau, wedi esblygu'n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf. Mae Llawfeddygon Milfeddygol, nyrsys milfeddygol a'u staff cymorth sy'n gweithio ar y \"rheng flaen\" yng Nghymru yn gwneud hynny o dan amgylchiadau heriol iawn yn aml. Mae'n dda gweld bod eu corff llywodraethol, sef Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS) wedi cydnabod hyn yn y blynyddoedd diwethaf ac wedi cymryd camau i geisio cefnogi llesiant iechyd meddwl o fewn y proffesiwn. Ond yn wahanol i iechyd dynol yng Nghymru, nid oes gwasanaeth am ddim ar gael gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer anifeiliaid pan fyddant ei angen, bedair awr ar hugain y dydd, saith diwrnod yr wythnos.  \n  \nO dan adran 3.16 o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Cymru a Lloegr) 2006, cyfrifoldeb y perchnogion yw darparu ar gyfer pum angen llesiant sylfaenol anifeiliaid, a'r pumed o'r rhain yw ei \"amddiffyn rhag dioddef poen, anaf a chlefyd\".\n\n","additional_details":"Mae'r maes yswiriant ar gyfer anifeiliaid anwes wedi ffynnu yn y blynyddoedd diwethaf.  Ond gall llawer o berchnogion cyfrifol barhau i gael trafferth i gael gwarchodaeth yswiriant ar gyfer eu hanifeiliaid anwes. Mae hyn yn sgîl cyflyrau sydd eisoes yn bodoli, cŵn sydd wedi'u heithrio oherwydd deddfwriaeth benodol ar fridio, neu lawer o anifeiliaid anwes sydd, yn syml, angen rhagor o driniaeth na'r hyn y mae polisi yswiriant eu perchnogion yn ei ganiatáu.  \n  \nMae rhai sefydliadau'r trydydd sector, fel yr elusen filfeddygol PDSA, wedi ceisio llenwi'r bwlch ers sawl blwyddyn. Maent wedi gwneud gwaith clodwiw, ond yn y blynyddoedd diwethaf maen nhw, hyd yn oed, wedi gorfod gwneud y penderfyniad torcalonnus i gwtogi ar eu darpariaeth. Nid oes gan rai ardaloedd yng Nghymru ddim ysbytai anifeiliaid na chlinigau milfeddygol o fath yn y byd a ddarperir gan elusennau.  \n  \nMae tuedd bryderus hefyd i berchnogion droi at fforymau ar y cyfryngau cymdeithasol i gael cyngor ar faterion clinigol, yn hytrach na mynd â'u hanifeiliaid i bractis milfeddygol. Rwy'n adnabod pobl sy'n ateb llinellau ffôn cymorth ar ran elusennau anifeiliaid. Dywedant wrthyf fod y duedd hon yn cael ei ailadrodd.  \n  \nGyda'm cefndir i ym maes achub anifeiliaid, rwyf wedi bod yn argyhoeddedig ers blynyddoedd lawer fod nifer cynyddol o anifeiliaid anwes yn cael eu gadael neu eu rhoi mewn canolfannau achub, yn rhannol, oherwydd nad yw pobl yn gallu ariannu gofal milfeddygol ar eu cyfer. Mae'r canolfannau achub yng Nghymru yn orlawn, ac mae'r holl ystadegau sydd ar gael yn dangos bod achosion o'r fath, ac unrhyw erlyniadau sy'n deillio ohonynt, yn codi.\n\nYn gyntaf, byddai cynllun o'r fath yn helpu anifeiliaid anwes a'u perchnogion. Byddai hefyd yn helpu'r rheini sy'n gweithio ar y rheng flaen yn y canolfannau achub anifeiliaid, ac yn sicr yn helpu'r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru, sydd hefyd ar adegau yn gweithio mewn amgylchiadau heriol tu hwnt.\n\n","state":"completed","signature_count":95,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-03-09T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-13T15:28:55.776Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-03-09T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-11-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-03-09T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-08-20T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-13T15:28:55.775Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1484,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1484.json"},"attributes":{"action":"Ardrethi busnes tecach i fusnesau Cymru","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod natur newidiol y sector manwerthu yng Nghymru dros y degawd diwethaf ac ystyried trafod ffyrdd o gyflwyno ardrethi busnes tecach fel rhan o system trethi Gymreig fwy blaengar i fusnesau yng nghanol ein trefi, mewn parciau manwerthu ac ar-lein i gynrychioli'r newidiadau hyn yn llawn.  \n   \nMae trefi a dinasoedd llewyrchus a chynaliadwy yn bwysig i bawb sy'n byw ac yn gweithio ynddynt ac mae Llywodraeth yr Alban wedi cydnabod hyn drwy ystyried codi trethi i barciau manwerthu ac mae Plaid Lafur y DU am brisiadau ardrethi busnes blynyddol, gan gydnabod yn rhannol yr angen i ystyried rhannu'r baich treth yn fwy cyfartal.  \n  \nDyma gyfle i Lywodraeth Cymru arwain ardrethi a threthi busnes tecach ac rydym ni, yn Ardal Gwella Busnes (BID) Eich Pontypridd, yn eich annog i achub ar y cyfle i ddangos i'n busnes lleol eich bod yn deall ei anghenion nawr ac yn y dyfodol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":80,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:58:25.341Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-08-13T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-08-13T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-08-13T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:58:25.340Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1469,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1469.json"},"attributes":{"action":"Achub Ein Parciau yng Nghymru","background":"​Mae parciau a mannau chwarae yn mynd yn adfail, neu maent dan fygythiad o gael gwaith adeiladu arnynt neu gael eu gwerthu i ddatblygwyr.   \n  \nMae hyn er gwaethaf y manteision iechyd a chymdeithasol hanfodol a gynigir gan y mannau gwyrdd hyn, sydd mor agos at ein calonnau.   \n  \nDiben y ddeiseb hon yw ysgogi cefnogaeth i achub ein parciau, ein meysydd chwarae a'n mannau agored rhag cael eu colli am byth, i ddiwallu anghenion cenedlaethau heddiw a chenedlaethau'r dyfodol ac ategu'r rhwymedigaethau sydd ar gynghorau yng Nghymru o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015 a Deddf yr Amgylchedd 2016.  \n   \nRydym eisiau:   \n  \n1) Gofyniad statudol i gynghorau neilltuo cyllid o £30 yr aelwyd y flwyddyn ar gyfer parciau.   \n  \n2) Gweld dyletswydd gyfreithiol i bob man gwyrdd gael ei reoli i safon dda.   \n  \n3) Rheolau newydd yn gwahardd gwaith datblygu ar barcdiroedd, gwerthu parcdiroedd neu ddefnyddio parcdiroedd yn amhriodol.   \n  \n4) Cronfa newydd gan Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth brys i'r parciau sy'n wynebu'r perygl mwyaf a sicrhau dyfodol mannau gwyrdd agored Cymru yn yr hirdymor.   \n  \n5) Gofyniad cyfreithiol i bob cyngor weithredu Strategaeth Mannau Agored yn unol â Safonau Meysydd Chwarae Cymru, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, a Deddf yr Amgylchedd 2016, ac iddynt weithio gyda Meysydd Chwarae Cymru i ddiogelu a gwella'r holl fannau gwyrdd agored cyhoeddus yng Nghymru.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":244,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-05T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:47:02.081Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-05T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-07-17T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-08T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-05T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-07-17T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-07-17T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:47:02.080Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1520,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1520.json"},"attributes":{"action":"Mae angen dod â phrofion Darllen a Rhifedd Cenedlaethol ar gyfer plant mor ifanc â 6 oed i ben ar unwaith","background":"​Nid yw Profion Rhifedd a Darllen Cenedlaethol i blant mor ifanc â 6 oed yn addas at y diben a dylid dod â nhw i ben cyn gynted â phosibl. Nid y ffordd orau ar gyfer plant ifanc sydd wedi'u hannog i ddysg drwy chwarae yw eu hasesu drwy eistedd am hyd at 40 munud i gwblhau prawf.   \n  \nEr bod Llywodraeth Cymru yn argymell nad oes angen paratoi, mae'n anochel bod ysgolion yn cymryd amser o'u gwaith dysgu arferol i sicrhau bod plant yn gyfarwydd â fformat y profion ac mae plant yn aml yn cael trafferth deall yr hyn a ddisgwylir ganddynt. Mae hyn yn arwain at golli hyder a mwynhad dysgu ar oedran mor ifanc a allai fod yn niweidiol i'w dysgu parhaus.  \n   \nMae Adolygiad Donaldson (Dyfodol Llwyddiannus, 2015) yn argymell y dylai unrhyw asesiadau fod 'mor ysgafn eu cyffyrddiad â phosibl', 'osgoi biwrocratiaeth ddiangen', gan gynnwys ' asesiadau cyfannol o gyflawniadau' a defnyddio 'hunanasesu ac asesu gan gyfoedion' i 'annog plant a phobl ifanc i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu dysgu eu hunain'. Mae pedair blynedd wedi mynd heibio ers yr adolygiad hwn ac mae'r profion hyn yn dal i gael eu cynnal. O ganlyniad mae angen dod â fformat presennol yr asesiad strwythuredig i ben ar unwaith.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":256,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-04-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:58:04.551Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-04-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-07-02T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-21T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-04-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-07-02T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-07-02T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:58:04.550Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1499,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1499.json"},"attributes":{"action":"Trethu Ail Gartrefi","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau uniongyrchol i gau bwlch yn y gyfraith sy'n caniatáu i berchnogion ail gartrefi yng Nghymru osgoi talu'r dreth gyngor ac ardrethi busnes, ar adeg pan orfodir cynghorau lleol i gynyddu'r dreth gyngor i drethdalwyr lleol i wneud iawn am y diffyg yn eu cyllidebau.   \n  \nMae 800 o berchnogion ail gartrefi yng Ngwynedd bellach yn ymelwa o fwlch yn y gyfraith i osgoi talu unrhyw dreth gyngor o gwbl drwy gofrestru eu heiddo fel busnesau bach. Maent hefyd yn cael eu heithrio rhag talu ardrethi busnes oherwydd anghysondeb yn y system sy'n eu categoreiddio fel 'busnesau bach' er eu bod yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Yn ystod y flwyddyn ariannol hon, mae hyn yn cyfateb i golled o £1.5 miliwn o bwrs y wlad yng Ngwynedd yn unig; arian y gellid ei ddefnyddio i ddarparu tai cymdeithasol i bobl leol. \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1281,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-04-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:57:55.769Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-04-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-07-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-03-10T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-04-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-07-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-07-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:57:55.768Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1519,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1519.json"},"attributes":{"action":"Labelu cig o anifeiliaid sydd wedi’u lladd mewn modd crefyddol","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddeddfu bod unrhyw gig a chynhyrchion cig sy'n dod o anifeiliaid sydd wedi'u lladd mewn modd crefyddol yn labelu hyn yn glir.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":348,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-04-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:45:46.971Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-04-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-06-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-04-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-06-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-06-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:45:46.970Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1564,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1564.json"},"attributes":{"action":"Penodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i benodi Comisiynydd Anabledd Dysgu i Gymru. Mae'n rhaid i'r person hwnnw fod ag anabledd dysgu.  \n  \nMae mwy o adroddiadau o gam-drin pobl ag anabledd dysgu yn ymddangos yn Lloegr eto. Mae ymchwil yn dangos hefyd bod pobl ag anabledd dysgu yn cael gofal iechyd anghyfartal ac yn marw hyd at 20 mlynedd yn gynharach nag eraill. Mae'n 50 mlynedd ers i adroddiad Ysbyty Trelái ddangos cam-drin gan arwain at gau'r sefydliadau hyn. Fel y sefydliad a sefydlwyd gan bobl sy'n gadael Trelái, credwn ei bod hi'n bryd i ni gael rhywun i hyrwyddo ein hawliau i ni yng Nghymru.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":568,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-06-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:53:24.456Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-06-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-06-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-21T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-06-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-06-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-06-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:53:24.455Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1553,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1553.json"},"attributes":{"action":"Gwneud TGAU Iaith Gymraeg yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru","background":"​Ar hyn o bryd, mae'r Iaith Gymraeg yn orfodol naill ai fel iaith gyntaf neu ail iaith ym mhob un o ysgolion y wladwriaeth yng Nghymru. Fodd bynnag, nid yw hyn yn gymwys i ysgolion preifat, nad ydynt yn dilyn y cwricwlwm cenedlaethol. Mewn sawl achos, mae disgyblion yn gadael ysgolion preifat yn methu â siarad gair o Gymraeg. Os ydym am wneud cynnydd gyda'n hiaith, ac am gyrraedd targed y llywodraeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rhaid inni roi'r cyfle i bob plenty yng Nghymru ddysgu. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i:- wneud TGAU Cymraeg Ail Iaith yn orfodol ym mhob ysgol yng Nghymru yn ôl y gyfraith ar gyfer y cwricwlwm newydd yn 2022.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":175,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-06-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:53:15.339Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-06-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-06-17T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-06-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-06-17T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-06-17T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:53:15.339Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}}]}