{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau.json?page=44&state=archived","first":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?state=archived","last":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=54&state=archived","next":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=45&state=archived","prev":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=43&state=archived"},"data":[{"type":"petition","id":1554,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1554.json"},"attributes":{"action":"Atal Aelodau Cynulliad rhanbarthol a etholwyd i gynrychioli pleidiau penodol rhag newid pleidiau","background":"​Erbyn hyn mae gan Gynulliad Cymru bŵer cyfreithiol dros ei system etholiadol ei hun. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i atal Aelodau ar y rhestr ranbarthol rhag newid pleidiau gwleidyddol. Wrth bleidleisio ar y rhestr ranbarthol, mae pleidleiswyr yn dewis pleidiau gwleidyddol yn hytrach nag unigolion. O dan y rheolau presennol, fodd bynnag, gall Aelodau a etholwyd ar y rhestr ranbarthol newid pleidiau'n wirfoddol.  \n  \nYn ystod tymhorau blaenorol y Cynulliad, ni fu hynny'n fawr o bwys, ond yn ystod y tair blynedd diwethaf, mae llawer o Aelodau'r Cynulliad wedi dirmygu'r sefydliad trwy ddatgan eu bod yn annibynnol neu newid pleidiau. Mae un Aelod Cynulliad bellach wedi cynrychioli tair plaid wleidyddol wahanol yn ystod oes y Cynulliad, a datganodd un arall ei bod yn Aelod annibynnol o fewn diwrnodau iddi gael ei sefydlu fel Aelod Cynulliad. Nid oes mandad democrataidd ar gyfer hyn. Mae'n golygu nad oes gan draean o'r Senedd fawr o atebolrwydd i'r etholwyr, na wnaeth bleidleisio drostynt ond a bleidleisiodd dros y blaid yr oeddent yn ei chynrychioli'n wreiddiol. Dylid newid y rheolau fel bod Aelod Cynulliad ar y rhestr, sy'n penderfynu'n wirfoddol i newid ei ymlyniad gwleidyddol, yn gadael ei sedd fel Aelod Cynulliad a bod yr ymgeisydd nesaf dros y blaid wleidyddol honno ar y rhestr ranbarthol yn cymryd ei le. Er mwyn atal camddefnyddio'r system, dylai unrhyw ymgeisydd sy'n cael ei ddiarddel yn anwirfoddol o'i grŵp allu aros yn Aelod Cynulliad annibynnol ond ni ddylid caniatáu iddo ymuno â phlaid arall.  \n  \nYn anffodus, mae'r ddeiseb hon yn nodi y gall y newid hwn gadarnhau ymhellach y canfyddiad bod Aelodau Cynulliad rhanbarthol yn 'ddinasyddion eilradd' yn y Cynulliad. Fodd bynnag, teimlwn fod y broblem hon yn gynhenid i'r system aelod ychwanegol dwy haen ac, yn yr achos hwn, y lleiaf o ddau ddrwg o'i gymharu â'r ffordd y mae'r rheolau presennol yn caniatáu i'r broses etholiadol gael ei thanseilio.  \n  \nMae'r ddeiseb hon yn awgrymu y dylid diwygio Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) i gynnwys y newidiadau y cyfeirir atynt uchod.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1301,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-06-11T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:53:09.026Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-06-11T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-06-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-06-11T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-06-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-06-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:53:09.026Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1502,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1502.json"},"attributes":{"action":"Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i dynnu ei chefnogaeth yn ôl i'r \"Llwybr Coch\" (Gwella Coridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548) am y rhesymau a ganlyn:  \n  \n1) Mae adeiladu'r ffordd newydd drwy goetir hynafol, ac ar draws tir amaethyddol, yn groes i Bolisi Cynllunio Cymru a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.  \n  \n2) Bydd y cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Pont Dyfrdwy newydd ar yr A494, ehangu'r A494 a gwelliannau eraill, yn gwella traffig Glannau Dyfrdwy heb fod angen y 'Llwybr Coch'.  \n  \n3) Nid oedd y costau a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau dewis y \"Llwybr Coch\" yn cyfrif am y gwaith angenrheidiol i wella Pont Sir y Fflint. Nid yw hyn ychwaith yn cynnwys ychwanegu lôn araf ar bwynt tagfeydd difrifol ar yr A55, sef y bryn allan o Laneurgain tuag at Dreffynnon. Bydd adeiladu'r Llwybr Coch yn gwaethygu'r pwyntiau hyn. Mae'r amcangyfrif annigonol o'r costau yn awgrymu nad oes modd dweud bod y ffordd arfaethedig yn cynnig gwerth am arian. At hynny, nid yw'r costau'n cynnwys y gwelliannau arfaethedig i'r A494 (a amlinellir yn 2).  \n  \n4) Roedd dewis y Llwybr Coch yn seiliedig ar arolygon traffig anghynrychioliadol.  \n  \n5) Wrth ystyried y Llwybr Coch, methodd Llywodraeth Cymru ag ymgynghori'n ddigonol â thrigolion ardaloedd y Fflint a Llaneurgain er gwaetha'r effaith sylweddol bosibl ar eu cymunedau. Er gwaetha'r ffaith y byddai'r ffordd newydd yn costio dros chwarter biliwn o bunnoedd, mae'n debygol o arwain at fwy o dagfeydd traffig yn y cymunedau hyn.   \n  \n6) Mae'r Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd wedi galw am weithredu brys i leihau allyriadau C02, gan ddweud mai dim ond 12 mlynedd sydd gennym ar ôl i achub hinsawdd y byd. Mae angen inni fuddsoddi ein hadnoddau cyfyngedig mewn trafnidiaeth gynaliadwy fel rheilffyrdd.\n\n** **\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1409,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-04-09T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-13T15:28:25.037Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-04-09T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-06-09T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-04-09T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-06-09T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-06-09T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-13T15:28:25.035Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1531,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1531.json"},"attributes":{"action":"Trafnidiaeth Gyhoeddus Hygyrch a Chynhwysol ar gyfer Dinasyddion ag Anableddau Dysgu yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob awdurdod lleol yn ymgynghori â phobl ag anableddau dysgu cyn gwneud unrhyw newidiadau i wasanaethau bysiau/llwybrau bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i safleoedd bysiau.  \n  \nRydym hefyd yn galw ar i Lywodraeth Cymru ehangu'r Cerdyn Teithio Rhatach i gynnwys gwasanaethau rheilffordd lleol mewn ardaloedd lle nad oes llawer o wasanaethau bysiau. Mae'r mesurau hyn yn hanfodol os ydym am i bobl ag anableddau dysgu yng Nghymru beidio â chael eu hynysu yn y gymdeithas, ac os ydym am eu galluogi i fyw fel dinasyddion gweithgar a chydradd a chanddynt fynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen i gyflawni eu canlyniadau llesiant eu hunain, fel y'u hyrwyddir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru).\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":203,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-05-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:53:00.562Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-05-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-06-03T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-10-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-05-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-06-03T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-06-03T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:53:00.562Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1489,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1489.json"},"attributes":{"action":"Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sefydlu Wythnos Genedlaethol Hanes Cymru.  \n  \nY nod yw creu a hybu wythnos o ddathlu a chofnodi'n hanesyddol-gywir hanes Cymru sy'n esgor ar ddysgu a chyfleoedd addysgol. Byddai'r hyn a addysgir yn fwy onest na hanes 'lân' Prydain a gafodd cynifer ohonom yn yr ysgol, ac ni fyddai'n amcanu i roi unrhyw ogwydd i'r wybodaeth gan ffafrio unrhyw barti.\n\nI herio'r ffantasiau hanesyddol-anghywir sydd i'w cael ynghylch stereoteip Cymru, a sut y daeth i fod yn hierarchiaeth Prydain yn y cyfnod sydd ohoni.\n\nDrwy ddeall ein hanes go iawn, hybu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru, lle Cymru yn y Brydain fodern, a thrwy gyflwyno trafodaethau ynghylch sut y dylem geisio sicrhau bod hynny'n cael ei ddeall nid yn unig o fewn Cymru, ond hefyd o fewn y gwledydd eraill ar ynysoedd Prydain ac yng ngweddill y byd.\n\n","additional_details":"Mae nifer o bobl yng Nghymru (gan gynnwys fi fy hun) yn cael ein magu â thybiaethau anghywir ynghylch sut y daeth Cymru i fod, a'r 'hiliau' sydd i'w cael ar ynysoedd Prydain.\n\nBydd dealltwriaeth ddyfnach o bwy ydym a sut y cyrhaeddom lle yr ydym heddiw yn ein rhoi mewn gwell sefyllfa i ystyried lle yr ydym am fod yn y dyfodol.\n\n","state":"completed","signature_count":86,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-03-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:59:52.776Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-03-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-05-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-12-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-03-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-05-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-05-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:59:52.775Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1397,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1397.json"},"attributes":{"action":"Trawsnewid yr ymateb i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig - galw am weithredu","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:  \n • godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, sefydliadau'r trydydd sector ac asiantaethau statudol o nifer y menywod a'r dynion hŷn yng Nghymru sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig gan aelodau'r teulu, a   \n• sicrhau bod lefelau hanfodol o gefnogaeth a diogelwch ar gael i bobl hŷn sy'n dioddef camdriniaeth o'r fath.\n\nCamdriniaeth ddomestig yn ddiweddarach mewn bywyd: 'Diystyru, anweledig ac anwybyddu'\n\nMae diffiniad y DU gyfan o gamdriniaeth ddomestig, ni waeth beth yw oedran yr unigolyn, fel a ganlyn: 'Any incident or pattern of incidents of controlling, coercive or threatening behaviour, violence or abuse between those aged 16 or over, who are or have been intimate partners or family members regardless of gender or sexuality. This can encompass but is not limited to the following types of abuse - psychological, physical, sexual, financial, emotional and as a result of neglect'.\n\nAmcangyfrifir bod cyfanswm nifer y bobl hŷn yng Nghymru sy'n dioddef camdriniaeth ddomestig yn 40,000. Yn aml, mae camdriniaeth ddomestig pobl 60 oed neu hŷn, sy'n byw yn eu cartrefi eu hunain, yn ffenomen sydd wedi'i chamddeall, sy'n cael ei hanwybyddu ac nad yw'n cael ei chydnabod, sydd ag effeithiau eang ar eu bywydau. Yn aml, ni ddefnyddir delweddau o bobl hŷn mewn ymgyrchoedd cyhoeddus ynghylch camdriniaeth ddomestig. Mae'n anodd i ddynion a menywod hŷn nodi eu hunain fel dioddefwyr posibl o gamdriniaeth ddomestig.\n\nMae'r mater wedi'i esgeuluso mewn polisi ac arfer o'i gymharu â grwpiau oedran eraill.\n\n• Nid oedd yr Arolwg Trosedd ar gyfer Cymru a Lloegr yn cynnwys ystadegau ynghylch camdriniaeth ddomestig ar gyfer y rheini dros 59 oed, hyd at fis Ebrill 2017, pan gynyddwyd y terfyn oedran ar gyfer y sawl sy'n cymryd rhan yn yr arolwg i 74 oed (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2017) .  \n • Mae pobl hŷn â dementia mewn perygl uwch o gamdriniaeth oherwydd eu gallu diffygiol i geisio cymorth, eiriol drostynt eu hunain neu dynnu eu hunain o sefyllfaoedd a allai fod yn gamdriniaeth.   \n• Mae anabledd hefyd yn cynyddu'r tebygolrwydd y bydd rhywun yn dioddef camdriniaeth.\n\n","additional_details":"​A yw pobl hŷn yn ceisio cymorth?  \n   \nMae gwaith ymchwil yn dangos bod pobl hŷn yn llai tebygol o roi gwybod am gamdriniaeth na grwpiau oedran iau; nid ydynt yn defnyddio gwasanaethau arbenigol y trydydd sector ac maent hefyd eisiau cymorth i'r un sy'n cam-drin.  \n   \nAr lefel unigolyn efallai y bydd llawer o resymau pam nad yw pobl hŷn yn ceisio cymorth:  \n • Teimlad camsyniol eu bod rhywsut yn gyfrifol am y gamdriniaeth;  \n • Ofn ôl-effaith gan y tramgwyddwr;   \n• Lefel uwch o ddibyniaeth emosiynol, ariannol a chorfforol ar eu tramgwyddwr na'u cymheiriaid iau;  \n • Nid ydynt eisiau troseddu'r un sy'n cam-drin, a allai fod yn blentyn neu'n ŵyr neu'n wyres.  \n   \nAr lefel fwy sefydliadol, mae rhwystrau i geisio cymorth yn cynnwys y canlynol:  \n • Gall ffactorau o ran cenhedlaeth, gan gynnwys syniadau o breifatrwydd sy'n ymwneud â'r cartref a pherthnasoedd agos, fod yn rhwystr i geisio cymorth. (Zink et al, 2004, 2005).  \n • Mae ein gwaith ymchwil yn dangos nad yw'r gwasanaethau presennol yn addas ar gyfer dioddefwyr hŷn.   \nYn aml, caiff gwasanaethau eu teilwra i symud y goroeswr sy'n dioddef i ffwrdd o'r un sy'n cam-drin drwy adleoli o'r cartref teuluol a'r gymuned.  \n • Mewn sawl achos, mae pobl hŷn sy'n dioddef eisiau cynnal perthynas â'r person sy'n cam-drin, yn enwedig os mai plentyn neu ŵyr neu wyres sy'n oedolyn sy'n cam-drin. (Gwaith ymchwil gan SafeLives yn 2016 a Sprangler & Brandl, 2007).  \n • Mae'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn aml yn gweld pobl hŷn fel grŵp o oedolion unffurf sy'n agored i niwed na allant wneud eu penderfyniadau eu hunain. (Harbison, 2012).\n\n","state":"completed","signature_count":125,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-09-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:44:30.274Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-09-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-05-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-11-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-09-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-05-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-05-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:44:30.273Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1528,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1528.json"},"attributes":{"action":"Diwygio Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 i gynnwys sefydliadau’r DU sydd â gweithrediadau dramor","background":" \n\nRydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio geiriad presennol Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 (\"y Rheoliadau\"). Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i wneud y diwygiadau i'r Rheoliadau i fynd i'r afael â chyfyngiad presennol Rheoliad 6, Amod 5, sy'n atal myfyrwyr o Gymru rhag cael mynediad at gyllid myfyrwyr i astudio mewn sefydliadau addysg uwch yn y DU lle mae lleoliad yr astudio ar eu campws tramor. Rydym ni'n ystyried y gellid ei gyflawni, naill ai drwy:\n\n- ehangu'r meini prawf yn Amod 5 i gynnwys cyrsiau a ddarperir gan sefydliadau addysg uwch yn y DU naill ai yn eu campysau yn y DU neu dramor; neu\n- diwygio Amod 5 i gynnwys cyrsiau a ddarperir gan sefydliadau addysg uwch sy'n cynnig cyrsiau dynodedig ac i gynnwys Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis ar y rhestr o sefydliadau sy'n cynnig cyrsiau dynodedig, gan ddefnyddio'ch disgresiwn o dan Reoliad 8.   \n\n**_Diwygiad Arfaethedig:_**\n\nOpsiwn 1\n\n\"Condition 5\n\nAt least half of the teaching and supervision which comprise the course is provided in the United Kingdom or at any campus of a United Kingdom higher education institution located outside of the United Kingdom\".\n\n \n\nOpsiwn 2\n\n\"Condition 5\n\nAt least half of the teaching and supervision which comprise the course is provided in the United Kingdom. This condition shall apply, unless the course has been deemed to be treated as a designated course pursuant to Regulation 8(1) or 8(2).\"\n\nRydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i fabwysiadu'r newidiadau arfaethedig fel y gall myfyrwyr o Gymru sy'n gwneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau fel Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis gael eu hystyried fel \"myfyrwyr cymwys\" at ddibenion cael cymorth i fyfyrwyr. Mae Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis yn cynnig cyrsiau addysg uwch mewn ieithoedd modern, ble mae'r addysgu a'r goruchwylio yn cael ei gynnal yn bennaf ym Mharis. Serch hynny, caiff myfyrwyr eu haddysgu gan gyflogeion Prifysgol Llundain a'i phartner cydweithredol, Queen Mary, Prifysgol Llundain.\n\nOni wneir newid i eiriad presennol y Rheoliadau, bydd myfyrwyr o Gymru yn parhau i ddioddef anfantais anghyfiawn wrth wneud cais am gyrsiau mewn sefydliadau penodol yn y DU. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i wneud y newid hwn gan nad oes cyfyngiad tebyg ar draws rhannau eraill o'r DU. Os na chymerir unrhyw gamau, gall y Rheoliadau barhau i fod yn rhwystr i fyfyrwyr sy'n gobeithio gwneud cais am gyrsiau yn Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis.\n\n","additional_details":"Rhwng mis Medi 2018 a mis Chwefror 2019 cawsom negeseuon anghyson ynglŷn â sefyllfa Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis a chafodd myfyrwyr presennol a darpar fyfyrwyr wybodaeth anghyson am eu cymhwysedd. Cymerodd Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis y camau canlynol i fynd i'r afael â hyn:\n\n- Cysylltwyd â'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr\n- Cysylltwyd â Chyllid Myfyrwyr Cymru\n- Cysylltwyd ag adran 'Dynodi' Llywodraeth Cymru.\n\nMae copïau o'r ohebiaeth berthnasol ar gael ar gais.\n\nPan eglurwyd y sefyllfa o'r diwedd, ym mis Chwefror, cafodd ymgeiswyr o Gymru wybod gan Athrofa Prifysgol Llundain ym Mharis nad oeddent yn gymwys i gael cyllid myfyrwyr ar gyfer y rhaglenni hyn, ac achosodd hyn ofid sylweddol iddynt. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ystyried ein pryderon fel mater o flaenoriaeth.\n\n","state":"completed","signature_count":299,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-05-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:47:16.144Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-05-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-05-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-03-10T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-05-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-05-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-05-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:47:16.143Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1493,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1493.json"},"attributes":{"action":"Trwsio ein system gynllunio","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i drwsio ein system gynllunio; mae angen i ddatblygiadau newydd fod yn gynaliadwy.  \n   \nMae paragraff 4.2.15 o ddogfen Polisi Cynllunio Cymru yn datgan bod yn rhaid i awdurdodau cynllunio sicrhau bod digon o dir ar gael, neu y bydd digon o dir ar gael, ar gyfer cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai. I allu ystyried bod tir ar gael yng ngwir ystyr y term, mae'n rhaid i'r safle dan sylw fod yn safle sydd wedi'i gynnwys mewn Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai.  \n   \nMae'r cyflenwad pum mlynedd o dai yn rhoi gormod o bwysau ar awdurdodau lleol, sy'n golygu bod datblygiadau anaddas yn cael eu hadeiladu. Mae'r Cyd-astudiaeth Argaeledd Tir ar gyfer Tai yn ddiffygiol: nid yw'n ystyried tai gwag na nifer yr ail gartrefi yn yr ardal. O ganlyniad i'r prinder tir, mae cynghorau'n teimlo bod angen rhoi caniatâd cynllunio hyd yn oed os ydynt yn ymwybodol o broblemau yn ymwneud â'r isadeiledd. Os yw cynghorau'n gwrthod rhoi caniatâd cynllunio, mae Arolygiaeth Gynllunio Cymru yn gwyrdroi eu penderfyniadau yn ystod y broses apêl.  \n   \nMae datblygwyr yn ymwybodol o'r bylchau yn y system, ac maent yn gallu manteisio ar fregusrwydd cymunedau drwy ymgymryd â datblygiadau hapfasnachol mawr y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol. Gan fod y datblygiadau hyn y tu allan i'r Cynllun Datblygu Lleol, nid yw cynaliadwyedd yr ardal o ran llesiant yr economi, iechyd, trafnidiaeth a'r amgylchedd yn destun gwaith craffu manwl. Hyd yn oed os yw trigolion yn tynnu sylw at astudiaethau/ystadegau lleol a chenedlaethol yn ymwneud â'r ardal dan sylw, nid yw eu lleisiau'n cael eu clywed mewn apeliadau. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddiffinio'r hyn a olygir gan dystiolaeth 'gadarn'.  \n   \nCyflwynwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 er mwyn atal datblygiadau anghynaliadwy ac er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r dyfodol yn cael cyfle i fwynhau dyfodol rhesymol. Mae cymunedau'n teimlo nad yw polisi nac arfer yn adlewyrchu hyn.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":251,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-03-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:44:13.113Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-03-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-05-20T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-03-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-05-20T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-05-20T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:44:13.113Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1448,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1448.json"},"attributes":{"action":"Mae Cymru yn prysur golli ei henw da o ran cerddoriaeth, a’i threftadaeth","background":"​* Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i lunio Cynllun Cenedlaethol brys ar gyfer Addysg Cerddoriaeth gydag arian canolog penodol, yn unol â gweddill y DU. Bydd hyn yn sicrhau bod gwersi offerynnau cerdd a hyfforddiant llais fforddiadwy ar gael fel hawl i bob plentyn yng Nghymru.   \r\n  \r\n* Mae'r Gwasanaethau Cerddoriaeth yng Nghymru yn rhan annatod o ddatblygiad Addysg Cerddoriaeth fel rhan o'r cwricwlwm creadigol ar draws pob maes.   \r\n  \r\n* Mae'r cyfraniad a wneir gan y diwydiant a'r gwasanaethau cerddoriaeth i economi a llesiant pobl Cymru yn rhy bwysig i'w anwybyddu.   \r\n  \r\n* Mae nifer y bobl ifanc sy'n astudio cerddoriaeth ar lefel Uwch yng Nghymru wedi haneru mewn deng mlynedd ac mae nifer y cofrestriadau ar gyfer arholiadau TGAU wedi lleihau 40 y cant.  \r\n   \r\n* Nid yw cyni yn esgus i Lywodraeth Cymru ganiatáu dirywiad ein Gwasanaethau Cerddoriaeth. Dylai cyni fod yn rheswm dros fuddsoddi yn yr hawl cyfartal i bawb gael gwasanaethau, a chynaliadwyedd ein cymunedau.  \r\n   \r\nArwyddwch y ddeiseb hon i gefnogi'r ymgyrch i atal dirywiad Addysg Cerddoriaeth yng Nghymru. \r\n\r\n","additional_details":"","state":"completed","signature_count":2226,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-01-17T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:43:47.271Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-01-17T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-05-17T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-01-17T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-05-17T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-05-17T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:43:47.270Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1446,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1446.json"},"attributes":{"action":"Dylid ychwanegu addysg iechyd meddwl at y cwricwlwm addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru","background":"Pan fyddaf yn gweithio i Mental - Y Podcast i Ddat-stigmateiddio Iechyd Meddwl, rwy'n pryderu'n barhaus am ddiffyg addysg sy'n ymwneud ag iechyd meddwl mewn ysgolion. Gydag un o bob pedwar ohonom yn dioddef salwch meddwl bob blwyddyn yn ôl yr elusen Mind, ymddengys bod hwn yn fwlch gwirioneddol a sylweddol yn ein system addysg.  \n  \nYSTADEGAU ALLWEDDOL:\n\n1. Mae dros hanner o bob salwch meddwl yn dechrau cyn bod unigolyn yn 14 mlwydd oed, ac mae 75% o bob salwch meddwl wedi datblygu erbyn y bydd unigolyn yn 18 mlwydd oed;\n2. Canfu arolwg yn 2015 fod 13% o oedolion (16 oed a hŷn) sy'n byw yng Nghymru wedi cael triniaeth am broblem iechyd meddwl, sef cynnydd o 12% o'i gymharu â'r ffigur yn 2014;\n3. Mae cost cyffredinol problemau iechyd meddwl yng Nghymru oddeutu £7.2 biliwn y flwyddyn. \n\nMae'r ystadegau'n syfrdanol, ond er bod pwnc cyfan yng nghwricwlwm Cymru yn canolbwyntio ar ein hiechyd corfforol ar ffurf y pwnc Addysg Gorfforol, nid yw ein pobl ifanc yn dysgu dim am yr afiechydon meddwl mwyaf cyffredin hyd yn oed.  \nMae hyn, nid yn unig yn golygu eu bod yn amharod ac yn agored pan ddaw'n fater o ofalu am eu hiechyd meddwl eu hunain, ond hefyd mae'n gosod cynsail nad yw Iechyd Meddwl yn cael ei drafod. Mae hyn yn plannu hadyn o stigma sy'n aros gyda llawer drwy gydol eu hoes.\n\nRydym am glywed barn y rhai sydd mewn grym ynghylch cynllun ehangach i wella bywydau pobl ifanc Cymru.  \n  \nYN YMGYRCHU DROS:  \nFod addysg iechyd meddwl yn dod yn addysgu gorfodol ar gyfer pob ysgol yng Nghymru, heb ychwanegu dim arholiadau / gwaith cartref ar y pwnc hwn.  \nY gall pob plentyn yng Nghymru gael mynediad at gwnselydd cymwys drwy ei ysgol.   \nFod pob ysgol yng Nghymru yn cynnig hyfforddiant Iechyd Meddwl i'w staff.  \n  \nLlofnodwch ein deiseb i'n helpu i ddod gam yn nes at wneud y ceisiadau hyn yn realiti i blant Cymru, a chan felly ddiogelu iechyd cenedlaethau'r dyfodol.\n\nDiolch am ddarllen hwn, Annie Harris  \nDysgwch ragor am y ddeiseb hon a'r tîm a'i cyflwynodd yn mentalpodcast.co.uk/petition\n\n","additional_details":"​1. Ffynhonnell: Murphy M a Fonagy P (2012). Problemau iechyd meddwl ymhlith plant a phobl ifanc. Yn: Adroddiad Blynyddol y Prif Swyddog Meddygol 2012. Llundain: Yr Adran Iechyd.   \n2. a 3. Ffynhonnell: Y Sefydliad Iechyd Meddwl. Iechyd Meddwl yng Nghymru, Ffeithiau Sylfaenol 2016 ([https://www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/FF16%20Wales%20WELSH.pdf](https://www.mentalhealth.org.uk/sites/default/files/FF16%20Wales%20WELSH.pdf))  \n  \nGweler [https://www.change.org/p/get-mental-health-education-on-the-school-curriculum-mentalpetition-join-me-and-over-100-000-others](https://www.change.org/p/get-mental-health-education-on-the-school-curriculum-mentalpetition-join-me-and-over-100-000-others) i glywed am y diddordeb cenedlaethol yn y ddeiseb hon. Cyflwynwyd y ddeiseb i 10 Stryd Downing ar 3 Hydref 2018. \n\n","state":"completed","signature_count":1947,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-01-04T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:47:25.434Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-01-04T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-05-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-01-04T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-05-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-05-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:47:25.433Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1471,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1471.json"},"attributes":{"action":"Rhaid cau’r drws yn glep ar wastraffu ynni","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i annog pob archfarchnad a manwerthwr i osod drysau ar eu holl oergelloedd a rhewgelloedd, i leihau ein hôl troed carbon cenedlaethol, i leihau'r defnydd o drydan ac i baratoi ar gyfer Cymru fwy gwyrdd.  \n  \nMae Supervalu, manwerthwr o Iwerddon, yn amcangyfrif y byddai oergell gyffredin 2.5 metr o gyfaint, ag iddi ddrysau, yn arbed 10,000kWh y flwyddyn yn arferol, o'i gymharu ag oergelloedd nad oes ganddynt ddrysau [1].  \n  \nMae hyn yn cyfateb i 7 tunnell o nwy tŷ gwydr carbon deuocsid, a fyddai'n ddigon i bweru o leiaf ddau gartref â thrydan am flwyddyn! Byddai'r pŵer a arbedir o un oergell sydd â drysau yn ddigon i bweru dau gartref! [2]  \n  \nMae Deddf yr Amgylchedd (Cymru), a ddaeth i rym ym mis Mawrth 2016 [3] (Rhan 2: Newid yn yr Hinsawdd) yn rhoi \"pwerau i Weinidogion Cymru bennu targedau statudol o ran lleihau allyriadau, gan gynnwys o leiaf 80% o ostyngiad mewn allyriadau erbyn 2050, ac i gyflwyno cyllidebau carbon er mwyn helpu i gyrraedd y targedau hynny.  Mae hyn yn hanfodol yng nghyd-destun ein hymrwymiadau Prydeinig ac Ewropeaidd ac yn gosod llwybr clir ar gyfer datgarboneiddio. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd ac eglurder i fusnesau a buddsoddwyr.\"  \n  \nMae hwn yn gyfle gwych i Lywodraeth Cymru weithio tuag at y nod hwn a chyfrannu at y gostyngiad o 80 y cant mewn allyriadau erbyn 2050. Gallai'r Ddeddf hon arwain at ganlyniadau enfawr yn genedlaethol ac yn fyd-eang! Beth am i Gymru fod yn wlad flaenllaw ar y llwyfan rhyngwladol, gydag amgylchedd \"iach a chydnerth\" [3] drwy gau'r drws yn glep ar wastraffu ynni, a hynny ar gyfer y genhedlaeth hon a'r genhedlaeth nesaf!\n\n","additional_details":"Dywed yr Asiantaeth Ymchwilio Amgylcheddol mewn adroddiad 'iasol' [4], pe bai manwerthwyr yn rhoi drysau ar oergelloedd, byddent yn lleihau eu defnydd o ynni gan gymaint â 33 y cant, a byddai bil ynni'r DU 1 y cant yn llai pe bai'r pum brif archfarchnad yn gosod drysau ar eu hoergelloedd.\n\nMae clymblaid o gyrff anllywodraethol Ewropeaidd wedi cyfeirio at adroddiad, y gofynnodd y Comisiwn Ewropeaidd amdano, sy'n datgan y byddai hyd at 58TWh o bŵer yn cael ei arbed erbyn 2030 ledled Ewrop pe bai archfarchnadoedd a manwerthwyr yn rhoi drysau ar eu hoergelloedd a'u rhewgelloedd. Mae hyn yn cyfateb i 25 safle pŵer glo o faint canolig. Fe wnaethant ddweud hefyd:\" the step to install doors on supermarket fridges and freezers is a no-brainer. Retailers will benefit from lower energy bills, a more climate conscious image, and ultimately, happier consumers. It's a win-win for everyone, especially for the environment. Because of climate change, we simply can't afford to be so careless with energy any longer.\" [5]\n\n[1] Tîm Gofal Cwsmer, Adran Cyfathrebu, SuperValu. Dydd Iau 7 Medi 2017. Mae SuperValu, y manwerthwr o Iwerddon, yn dyfynnu'r ffigurau hyn yn uniongyrchol gan wneuthurwr ei oergelloedd.\n\n[2] Swyddfa Marchnadoedd Nwy a Thrydan Ofgem. _Gwerthoedd Defnydd Domestig Arferol._ Ar gael o: https://www.ofgem.gov.uk/gas/retail-market/monitoring-data-and-statistics/typical-domestic-consumption-values [Mynediad: dydd Gwener 11 Ionawr 2019]\n\n[3] Llywodraeth Cymru. Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 http://gov.wales/topics/environmentcountryside/consmanagement/natural-resources-management/environment-act/?skip=1&lang=cy  [Mynediad: dydd Gwener 11 Ionawr 2019]\n\n[4] Yr Asiantaeth Ymchwilio Amgylcheddol, _Chilling Facts VI: Closing the door on HFCs_. 2014; tudalen 14. Ar gael o: https://eia-international.org/report/the-chilling-facts-vi-closing-the-door-on-hfcs/ [Mynediad: dydd Gwener 11 Ionawr 2019].\n\n[5] Coolproducts, _Pam nad oes gan oergelloedd archfarchnadoedd ddrysau?_ Ar gael o: https://www.coolproducts.eu/news/why-dont-supermarket-fridges-have-doors [Mynediad - dydd Sadwrn 12 Ionawr 2019]\n\n","state":"completed","signature_count":91,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:47:41.544Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-05-11T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-11-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-05-11T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-05-11T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:47:41.544Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1509,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1509.json"},"attributes":{"action":"Cynllun gwisgoedd ysgol ail-law i blant","background":"​Hoffem ni, plant Ysgol Gynradd Monnow yng Nghasnewydd, weld cynllun gwisgoedd ysgol ail-law yn cael ei sefydlu ym mhob dinas yng Nghymru. Dylai'r cynllun ddarparu gwisgoedd ysgol, esgidiau ac esgidiau rhedeg ar gyfer pob oedran. Byddai hyn yn sicrhau bod pob gan bob plentyn fynediad at wisgoedd ysgol fforddiadwy. Dylai teuluoedd sy'n cael prydau ysgol am ddim gael blaenoriaeth.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":54,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-04-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:47:33.877Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-04-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-05-10T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-03-10T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-04-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-05-10T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-05-10T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:47:33.876Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1473,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1473.json"},"attributes":{"action":"Amddiffyn rhywogaethau rhestredig Coch ac Amber yng Nghymru","background":"​Yn ddiweddar, mae wedi dod i'n sylw bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn rhoi trwyddedau i ganiatáu lladd rhywogaethau sy'n ymddangos ar restrau Coch ac Amber yr RSPB yng Nghymru, a hynny ar sail braidd yn annilys o bryd i'w gilydd, fel \"diogelu bwyd gwartheg\" a \"diogelu'r awyr\". Mae dulliau eraill yn bodoli i wasgaru adar heb fod angen eu lladd.  \n   \nMae pob rhywogaeth sydd wedi'u rhestru'n Goch mewn perygl difrifol o ddifodiant yng Nghymru, felly mae angen gwella lefel yr amddiffyniad er mwyn atal rhagor o ddirywiad i'n bioamrywiaeth naturiol.  \n   \nMae gan reolwyr Cyfoeth Naturiol Cymru safbwynt anthropocentrig o ran yr amgylchedd naturiol, ac felly nid ydynt yn addas i'r diben pan fo mater yn ymwneud ag amddiffyn yr amgylchedd a bioamrywiaeth.  \n   \nRydym ni, drwy lofnodi isod, yn dadlau nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn llwyddo i amddiffyn yr amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth yng Nghymru.  \n   \nRydym yn mynnu y dylai hawl Cyfoeth Naturiol Cymru (neu unrhyw gorff arall) i roi trwyddedau i ganiatáu lladd unrhyw rywogaethau Coch neu Amber rhestredig gael ei dynnu'n ôl ar unwaith, a bod angen i'r rheolwyr ystyried safbwynt llai anthropocentrig mewn perthynas â'r holl faterion sy'n ymwneud â'r amgylchedd a bioamrywiaeth.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":173,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:44:16.085Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-04-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-04-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-04-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:44:16.084Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1474,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1474.json"},"attributes":{"action":"Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:  \n   \n1. Ddatgan Argyfwng Hinsawdd.   \n2.  Sicrhau bod yr holl bolisïau presennol ac yn y dyfodol yn gyson â'r ymgyrch i osgoi newid pellach yn yr hinsawdd a chwymp ecolegol.  \n 3. Deddfu mesurau polisi cyfreithiol i leihau allyriadau carbon i net sero erbyn 2025 a lleihau lefelau defnydd.  \n 4. Gweithredu Cynulliad Dinasyddion Cymru i oruchwylio'r newidiadau.  \n   \nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ar unwaith, ac ymrwymo i weithredu'r camau sy'n weddill erbyn mis Mehefin 2019.  \n   \nRhaid i dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus di-garbon gael eu defnyddio fel catalydd i sbarduno datgarboneiddio cyflym yn y sector preifat drwy gaffael, trethi a chymhorthdal. Ledled y DU, mae ugain cyngor dinas, tref a sir eisoes wedi datgan Argyfwng Hinsawdd, gan gynnwys Powys a Machynlleth. Rhaid i ddinasyddion fod yn rhan er mwyn sicrhau bod y newid angenrheidiol yn cael ei wneud ar draws gymdeithas, fel y dangoswyd ym model Sortition o ddemocratiaeth gyfranogol. Ymhlith y mentrau y gellir creu partneriaeth â nhw mae: The Climate Mobilization; Beyond Zero Emissions; Rapid Transition Alliance; Green New Deal Group; One Million Climate Jobs; The Breakthrough Institute; a Zero Carbon Britain.\n\n","additional_details":"​Mae Panel Rhynglywodraethol y Cenhedloedd Unedig ar Newid Hinsawdd wedi rhybuddio bod gennym 12 mlynedd i wneud y newidiadau angenrheidiol i gyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd byd-eang o 1.5ºC. Bydd methiant i weithredu yn golygu cynnydd sylweddol a chyflymach yn lefelau'r môr a llifogydd, newidiadau eithafol a sydyn i batrymau tywydd, methiant cnwd, a rhywogaethau o blanhigion, pryfed ac anifeiliaid yn darfod. Yn anochel, bydd hyn yn arwain at amharu economaidd byd-eang ac argyfwng dyngarol. Bydd hefyd yn effeithio'n andwyol ar les pobl Cymru a biliynau o bobl eraill. Y llynedd, dywedodd Syr David Attenborough:  \n   \n\"Ar hyn o bryd, rydym yn wynebu argyfwng a wnaed gan ddyn ar raddfa fyd-eang. Ein bygythiad mwyaf mewn miloedd o flynyddoedd. Newid hinsawdd. Os na fyddwn ni'n gweithredu, mae cwymp gwareiddiad a thranc llawer o'n byd naturiol ar y gorwel. Mae pobl y byd wedi siarad. Mae'r neges yn glir. Mae amser yn rhedeg allan.\"  \n   \nMae polisi Datblygu Un Blaned a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn dangos y gall Cymru arwain y ffordd mewn polisi blaengar. Ond nid ydynt yn ysgogi'r llywodraeth i weithredu yn unol â difrifoldeb y sefyllfa. Mae'r consensws gwyddonol yn dangos y raddfa heb ei debyg o weithredu ar y cyd sydd ei angen er mwyn osgoi'r canlyniadau gwaethaf yn y dyfodol agos. Ni allwn ofyn am ddim llai.   \nMae pobl ledled y byd yn cael eu hysbrydoli gan fudiad Extinction Rebellion i annog llywodraethau ar bob lefel i wynebu'r her yn sgil newid hinsawdd a chwymp ecolegol. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn ein barnu ar ein dewrder i wneud y newid yr ydym yn gwybod sydd ei angen ar frys. Gweithredwch nawr.\n\n","state":"completed","signature_count":6148,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-14T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-04T13:04:42.123Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-14T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-04-23T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-14T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-04-23T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-04-23T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2019-04-23T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":"2019-06-19","debate_outcome_at":"2019-06-19T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-04-13T08:36:44.268Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2019-06-19","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/5667#A51756","video_url":"http://www.senedd.tv/Meeting/Archive/c36fbd6a-d3b8-40dd-9567-ac1bef6caa84?autostart=True#","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 19 Mehefin 2019."},"topics":[{"code":"yr-amgylchedd","name":"Yr Amgylchedd"}]}},{"type":"petition","id":1467,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1467.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru","background":"​Rydym yn galw ar Cynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd gwerthu nwyddau sydd wedi eu pecynnu mewn plastig untro ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.   \n  \nFel y nodir gan Lywodraeth Cymru: \"Gwaith Trafnidiaeth Cymru yw gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o rwydwaith trafnidiaeth diogel, integredig, fforddiadwy a hygyrch o safon uchel y mae pobl Cymru’n ymfalchïo ynddo.\"  \n  \nCredwn y byddai gwahardd gwerthu plastig untro, sy’n niweidio ein hamgylchedd naturiol, yn gam sylweddol o ran cyflawni’r nod hwn a dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau dyfodol tecach a diogelach i ddinasyddion Cymru.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":125,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-05T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:44:05.853Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-05T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-03-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-09-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-05T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-03-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-03-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:44:05.852Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1482,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1482.json"},"attributes":{"action":"Capio Codiadau Treth Gyngor yng Nghymru","background":"​Mae Cyngor Conwy yn ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11 y cant yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yn y flwyddyn i ddod. Mae cynghorau eraill yng Nghymru hefyd yn cyflwyno codiadau treth gyngor y tu hwnt i gyfradd chwyddiant. \n\nGalwaf ar i'r Cynulliad gapio codiadau yn y dreth gyngor i gyfradd chwyddiant am ddwy flynedd. Wrth i gyfraddau dlodi plant a dyledion cartrefi gynyddu, bydd y codiadau aruthrol yn y dreth gyngor yn cael effaith andwyol ar gartrefi.\n\n","additional_details":"​Mae Cyngor Conwy wedi codi'r dreth gyngor 5 y cant o'r naill flwyddyn i'r llall, ond eleni mae'n ceisio cyflwyno codiad anhygoel o 11 y cant.  \n   \nMae gormod o gartrefi incwm isel eisoes mewn trafferthion; byddai codiad gwarthus o'r fath yn ergyd drom.  \n   \nRydym yn talu MWY ac yn cael LLAI a LLAI o ran gwasanaethau.  \n   \nYr un yw'r stori ledled Cymru.   \n  \nByddai capio codiadau treth gyngor i gyfradd chwyddiant am ddwy flynedd yng Nghymru yn fodd i deuluoedd dan bwysau gael eu gwynt atynt.\n\n","state":"completed","signature_count":55,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:43:07.687Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-03-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-07-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-03-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-03-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:43:07.686Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1412,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1412.json"},"attributes":{"action":"Gwersi Cymraeg am ddim i bobl Cymru","background":"​Pan oeddwn yn iau, cefais fy amddifadu o'r hawl i astudio fy iaith frodorol yn yr ysgol ac, oherwydd hynny, nid wy'n siarad fy iaith frodorol heddiw. Rwyf i, a chynifer o bobl eraill o'm cenhedlaeth, a hyd yn oed y genhedlaeth iau, yn cael eu hamddifadu o'r modd i siarad Cymraeg oherwydd nad oedd addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn llwyddiannus gyda hwy yn y gorffennol. Dyna pam rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud iawn am gamweddau'r gorffennol, a dangos gwir arweinyddiaeth i ymladd dros fy hawl i ddysgu fy iaith fy hun drwy ddarparu dosbarthiadau ac adnoddau Cymraeg am ddim. Rydym yn gofyn i Weinidog y Gymraeg gefnogi'r cynnig hwn ac ariannu'r dosbarthiadau fel y caf i, a llawer o bobl eraill a gafodd eu hamddifadu o'r iaith, y cyfle i'w siarad unwaith eto. Byddai hyn yn cyd-fynd yn llwyr â chynllun Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei nod, sef Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, a byddai'n rhoi sbardun i bobl ail-afael yn eu diwylliant a'u mamiaith unwaith eto. Gofynnwn i'r Llywodraeth weithio gydag asiantaethau gwahanol i ddarparu'r gwersi hyn i bobl mewn ardaloedd gwahanol a thrwy drefnu i'r gwasanaethau dysgu fod ar gael i bobl ar y we. Hefyd i ddarparu llyfrynnau a phapurau i bobl wahanol o gefndiroedd gwahanol yng Nghymru er mwyn cael cyfle i ddysgu'r iaith.  \n   \nA fyddech cystal â sicrhau hyn i bobl Cymru sy'n awyddus i adennill eu diwylliant a'u hiaith frodorol?\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":95,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-10-19T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:39:22.943Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-10-19T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-03-29T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-10-19T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-03-29T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-03-29T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:26:44.124Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1483,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1483.json"},"attributes":{"action":"Trefnu bod cyfleusterau newid cewynnau ar gael mewn toiledau i ddynion a thoiledau i fenywod","background":"​Yng Nghymru, mae llawer o fusnesau, ysbytai a pharciau/safleoedd a gynhelir gan gynghorau lle nad oes cyfleusterau newid cewynnau ar gael i ddynion a menywod eu defnyddio. Fel arfer, dim ond mewn toiledau i fenywod y mae'r cyfleusterau ar gael.  \n   \nOherwydd hyn, mae dynion yn aml yn gorfod mynd i chwilio am gyfleusterau y cânt eu defnyddio neu, ar lawer o achlysuron, ddefnyddio mesurau dros dro fel newid cewyn ar y llawr, ar ben caead bin ag olwynion mewn toiledau, cydbwyso'r plentyn ar eu côl ac ar fainc yn yr awyr agored.  \n   \nGofynnwn i'r Cynulliad sicrhau bod pob gwaith adnewyddu yn y dyfodol ac adeilad newydd mewn mannau sy'n agored i'r cyhoedd â man diogel a glân i newid cewynnau a galluogi plant bach i fynd i'r toiled yn ddiogel ac, fel mesur tymor byr, drefnu bod cyfleuster newid cewynnau ar ffurf bwrdd neu uned gollwng-i-lawr ar gael.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":125,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:43:32.702Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-03-25T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-03-25T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-03-25T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:43:32.701Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1470,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1470.json"},"attributes":{"action":"Gadewch i ni Sicrhau y Caiff Calon Pob Person Ifanc (10-35 oed) ei Sgrinio","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru gyflwyno rhaglen sgrinio calonnau i bob person ifanc rhwng 10 a 35 oed yng Nghymru. Mae cannoedd yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o gyflwr calon heb ddiagnosis a bydd prawf ECG syml yn nodi'r rhan fwyaf o abnormaleddau'r galon fel y gellir rheoli cyflyrau'n effeithiol.\n\nMae sesiynau sgrinio calonnau'n cynnwys prawf byr, 5-10 munud, sy'n gyflym ac yn ddi-boen ac yn gallu canfod y rhan fwyaf o annormaleddau'r galon a gallai achub cannoedd o fywydau yng Nghymru. Yn rhanbarth Veneto yn yr Eidal, lle mae'r rhaglen sgrinio calonnau wedi'i chynnal ers 25 mlynedd, gostyngodd nifer yr athletwyr (dynion a menywod) a oedd yn marw'n sydyn o ataliad y galon o un mewn 28,000 bob blwyddyn i un mewn 250,000, yn ôl astudiaeth yn 2006 a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn y Gymdeithas Feddygol Americanaidd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":3444,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:43:15.450Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-03-22T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-03-22T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-03-22T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:43:15.449Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1486,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1486.json"},"attributes":{"action":"Dylid diogelu cyllid ysgolion neu gyfaddef bod y gwasanaeth a ddarperir yn gwanhau","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ysgolion ac, os na all wneud hynny, i gydnabod effaith toriadau ar ddarpariaeth addysgol, yn enwedig ar gyfer y dysgwyr sydd fwyaf agored i niwed.   \n  \nWrth i gyllidebau cynghorau barhau i gael eu cwtogi, ac wrth i'r toriadau hyn gael eu trosglwyddo i ysgolion, gofynnir i gyrff llywodraethu wneud penderfyniadau amhosibl ynghylch pa wasanaethau addysgol hanfodol y dylai ein hysgolion gael gwared arnynt.   \n  \nBydd hyn yn golygu llai o ddarpariaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol, llai o gefnogaeth i ddysgwyr sy'n agored i niwed, llai o ddewis o ran y cwricwlwm, adnoddau dysgu annigonol ac adeiladau adfeiliedig.   \n  \nNid dyma'r sylfeini y gall ysgolion adeiladu arnynt i greu a gweithredu cwricwlwm addysgol o'r radd flaenaf. \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":5784,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-03-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:41:48.141Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-03-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-03-13T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-11-05T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-03-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-03-13T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-03-13T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2019-03-13T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-07T14:39:55.166Z","archived_at":"2021-05-07T07:41:48.140Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yng ngoleuni'r ystyriaeth fanwl a roddwyd yn ddiweddar i gyllid ysgolion gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a phenderfyniad y Gweinidog Addysg i gomisiynu adolygiad i'r pwnc hwn.\r\n\r\nCynhaliwyd dadl lawn ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 23 Hydref 2019: https://cofnod.senedd.cymru/Plenary/5854#A53927"},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1406,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1406.json"},"attributes":{"action":"Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau Sioc Dŵr Oer i'w haddysgu ym mhob Ysgol yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnwys Diogelwch Dŵr/Atal Boddi ac effeithiau sioc dŵr oer i'w haddysgu drwy'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru.\n\nYn 2016, gwelsom lansiad y strategaeth diogelwch dŵr gyntaf erioed yn y DU, sy'n anelu at leihau 50% o farwolaethau sy'n gysylltiedig â dŵr erbyn 2026. Mae'n canolbwyntio'n bennaf ar gydweithio, ymwybyddiaeth, addysg ac atal. Mae angen i Gymru ymateb i'w chefnogi.\n\nMae teuluoedd Cameron Comey, Luke Somerfield, Kieran Bennett-Leefe, Robert Mansfield a Jem Pendragon oll yn cefnogi'r ddeiseb hon er cof am eu meibion a gollwyd mewn dŵr.\n\n","additional_details":"Mae cannoedd o oedolion a phlant yn boddi'n ddamweiniol bob blwyddyn yn y DU ac Iwerddon, ac mae Cymru, gyda'i hafonydd a'i llynnoedd niferus a'i harfordir gwyllt yn dioddef hefyd. Mae addysg ac atal yn allweddol i ddiogelu ein cymunedau rhag achosion diangen o foddi.\n\nMae'r ddeiseb hon hefyd yn canolbwyntio ar ddigwyddiadau iach ac addysgedig ar lawer o'n dyfrffyrdd agored yng Nghymru drwy hyrwyddo digwyddiadau yn genedlaethol ac yn lleol, lle gall pobl ifanc a'r cyhoedd gael mynediad at ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu er mwyn cymryd rhan mewn digwyddiadau cymdeithasol, gweithgar a diogel gyda chlybiau/sefydliadau sy'n ymwneud â gweithgareddau dŵr.\n\nRydym hefyd yn cydnabod bod toriadau gan awdurdodau lleol i hygyrchedd nofio i bob disgybl (drwy bwysau llywodraeth ganolog) a Bagloriaeth Cymru newydd ar ddiogelwch dŵr yn fwlch rhy eang i sicrhau neges addysgol gyson i bawb. Mae gan Gymru dair strategaeth fras (Ein Dyfodol Iach, Adeiladu Dyfodol Mwy Disglair a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol) sydd â chysylltiadau ag atal anafiadau, ac felly lleihau boddi.\n\nCefnogir y ddeiseb hon gan lawer o bartneriaid gan gynnwys: pum teulu i ddynion ifanc a foddodd yng ngorllewin Cymru, Bad Achub Glan-y-fferi, Jonathan Edwards AS, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Rebecca Ramsey (ymgyrchydd dros addysg diogelwch dŵr yn Lloegr), Grŵp Diogelwch Dŵr Cymru Gyfan, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Simon Hart AS, Cyngor Tref Caerfyrddin, y Gymdeithas Cyryclau a Physgotwyr Rhwydi, Clwb Canŵio Padlwyr Cwm Gwendraeth, Gorsaf Heddlu Rhydaman, Clwb Cychod Caerfyrddin, Tîm Achub Mynydd Aberhonddu, Gwylwyr y Glannau Llansteffan, Angela Burns AC, Fferïau Bae Caerfyrddin, Canolfan Ganŵio Padlwyr Llandysul, i enwi rhai.\n\n","state":"completed","signature_count":896,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-10-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:42:54.001Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-10-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-03-12T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-11-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-10-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-03-12T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-03-12T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:42:54.001Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1476,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1476.json"},"attributes":{"action":"Gwneud Murlun ‘Cofiwch Dryweryn' yn dirnod Cymreig dynodedig","background":"​Mae'n wirion bod tirnod mor bwysig yn Hanes Cymru'r 20fed Ganrif yn cael ei fandaleiddio, tra bod gwaith diweddar gan Banksy yn cael ei ddiogelu.  \n   \nMae'n amser i'r tirnod hwn gael statws safle gwarchodedig swyddogol yng Nghymru.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1016,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:41:25.553Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-03-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-11-05T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-03-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-03-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:41:25.552Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1399,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1399.json"},"attributes":{"action":"Dylid gwarantu bod dewisiadau sy’n seiliedig yn llwyr ar blanhigion ar bob bwydlen y sector cyhoeddus, i ddiogelu hawliau figaniaid ac er budd ein hiechyd, yr amgylchedd ac anifeiliaid","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod holl sefydliadau'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn darparu o leiaf un opsiwn bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion ar bob bwydlen ddyddiol i fodloni hawliau figaniaid ac i wneud y mwyaf o fanteision moesegol, manteision amgylcheddol a manteision iechyd deietau figan.\n\nMae rhagor o bobl o bob oedran yn gwneud y penderfyniad i fyw'n figan, ac mae nifer y bobl yn y DU sy'n figaniaid wed dyblu ddwywaith yn y pedair blynedd diwethaf. Mae rhagor o bobl hefyd yn dewis bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion am resymau iechyd, rhesymau amgylcheddol a rhesymau moesegol.\n\nMae gan figaniaid yr un amddiffyniadau cyfreithiol â phobl â chredoau crefyddol, oherwydd mae ein hargyhoeddiad moesegol ei bod yn anghywir i ddefnyddio a lladd anifeiliaid nad ydynt yn ddynol yn ddiangen wedi'i ddiogelu'n gyfreithiol. Mae gan ddarparwyr gwasanaethau rwymedigaeth i ddarparu ar gyfer figaniaid ac i osgoi unrhyw wahaniaethu ar sail figaniaeth. Yn anffodus, er gwaethaf hyn, yn aml mae diffyg darpariaeth ar gyfer figaniaid yn y sector cyhoeddus, ac mae cleifion mewn ysbytai, carcharorion a phlant ysgol yn aml yn llwglyd. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am sicrhau bod y sector cyhoeddus yng Nghymru yn darparu ar gyfer figaniaid, a byddai'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn cynorthwyo i gyflawni'r ddyletswydd honno.\n\nGall pawb fwynhau bwyd sy'n seiliedig ar blanhigion. Mae Cymdeithas Ddeieteg Prydain yn cydnabod bod deietau planhigion sydd wedi'u cynllunio'n dda yn addas ar gyfer pob oedran a phob cyfnod bywyd. Mae gwaith ymchwil sylweddol wedi cysylltu deietau planhigion â phwysedd gwaed is, lefel colesterol is, cyfraddau is o glefyd y galon, diabetes math 2 a rhai mathau o ganser.  \nMae deiet sy'n seiliedig ar blanhigion yn well ar gyfer yr amgylchedd a gall leihau ein hallyriadau carbon sy'n gysylltiedig â bwyd hyd at 50 y cant. Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi annog newid byd-eang tuag at ddeiet heb ddim cig a llaeth er lles ein planed, ac mae gan Gymru y cyfle i arwain y ffordd.\n\n","additional_details":"​Diffinnir figaniaeth fel ffordd o fyw sy’n ceisio gwahardd, cyn belled ag y bo’n bosibl ac yn ymarferol, pob math o fanteisio ar anifeiliaid, a chreulondeb tuag atynt, ar gyfer cael bwyd, dillad nac i unrhyw bwrpas arall.\n\nMae ymgyrch ‘Arlwyo i Bawb’ y Gymdeithas Figan wedi bod yn annog sefydliadau’r sector cyhoeddus (ysgolion, ysbytai, cynghorau a charchardai), i gynyddu eu dewisiadau o ran planhigion. Cafodd yr ymgyrch dderbyniad da, ac mae llawer o sefydliadau’r sector cyhoeddus yn cydnabod y gellir gwneud gwelliannau, ac maent wedi cytuno i gynyddu’r ddarpariaeth o ran llysiau. Mae cyngor sir yn Lloegr, prifysgolion ym Manceinion a Llundain, a bwrdd iechyd yng Nghymru ymhlith nifer o sefydliadau’r sector cyhoeddus sy’n gwneud newidiadau cadarnhaol i’w bwydlenni oherwydd yr ymgyrch hon.\n\nMae Cymdeithas Ddeieteg Prydain ac Academi Maetheg a Deieteg America yn cydnabod bod deietau planhigion yn addas ar gyfer pob oedran a phob cyfnod bywyd. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar ddeiet planhigion, dylai gynnwys digon o rawn cyflawn, ffrwythau, cnau, hadau a llysiau, sy’n llawn ffibr, fitaminau a mwynau buddiol. Mae’n hawdd cynnig opsiynau blasus sy’n cynnwys y bwydydd hyn, sy’n gyfoethog mewn ffibr ac yn isel mewn braster gorlawn. Mae gan y Gymdeithas Figan lawer o adnoddau a ryseitiau ar eu gwefan, a all helpu sefydliadau i sicrhau eu bod yn cynnig bwyd planhigion iach, cytbwys a blasus.  \nhttps://www.vegansociety.com/resources/nutrition-and-health\n\nMae Portiwgal wedi cyflwyno deddfwriaeth sy’n ysgogi holl ffreuturau’r sector cyhoeddus i ddarparu opsiwn llysieuol (figan) llym ar eu bwydlenni dyddiol. Deilliodd y ddeddfwriaeth hon yn sgîl ymgyrch a deiseb a hyrwyddwyd gan Gymdeithas Llysieuol Portiwgal, gweler: https://www.vegansociety.com/whats-new/news/new-law-makes-vegan-option-compulsory-portuguese-public-canteens-%E2%80%93-britain-next\n\n","state":"completed","signature_count":1109,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-09-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:42:41.434Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-09-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-02-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-08T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-09-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-02-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-02-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:42:41.433Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1318,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1318.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd y defnydd o 'Bensaernïaeth Elyniaethus'","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd y defnydd o “Bensaernïaeth Elyniaethus” gan sefydliadau i atal pobl ddigartref rhag cael lloches ac unrhyw strwythurau stryd eraill sydd wedi’u dylunio i atal neu guddio pobl ddigartref.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":120,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-03-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:41:22.780Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-03-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-02-25T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-10-12T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-03-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-02-25T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-02-25T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:41:22.779Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1353,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1353.json"},"attributes":{"action":"Galwn ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.","background":"​Mae Sefydliad y Merched (WI) Malpas yn galw am ddarparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.   \n  \nSefydlwyd Sefydliad y Merched ym 1915, ac mae’n ymgyrchu dros faterion sy’n bwysig i fenywod a’u cymunedau. Ein nod yw grymuso ac ysbrydoli menywod o bob oed. Credwn na ddylid gorfodi neb i fynd heb gynhyrchion hylendid oherwydd cost y nwyddau hyn.   \n  \nGyda rhagor o fenywod o hyd yn gorfod defnyddio banciau bwyd i gadw eu hunain yn fyw, daeth yn amlwg bod cynhyrchion hylendid yn foethustra na all menywod ar incwm isel eu fforddio.   \n  \nAr draws y DU mae genethod sy’n rhy dlawd i brynu nwyddau hylendid. Maent yn gorfod colli ysgol. Tanseilir eu hurddas.  \n  \nMae anghenion menywod wedi cael eu hesgeuluso am amser rhy faith. Yn wahanol i drafodion eiddo, mae cynhyrchion hylendid yn dal heb eu heithrio rhag TAW. Nid yw’r mislif yn rhywbeth moethus, mae’n rhywbeth anhepgor. Nid yw menywod yn dewis cael mislif.  \n  \nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn arweiniad yr Alban a darparu cynhyrchion hylendid am ddim i bob menyw mewn cartrefi incwm isel.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":141,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-06-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:41:12.135Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-06-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-02-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-06-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-02-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-02-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:41:12.134Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1449,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1449.json"},"attributes":{"action":"Gwneud addysg wleidyddol yn elfen orfodol o'r cwricwlwm cenedlaethol newydd","background":"​Dylai addysg roi'r sgiliau a'r offer i bobl ifanc a fydd yn sicrhau eu bod yn dod yn ddinasyddion gwerthfawr sy'n ymgysylltu â'r wlad.   \n  \nEr gwaethaf y datblygiadau mawr sydd wedi digwydd yn sgil y cyfryngau cymdeithasol a chylchoedd newyddion cyflym, mae pobl ifanc yn aml yn ystyried gwleidyddiaeth yn bwnc tabŵ, gan ei weld fel mater nad ydyw i'w tebyg hwy.   \n  \nRydym yn credu y dylai pobl ifanc adael addysg gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o sefydliadau gwleidyddol yn y Deyrnas Unedig. Argymhellodd adroddiad y Gymdeithas Diwygio Etholiadol y dylid addysgu pedair agwedd allweddol mewn ysgolion – y pleidiau, democratiaeth, rôl sefydliadau ac ymgyrchu.  \n  \nAr hyn o bryd, mae gan Lywodraeth Cymru gyfle unigryw i arwain y ffordd ar y mater hwn gan ei bod wrthi'n datblygu ei chwricwlwm cenedlaethol cyntaf. Fel un o'i bedwar cysyniad allweddol, nod y cwricwlwm newydd yw creu dinasyddion \"moesegol a gwybodus\". Felly mae rheswm yn dweud y dylai addysg wleidyddol fod yn rhan hanfodol o hyn.  \n  \nMae datblygiad y cwricwlwm hwn yn gyfle unigryw i Lywodraeth Cymru chwyldroi'r ffordd y mae'n addysgu ei phobl ifanc, gan greu'r dinasyddion a fydd yn arweinwyr y dyfodol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":117,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-01-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:40:58.570Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-01-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-01-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-01-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-01-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-01-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:40:58.569Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1458,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1458.json"},"attributes":{"action":"Mynd i’r afael â bwlio mewn ysgolion","background":"​Rydym yn credu bod achosion o fwlio mewn ysgolion yn cael eu hanwybyddu’n aml ac nad yw’r mater yn cael ei wynebu mewn gormod o achosion. Mae’n ofynnol i ysgolion fod â pholisi gwrth-fwlio ond, yn rhy aml, datganiad gwaith papur yn unig yw hyn na weithredir arno.  \r\n\r\nRydym am i Gynulliad Cymru greu fframwaith gwrth-fwlio safonol y gellir ei orfodi drwy’r gyfraith. Mae bwlio mewn ysgolion yn aml yn effeithio ar y dioddefwyr ar hyd eu bywydau, felly mae angen newidiadau gan fod y system bresennol yn fethiant.  \r\n\r\nYn aml, nid yw ysgolion yn cofnodi achosion o fwlio o’r fath oherwydd ofn gwneud niwed i’w henw da ac mae’r dioddefwyr sy’n codi llais yn aml yn canfod eu bod eu hunain yn cael eu cosbi, gan wneud mwy fyth o niwed i’w hunan-barch. Rydym yn mynnu y caiff achosion o fwlio eu cofnodi ac y gweithredir arnynt drwy system gofnodi well, teledu cylch cyfyng, adrodd, a chyswllt gorfodol â rhieni\r\n\r\n","additional_details":"","state":"completed","signature_count":1463,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-01-30T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:40:16.062Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-01-30T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-01-17T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-01-30T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-01-17T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-01-17T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:40:16.061Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1437,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1437.json"},"attributes":{"action":"Dylid gwneud Gwersi Sgiliau Bywyd yn Orfodol ar y cwricwlwm","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod gwersi sgiliau bywyd yn orfodol ar y cwricwlwm mewn ysgolion uwchradd drwy Gymru ac y caiff y cynnwys ei adolygu bob blwyddyn gan fwrdd o bobl ifanc etholedig. \n\n","additional_details":"​Byddai cwricwlwm sgiliau bywyd yn cynnwys pynciau fel: cyllid, rhyw a pherthnasoedd, gwleidyddiaeth a sgiliau byw sylfaenol. Mae Erthygl 28 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant yn dweud bod gan blant yr hawl i addysg. Mae'r cwricwlwm cenedlaethol, fodd bynnag, yn methu â darparu'r sgiliau bywyd y mae eu hangen arnom.\n\n","state":"completed","signature_count":286,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-12-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:40:51.198Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-12-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2019-01-07T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-12-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2019-01-07T00:00:00.000Z","referred_at":"2019-01-07T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:40:51.197Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1464,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1464.json"},"attributes":{"action":"Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis - Cymru","background":"​Mae 44,000 o bobl yn y DU yn marw oherwydd sepsis bob blwyddyn. Bob 3.5 eiliad, mae rhywun yn y byd yn marw o sepsis.  \n  \nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymrui gynnal Ymgyrch Ymwybyddiaeth Gyhoeddus Sepsis i leihau marwolaethau diangen a gwella canlyniadau i’r goroeswyr a’r holl bobl y mae’n effeithio arnynt.  \n  \nEr cof am Chloe Christopher a’r holl bobl y mae sepsis wedi effeithio arnynt yng Nghymru\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":238,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2019-02-05T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:36:30.548Z","rejected_at":null,"opened_at":"2019-02-05T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-07-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2019-02-05T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:36:30.548Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1408,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1408.json"},"attributes":{"action":"Rhaid gwahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol yng Nghymru (Cyfraith Lucy)","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob gwerthwr trydydd parti masnachol.   \n  \nMae gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon am elw wedi'i enwi'n 'Gyfraith Lucy' ac fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddar yn Lloegr. Mae cefnogaeth enfawr gan y cyhoedd, y cyfryngau ac ar draws y pleidiau i Gyfraith Lucy, ac rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cyfraith Lucy yng Nghymru fel mater o frys.  \n  \nMae tynnu cŵn bach oddi ar eu mamau i'w gwerthu yn aml yn creu cŵn sâl, trist, wedi'u trawmateiddio, sy'n camweithredu. Dylid gallu gweld cŵn bach gyda'u mam yn y lle y cawsant eu geni. Mae eu cludo i le gwahanol ar gyfer eu gwerthu yn niweidiol o ran eu lles. Nid yw rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan drydydd partïon yn effeithiol i atal niwed iddynt, ac felly mae gwaharddiad yn angenrheidiol er lles cŵn bach.   \n  \nCaiff cŵn bridio a gedwir mewn ffermydd cŵn bach eu cuddio o olwg y cyhoedd ac yn aml maent yn dioddef trawma corfforol a seicolegol am flynyddoedd. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan drydydd partïon yn aneffeithiol o ran atal niwed i gŵn bridio ac mae gwaharddiad ar drydydd partïon ar werthu cŵn felly yn angenrheidiol er eu lles.  \nByddai gwaharddiad ar werthu cŵn bach gan drydydd partïon yn cael effaith gadarnhaol ar gŵn bridio, ac yn sicrhau eu bod yn weladwy, a byddai'n galluogi'r cyhoedd i weithredu ar gyngor arfer gorau i weld ci bach gyda'r fam ble y'i ganwyd.   \n  \nHefyd, ar hyn o bryd mae rhai pobl sy'n ffermio cŵn bach heb drwydded, a smyglwyr cŵn bach, yn defnyddio trydydd partïon trwyddedig i werthu eu cŵn bach, ac mae hyn yn ei gwneud yn bosibl iddynt weithredu heb gael eu dal, a heb i awdurdodau lleol fonitro iechyd a lles cŵn bridio a chŵn bach. Mae rheoleiddio gwerthu cŵn bach yn fasnachol gan drydydd parti yn aneffeithiol wrth atal ffermio cŵn bach yn anghyfreithlon a smyglwyr cŵn bach, ac felly mae angen gwaharddiad ar drydydd partion o ran gwerthu cŵn, i ddiogelu cŵn, cŵn bach a'r cyhoedd, yn ogystal ag i atal gweithgarwch troseddol.\n\n","additional_details":"​Nid oes dim manteision lles o werthu cŵn bach drwy werthwyr masnachol. Mae'r arfer hwn dim ond yn golygu bod cŵn bridio yn cael eu cadw o lygad y cyhoedd. Yn ogystal â phryderon am les anifeiliaid, mae gwerthiant gan drydydd partïon yn creu risgiau ychwanegol i iechyd a diogelwch y cyhoedd.   \n  \nMae gwerthiant cŵn bach yn uniongyrchol gan fridwyr neu ganolfannau achub cŵn adnabyddus yn amddiffyn pob parti, yn sgîl rhagor o dryloywder ac atebolrwydd. Gallai gwaharddiad ar fargeinio am gŵn bach er elw godi safonau iechyd a lles ar gyfer cŵn bridio a chŵn bach, yn ogystal â darparu diogelwch y mae mawr ei angen ar gyfer y cyhoedd.   \n  \nMae gweithredu Cyfraith Lucy yng Nghymru hefyd yn hanfodol i fynd i'r afael â'r difrod a wnaed i enw da Cymru, sy'n parhau i gael ei gydnabod fel canolbwynt o ran ffermio cŵn bach yn y Deyrnas Unedig.\n\n","state":"completed","signature_count":11195,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-10-08T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-13T15:28:16.166Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-10-08T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-09-12T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-10-08T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-13T15:28:16.165Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1417,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1417.json"},"attributes":{"action":"Dylid creu Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i greu Tasglu Cenedlaethol i ymchwilio i ba ffactorau diwylliannol, ffactorau cymdeithasol a ffactorau gwleidyddol a allai fod yn cyfrannu at nifer y plant yng Nghymru sy’n dioddef iechyd meddwl gwael; a bod y Tasglu Cenedlaethol hwn:\n\n1) Yn cynnwys yn ei aelodaeth: plant; cynrychiolwyr o sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant; cynrychiolwyr o bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru; academyddion sy’n ymwneud ag ymchwilio i bolisi cymdeithasol, gwyddoniaeth wleidyddol, diwylliant, cymdeithas ac economeg;\n\n2) Yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd Plant Cymru sydd yn y swydd pan grëir y Tasglu hwn, ac y dylai aros yn Gadeirydd y Tasglu am ei hyd, pe bai’n cytuno i wneud hynny (waeth a yw’n parhau’n Gomisiynydd Plant Cymru am oes y Tasglu ai peidio - ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol);\n\n3)\n\nÂ chyfrifoldeb am lunio adroddiad yn seiliedig ar ei ymchwiliadau sy’n cynnwys argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar ei ganfyddiadau; ac y  \n\n4) Dylai Llywodraeth Cymru, mewn ymgynghoriad â’r Tasglu Cenedlaethol hwn, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a phreswylwyr Cymru (gan gynnwys plant), edrych yn fanwl ar argymhellion yr adroddiad.\n\n","additional_details":"​Menter gymdeithasol sydd newydd ei sefydlu yw’r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl Plant Cyf. Ein hamcan yw cefnogi datblygiad diwylliant cenedlaethol sy’n galluogi plant i gynnal iechyd meddwl ardderchog, drwy helpu sefydliadau sy’n gweithio gyda a / neu ar gyfer plant, i greu’r amgylchedd gorau lle gall iechyd meddwl pob plentyn ffynnu.\n\n","state":"completed","signature_count":91,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-10-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:36:38.785Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-10-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-03-10T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-10-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:36:38.784Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1422,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1422.json"},"attributes":{"action":"Taenellwyr Dŵr i arbed bywydau nid i wneud arian!","background":"​Galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio paragraff 2.6 o Ddogfen Gymeradwy B mewn ffordd sydd yn ei gwneud yn orfodol bod dyluniad, gosodiad a chynnal a chadw systemau preswyl a domestig ar gyfer ataliad tân yn cael ei gynnal gan neb ond pobl sy'n aelodau o gynlluniau ardystio trydydd parti priodol. Bydd hyn yn sicrhau y caiff systemau arbed bywyd o'r fath eu dylunio, eu gosod a'u cynnal a'u cadw'n gywir gan bobl sydd â'r cymwyseddau addas. Yn anffodus, nid felly y mae ar hyn o bryd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":209,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-10-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:36:45.951Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-10-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-09-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-10-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:36:45.950Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1426,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1426.json"},"attributes":{"action":"Dylid Darparu Tai Plant yng Nghymru i Blant sy'n Dioddef Camdriniaeth Rywiol","background":"​Mae'r syniad y tu ôl i dai plant yn seiliedig ar yr arferion gorau a welir yn yr UDA a Sgandinafia. Gan gydnabod bregusrwydd plant sy'n ddioddefwyr, a'r niwed y mae cyfweliadau niferus yn ei achosi iddynt, mae tai plant yn ymateb sy'n ystyriol o blant wrth ymdrin ag achosion lle y cam-driniwyd plentyn yn rhywiol.   \n  \nYn y DU, mae dau dŷ plant yn ninas Llundain, ond nid oes yr un yng Nghymru.   \n  \nNid yw plant yn gwybod at bwy nac i ble y gallent droi, nid ydynt yn gwybod bod cymorth ar gael, ond trwy gynnig Tai Plant ledled y DU, gallwn achub plant.   \n  \nParhau â llochesi i ddioddefwyr trais domestig, ond dylai fod Tai Plant ar gyfer plant sy'n dioddef camdriniaeth rywiol.   \n  \nGwyddom y bydd llawer o blant sy'n cael eu cam-drin yn ceisio dianc rywbryd; byddant am ddod yn rhydd o'u sefyllfa, ond nid oes ganddynt rywle i droi. Cânt eu dychwelyd adref, yn ôl i afael y sawl sy'n eu cam-drin.   \n  \nGallai darparu tŷ diogel sy'n ystyriol o blant agor y ffordd at ddatgelu a diogelu.   \n  \nYng Ngwlad yr Iâ, mae model 'Barnahús' ar waith er 1998, sef lle ar gyfer cynnal cyfweliadau fforensig, gwneud datganiadau llys, cynnal archwiliadau meddygol a chael mynediad at wasanaethau therapiwtig, i gyd o dan un to. Dylem roi hyn ar gael, fel y gwnawn o ran llochesi i ddioddefwyr trais domestig. Ers i Wlad yr Iâ sefydlu'r model Barnahús, mae nifer y plant sy'n gofyn am gymorth ar ôl dioddef camdriniaeth rywiol wedi mwy na dyblu bob blwyddyn, mae nifer y cyhuddiadau wedi treblu, ac mae nifer yr euogfarnau wedi dyblu. Mae hyn yn ddigon o dystiolaeth i ddangos bod y tai hyn yn hanfodol.  \n   \nDylid darparu tai plant, ac ar ben hynny dylid dysgu i blant fod yr opsiynau hyn ar gael.  \n   \nYmunwch â ni yn yr ymgyrch i fynd i'r afael â'r mater hwn, a phwyso ar i Lywodraeth Cymru ddarparu Tŷ Diogel yng Nghymru - ni allwn ddisgwyl i blant fynd i Lundain, hyd yn oed lle maent yn gwybod am fodolaeth tai o'r fath. \n\n","additional_details":"​Mae ar ein plant angen rhywle iddynt fynd iddo, mae angen iddynt fod yn ddiogel, ac mae angen iddynt allu cyrraedd y cymorth cywir i achub y plant hyn rhag oes o ddioddef oherwydd Camdriniaeth Rywiol.  \n   \nLlofnodwch y ddeiseb hon a gwneud i bethau ddechrau symud! \n\n","state":"completed","signature_count":227,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-11-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-13T15:26:56.351Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-11-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2023-07-02T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-11-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-13T15:26:56.349Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1387,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1387.json"},"attributes":{"action":"Adolygiad o ryddhad ardrethi busnesau bach","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach fel bod busnesau sydd â gwerth ardrethol o £10,000 neu lai yn cael disgownt o 100 y cant. At hynny, bod unrhyw fusnesau bach sydd â gwerth ardrethol rhwng £10,000.01 a £20,000 yn cael disgownt/rhyddhad ar system raddedig rhwng 0 a 100 y cant.\n\n","additional_details":"​Ar hyn o bryd nid yw'r system rhyddhad ardrethi busnesau bach ond yn cynnig disgownt o 100 y cant i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £6,000. Ond, yn Lloegr, mae busnesau bach sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 yn cael disgownt o 100 y cant.\n\n","state":"completed","signature_count":1132,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-09-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:25:51.885Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-09-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-06-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-09-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:25:51.884Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1365,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1365.json"},"attributes":{"action":"Gwneud hyfforddiant Anabledd Dysgu yn orfodol ar gyfer staff ysbytai","background":"Paul Ridd oedd ein brawd. Roedd ganddo anableddau dysgu difrifol a bu farw yn Ysbyty Treforys yn 2009. Dywedodd adroddiad yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus fod yr amgylchiadau'n arwain at farwolaeth Paul, sef esgeulustod, diffyg hyfforddiant ac anwybodaeth yn ffactorau cyfrannol a arweiniodd at farwolaeth Paul. Rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod pob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn cael hyfforddiant gorfodol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau iechyd enfawr sy'n wynebu pobl ag awtistiaeth ac anabledd dysgu.\n\nNid yw 1 o bob 4 gweithiwr gofal iechyd proffesiynol erioed wedi cael hyfforddiant ar anabledd dysgu neu awtistiaeth. Mae hyn yn annerbyniol. Hoffai dwy ran o dair gael mwy o hyfforddiant, ac mae 1 o bob 3 yn credu bod diffyg arweinyddiaeth y llywodraeth yn cyfrannu at broblemau marwolaethau y gellir eu hosgoi (ystadegau o'r arolwg a gynhaliwyd gan YouGov ar gyfer Mencap: https://www.mencap.org.uk/press-release/concerns-over-lack-clinical-training-causing-avoidable-learning-disability-deaths).\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":5654,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-07-17T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:24:35.954Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-07-17T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-12-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-12-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-07-17T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-12-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-12-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-12-28T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2019-11-06T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T15:24:35.953Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2019-11-06","transcript_url":"http://cofnod.cynulliad.cymru/Meeting/6040#A54062","video_url":"http://www.senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/SeneddTV.aspx?mg_m_id=6040","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Tachwedd 2019"},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1431,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1431.json"},"attributes":{"action":"Na i gau Cyffordd 41 o gwbl","background":"Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthod unrhyw gynnig i cau cyffordd 41 yr M4. \n\nMae adroddiad gan WSP i Lywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ym mis Medi 2018, sy'n ystyried mesurau ar gyfer lleihau nitrogen deuocsid ar rwydwaith traffyrdd a chefnffyrdd Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cynnig i gau ffordd ymuno orllewinol cyffordd 41 fel modd o leihau allyriadau ochr y ffordd ar yr M4 rhwng cyffordd 41 a chyffordd 42. Yr unig effaith a gaiff hyn fydd cynyddu allyriadau nitrogen deuocsid ar ffyrdd lleol a chael mwy o effaith ar bobl leol, yn enwedig plant.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":473,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-11-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:38:45.642Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-11-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-12-22T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-11-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-12-22T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-12-22T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:38:45.641Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1404,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1404.json"},"attributes":{"action":"Cyflwyno trwydded i reoli tir ar gyfer saethu adar hela mewn ymgais i roi terfyn ar erlid adar ysglyfaethus","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer saethu adar hela er mwyn atal erlid adar ysglyfaethus a gysylltir yn aml â'r gweithgaredd hwn.\r\n\r\nMae adroddiadau trosedd adar yr RSPB yn dangos mai ciperiaid sy'n gyfrifol am nifer eithriadol o uchel o ddigwyddiadau erlid adar ysglyfaethus. Fodd bynnag, er gwaethaf y wybodaeth hon, anaml iawn y caiff trefnwr digwyddiadau erlid ei erlyn yn llwyddiannus oherwydd anawsterau wrth gael digon o dystiolaeth i gyhuddo unigolyn penodol. Hyd yn oed yn yr Alban, lle mae atebolrwydd dirprwyol, prin yw'r erlyniadau.\r\n\r\nOherwydd hyn, credwn mai'r cam gweithredu mwyaf priodol yw cyflwyno cynllun trwyddedu. Dylai'r drwydded hon fod yn drwydded i weithredu digwyddiad saethu adar hela\r\n\r\nDylai'r drwydded wneud y canlynol o leiaf:   \r\n1. Bod yn berthnasol i ardal ddaearyddol a ddiffinnir yn y cais am drwydded. \r\n  \r\n2. Bod yn ofynnol er mwyn i ystâd gynnal unrhyw weithgaredd sy'n gysylltiedig â saethu adar hela, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig o reidrwydd i'r canlynol:   \r\n2.a. Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â magu adar hela.  \r\n2.b. Gweithgareddau sy'n gysylltiedig â rheolaeth gyfreithiol o ysglyfaethwyr (rhaid i ystadau gael trwydded weithredu cyn y cânt wneud cais am drwyddedau cyffredinol neu benodol sy'n gysylltiedig â gweithgareddau rheoli plâu).  \r\n2.c. Caniatáu i aelodau'r digwyddiad saethu gymryd rhan wrth saethu adar hela y tu allan i'r cyfnod gwaharddedig.  \r\n2.d. Caniatáu i drefnwr y digwyddiad saethu werthu diwrnodau saethu i'r cyhoedd.\r\n\r\nOs cynhelir digwyddiad erlid ar dir ystâd neu'n agos ato, bydd modd i'r awdurdod priodol atal gallu'r ystâd i gynnal yr holl weithgareddau neu unrhyw un ohonynt a restrir o dan bwynt 2 am gyfnod.\r\n\r\nDylai digwyddiadau erlid difrifol neu fynych arwain at ddiddymu trwydded weithredu'r ystâd.","additional_details":"","state":"completed","signature_count":119,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-09-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:26:30.848Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-09-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-12-06T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-06-11T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-09-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-12-06T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-12-06T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:26:30.848Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1358,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1358.json"},"attributes":{"action":"Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad.","background":"​Yr ydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith a sicrhau bod sganiau delweddu atseiniol magnetig amlbaramedrig (mpMRI) o ansawdd uchel cyn biopsi ar gael i bob dyn cymwys yng Nghymru lle mae amheuaeth bod arno ganser y prostad. \n\n","additional_details":"​Pam mae angen y ddeiseb hon?  \nGall fod yn anodd gwneud diagnosis ar gyfer canser y prostad. Ers blynyddoedd, mae biopsïau i ddynion wedi bod yn ymyrrol ac yn boenus. Weithiau gallant arwain at heintiau difrifol - ni ddylai dyn gael biopsi oni bai bod rhaid.   \nMae cynnal biopsi cyn cynnal sgan mpMRI yn golygu defnyddio cyfres o nodwyddau i godi samplau o feinwe ar hap o'r prostad, i weld a oes celloedd canseraidd. Y broblem gyda'r technegau hyn yw bod bylchau rhwng y nodwyddau, sy'n golygu bod canserau sylweddol weithiau'n mynd heb eu canfod os nad oes sampl o'r rhan honno o feinwe. Gall biopsi arwain at ganlyniadau positif anghywir, sef diagnosis o ganser nad yw'n arwyddocaol yn glinigol, a gall hyn arwain at or-drin cleifion yn ddiangen.  \n  \nGellir defnyddio sganiau mpMRI ar y cyd â phrofion eraill i gynyddu nifer y canserau prostad ymosodol sy'n cael eu darganfod ynghynt. Profwyd bod cynnal sganiau mpMRI i safon ddigonol hefyd yn lleihau yn ddiogel nifer y dynion a allai gael biopsi yn ddiangen, a hynny drwy gadarnhau nad oes arnynt ganser y prostad yn gynharach yn y broses.  \n  \nBeth yw mpMRI?  \nYstyr mpMRI yw delweddu atseiniol magnetig amlbaramedrig. Mae'n cyfuno hyd at dri math gwahanol o sgan i greu delwedd gliriach o'r hyn sy'n digwydd yn y prostad. Hefyd, mae chwistrelliad lliw yn golygu y gellir gwella delweddau'r sganiau i allu gweld yn gliriach a oes canser yn bresennol ai peidio. Mae hyn yn wahanol i sgan MRI safonol, sy'n creu delwedd o organau mewnol. Yn aml iawn, nid yw delweddau MRI yn ddigon clir i wneud diagnosis o ganser cynnar y prostad gyda sicrwydd.  \n  \nBeth sy'n digwydd yng Nghymru?  \nO'r saith Bwrdd Iechyd sydd yng Nghymru, tri sy'n darparu mpMRI cyn biopsi. Dim ond un bwrdd sy'n defnyddio mpMRI i safon ddigon uchel i allu cadarnhau yn ddiogel nad oes angen biopsi ar ddyn. Mae hyn yn golygu nad oes gan ddynion mewn pedwar Bwrdd Iechyd fynediad at mpMRI fel prawf diagnostig, oni bai eu bod yn talu dros £900 i'w gael yn y sector preifat.  \n  \nMae rhagor o wybodaeth am mpMRI a biopsïau yma: [https://prostatecanceruk.org/prostate-information/prostate-tests/introduction-to-prostate-tests](https://prostatecanceruk.org/prostate-information/prostate-tests/introduction-to-prostate-tests)\n\n","state":"completed","signature_count":6345,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-07-04T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:36:45.453Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-07-04T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-11-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-07-04T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-11-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-11-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-11-30T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":"2019-03-06","debate_outcome_at":"2019-03-06T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-07T12:36:45.452Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2019-03-06","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/5566#A49150","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/5566?startPos=12337&l=cy","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Mawrth 2019."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1432,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1432.json"},"attributes":{"action":"Dileu’r cyfyngiadau amser ar y gilfan i’r dwyrain o Grucywel","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu'r cyfyngiad amser ar y gilfan i'r dwyrain o Grucywel.  Ar hyn o bryd, mae terfyn amser o awr. Dyma'r unig gilfan â'r math hwn o gyfyngiad ar yr A40 yng Nghymru.\n\nPrin y gwelir cerbyd yno gan y byddai mynd i'r dref am gwpanaid o de yn mynd heibio'r terfyn amser.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":209,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-11-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:35:28.067Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-11-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-11-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-10-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-11-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-11-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-11-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T07:35:28.065Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1443,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1443.json"},"attributes":{"action":"Achub Ysbyty Tywysog Philip Llanelli","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i achub ein hysbyty Tywysog Philip, Llanelli.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":12745,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:36:21.007Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-11-06T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-12-31T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-11-06T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-11-06T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-11-06T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2021-04-12T08:30:47.697Z","archived_at":"2021-05-07T12:36:21.006Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Trafododd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu bod dadl yn cael ei chynnal ar y ddeiseb yn y Senedd, a hynny yn sgil y ffaith nad yw’n glir bod unrhyw gynnig ar hyn o bryd i wneud newidiadau sylweddol i'r gwasanaethau a ddarperir yn Ysbyty'r Tywysog Philip."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1410,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1410.json"},"attributes":{"action":"Rhowch gyfle i Fyfyrwyr Cymru ddewis yr opsiwn astudio gorau ar eu cyfer hwy","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr un trefniadau ariannu ar gael i fyfyrwyr ble bynnag mae nhw'n dewis astudio, a bod yr opsiynau ariannu hefyd ar gael i fyfyrwyr sydd eisoes wedi dechrau ar eu hastudiaethau.   \n  \nAr hyn o bryd mae gan fyfyrwyr y dewis i astudio yn y DU ac Iwerddon ac mae rhywfaint o opsiynau astudio yn Ewrop ar gael, ond pam na allant astudio ar gyfer gradd gydnabyddedig ledled y byd os yw'r rhaglen y maent yn ei dewis yr un mwyaf addas i'w hamcanion gyrfa cyffredinol.  \n  \nYn 2017, derbyniwyd Georgia Ellis ar y cwrs Doethuriaeth mewn Ffisiotherapi ym Mhrifysgol Quinnipiac yn yr Unol Daleithiau. Mae'r radd bagloriaeth yn radd y celfyddydau breiniol sy'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau safonol, gan gynnwys siarad cyhoeddus, ac fel rhan o'r broses o ennill ei gradd israddedig bydd Georgia'n astudio maes arall o'i dewis, sef Astudiaethau Busnes. Er bod y rhain yn fanteision gwych, dewisodd Georgia yr opsiwn astudio hwn gan mai ei huchelgais yw dod yn ffisiotherapydd ar gyfer tîm chwaraeon yn y pen draw, ac oherwydd yr amlygiad i dimau chwaraeon y byddai'n ei gael yng nghanolfan bwrpasol hyfforddiant iechyd y Brifysgol arbennig hon.   \n  \nPam na all myfyrwyr fanteisio ar yr un trefniadau ariannu ag y byddai ganddynt yma yn y DU ar gyfer cyllido opsiynau astudio eraill. Mae stori Georgia yn ddim ond un enghraifft o safon dda myfyrwyr y DU, ond mae llawer mwy.\n\nArwyddwch y ddeiseb hon i gefnogi'r opsiynau sydd ar gael i fyfyrwyr presennol a myfyrwyr y dyfodol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":127,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-10-11T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:26:38.290Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-10-11T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-01-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-10-11T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:26:38.290Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1381,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1381.json"},"attributes":{"action":"Creu ffynhonnau dŵr yng nghanol dinasoedd a threfi er mwyn rhoi diwedd ar wastraff plastig","background":"Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ystyried creu ffynhonnau dŵr a'u rhoi yng nghanol dinasoedd a threfi. Prif ddiben y cam gweithredu hwn fyddai roi diwedd ar wastraff plastig. Gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer y poteli plastig untro yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac oherwydd y broses ailgylchu araf, mae'n llygru'r amgylchedd, gan niweidio bywyd y môr yn arbennig.   \nMae llawer o bobl yn ceisio byw yn iach, gan gynnwys yfed o leiaf 2 litr o ddŵr bob dydd. Felly, mae poteli dŵr amldro wedi dod yn boblogaidd a defnyddiol iawn i helpu pobl i yfed digon o ddŵr drwy'r dydd. Byddai rhoi ffynnon ddŵr yng nghanol dinasoedd neu mewn rhannau eraill o ddinasoedd a threfi (canolfannau siopa, canolfannau chwaraeon, colegau, canolfannau diwylliannol ac ati) yn helpu i sicrhau bod dŵr yfed ar gael trwy'r dydd. Byddai'r ffynhonnau dŵr hyn hefyd yn cyflenwi dŵr yfed i bobl ddigartref.\n\nI gefnogi'r economi leol yng Nghymru, gellid defnyddio cwmnïau dŵr mwynol Cymru ar gyfer cyflenwi'r ffynhonnau dŵr.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":149,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-08-30T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:25:20.738Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-08-30T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-06-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-08-30T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:25:20.737Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1435,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1435.json"},"attributes":{"action":"Amddiffyn Gwastatir Gwent ac atal traffordd arfaethedig yr M4","background":"Rhowch y gorau i'r cynlluniau i adeiladu traffordd yr M4 ar draws harddwch Gwastatir Gwent a buddsoddwch mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.\r\n\r\nPam mae hyn yn bwysig?\r\n\r\nBydd y cynlluniau presennol i ymestyn traffordd yr M4 yn peryglu dyfrgwn, gwenyn prin a blodau gwyllt. Byddai'n torri ar draws fersiwn Cymru o 'Goedwig Law Amazon', Gwastatir Gwent, sy'n hafan i fywyd gwyllt.\r\n\r\nMae angen gwella'r traffig o amgylch Casnewydd, ond byddai'n well i Gymru a'r amgylchedd pe bai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny.\r\n\r\nOs ydym eisiau gwarchod yr amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae angen i ni feddwl am opsiynau amgen yn lle traffyrdd llygredig mawr. Mae rheolydd a chyrff cynghori y Cynulliad ei hun, Cyfoeth Naturiol Cymru, yn gwrthwynebu'r cynlluniau hyn.","additional_details":"","state":"completed","signature_count":12270,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-11-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T07:35:21.929Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-11-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-24T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-06-11T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-11-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-24T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-24T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-10-24T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-07T14:36:16.448Z","archived_at":"2021-05-07T07:35:21.927Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Ystyriodd y Pwyllgor ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru a'r deisebwyr a phenderfynodd beidio â gofyn am ddadl ar y ddeiseb oherwydd bod y mater hwn yn cael ei ystyried yn rheolaidd yn y Cyfarfod Llawn, ac oherwydd y gwaith craffu cynhwysfawr yn sgil yr ymchwiliad cyhoeddus."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1400,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1400.json"},"attributes":{"action":"Mwy o hawliau trydydd parti mewn apeliadau cynllunio","background":"​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth a fyddai’n rhoi mwy o hawliau i drydydd partïon apelio penderfyniadau cynllunio. Ar hyn o bryd, ystyrir bod hyd yn oed y rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol yn drydydd partïon i geisiadau cynllunio a gymeradwyir ac nad oes ganddynt fawr o hawl, os o gwbl, i apelio na hyd yn oed cynnig mewnbwn i amodau cynllunio. Mae’r broses adolygu barnwrol wedi’i hanelu at ddatblygwyr ac nid yw’r terfyn amser o chwe wythnos ar gyfer cyflwyno cais o’r fath yn addas ar gyfer grwpiau gweithredu cymunedol. Dylai fod gan drydydd partïon yr un hawliau â datblygwr i apelio penderfyniadau cynllunio ac ni ddylai fod rhaid iddynt anfon pob cyfathrebiad drwy law’r aelod ward etholedig.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":59,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-09-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:26:08.577Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-09-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-10T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-12-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-09-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-10T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-10T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:26:08.576Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1401,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1401.json"},"attributes":{"action":"Adolygu Cynllun Datblygu Lleol Castell-nedd Port Talbot ar unwaith","background":"​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru drefnu adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol ar gyfer Ardal Castell-nedd Port Talbot, a hynny ar unwaith. Mae angen newidiadau brys er mwyn adolygu'r canllawiau ar gyfer ardaloedd gwledig, yn benodol ynghylch Adfywio Cymoedd Cymru. Fel trigolion lleol, nid ydym yn teimlo bod digon o fesurau ar waith i gadw ein cymunedau rhag datblygiadau masnachol negyddol sy'n effeithio'n ddifrifol iawn ar ardaloedd preswyl. Mae angen newid i orfodi polisïau Teithio Llesol, diogelu anheddau preswyl a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ni ddarparwyd yn ddigonol ar gyfer ein cymuned ym Mlaengwrach yn y Cynllun Datblygu Lleol a gofynnwn i gamau gael eu cymryd yn gynt na'r adolygiad a drefnwyd ar gyfer 2020. Gofynnwn am y cyfle, o leiaf, i allu ychwanegu eithriadau a chanllawiau i'r Cynllun Datblygu Lleol ynghylch datblygiadau sy'n arwain at gryn lawer o draffig, megis gorsafoedd petrol a bwytai min ffordd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":56,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-09-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:26:16.857Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-09-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-10T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-12-11T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-09-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-10T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-10T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:26:16.856Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1402,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1402.json"},"attributes":{"action":"Rhowch Derfyn ar Wrthdaro Buddiant yng Nghyfansoddiad Awdurdodau Lleol","background":"​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru orfodi gwell bolisïau cod ymddygiad i gyflogeion awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd, mae swyddogion awdurdod cynllunio yn cael rhedeg cwmnïau ymgynghori cynllunio preifat a chyflawni eu rolau cyhoeddus ar yr un pryd. Nid oes adnodd ar gael y gellir ei fuddsoddi er mwyn plismona’r cwmnïau preifat hyn, lle y’u datgenir yn y ffurflenni angenrheidiol, er atal twyll a llygredd.   \n  \nA chymryd swyddogion cynllunio fel enghraifft, mae potensial y gallai rhedeg busnesau ymgynghori preifat ‘yn ddistaw bach’ hwyluso llygredd, gan fod llawer o fathau, yn gyffredinol yn ymwneud â chamddefnyddio swydd. Mae angen rhoi terfyn ar yr arfer hwn ar unwaith a rhaid diwygio’r cyfansoddiadau fel na cheir ymddwyn yn y modd hwn mwyach. Rydym yn galw am fwy o atebolrwydd a thryloywder gan ein hawdurdodau lleol, a rhaid pennu safonau ymddygiad mewn swyddogaethau cyhoeddus o’r fath a fyddai’n uwch na rhai’r sector preifat, lle mae hyn yn hynod annerbyniol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":56,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-09-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:26:24.627Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-09-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-10T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-12-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-09-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-10T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-10T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:26:24.626Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1371,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1371.json"},"attributes":{"action":"Rhowch lais i bobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau lleol yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gydnabod y ffaith nad yw'r lefel bresennol o gyfranogiad pobl ifanc yn y broses o gomisiynu gwasanaethau yn caniatáu i grwpiau ymylol gael eu cynnwys yn y broses honno. Rydym yn gofyn am adolygiad o'r polisïau a'r canllawiau sydd ar waith, ynghyd ag argymhelliad bod canllawiau newydd gorfodol ar waith ar gyfer gwasanaethau a gomisiynir ar gyfer pobl ifanc.  \n  \nMae angen i holl bobl ifanc Cymru gael y cyfle i leisio barn a rhannu eu profiadau mewn modd ystyrlon, a hynny at ddibenion llunio'r gwasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi. Rydym yn gofyn i chi gefnogi'r broses o hyrwyddo newidiadau a fydd yn arwain at gyflawni'r nod hwn. Fel pobl ifanc, rhaid inni gael y cyfle i rannu ein syniadau a'n safbwyntiau ynghylch y prosiectau y mae arnom eu hangen yn ein hardaloedd ni. \n\nAr hyn o bryd, dim ond cynghorau/fforymau ieuenctid sy'n destun ymgynghoriadau, ac nid yw'r drefn hon yn cynrychioli'r rheini sy'n ei chael yn anodd bod yn rhan o fforymau o'r fath, fel yr un o bob pump o oedolion ifanc sydd ag anhwylder iechyd meddwl y gellir gwneud diagnosis ohono.   \nMae angen llwyfan ar y bobl ifanc hynny na fyddant, o bosibl, yn gallu cymryd rhan yn y cynlluniau presennol yn sgil eu problemau iechyd meddwl, er mwyn iddynt gael cyfle i leisio barn ar wasanaethau a phrosiectau sy'n effeithio arnynt yn uniongyrchol.  \nRydym yn grŵp o bobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o'r Prosiect Newid Meddyliau, sy'n cael ei gydlynu gan sefydliad Newport Mind. Disgwylir i'r prosiect hwn golli arian ym mis Tachwedd. Yn sgil y sefyllfa hon, rydym wedi bod yn dysgu am y broses gomisiynu, sydd wedi arwain at greu'r ddeiseb hon ac i'n hymgyrch ehangach, sef #changeit.  \nBydd cynnwys pobl ifanc â phroblemau iechyd meddwl yn uniongyrchol y broses gomisiynu yn hwyluso'r broses o deilwra gwasanaethau ac yn gwella hyder y bobl a dargedir gan y gwasanaethau a ddarperir.  \n  \n\"Roedd y cyfle i gyfrannu at y prosiect hwn yn gyfle imi wir ddeall pryderon pobl ifanc a'r problemau y maent yn eu hwynebu. Heb fod y pryderon hyn yn cael eu codi a'u cynnwys wrth lansio unrhyw bolisi sy'n effeithio ar bobl ifanc, bydd unrhyw fenter sy'n effeithio arnynt yn ddiffygiol\".\n\n","additional_details":"​Mae'r ddogfen 'Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru' gan Gomisiynydd Plant Cymru yn fframwaith ar gyfer ymgorffori hawliau plant mewn gwasanaethau sy'n ymwneud â phobl ifanc. Mae'r rhain yn ganllawiau, ac felly nid ydynt yn orfodol. Maent yn seiliedig ar Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC), sy'n amlinellu hawl plant i fod yn rhan o greu a gweithredu polisïau—yn enwedig y rhai sy'n effeithio ar eu demograffig nhw.   \nMae Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2016/2017 (yr Adroddiad) yn tynnu sylw penodol at y ffaith bod y Comisiynydd yn dymuno gweld pobl ifanc yn cael eu hintegreiddio yn y broses gomisiynu i raddau mwy helaeth.   \nMae'r canllawiau cyfredol ar gyfer cyfranogiad pobl ifanc yng Nghymru wedi'u cynnwys yn nogfen 'Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru Arfer Da 2016', ymhlith pethau eraill.  Mae'r saith 'safon graidd' sydd wedi'u nodi yn y canllaw yn gamau cychwynnol ardderchog.   \nO ran y safonau a'r dulliau hyn, er eu bod yn cael eu bodloni'n rhannol mewn rhai awdurdodau yng Nghymru, mae'r ffaith nad ydynt yn orfodol yn golygu nad ydynt yn ddigonol ar gyfer sicrhau atebolrwydd ynghylch yr holl wasanaethau sy'n ymwneud â phobl ifanc.   \nRydym yn ceisio sicrhau bod gan bobl ifanc o grwpiau ymylol lais yn y broses o wneud penderfyniadau, yn ogystal â sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru o safon ragorol a chyson.  \nMae ein deiseb yn cyd-fynd ag Argymhelliad 10 o'r adroddiad 'Cadernid Meddwl', sy'n tynnu sylw at lefelau'r gwasanaethau iechyd meddwl sy'n cael eu darparu i bobl ifanc ar hyn o bryd, ac yn ategu'r gwaith a wneir gan y Rhaglen Law yn Llaw at Blant a Phobl Ifanc.   \nHeb newid y canllawiau presennol, bydd pobl ifanc ledled Cymru yn parhau i gael eu gwthio i'r cyrion. Yn benodol, bydd y rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl neu anghenion ychwanegol, sef y rhai nad ydynt, o bosibl, yn gallu cymryd rhan yn y mentrau cyfranogiad ieuenctid cyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd, yn parhau i'w chael yn anodd lleisio barn.\n\n","state":"completed","signature_count":4252,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-07-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:24:46.612Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-07-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-09T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-07-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-09T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-09T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:24:46.611Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1398,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1398.json"},"attributes":{"action":"Cynnwys cynnig amgen ‘Pont Benidgeidfran’ ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn y broses asesu ffurfiol","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried yn ffurfiol y cynnig amgen ar gyfer trydedd bont dros y Fenai, a gaiff ei hadnabod fel 'Pont Bendigeidfran' (fel y'i disgrifir yn y fideo hwn https://www.youtube.com/watch?v=Ty2q-ctJZKM).\n\n \n\nMae'r cynnig hwn yn cynnig buddion cynyddol o ran cost oes gyfan, ei allu i wella'r tirlun arbennig, buddion o ran traffig (o ran llif traffig a chadernid y rhwydwaith), lleddfu amgylcheddol, hybu twristiaeth, a hyrwyddo diwylliant Cymru. Mae hefyd yn cyd-fynd yn well â'r ddeddfwriaeth gyfredol, er enghraifft Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Ymddengys bod modd cyflawni'r cynnig hwn o safbwynt peirianyddol, a bydd yn ychwanegiad mwy priodol i'r ddwy bont fyd enwog y ceir eioes yn y lleoliad hwn.\n\n \n\nRydym felly'n galw am asesu'r cynnig amgen hwn yn llawn ochr yn ochr â'r opsiynau gwreiddiol a gyflwynwyd yn ymgynghoriad cyhoeddus diweddar Llywodraeth Cymru ynghylch trydedd bont dros y Fenai.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":278,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-09-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:26:00.144Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-09-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-08T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-12-11T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-09-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-08T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-08T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:26:00.143Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1385,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1385.json"},"attributes":{"action":"Dylid troi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru","background":"Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i droi canllawiau Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) ynghylch llygredd aer yn gyfraith yng Nghymru, a chyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru.  \nNid yw'r terfynau cyfreithiol presennol ar gyfer ansawdd aer yng Nghymru yn diogelu iechyd. Mae terfynau'r UE, a ddefnyddir gan Lywodraeth y DU a chan Lywodraeth Cymru, yr un fath â'r terfynau canllaw uchaf a argymhellir gan y WHO ar gyfer nitrogen deuocsid (NO2), ond maent yn llai llym na throthwy'r WHO ar gyfer llygryddion eraill sy'n niweidiol i iechyd megis deunydd gronynnol mân (PM2.5).\n\n \n\nMae Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru yn galw ar i Lywodraeth Cymru droi canllawiau'r WHO yn gyfraith yng Nghymru, a hynny drwy gyflwyno Deddf Aer Glân newydd i Gymru a fyddai'n mynd i'r afael â phrif ffynonellau llygredd aer a sicrhau bod pawb, o'r Llywodraeth a llywodraeth leol i fusnesau a'r cyhoedd, yn cydweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd brys hwn.\n\n","additional_details":"Ymchwil a ariannwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon oedd yr ymchwil gyntaf i brofi bod dod i gysylltiad ag aer o ansawdd gwael yn y tymor byr a'r tymor hir yn gallu achosi problemau cardiofasgwlaidd difrifol a'u gwneud yn waeth. Cadarnhaodd ein hymchwil fod cysylltiad clir rhwng clefyd cardiofasgwlaidd a dod i gysylltiad â gronynnau tra mân PM2.5, a bod anadlu gronynnau mân yn gallu cynyddu'r risg i grwpiau bregus o gael trawiad ar y galon neu strôc o fewn 24 awr.   \n  \nAmcangyfrifodd Iechyd Cyhoeddus Cymru fod llygredd aer ym 2017 yn cyfrannu at 2,000 o farwolaethau cynnar yng Nghymru. Gorchmynnwyd i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â lefelau anghyfreithlon o nitrogen deuocsid, ond nid oes eto gynllun i fynd i'r afael â deunydd gronynnol, ac ychydig iawn o fanylion sydd ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn gwella'r gwaith monitro llygryddion ledled Cymru.  \nByddai Deddf Aer Glân newydd i Gymru yn:  \n- Sicrhau bod cyfraith Cymru yn defnyddio canllawiau'r WHO ar gyfer llygredd aer;  \n- Cyflwyno _ffioedd_ Barthau Aer Glân mewn ardaloedd sy'n torri neu sy'n agos at y terfynau ar gyfer nitrogen deuocsid a deunydd gronynnol, a neilltuo'r arian ar gyfer gwella ansawdd yr aer ymhellach;  \n- Sicrhau bod seilwaith a thechnoleg ar waith fel y gallai mwy o bobl ddefnyddio Cerbydau Allyriadau Tra Isel a thrafnidiaeth gyhoeddus;  \n- Buddsoddi mewn gwell monitro llygredd ledled Cymru, a sicrhau bod gwybodaeth am y risgiau i iechyd ar gael i grwpiau bregus;  \n- Codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith llosgi coed yn y cartref ac o'r camau y gellir eu cymryd i'w lleihau.\n\n","state":"completed","signature_count":150,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:25:30.567Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:25:30.567Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1395,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1395.json"},"attributes":{"action":"Cyllid Teg i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot (CBSCNPT) a phob Awdurdod Lleol arall","background":" \n\n \n\nMae angen i Lywodraeth Cymru fynd drwy ei chyllidebau fesul llinell a chael gwared ar wariant gwastraffus er mwyn sicrhau ei bod yn diogelu gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru. Rydym yn defnyddio Castell-nedd Port Talbot fel enghraifft drwy gydol y ddeiseb hon, am ein bod yn byw yno ac yn gweithio i CBSCNPT, ond gan ddeall bod pob awdurdod unedol yng Nghymru dan bwysau ariannol eithafol.\n\n \n\nRydym yn cytuno bod gan bob awdurdod rôl wrth gael gwared ar wariant gwastraffus, ond wrth ystyried darpariaeth gwasanaeth nawr, yr unig gwestiwn ym mhob awdurdod yw \"A yw'n ddigon da?\" yn hytrach nag \"A yw'n arfer gorau?\"; ond mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot wedi cael gwared ar unrhyw wariant gwastraffus ac, erbyn hyn, mae yn y sefyllfa lle mae angen iddo ystyried cau gwasanaethau anstatudol megis parciau a gwasanaethau hamdden, mewn gwrthwynebiad uniongyrchol i ddeddfwriaeth Llywodraeth Cymru, fel Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Dim ond yr esgyrn sydd ar ôl erbyn hyn.\n\n \n\nErbyn hyn, mae angen i Lywodraeth Cymru wario'n glyfrach, nid gwario llai. Heb wariant clyfar gan Lywodraeth Cymru, bydd gwasanaethau allweddol ein cymuned yn cael eu cwtogi neu eu colli. Bydd rhagor o doriadau cyllidebol yn dinistrio swyddi, gwasanaethau a chymunedau lleol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn gyflogwr pwysig a bydd rhagor o ostyngiad mewn cyllid yn cael effaith enfawr ar yr economi leol fel ym mhob Awdurdod Lleol yng Nghymru.\n\n  \n\n","additional_details":"Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn un o'r cynghorau mwyaf difreintiedig yng Nghymru ac mae angen cyllid ychwanegol arno i gynnal y gwasanaethau a ddarperir i'r rhai mwyaf agored i niwed yn y Fwrdeistref. Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yw'r prif gyflogwr yn yr ardal a bydd unrhyw ostyngiad mewn cyllid yn cael effaith andwyol ar gyflogaeth a'r gallu i'r gwasanaethau hanfodol hyn fod yn gynaliadwy ac aros yn fewnol. Bydd toriadau cyllidebol yn arwain at fwy o amddifadedd yn ein cymunedau a cholli swyddi'n orfodol gyda gwasanaethau'n diflannu am byth.  \n\n  \n\nMae diffyg cyllid i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn arwain at ddarpariaeth gwasanaeth sy'n aflonyddgar, yn gostus ac o ansawdd gwael; colli cyfleoedd cyflogaeth, telerau ac amodau cyflogeion ac, yn bwysicaf oll, golli atebolrwydd democrataidd os caiff gwasanaethau eu colli i'r sector preifat neu'r trydydd sector a disbyddu cyllidebau wrth gefn. Rydym yn cytuno â gweledigaeth Llywodraeth Cymru y dylai pawb yng Nghymru fyw mewn cymunedau llewyrchus, llawn addewid a chynaliadwy sydd â chysylltiadau da, gydag economi leol gref ac ansawdd bywyd da. Er mwyn i'r weledigaeth hon lwyddo, rhaid i ni ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn sicrhau diogelwch a llesiant ein preswylwyr ledled Cymru gyda chanlyniadau gwell i bawb.\n\n  \n\nMae dyrannu cyllid yn ddoethach yn hanfodol er mwyn sicrhau model gofal cymdeithasol llewyrchus ac integreiddiol sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.  Mae angen dyfarnu cyllid trawsnewidiol i Awdurdodau Lleol yng Nghymru er mwyn sicrhau nad oedi wrth drosglwyddo gofal o ddarpariaethau ysbyty yw'r canlyniad i breswylwyr sy'n agored i niwed ac yn aml yn fregus.  Rhaid i Lywodraeth Cymru ddod i'r penderfyniad na ddylai awdurdodau unedol fod y berthynas dlawd wrth ddyrannu pwrs y wlad ac ni ddylid disgwyl iddynt roi deddfwriaeth ddrud ar waith heb i'r cyllid priodol gael ei ddyfarnu.  \n\n","state":"completed","signature_count":225,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-09-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:25:39.811Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-09-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-10-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-02-12T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-09-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-10-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-10-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:25:39.810Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1320,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1320.json"},"attributes":{"action":"Cefnogwch y Llwybr Du o ran Ffordd Liniaru’r M4","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau â’i chynlluniau i adeiladu Ffordd Liniaru’r M4 ar hyd y Llwybr Du arfaethedig, ac yn dilyn y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno dadl ar gynlluniau’r M4 yn ddiweddarach eleni, rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i gefnogi’r prosiect.\n\nMae angen di-os am draffordd newydd o amgylch Casnewydd, gyda’r tagfeydd o gwmpas Twneli Brynglas yn cael effaith negyddol ar fusnesau ac ar bobl o bob rhan o dde Cymru.\n\nCyhoeddwyd y bwriad cyntaf i gael ffordd liniaru ym 1991, sef bron i 30 mlynedd yn ôl. Er nad yw’r methiant i weithredu am dros dri degawd yn unig ar fai, credwn nad yw hyn wedi bod o gymorth i les economaidd y genhedlaeth bresennol, ac mae wedi cyfrannu at:\n\n> •Fod y gyfradd gyflogaeth yng Nghymru dros 3 y cant yn is ar gyfartaledd na chyfradd cyflogaeth y DU ers canol y 1990au.\n> \n> • Fod y Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) y pen yn gyson yn is na 75 y cant y  cyfartaledd yn y DU ers diwedd y 1990au, gyda’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai Gwerth Ychwanegol Gros Caerdydd y pen yw’r isaf o blith pedair prifddinas y DU.\n\n","additional_details":"Canfu dadansoddiad Llywodraeth Cymru ers mis Mawrth 2016 y byddai ffordd M4 newydd yn ardal Casnewydd yn gwella cysylltedd yn Ne Cymru ac â gweddill y DU, a fydd yn:\n\n> - Lleihau amseroedd teithio, gan ddod â manteision penodol i gwmnïau logisteg a ‘gweithrediadau ond mewn pryd’, sydd ar hyn o bryd yn wynebu tarfu rheolaidd a chostau cysylltiedig.\n> \n>  \n> \n> - Arbed costau cludiant a amcangyfrifir sy’n £34m y flwyddyn i fusnesau de Cymru.\n> \n>  \n> \n> - Cynyddu mynediad at gyflogaeth i drigolion ac yn ehangu maint y gweithlu hygyrch i fusnesau.\n> \n>  \n> \n> - Cynyddu Gwerth Ychwanegol Crynswth de Cymru o £39 miliwn y flwyddyn drwy’r cynnydd o ran cynhyrchiant.\n> \n>  \n> \n> - Creu mynediad at safleoedd cyflogaeth newydd yn ardal Casnewydd, gyda photensial ar gyfer 15,000 o swyddi, a gwella mynediad at safleoedd sy’n gyfagos i’r M4 presennol, a gaiff ei rwystro yn sgîl tagfeydd traffig rheolaidd.\n> \n>  \n> \n> - Gwella’r canfyddiad o Gymru ar gyfer ymwelwyr, ac fel lleoliad ar gyfer buddsoddi.\n> \n>  \n\nNewidiwch y sefyllfa fel y bu am dros 30 mlynedd, a chefnogwch gynigion y llywodraeth o ran y Llwybr Du ar gyfer Ffordd Liniaru’r M4, fel y gallwn wella lles economaidd cenedlaethau’r dyfodol ar draws De Cymru.\n\nTystiolaeth\n\nhttp://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43059755  \nhttps://statscymru.llyw.cymru/v/C8Ns  \nhttps://statscymru.llyw.cymru/v/C8Nt  \nhttps://www.ons.gov.uk/economy/grossvalueaddedgva/bulletins/regionalgrossvalueaddedbalanceduk/1998to2016#wales-was-the-fastest-growing-country-in-the-uk-in-2016  \nhttps://beta.llyw.cymru/coridor-yr-m4-o-amgylch-casnewydd-adroddiad-diwygiedig-yr-asesiad-or-effaith-economaidd-ehangach\n\n","state":"completed","signature_count":1482,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-03-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:14:41.177Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-03-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-09-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-06-11T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-03-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-09-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-09-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:14:41.176Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}}]}