{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau.json?page=45&state=archived","first":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?state=archived","last":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=54&state=archived","next":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=46&state=archived","prev":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=44&state=archived"},"data":[{"type":"petition","id":1373,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1373.json"},"attributes":{"action":"Ynni Gwyrdd er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn ffynonellau ynni adnewyddadwy gwyrdd, i leihau'r angen am danwydd ffosil ac ynni niwclear yng Nghymru. Yn fwy penodol: \n\n • I gefnogi technolegau carbon isel sy'n dod i'r amlwg a allai roi Cymru ar flaen y gad o ran ynni adnewyddadwy, a helpu i arafu newid yn yr hinsawdd; a   \n • Buddsoddi mewn ffynonellau ynni nad ydynt yn gadael gwaddol o wastraff ymbelydrol, tyllau sbwriel a niwed i iechyd a'r amgylchedd.\n\nRydym yn cymeradwyo sefydlu \"Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015\", gan ei bod yn rhoi cyfle enfawr i wneud newidiadau cadarnhaol a pharhaol ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, yn enwedig o ran ynni glân.   \n  \nCytunwn â'r Datganiad Ynni gan Lesley Griffiths ar 6/12/2016 pan ddywedodd fod gan y Cynulliad dair blaenoriaeth. Yn gyntaf, byddwn yn lleihau faint o ynni a ddefnyddiwn yng Nghymru. Yn ail, byddwn yn lleihau ein dibyniaeth ar ynni a gynhyrchir o danwydd ffosil. Yn drydydd, byddwn yn mynd ati’n rhagweithiol i reoli’r broses o newid i economi carbon isel. Dylid cynnwys gostyngiad o ran niwclear hefyd, fodd bynnag, gan nad yw'n ddewis adnewyddadwy na charbon isel.\n\n","additional_details":"​Mae gorsafoedd ynni niwclear yn dibynnu ar wraniwm i weithredu, ac mae cryn dipyn o garbon yn cael ei ryddhau wrth gloddio, malu a gwahanu'r wraniwm o'r mwyn, ac yna mae'n rhaid ei gludo. Mae’r amcangyfrifon cyfredol ar gyfer wraniwm yn nodi y bydd y cronfeydd wrth gefn yn para am 50 - 70 mlynedd a pho uchaf y bo’r galw, po fwyaf o fwynau y bydd yn rhaid eu prosesu. Bydd hyn yn arwain at gydbwysedd CO2 ar gyfer ynni atomig sy'n gwaethygu fwyfwy dros amser (JW Storm van Leeuwen a P. Smith, 'Nuclear Power: The Energy Balance', [www.stormsmith.nl](http://www.stormsmith.nl/).)   \n  \n\"Ni ellir adnewyddu ynni niwclear a byddai wraniwm y Ddaear yn diflannu yn y pen draw, sy’n golygu ein bod, yn wir, yn amddifadu cenedlaethau’r dyfodol rhag ei ddefnyddio mewn ffyrdd newydd a llai niweidiol yn y dyfodol.\" (Sophie Howe - Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru 2018 wrth gefnogi Morlyn Llanw Abertawe)   \n  \n\"Mae honiadau bod ynni niwclear yn ffynhonnell ynni 'carbon isel' yn cael eu chwalu pan greffir ar y ffeithiau. Ymhell o’r canlyniad o chwe gram o CO2 fesul uned drydan ar gyfer Hinkley C, fel y cred Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU, mae'n debyg bod y gwir ffigur yn fwy na 50 gram – sy’n torri'r terfyn a argymhellir gan y Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd o ran ffynonellau newydd ar gyfer cynhyrchu ynni y tu hwnt i 2030.\" (Yr Athro Keith Barnham [https://theecologist.org/2015/feb/05/false-solution-nuclear-power-not-low-carbon](https://theecologist.org/2015/feb/05/false-solution-nuclear-power-not-low-carbon)).\n\n","state":"completed","signature_count":1316,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-07-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:25:02.141Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-07-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-09-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-11-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-07-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-09-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-09-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:25:02.140Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1364,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1364.json"},"attributes":{"action":"Adroddiadau ar y Bwlch Cyflog rhwng y Rhyweddau","background":"Nid yw Rheoliadau Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Penodol ac Awdurdodau Cyhoeddus) 2017 wedi cael eu cymhwyso i Gymru, gan olygu nad oes gofyniad ar gyrff cyhoeddus datganoledig i gyhoeddi adroddiadau ar eu bwlch cyflog rhwng y rhyweddau mewn man canolog.\n\nRydym yn credu y dylai cyrff sy'n derbyn arian cyhoeddus gyhoeddi'r wybodaeth hon, ac i sicrhau tryloywder arian cyhoeddus, dylai'r wybodaeth hon fod ar gael mewn man canolog ac yn yr un fformat, gan ddilyn canllawiau a ddatblygwyd ar gyfer cyrff sector cyhoeddus yn Lloegr.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":56,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-07-16T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:24:28.621Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-07-16T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-09-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-12-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-07-16T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-09-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-09-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:24:28.621Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1355,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1355.json"},"attributes":{"action":"Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ganiatáu i Yrwyr Tacsis wneud gwaith hurio preifat yn rhydd unrhyw le yng Nghymru, waeth ym mha gyngor y mae'r gyrrwr wedi'i drwyddedu.\n\nRydym yn cyflwyno'r ddeiseb hon mewn ymateb i weithredoedd grŵp o yrwyr tacsis sydd wedi'u lleoli mewn un Ddinas. Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i ystyried dymuniadau gyrwyr a gweithredwyr tacsis ledled Cymru, yn hytrach nag un grŵp bach o yrwyr o un ddinas.\n\nOs byddwch yn archebu tacsi, naill ai drwy ffonio rhywun neu ddefnyddio ap, gall y cwmni hwnnw yn gyfreithiol anfon car atoch chi, waeth ble rydych chi na ble mae'r cwmni wedi'i leoli. Pe byddech chi yn y Barri ac yn ffonio cwmni o Gaerdydd am dacsi i fynd â chi i Gaerffili, fe allent ac fe fyddent yn anfon car i ddod i nôl chi yn y Barri a mynd â chi i Gaerffili.\n\nPe byddech chi yn Abertawe, ac am fynd i Lanelli ac yn methu â chael tacsi, gallech ffonio cwmni ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a gallent anfon car i'ch codi chi, pe byddai un ar gael ganddynt.\n\nMae hyn yn rhoi mwy o ddewis i ddefnyddwyr tacsis o ran pa gwmnïau y gallant ac na allant eu defnyddio. Mae mwy o ddewis, a mwy o opsiynau, yn golygu bod mwy o gystadleuaeth yn annog cwmnïau i ddarparu gwell gwasanaeth er mwyn cadw cwsmeriaid.\n\nO safbwynt y gyrrwr, pe byddent wedi'u trwyddedu yng Nghaerdydd, a'u bod yn mynd â rhywun i Faes Awyr Caerdydd, a bod gan weithredwr sydd wedi'i leoli yng Nghaerdydd archeb gan rywun i gael ei godi ym Maes Awyr Caerdydd sy'n mynd i Ferthyr, gall y gyrrwr o Gaerdydd wneud y gwaith hwnnw.\n\n","additional_details":"Pe byddai gyrrwr o Fro Morgannwg yn mynd â rhywun o Faes Awyr Caerdydd i Bontypridd, a bod rhywun wedi archebu ymlaen llaw gyda chwmni i fynd â nhw o Bontypridd i Faes Awyr Caerdydd, ond bod rhai oriau o aros, gallai'r gyrrwr hwnnw ofyn i weithredwr o Fro Morgannwg ddod o hyd i waith iddyn nhw.  Gallai hynny ddigwydd drwy'r gweithredwr yn ffonio cwmnïau wedi'u lleoli ym Mhontypridd i weld a oes ganddynt unrhyw waith y gall y gyrrwr ei wneud o amgylch yr ardal tra'i fod yn aros i ddychwelyd. Mae hyn yn rhoi cyfle i'r gyrrwr ennill mwy o arian, gan ei fod yn cynyddu maint yr ardal y gall weithio ynddi, ac mae'n agor ffrydiau incwm posibl. Mae hefyd yn fwy ecogyfeillgar ac yn lleihau tagfeydd gan nad oes rhaid i'r gyrrwr a aeth i Bontypridd fynd yn ôl i Fro Morgannwg yn wag, ac nid oes rhaid i'r gweithredwr anfon car arall i Bontypridd yn wag.\n\nPe bai gweithredwr sydd wedi'i leoli yng Nghasnewydd yn ystyried ymestyn eu cwmni, gallant siarad â gwestai yng Nghaerffili, a dod yn un o gyflenwyr y gwestai i godi gwesteion o feysydd awyr. Gall y gweithredwr ymestyn eu cwmni, a gall y gwesty ddarparu gwell gwasanaeth i gwsmeriaid posibl, gan gynyddu eu harchebion, tra'n dal i gael mwy o ddewis o gwmnïau i'w defnyddio i ddarparu'r gwasanaeth hwn.\n\nPe bai tafarnwr yn rhedeg tafarn ym Merthyr Tudful ac am ddarparu gwasanaeth codi a gollwng i'w gwsmeriaid, byddai angen trwydded gweithredwr arno a byddai angen defnyddio gyrwyr a cherbydau llogi preifat trwyddedig i gyd o Ferthyr. Pe byddai'r un tafarnwr am agor ail dafarn yn Llanbradach, ac am gynnig yr un gwasanaeth, gallent ddarparu gwasanaeth codi a gollwng o'r un drwydded gweithredwr. Mae hyn yn eu galluogi i ehangu eu busnes.\n\nMae hyn i gyd, a mwy, yn bosibl, diolch i Draws Ffiniol.\n\n","state":"completed","signature_count":136,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-07-02T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:23:02.676Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-07-02T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-09-10T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-07-02T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-09-10T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-09-10T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:23:02.675Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1100,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1100.json"},"attributes":{"action":"Dylai Pob Ysgol Fod yn Ysgol Cyfrwng Cymraeg ac Addysgu Hanes Cymru","background":"​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn deisebu'r Cynulliad Cenedlaethol a'r Gweinidog Addysg i bob ysgol yng Nghymru fod yn ysgol cyfrwng Cymraeg er mwyn gwarchod iaith ein cyndadau. Gofynnwn hefyd i bob ysgol yng Nghymru addysgu hanes Cymru a hanes y bobl a gynorthwyodd i lunio'r wlad hon.\n\n","additional_details":"​Mae'n warth nad yw'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg. Yn waeth fyth, mae ein hanes yn cael ei golli. Dim ond mewn ysgolion yn y Gogledd a'r Gorllewin, lle mae'r mwyafrif yn siarad Cymraeg, y caiff ein hanes ei warchod, hanes sydd wedi'i ysgrifennu yn yr iaith. Er mwyn diogelu'r rhain, rhaid inni wneud yn siŵr bod ein plant yn eu dysgu a bod yr iaith yn cael ei defnyddio bob dydd.\n\n","state":"completed","signature_count":75,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-12-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:50:06.481Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-12-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-09-08T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-06-11T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-12-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-09-08T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-09-08T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:50:06.480Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1361,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1361.json"},"attributes":{"action":"Ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn, yn Amser Llawn","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro i ailagor Canolfan Feddygol Dewi Sant, Pentwyn, yn amser llawn a buddsoddi yn y ganolfan hon a ddefnyddir yn helaeth. Rydym yn galw ar y bwrdd iechyd i gynnal asesiad o anghenion cleifion yn Nwyrain Caerdydd yn sgîl y datblygiadau tai diweddar.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":380,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-07-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:24:20.671Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-07-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-09-03T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-11-13T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-07-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-09-03T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-09-03T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:24:20.669Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1307,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1307.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd Eitemau Plastig Untro yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i wahardd pob eitem blastig untro yng Nghymru. Amcangyfrifir bod y DU ac UDA yn unig yn taflu tua 550 miliwn o wellt plastig bob dydd. Er bod pob un ond yn cael ei ddefnyddio am gyfartaledd o 20 munud yn unig, maent yn cymryd canrifoedd i bydru. Yn ystod ymgyrch lanhau gan y Gymdeithas Cadwraeth Forol y llynedd, ar gyfartaledd, canfu 138 o ddarnau o wastraff yn gysylltiedig â bwyd a diod ar bob 100m o draethau’r Deyrnas Unedig.\n\nMae angen atal hyn ac mae angen i’r amgylchedd fod yn flaenoriaeth.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":161,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-02-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:12:55.496Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-02-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-09-03T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-21T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-02-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-09-03T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-09-03T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:12:55.495Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1374,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1374.json"},"attributes":{"action":"Gwella gwasanaethau rheilffordd i Gas-gwent","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried y cytundeb masnachfraint ar gyfer gweithredwr newydd Rheilffyrdd Cymru a'r Gororau er mwyn gwella'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i Gas-gwent.  Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y bydd Cross Country yn rhoi'r gorau i redeg trenau o Gas-gwent.  Mae'r bwriad i redeg dim ond un trên yr awr i dref o faint a phwysigrwydd Cas-gwent - pen pellaf y rheilffordd yn Nyffryn Gwy - yn wael dros ben, o'i gymharu â'r gwasanaeth yn nhrefi eraill ein sir a rheilffyrdd y cymoedd. Dylid darparu dau drên bob awr o leiaf. Rydym yn cydnabod bod angen annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle'u ceir er mwyn helpu'r amgylchedd. Mae'r gwaith o wella gwasanaethau trên yn gam tuag at hyn.\n\n","additional_details":"​Anfonwyd sylwadau'n tynnu sylw at hyn cyn dyfarnu masnachfraint newydd Cymru a'r Gororau. Ymddengys bod y sylwadau hyn wedi'u diystyru.  \n\n","state":"completed","signature_count":260,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-08-02T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:25:11.172Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-08-02T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-03-05T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-08-02T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:25:11.171Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1384,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1384.json"},"attributes":{"action":"Diwygio’r Cod Derbyn i Ysgolion ynghylch Plant a Anwyd yn ystod yr Haf","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried diwygio'r Cod Derbyn i Ysgolion lle y mae'n ymwneud â derbyn plant y tu allan i'r grŵp oedran arferol, mewn perthynas â phlant a anwyd yn ystod yr haf (1 Ebrill – 31 Awst).   \n  \nOherwydd amseriad cyfnodau dechrau mewn ysgolion, mae plant a anwyd yn ystod yr haf o dan anfantais sylweddol o gymharu â'u cyfoedion. Efallai y byddant yn dioddef effeithiau emosiynol ac addysgol niweidiol wrth iddynt ddechrau eu haddysg ffurfiol lawer yn iau. Gyda hynny mewn golwg, efallai y bydd rhieni yn dewis gohirio pryd y bydd plant a anwyd yn ystod yr haf yn dechrau yn yr ysgol hyd nes iddynt gyrraedd oedran ysgol gorfodol, yn unol â'u hawliau cyfreithiol. Fodd bynnag, mae'r rhan fwyaf yn canfod bod eu plant wedyn yn cael eu rhoi mewn dosbarth ym Mlwyddyn 1 yn syth, gan golli'r flwyddyn Derbyn hanfodol, sef y flwyddyn bwysicaf mewn addysg yn ôl gwaith ymchwil.   \n  \nMae'n well gan y rhan fwyaf o rieni i'w plant fynd i'r flwyddyn Derbyn pan fyddant yn cyrraedd oedran ysgol gorfodol yn hytrach na Blwyddyn 1. O dan y Cod Derbyn i Ysgolion, mae hyn yn bosibl mewn theori. Mewn egwyddor, mae'r Cod yn rhoi'r gallu i rieni ofyn i'w plant a anwyd yn ystod yr haf gael eu haddysgu y tu allan i'w grŵp oedran arferol. Yn ymarferol, mae geiriad y Cod wedi achosi llawer o broblemau: mae astudiaethau achos wedi dangos nad yw Awdurdodau Addysg Lleol yn gweithredu'r ddarpariaeth yn gyson ac mai prin y caiff ceisiadau eu derbyn.   \n  \nDylai Llywodraeth Cymru ystyried y diwygiadau a ganlyn:  \n(1) Fel yr opsiwn cyntaf, dylid cymeradwyo ceisiadau i ohirio dyddiad dechrau plant sydd â phen-blwyddi yn ystod misoedd yr haf yn awtomatig (fel sy'n digwydd yn yr Alban);  \n(2) Fel arall, dylid diwygio geiriad y ddarpariaeth bresennol i gryfhau hawliau rhieni i ddewis pryd y bydd eu plant yn dechrau mewn dosbarth Derbyn, gan bwysleisio hefyd y dylai Awdurdodau Addysg Lleol ystyried ceisiadau yn llawn a rhoi arweiniad Llywodraethol i'r perwyl hwn;  \n(3) Yn y naill achos neu'r llall, dylid sicrhau bod plant sy'n cael eu haddysgu y tu allan i'w grŵp oedran yn aros gyda'u grŵp newydd drwy gydol eu cyfnod yn yr ysgol.\n\n","additional_details":"​Nod astudiaeth ddiweddar a gynhaliwyd gan yr Adran Addysg oedd dangos nad yw gohirio pryd y bydd plentyn yn dechrau yn yr ysgol gynradd yn cael fawr ddim effaith ar ei gyrhaeddiad. Dylai Llywodraeth Cymru fod yn ofalus wrth drafod yr astudiaeth hon. Roedd yr astudiaeth yn gyfyngedig iawn, gan fesur cyrhaeddiad academaidd YN UNIG, a hynny gan eithrio pob plentyn ag anghenion arbennig neu anghenion ychwanegol. Mae'n annhebygol iawn mai cyrhaeddiad academaidd fydd y prif reswm y mae rhieni'n dewis gohirio mynediad eu plentyn at addysg gynradd.  \n  \nNid gallu academaidd plentyn yw'r ystyriaeth bennaf wrth benderfynu ynghylch ei barodrwydd ar gyfer yr ysgol, ond ei aeddfedrwydd emosiynol a chymdeithasol. Y sgiliau hyn a fydd yn helpu plentyn i wneud ffrindiau, i ddelio â'i emosiynau, i ddilyn cyfarwyddiadau ac i ganolbwyntio a meithrin iechyd meddwl da. Ni ellir mesur a oes gan blentyn y sgiliau hyn drwy brawf ffoneg.  \n  \nNi fydd cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru yn diwallu anghenion pob plentyn yng Nghymru; ni all wneud hynny. Ni ddylai hynny fod yn rheswm dros wrthod ceisiadau o'r fath. Mae angen polisi derbyn mwy hyblyg er mwyn ystyried anghenion unigol plant a'r hyn sydd o fudd iddynt. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn pwysleisio y bydd addysg plentyn yn cael ei chyfeirio at ddatblygu personoliaeth, doniau a galluoedd corfforol y plentyn cymaint â phosibl (Erthygl 29(1)(a)). Drwy roi plant a anwyd yn ystod yr haf o dan anfantais, nid yw'r Cod Derbyn i Ysgolion presennol yn cyflawni hynny.  \n  \nMae gwledydd datganoledig eraill yn y DU eisoes wedi achub y blaen ar Gymru yn hyn o beth. Mae Nick Gibb, y Gweinidog Gwladol dros Safonau Ysgolion, wedi ymrwymo i ddiwygio'r Cod Derbyn i Ysgolion i adlewyrchu hawl rhieni i ddewis. Yn yr Alban, caiff ceisiadau gan rieni i blant o oedran cyfatebol ohirio dechrau yn yr ysgol eu derbyn yn awtomatig, ac ni fydd y plant yn colli unrhyw flynyddoedd o addysg  ysgol wrth wneud hynny.\n\n","state":"completed","signature_count":241,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:35:31.147Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:35:31.146Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1380,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1380.json"},"attributes":{"action":"Rhowch ddiwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru","background":"​Mae'r ddeiseb hon yn galw ar Gynulliad Cymru i roi diwedd ar yr annhegwch a'r gwahaniaethu yn y cymorth ariannol a roddir i ddioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio yng Nghymru, drwy newid y cynllun i o leiaf adlewyrchu'r darpariaethau ar gyfer y rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr. \r\n\r\nMae sawl categori o ddioddefwyr yng Nghymru sydd o bosibl ar eu colled o £20,000 neu fwy o dan y cynllun. Cafodd miloedd o bobl eu heintio o ganlyniad i dderbyn gwaed wedi'i heintio neu gynhyrchion gwaed wedi'u heintio a roddwyd iddynt gan y GIG tan fis Medi 1991 o leiaf. Mae dros ddwy fil o bobl eisoes wedi marw. \r\n\r\nYn dilyn datganoli pwerau, y Cynulliad sydd â'r cyfrifoldeb dros gefnogi dioddefwyr a'u teuluoedd y rhai sydd wedi'u heintio yng Nghymru. Caiff y cynlluniau cefnogaeth eu gweithredu gan wasanaeth Cefnogi Gwaed wedi'i Heintio yng Nghymru (WIBSS) a weinyddir gan Ymddiriedolaeth GIG Velindre a Chyd-bartneriaeth Gwasanaethau'r GIG (NWSSP) sydd, yn y pen draw, yn atebol i Gynulliad Cymru. \r\n\r\nI'r rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr, cynhelir y cynllun cyfatebol gan EIBSS, sydd yn y pen draw yn atebol i'r senedd yn Llundain. Er i'r dioddefwyr oll gael eu heintio gan y GIG cyn iddo gael ei ddatganoli, mae gan EIBSS ac WIBSS ddarpariaethau tra gwahanol o ran cymorth ariannol. Y ffactor sy'n pennu pa gynllun y byddwch chi'n ei gael yw lle cafodd y dioddefwr ei heintio yn hytrach na lle mae'n byw. Mae dau gynllun na all y rheini sydd o dan WIBSS gael mynediad atynt. Gelwir y rhain yn 'Fecanwaith Categori Arbennig' a 'cynllun cyllid ychwanegol dewisol'. Effaith net hyn oll yw bod sawl categori o ddioddefwyr heintiau yng Nghymru o bosibl ar eu colled o £20,000 o dan y cynllun, neu'n fwy os oes ganddynt blant, waeth ble y maent yn byw. Bydd dau berson sy'n byw yng Nghaerdydd er enghraifft, sydd wedi'u heintio gan y GIG, â'r un effaith, o bosibl yn cael gwahaniaeth o £20,000 mewn cymorth ariannol dim ond gan fod un o'r ddau 'yn fwy lwcus' o gael ei heintio yn Lloegr.\r\n\r\n \r\n\r\nRydym yn galw ar Gynulliad Cymru i ymyrryd i roi diwedd ar yr anghyfiawnder hwn nawr\r\n\r\n","additional_details":"Pwy ydym ni: rydym yn grŵp cefnogi cyfoedion annibynnol sy'n cynnwys dioddefwyr sgandal gwaed wedi'i heintio ledled y DU https://www.facebook.com/groups/ContaminatedWholeBloodUK/\r\n\r\n Lle gellir canfod manylion cynlluniau cyfatebol ar gyfer y rheini a gaiff eu heintio yn Lloegr a'r rheini a gaiff eu heintio yng Nghymru: I bobl sydd wedi'u heintio yng Nghymru, https://wibss.wales.nhs.uk/ I bobl sydd wedi'u heintio yn Lloegr, dyma'r cynllun cyfatebol https://www.nhsbsa.nhs.uk/england-infected-blood-support-scheme\r\n\r\nBeth sydd wedi digwydd hyd yn hyn:\r\n\r\nAr sawl achlysur, mae gwahanol sefydliadau wedi ceisio codi'r mater yn yr ymchwiliad sy'n cael ei arwain gan Syr Brian Langstaff a thrwy wneud y wasg yn ymwybodol o'r erthygl hon sy'n canolbwyntio ar y gwahaniaethau rhwng cynlluniau Cymru a'r Alban https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-43898899\r\n\r\n","state":"completed","signature_count":159,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-08-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:35:03.038Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-08-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-08-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-08-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:35:03.018Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1349,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1349.json"},"attributes":{"action":"Rhagdybiaeth o blaid Ysgolion Gwledig","background":"Galwn ar y Llywodraeth i gymryd camau i sicrhau y bydd awdurdodau lleol yn dilyn canllawiau'r cod trefniadaeth ysgolion presennol a'r cod newydd (pan ddaw i rym) gan gynnwys gweithredu'n unol â'r rhagdybiaeth o blaid ysgolion gwledig. Derbyniwn nad yw hyn yn golygu na chaiff ysgol wledig byth ei chau, ond mae penderfyniad diweddar Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn i gau ysgol Bodffordd yn dangos bod rhwydd hynt i awdurdodau lleol anwybyddu'r cod newydd (y maent i fod i weithredu yn unol â'i ysbryd) a chau hyd yn oed ysgolion poblogaidd a llawn.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":5125,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-06-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:22:54.355Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-06-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-08-11T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-21T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-06-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-08-11T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-08-11T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-08-11T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2018-11-21T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T15:22:54.354Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2018-11-21","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/5366#C140811","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/5366?startPos=13302&l=cy","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Tachwedd 2018."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1340,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1340.json"},"attributes":{"action":"Y ffyrdd o amgylch Trago Mills/Parc Manwerthu Cyfarthfa","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i edrych ar y mater o draffig cynyddol ar yr A470 o gwmpas cyffiniau Trago Mills a Pharc Manwerthu Cyfarthfa, a rhoi system draffig newydd ar waith i liniaru'r swm o draffig a welir yn ystod yr oriau brig, a all wedyn ddatrys y problemau parhaus sy'n wynebu trigolion.\n\nAgorodd Trago Mills ei ddrysau oddeutu pythefnos yn ôl i'r cyhoedd. Byth ers i Trago Mills agor, cafwyd problemau cyson o ran traffig cynyddol yng nghyffiniau Trago Mills a Pharc Manwerthu Cyfarthfa. Yn ogystal ag yn ystod y penwythnosau, mae hefyd yn digwydd yng nghanol yr wythnos. \n\nPan ddaethpwyd â'r mater hwn i sylw Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn wreiddiol beth amser yn ôl cyn i Trago Mills agor, dywedodd yn bersonol mewn llythyr y byddai'r A470 yn gallu cymryd pwysau'r traffig i mewn ac allan o'r ardal, ond yn anffodus nid dyma'r sefyllfa. Nid yw'r traffig sy'n cronni ar brif gylchfan yr A470 yn gallu atal y llwyth traffig sy'n mynd yn uniongyrchol i Barc Manwerthu Cyfarthfa a Trago Mills. Mae hyn yn anghyfleus i'r trigolion hynny sydd eisoes yn byw yn agos at yr ardal, ac mae hefyd yn effeithio ar fusnesau lleol yn yr ardal ac yn effeithio ar yr economi oherwydd bod ymwelwyr yn osgoi'r ardal. \n\n A wnewch chi edrych ar y mater dan sylw eto gan fod angen gweithredu'n uniongyrchol i ddatrys y broblem hon.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":141,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-06-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:20:33.587Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-06-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-07-29T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-06-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-06-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-07-29T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-07-29T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:20:33.587Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1375,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1375.json"},"attributes":{"action":"Mae sir Benfro yn dweud NA!! i gau adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg!","background":"Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda i wrthdroi eu penderfyniad i israddio ein hysbyty sirol a chael gwared ar ein hadran damweiniau ac achosion brys.\r\n\r\nMae Bwrdd Iechyd Hywel Dda wedi cynnig newidiadau sylweddol i'r ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu mewn ysbytai yng ngorllewin Cymru. Maent yn cynnig israddio ysbyty cyffredinol Llwynhelyg yn ein sir ni ac ysbyty cyffredinol Glangwili yn sir Gâr, y ddau i safon ysbytai cymuned, ac adeiladu ysbyty cyffredinol newydd yn ardal Hendy-gwyn ar Daf. Fodd bynnag, mae hyn hefyd yn golygu na fydd gennym bellach adran damweiniau ac achosion brys sy'n gweithredu'n llawn yn ein sir oherwydd y bydd yr adran hon wedi'i disodli gan uned mân anafiadau ar safle Llwynhelyg. O ganlyniad, bydd cleifion y mae angen gofal brys arnynt yn ein sir yn wynebu teithio am hyd at awr, neu efallai hyd yn oed yn fwy os ydynt yn byw yn ardaloedd mwy gwledig ein sir, i gael gofal brys a all achub bywyd mewn ysbyty a fydd y tu allan i'r sir. Byddai'r oedi hwn yn golygu bod bywydau yn sir Benfro mewn perygl, heb ystyried yr oedi ychwanegol wrth orfod aros am ambiwlans i gyrraedd y claf, sefydlogi'r claf, wedyn cludo'r claf i ysbyty sydd y tu hwnt i ffiniau ein sir. Mae hyn yn golygu colli munudau hanfodol mewn sefyllfa lle nad oes amser i'w golli.\r\n\r\nMae bod heb adran damweiniau ac achosion brys yn ein sir yn hollol annerbyniol, a'r rheswm am y cynnig yw torri costau ac, yn bwysicach oll, torri corneli. Wel, byddwn ni'n sefyll cornel sir Benfro ac ni fyddwn yn caniatáu iddynt ein torri ni o'r map!\r\n\r\nLlofnodwch a rhannwch y ddeiseb hon. Ni allwn adael i Lywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Hywel Dda gymryd ased pennaf ein sir oddi wrthym. Maen nhw eisoes wedi mynd â'r uned gofal arbennig babanod, yr uned famolaeth dan arweiniad meddyg ymgynghorol a'r gwasanaeth gofal pediatrig 24 awr oddi wrthym, gan roi ein babanod, ein plant a'n mamau mewn perygl mawr! Nawr maent yn dod i orffen y gwaith gyda gweddill gwasanaethau ysbyty ein sir. Peidiwch â gadael i hynny ddigwydd!\r\n\r\nGyda'n gilydd, byddwn yn anfon neges at Steve Moore a Vaughan Gething y gallant feddwl eto os ydynt yn credu y bydd sir Benfro yn ildio heb frwydro'n ôl wrth iddynt fynd â'n gwasanaethau ysbyty oddi wrthym!\r\n\r\nAchub adran damweiniau ac achosion brys Llwynhelyg! Achub Ysbyty Llwynhelyg!","additional_details":"","state":"completed","signature_count":40045,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-08-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:34:40.055Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-08-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-07-04T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-01-12T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-08-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-07-04T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-07-04T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-07-04T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":"2018-09-26","debate_outcome_at":"2018-09-26T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-07T12:34:40.054Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2018-09-26","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/5352#C117971","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/5352?startPos=12015&l=cy","debate_pack_url":"http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=22444","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 26 Medi 2018"},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1339,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1339.json"},"attributes":{"action":"Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd","background":"Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried ein cynnig i roi 'Ffordd Osgoi Derwen Brimmon y Drenewydd' yn enw swyddogol ar adran newydd o ffordd yr A483—adran hanesyddol yr oedd mawr ei hangen.\n\nDylid gwneud hyn i gydnabod y cyhoeddusrwydd cadarnhaol iawn y mae un o 'Henebion Naturiol' mwyaf arwyddocaol Sir Drefaldwyn, sef Derwen Brimmon, wedi'i greu i'r Drenewydd, i'r rhanbarth ac i Gymru.\n\nYn gyntaf, enillodd wobr Coeden Gymreig y Flwyddyn cyn ennill gwobr 'UK Tree of the Year'—cystadleuaeth a ddarlledwyd ar deledu cenedlaethol. Yna, cafodd ail yng nghystadleuaeth fawreddog 'European Tree of the Year' (2017), mewn seremoni yn Senedd yr UE ym Mrwsel a gafodd lawer o sylw. Teimlwn y dylai'r dderwen hynafol hon, sydd o bwysigrwydd diwylliannol mawr, ac sydd bellach yn adnabyddus ledled Cymru, y DU ac yn wir y byd, gael ei hanrhydeddu yn y modd hwn.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":402,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-05-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:20:23.452Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-05-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-07-02T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-01-29T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-05-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-07-02T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-07-02T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:20:23.451Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1326,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1326.json"},"attributes":{"action":"Diogelu ysgyfaint plant rhag llygredd niweidiol tra maent yn yr ysgol","background":"​Mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, mae pobl yn anadlu lefelau llygredd aer sy’n anghyfreithlon ac sy’n niweidiol i’w hiechyd. Mae plant ymysg y rheiny sydd fwyaf diamddiffyn rhag llygredd aer. Mae eu hysgyfaint yn dal i dyfu, a gall aer llygredig arafu twf eu hysgyfaint, a golygu eu bod yn fwy tebygol o gael asthma, a phroblemau iechyd eraill, yn nes ymlaen yn eu bywyd.   \n  \nYn ôl cais rhyddid gwybodaeth gan y BLF i awdurdodau lleol yn 2017, gwelwyd nad oedd 68 y cant o ymatebwyr (15 o 22) yn monitro llygredd aer o fewn 10 metr o unrhyw un o’u hysgolion.   \n  \nYr ydym ni, sydd wedi arwyddo isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod pob Awdurdod Lleol yn monitro ansawdd yr aer y mae plant yn ei anadlu pan fyddant yn yr ysgol, fel bod gan y rheiny sy’n gwneud penderfyniadau y wybodaeth angenrheidiol i ymateb i lygredd aer.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":159,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-04-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:33:59.683Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-04-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-06-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-10-12T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-04-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-06-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-06-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:33:59.682Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1368,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1368.json"},"attributes":{"action":"Gostwng y terfyn cyflymder ar yr A487 ym Mhenparcau","background":"​Rydym ni, fel trigolion ac ymwelwyr Penparcau, yn deisebu Pwyllgor Priffyrdd Cyngor Ceredigion i ostwng cyflymder y traffig ffordd, o 30mya i 20mya, ar yr A487 rhwng y groesfan belican ar Ffordd Penparcau a'r groesfan sebra ar First Avenue, a hynny er mwyn lleihau'r perygl o anaf a marwolaeth i gerddwyr ar y darn peryglus hwn o ffordd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":262,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-07-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:24:53.445Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-07-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-06-29T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-11-27T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-07-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-06-29T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-06-29T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:24:53.444Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1346,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1346.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd gwellt plastig(wrth yfed llaeth) yn ein hysgolion","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ystyried gwahardd y defnydd  o wellt plastig sy'n cael eu defnyddio wrth yfed llaeth yn ein hysgolion. Fel ysgol fawr derbyniwn tua 285 o boteli llaeth (ar gyfer y Cyfnod Sylfaen) yn ddyddiol gan gynnwys yr un nifer o wellt. Yn sgil yr ymgyrch byd-eang i leihau gwastraff plastig teimlwn fod gwellt plastig yn cael effaith andwyol ar ein hamgylchedd yn enwedig wrth ystyried eu bod yn cael eu defnyddio unwaith ac yna eu taflu. Pe bawn yn parhau gyda'r arfer yma byddai hyn yn arwain at y posibilrwydd fe fydd mwy o blastig yn ein moroedd na physgod erbyn 2050. Y ffaith amdani yw fod yr holl wellt yma yn cyfrannu'n sylweddol at lygru ein moroedd ac mae bywyd gwyllt mewn perygl.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":603,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-06-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:20:57.867Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-06-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-06-05T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-21T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-06-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-06-05T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-06-05T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:20:57.866Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1343,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1343.json"},"attributes":{"action":"Ailgyflwyno cyllid cymorth addysgol i awdurdodau lleol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr","background":"​Mae cangen Castell-nedd Port Talbot o UNSAIN yn galw ar i Lywodraeth Cymru wrthdroi’r penderfyniad i dorri cyllid cymorth addysgol ar gyfer y Gwasanaeth Cyflawniad Lleiafrifoedd Ethnig (MEAS) a’r Gwasanaeth Addysg i Deithwyr (TES).   \n  \nYn y bôn, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi tynnu cyllid ar gyfer y grwpiau hyn yn ôl o dan y grant gwella addysg. Mae ymchwil yn dangos mai plant Roma a Theithwyr sydd â’r cyfraddau cyrhaeddiad isaf o unrhyw grŵp ethnig yng Nghymru, a diben y grant gwella addysg yw cefnogi eu dysgu a gwella cyrhaeddiad.   \n  \nYng Nghastell-nedd Port Talbot mae canran o’r disgyblion yn ein hysgolion yn deithwyr ac yn grwpiau ethnig lleiafrifol sy’n dibynnu ar yr arian hwn; mae Margam a Llansawel yn enghreifftiau o hyn. Mae gan y cyngor dystiolaeth bod gweithwyr cymorth yn darparu gwasanaeth gwych o ran ymgysylltu â’r dysgwyr ‘anodd eu cyrraedd’ hyn. Rydym am i bob person ifanc allu cyrraedd ei botensial ac mae gweithwyr cymorth yn gallu hyrwyddo anghenion pob dysgwr, yn enwedig y rhai sy’n agored i niwed neu sydd o dan anfantais. Maent yn meithrin perthnasoedd cryf â theuluoedd, ysgolion a’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd y gostyngiad yn eu cyllid yn niweidiol ac mae torri swyddi eisoes yn cael ei drafod â’r undebau llafur. Bydd angen talu unrhyw gostau diswyddo o gyllideb sydd eisoes dan bwysau.\n\nRydym yn annog i Lywodraeth Cymru ymgynghori ag UNSAIN ac awdurdodau lleol. Rhaid i Lywodraeth Cymru gwblhau Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb i sicrhau bod arian yn cael ei ddyrannu i’r rhai sydd mewn angen.\n\n","additional_details":"​Mae’r cyllid a gyhoeddwyd yn y setliad dros dro i gefnogi’r dysgwyr hyn sy’n agored i niwed yn ei gwneud hi’n berffaith amlwg nad oes dim trosglwyddiadau yn 2018/19 mewn cysylltiad ag addysg.  Honnwyd iddo gael ei dorri o’r Grant Gwella Addysg a’i fod wedi cyfrannu at y £170 miliwn ychwanegol a aeth i’r setliad ar gyfer addysg a gofal cymdeithasol, ond nid yw hynny’n ddim amgen testun trafod.  Yn syml, effaith hyn oedd lleihau’r toriad cyffredinol i gyllid awdurdodau lleol.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gweld toriad yn y Grant Cynnal Refeniw ond mae wedi honni bod y ddau doriad hyn yn golygu cynnydd yn y cyllid.  Mae wedi tynnu’r grant heb wneud yn iawn am hynny o dan y Grant Cynnal Refeniw.  Mae £5 miliwn ar gael i Gaerdydd, Abertawe a Chasnewydd ar gyfer 2018/19, ond nid yw’n sôn y bydd hynny’n parhau i’r cynghorau hynny ar ôl y flwyddyn ariannol honno.  Mae’r torri cyllid hwn a’r diffyg gwybodaeth am ddarpariaeth yn y dyfodol yn golygu bod cyfarwyddwyr addysg mewn sefyllfa anodd.  Ni ellir cyflawni cyfle cyfartal i’r disgyblion hyn heb y cymorth wedi’i dargedu yr oedd y grant gwella addysg yn ei ariannu gynt.  Mae’n amlwg bod Llywodraeth Cymru am ddyrannu cyllid i ysgolion yn uniongyrchol er mwyn eu helpu gyda’r pwysau cyllidol cyffredinol sydd arnynt, ond gellid bod wedi dyrannu rhywfaint o’r cyllid hwn i awdurdodau lleol er mwyn cynnal cymorth arbenigol yn y flwyddyn i ddod.  Os na fydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â chyllid grant penodol, yna bydd effaith anghymesur ar gydraddoldeb i Sipsiwn, Teithwyr a lleiafrifoedd ethnig.\n\n","state":"completed","signature_count":334,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-06-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:20:48.152Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-06-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-06-04T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-05-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-06-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-06-04T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-06-04T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:20:48.151Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1321,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1321.json"},"attributes":{"action":"Cyflwyno Cofrestr o Lobïwyr yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyflwyno Cofrestr Statudol ar gyfer Lobïwyr yng Nghymru.   \n  \nMae'r ddeiseb hon yn dilyn camau a gymerwyd yn yr Alban ac Iwerddon tuag at sicrhau bod lobïo gwleidyddol yn fwy agored.   \n  \nMae lobïo yn weithgaredd dilys a gwerthfawr. Mae'n rhan hanfodol o ddemocratiaeth iach. Gall y geiriau lobïo a lobïwr gael eu dehongli'n negyddol, gan awgrymu fod bargeinion yn cael eu taro y tu ôl i ddrysau caeedig. Y gwir amdani yw po fwyaf o leisiau sy'n ceisio llywio meddylfryd y Llywodraeth a'r Cynulliad yng Nghymru, y mwyaf y bydd gwleidyddion yn cael gwybod beth yw barn pobl wrth iddynt ddeddfu, datblygu polisïau newydd a chyflawni gwaith craffu. Am y rheswm hwnnw, ac ar sail yr egwyddor o fod yn agored ac yn hygyrch, sydd wrth wraidd y Cynulliad, dylid mynd ati'n weithredol i annog lobïo. Mae'n gadarnhaol pa mor agored, hygyrch a pharod i ymgysylltu yw'r Cynulliad a'r Llywodraeth eisoes. Ni ddylid cymryd unrhyw gamau a fyddai'n newid hynny neu'n achosi i bobl beidio â chysylltu â gwleidyddion ynglŷn ag unrhyw fater.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":55,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-04-11T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:14:54.756Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-04-11T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-06-02T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-04-11T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-06-02T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-06-02T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:14:54.755Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1341,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1341.json"},"attributes":{"action":"Peidiwch â chymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd","background":"Annwyl Weinidog(ion) y Llywodraeth, \r\n\r\nRwyf am dynnu eich sylw at y newyddion diweddar sy’n awgrymu y bydd Castell-nedd yn cael ei dynnu oddi ar y brif reilffordd o Abertawe i Paddington Llundain. \r\n\r\nNid wyf o blaid y penderfyniad hwn oherwydd credaf y byddai cymryd Castell-nedd oddi ar y brif reilffordd yn cael effaith andwyol ar economi ein tref, ac ar yr ymgais i’w hadfywio. Mae’r orsaf eisoes wedi mynd â’i phen i waered ac mae bellach yn ganolbwynt ymddygiad gwrthgymdeithasol. Byddai tynnu Castell-nedd oddi ar y brif linell yn gwneud dim ond gwaethygu’r problemau hyn. \r\n\r\nByddai hefyd yn cael effaith negyddol ar y rhai sy’n cymudo ar y brif linell i fynd i’r gwaith, a fyddai’n golygu y byddai’n rhaid iddynt ddal trên ychwanegol i gysylltu ag Abertawe, Baglan neu Bort Talbot yn gyntaf.\r\n\r\nMae ffigurau diweddar a ddatgelwyd yn sgîl gwaith ymchwil gan Jamie Evans, Cynghorydd Plaid Cymru dros Dde Castell-nedd wedi canfod:\r\n\r\nRoedd tua 830,000 o deithwyr yn defnyddio gorsaf drenau Castell-nedd bob blwyddyn, gan ei gwneud yr ail orsaf brysuraf ar ôl Abertawe, yn sir hanesyddol Gorllewin Morgannwg, a’r brysuraf o blith y pum gorsaf yng Nghastell-nedd Port Talbot. Byddai’r cynlluniau i gael gwared â Chastell-nedd o’r brif linell yn golygu y byddai’n rhaid i gymudwyr sy’n teithio i Gaerdydd o Gastell-nedd ddal trên i Abertawe, Baglan neu Bort Talbot yn gyntaf, sy’n golygu cynnydd o ran y gost a’r amser a gymerir iddynt fynd nôl a blaen i’r gwaith. \r\n\r\nNi fyddai pobl o Gastell-nedd, Pontardawe, Sgiwen, Glyn-nedd na Chwm Dulais yn cael unrhyw fudd o gwbl o’r \"10 munud\" o amser a arbedir ar deithiau rhwng Abertawe a Chaerdydd. \r\n\r\nGofynnaf yn garedig i chi ail-ystyried y penderfyniad hwn.","additional_details":"","state":"completed","signature_count":10472,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-06-11T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:20:40.370Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-06-11T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-05-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-09-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-06-11T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-05-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-05-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-05-31T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-07T14:27:45.332Z","archived_at":"2021-05-06T15:20:40.369Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yng ngoleuni'r ymrwymiad a gafwyd na fyddai Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynnig i leihau gwasanaethau i orsaf Castell-nedd nac o orsaf Castell-nedd."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1335,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1335.json"},"attributes":{"action":"Aelodau prosthetig arbenigol i blant","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod nawdd ar gael er mwyn darparu aelodau prosthetig chwaraeon arbenigol i bob plentyn yng Nghymru sydd wedi colli coes / braich.  \nRydym yn croesawu’r newyddion diweddar fod Llywodraeth San Steffan wedi cadarnhau bydd £1.5 miliwn ychwanegol ar gael i ddatblygu aelodau prosthetig arbenigol i blant a phobl ifanc yn Lloegr.  \nRydym yn gofyn am yr un lefel o gefnogaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru, fel bod aelod prosthetig arbenigol ar gael drwy’r GIG i unrhyw blentyn neu berson ifanc buasai’n elwa o gael un.\n\n","additional_details":"​Ganwyd fy merch gyda chyflwr prin o’r enw Fibular Hemimelia, sy’n golygu bod yna esgyrn ar goll yn ei choesau. Mae ganddi hi gyflwr prin iawn, sy’n effeithio ar ei dwy goes. Ychydig o ddiwrnodau ar ôl ei phen-blwydd cyntaf, aeth hi i Ysbyty Alder Hey i gael torri ei choesau. Ychydig fisoedd wedyn aeth hi at y Ganolfan Aelodau yn Wrecsam Maelor i gael ei phâr cyntaf o goesau prosthetig.\n\nRydym ni wedi cael gofal heb ei ail gan staff y Ganolfan, ond mae ei choesau yn drwm ac yn anhyblyg. Mae hi’n medru cerdded, ond yn araf. Mae hi’n medru dringo, gyda thrafferth. Nid ydi hi erioed wedi profi’r teimlad o redeg nerth ei thraed, na chadw cyflymder gyda’i chefndryd wrth chwarae yn y parc. Mae hi wedi goresgyn pob anhawster hyd yma, ond bydd hi’n wynebu rhagor wrth iddi dyfu.\n\nFel rhiant, fy nymuniad yw iddi gael bod y fersiwn gorau ohoni hi ei hun; iddi gael chwarae heb frwydro i gadw cyflymder â’i ffrindiau, ac iddi fedru cymryd rhan ymhob peth mae hi’n dymuno gwneud.\n\nYn fuan bydd hi’n ddigon hen i gael aelodau prosthetig arbenigol. Pe bai nhw ar gael iddi drwy’r GIG buasai’n gwneud byd o wahaniaeth i’w bywyd beunyddiol.\n\nDwi’n deall bod plant eraill yng Nghymru wedi colli aelodau, ac eu bod nhw’n wynebu heriau tebyg. Rydw i’n credu bod ein plant ni yr un mor haeddiannol o gymorth arbenigol â phlant Lloegr. Nifer bychan o blant sydd wedi colli aelod yng Nghymru, does dim angen yr un lefelau o nawdd; eto mae eu hanghenion yr un fath. Nid ydym yn gofyn am filiynau, ond am gydraddoldeb.\n\nMi fydd fy merch yn treulio ei hoes gyfan yn gwisgo aelodau prosthetig. Fe all cefnogaeth arbenigol wneud cymaint o les iddi.  Rhowch iddi, ac i blant eraill fel hi, yr un gefnogaeth a roddir i blant Lloegr.\n\n","state":"completed","signature_count":116,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-05-02T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:19:43.373Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-05-02T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-05-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-11-05T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-05-02T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-05-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-05-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:19:43.372Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1305,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1305.json"},"attributes":{"action":"Rheoli'r Diwydiant Dofednod Dwys Sy'n Ehangu'n Gyflym Yng Nghymru","background":"​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar Gynulliad Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau strategol hirdymor i sicrhau bod y diwydiant cynnyrch dofednod yn gynaliadwy yn amgylcheddol drwy gyflwyno Deddf yr Amgylchedd (Cymru), Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD) yn effeithiol.\r\n\r\nMae gyrwyr amaethyddol pwerus sy'n cael eu hatgyfnerthu gan BREXIT yn cynyddu cynhyrchiad dwys o ran wyau a dofednod.  Mae Llywodraeth Cymru yn anwybyddu'r canlyniadau amgylcheddol difrifol o ran bioamrywiaeth, pridd ac ansawdd dŵr ac afiechydon adar a dynol.  Mae'r cyhoedd yn codi llais ynghylch lles dofednod ond yn anwybodus, ar y cyfan, am effaith amgylcheddol unedau ffermio dofednod dwys.  Mae unedau wyau \"maes\" gyda chrynhoad o hyd at 2,500 o adar i bob hectar yn risg arbennig (adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru 218: Astudiaeth Peilot Dofednod Powys a rhybuddion nitrogen INI 6/17).\r\n\r\nMae cymoedd serth, glawiad uchel sy'n achosi difrod maethol trwm a phoblogaethau o rywogaethau naturiol prin yn gwneud llawer o Gymru wledig yn hollol anaddas ar gyfer y ffrwydrad presennol o unedau ffermio dofednod dwys.  Ar ôl gostyngiad yn 1990, mae allyriadau amonia wedi bod yn cynyddu ers 2010 (adroddiad Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol 2017 ar gyfer DEFRA).  Mae llwythau critigol o ddyddodiadau amonia a nitrogen (trothwyon amcangyfrifedig o ran niwed annerbyniol i amrywiaeth planhigion) yn llawer uwch mewn rhai safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd a'r DU, Gwarchodfeydd Natur Lleol a Choetiroedd Hynafol.  Mae ffosffadau gormodol yn bygwth ein cyrsiau dŵr (Sefydliad Gwy a Wysg 2017).\r\n\r\nWrth fethu â gweithredu ar y dystiolaeth, mae Llywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Sir Powys yn esgeuluso'r ddyletswydd i \"gynnal a gwella bioamrywiaeth\" (Deddf yr Amgylchedd Adran 6).\r\n\r\nRhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei phwerau i reoli'r diwydiant:  \r\n\r\n1. Darparu adnoddau priodol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud ymchwil brys, rheoleiddio a monitro unedau dwys a rhoi gwell cymorth cynllunio i Awdurdodau Cynllunio Lleol (ACLl).\r\n2.Cyhoeddi polisi cynllunio ac arweiniad i ACLl i wella penderfyniadau, sicrhau bod effeithiau cronnus yn cael eu hystyried a monitro a gorfodi amodau cynllunio. \r\n3.Gwneud i'r diwydiant gyfrannu tuag at gostau rheoleiddio a monitro a'i ddwyn i gyfrif am dorri cyfrifoldeb amgylcheddol.\r\n4.Cyhoeddi adroddiadau cyhoeddus tryloyw ar gynnydd.\r\n\r\n","additional_details":"​O Bowys y daw ein tystiolaeth, ond mae ein deiseb yn berthnasol i Gymru gyfan.\r\n\r\nMae'r Cadeirydd, Diane McCrea, yn cadarnhau nad oes gan Gyfoeth Naturiol Cymru ddigon o adnoddau (BBC 14/12/17).  Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn asesu effeithiau ceisiadau Unedau Dofednod ar safleoedd natur Ewropeaidd a'r DU ac yn cyhoeddi trwyddedau ar gyfer unedau o dros 40,000 o adar.  Mae canllawiau gwell Cyfoeth Naturiol Cymru (Ebrill 2017) yn cwmpasu effeithiau cronnol ond mae dulliau asesu yn methu â rhwystro datblygiad lle mae llwythi yn uwch na'r llwyth critigol presennol.\r\n\r\nMae'r Awdurdod Cynllunio Lleol yn asesu disgrifiad priodol o wasgariad ac effeithiau ar ansawdd dŵr, ansawdd aer, Gwarchodfeydd Natur Lleol, Coetiroedd Hynafol, tirwedd, amwynderau preswyl a thraffig lleol.\r\n\r\nNid oes gan Awdurdodau Cynllunio Lleol y sgiliau a'r adnoddau ar gyfer y cyfrifoldebau hyn.  Nid yw Cyngor Sir Powys yn ystyried effaith gronnus ceisiadau, ynghyd â'r holl Unedau cyfagos, ar yr amgylchedd naturiol, tirwedd neu drigolion gwledig.  Dylai Atodlen 2 Asesiad Effaith Amgylcheddol sicrhau bod yr effeithiau cronnus yn cael eu hasesu ond mae hyn yn methu yn ymarferol.  Mae Cyngor Sir Powys yn amharod i ddyfarnu statws AEA oherwydd y gall Llywodraeth Cymru wyrdroi'r penderfyniad (gweler P/2016/0608 a P/2017/0007).\r\n\r\nMae gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ddata ar geisiadau cynllunio dofednod dwys ym Mhowys ers 2011.  Yn ystod y 30 mis diwethaf, bu 99 o GEISIADAU yn cynnwys dros  DAIR MILIWN O ADAR, gyda 72 ohonynt ar gyfer wyau maes.  O'r 99, dim ond 10 sydd â statws AEA: Mae 65 o geisiadau wedi'u cymeradwyo a DIM OND UN A WRTHODWYD.\r\n\r\nMae gennym dystiolaeth o ddatblygiadau a gymeradwywyd heb fapio gwasgariad cyfuchlinellau neu wasgariad awyr agored, yn agos at warchodfeydd natur (71m), coetiroedd hynafol bregus (cyfagos) cyrisau dŵr (10m) a thrigolion (50m). Mae trigolion yn dioddef risgiau iechyd o bryfed, amonia yn yr awyr, llwch dofednod, gronynnau a gynhyrchir gan draffig ac arogleuon tramgwyddus. Anwybyddir gwrthwynebiadau rhanddeiliaid amgylcheddol a chyhoeddus, mae rhywogaethau planhigion prin yn marw, mae risgiau o glefydau yn cynyddu ac mae cyrsiau dŵr yn methu safonau'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr.\r\n\r\nDIGON YW DIGON: Gellir gweld cyfres unigryw o DDATA UNEDAU DOFEDNOD DWYS POWYS gan gynnwys ceisiadau, map rhyngweithiol, map o fannau trafferthus ac arddangosfa animeiddiedig o dwf cronolegol yr Unedau Dofednod Dwys yn http://www.brecon-and-radnor-cprw.wales/?page\\_id=13.\r\n\r\n","state":"completed","signature_count":4570,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-02-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:12:46.160Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-02-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-05-22T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-02-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-05-22T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-05-22T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:12:46.159Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1337,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1337.json"},"attributes":{"action":"Dywedwch ‘NA’ i saethu ffesantod ar dir cyhoeddus Cymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru, fel y corff cyfrifol a noddir gan Lywodraeth Cymru, yn peidio â phrydlesu tir cyhoeddus i weithgareddau saethu masnachol. Prif swyddogaeth gyfansoddiadol Cyfoeth Naturiol Cymru yw bod yn stiward amgylcheddol dros y tir y mae’n ei reoli ar ran Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Ond mae prydlesu’r tir hwn ar gyfer gweithgareddau saethu yn effeithio’n negyddol ar gadwraeth, bioamrywiaeth a lles anifeiliaid. Herfyd, mae gweithgareddau saethu yn llygru tir gyda phelenni plwm gwenwynig sy’n gyfrifol am wenwyno a lladd llawer o anifeiliaid. Mae arfer Cyfoeth Naturiol Cymru o brydlesu tir ar gyfer saethu yn hwyluso gweithgarwch sy’n wrthun gan lawer o bobl Cymru: lladd anifeiliaid er mwyn ‘difyrrwch’.  Mae’r prydlesau hefyd yn golygu fod mynediad y cyhoedd i dir sy’n eiddo i bobl Cymru yn cael ei gyfyngu. \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":12706,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-05-14T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:20:08.308Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-05-14T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-05-15T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-01-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-05-14T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-05-15T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-05-15T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-05-15T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-07T14:34:22.251Z","archived_at":"2021-05-06T15:20:08.308Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Ystyriodd y Pwyllgor ystod o dystiolaeth a phenderfynodd beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd yn dilyn penderfyniad Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru i beidio â chynnig unrhyw estyniad i’r prydlesi ar gyfer hawliau saethu ffesantod ar dir y mae’n ei reoli unwaith y byddant yn dod i ben ym mis Mawrth 2019, yn dilyn ymyrraeth Llywodraeth Cymru."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1336,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1336.json"},"attributes":{"action":"Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr","background":"​Rhwystro’r gormodedd o ddal a chadw Eogiaid drwy weithredu cyfyngiadau ar fagiau dal a chadw ar bob afon yng Nghymru am y 4 blynedd nesaf ar sail data penodol i dalgylch mewn ymgynghoriad agos â chlybiau pysgota.\n\nGweithredu rhaglen stocio gynhwysfawr o bysgod brodorol ar bob afon.\n\nTynhau a gweithredu deddfwriaeth bresennol er mwyn dileu’r bygythiad o lygredd ffermio a llygredd diwydiant.\n\nRhwystro pob math o bysgota rhwydi masnachol ar raddfa fawr a gweithrediadau lllongau ffactri o amgylch arfordir Cymru am gyfnod o 10 mlynedd.\n\nBlaenoriaethu dyrannu adnoddau i gynorthwyo i reoli materion sy’n benodol i dalgylchoedd sy’n gysylltiedig â chyfraddau ysglyfaethu naturiol gormodol a rhwystrau rhag ymfudiad pysgod.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1710,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-05-08T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:20:01.060Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-05-08T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-05-09T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-09-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-05-08T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-05-09T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-05-09T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:20:01.059Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1300,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1300.json"},"attributes":{"action":"Enwau Lleoedd Cymru – Bil Diogelu a Hyrwyddo","background":"Y Gymraeg yw un o nodweddion amlycaf Cymru, ac mae ein hanes a'n diwylliant wedi'u cydblethu ag un o ieithoedd hynaf Ewrop.\r\n\r\nMae mwy a mwy o enwau lleoedd a thai Cymraeg yn cael eu newid i enwau Saesneg. Mae hyn yn arwain at dranc diwylliant lleol ac un o'r elfennau sy'n gwneud Cymru'n unigryw. Mae'r hen enwau Cymraeg hyn yn aml yn ddisgrifiadol a'u gwreiddiau'n ddwfn yn hanes y lle.\r\n\r\nMae cynnal ein hunaniaeth a'n treftadaeth Cymraeg yn bwysig i Gymry Cymraeg a di-Gymraeg fel ei gilydd.","additional_details":"Dylid diogelu hen enwau Cymraeg ar leoedd ac adeiladau o dan y gyfraith, a dylai fod yn orfodol i ddatblygiadau newydd gael enwau Cymraeg er mwyn diogelu ein diwylliant a'n hiaith unigryw. Byddai Cymry Cymraeg, dysgwyr a'r di-Gymraeg yn gwerthfawrogi hyn. Byddai hefyd yn helpu i feithrin ein prif nodwedd unigryw ar lwyfan y byd - rhywbeth y mae twristiaid yn caru ei weld.","state":"completed","signature_count":431,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-01-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:11:58.529Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-01-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-05-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-11-13T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-01-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-05-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-05-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:11:58.528Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1169,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1169.json"},"attributes":{"action":"Pob Adeilad Newydd yng Nghymru i Gael Paneli Solar","background":"​Sicrhau y caiff paneli solar eu gosod ar bob tŷ sy'n cael ei adeiladu o'r newydd yng Nghymru er mwyn gwella ein hôl troed carbon a helpu'r amgylchedd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":72,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-04-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:32:30.381Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-04-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-05-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-04-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-05-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-05-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:32:30.380Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1303,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1303.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd y DEFNYDD O FAGLAU LARSEN (maglau dal sawl math o frân)","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau Larsen (maglau dal mwy nag un frân).   \n  \nCawell a rennir yn sawl rhan yw magl Larsen; cedwir aderyn gwyllt byw (yr aderyn denu) yn gaeth mewn un rhan ohoni er mwyn denu adar eraill. Pan fydd aderyn arall yn glanio ar y fagl, mae’n disgyn i mewn trwy gât unffordd neu lawr ffug, lle y bydd yn aros ei dynged.  \n  \nDyfeisiwyd maglau Larsen yn Nenmarc, ond fe’u gwaharddwyd yn y wlad honno gan eu bod bellach yn cael eu hystyried yn bethau creulon iawn.  \n  \nCiperiaid a thyddynwyr sy’n defnyddio maglau Larsen yn bennaf, a hynny er mwyn dal pïod, brain ac aelodau eraill o deulu’r frân. Mae’n brofiad erchyll i’r aderyn gan iddo gael ei ddal ddydd a nos heb fwyd, dŵr na chysgod rhag y tywydd, ac mae hynny’n peri gofid eithafol.   \n  \nOherwydd eu bod yn defnyddio aderyn gwyllt caeth (sy’n mynd yn groes, yn dechnegol, i Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981) rhaid defnyddio’r maglau hyn o dan delerau “Trwydded Gyffredinol”, a geir gan Gyfoeth Naturiol Cymru, sy’n caniatáu dal pïod, brain, sgrechod y coed, corfrain, ac ydfrain.    \n  \nMae’n brofiad pur ofnadwy i’r “adar denu” gwyllt gan fod eu cyfyngu yn y modd hwn yn gamdriniaeth ac yn rhwystredigaeth o ran hanfodion eu hymddygiad. A hwythau’n agos i’r ddaear, mae ysglyfaethwyr yn codi braw arnynt a rhaid iddynt wylio wrth i adar eraill gael eu lladd mewn ffordd ddienaid o flaen eu llygaid. Mae sawl un yn marw trwy esgeulustod.   \nO dan y gyfraith, dylai fod gan aderyn denu caeth fwyd, dŵr, cysgod a chlwyd, a dylid archwilio’r maglau o leiaf bob 24 awr, ond nid dyna sy’n digwydd. Rydym wedi gweld brain a adawyd i farw heb fwyd na dŵr, ac rydym wedi dod o hyd i gyrff adar denu yn pydru, a’r adar hynny wedi clymu’n barhaol â gwifrau hyd nes eu bod yn marw drwy newyn neu straen.  \nRydym wedi gweld adar sydd wedi torri eu pigau ac wedi anafu eu pennau trwy geisio dianc. Gwelsom greulondeb, llurgunio a chlwyfo lle mae’r cipar wedi torri plu hedfan yr aderyn denu i’w gadw rhag dianc.\n\n","additional_details":"​Mae’r maglu yn digwydd trwy fisoedd yr haf ac, o’r herwydd, mae miloedd o gywion yn newynu i farwolaeth yn y nyth am fod y rhieni’n cael eu dal.   \n  \nNid yw maglau Larsen yn gwahaniaethu; gallant ddal adar o bob math a mamaliaid. Weithiau, er ei bod yn anghyfreithlon, defnyddir colomennod er mwyn denu ac yna lladd adar ysglyfaethus.   \n  \nMae dal adar gwyllt mewn maglau adar byw a defnyddio adar denu byw yn peri dioddefaint ofnadwy i’r adar anffodus.   \n  \nRydym yn cymell rhoi stop ar y ffordd hon o erlid bywyd gwyllt.\n\n","state":"completed","signature_count":1943,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-02-08T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:12:36.135Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-02-08T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-04-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-11-05T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-02-08T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-04-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-04-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:12:36.134Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1260,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1260.json"},"attributes":{"action":"Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw am i athrawon cyflenwi gael eu talu'n deg a chael mynediad llawn at gyfleoedd hyfforddi a thelerau ac amodau eraill. Dylai fod athro cymwys ym mhob ystafell ddosbarth a dylai arian trethdalwyr fod yn cael ei wario'n uniongyrchol ar addysg, heb fynd i bocedi asiantaethau preifat.","additional_details":"​Mae athrawon cyflenwi'n cael cam ac mae athrawon yn gadael y proffesiwn oherwydd na allant fforddio bod yn athrawon cyflenwi.\r\n\r\nMae asiantaethau'n lleihau cyflog athrawon cyflenwi 40 i 60 y cant ac mae athrawon yn colli eu pensiynau. Mae'r sefyllfa'n enghraifft o ddefnyddio arian cyhoeddus i greu elw i'r sector preifat. Mae gwersi'n cael eu darparu gan staff anghymwys.","state":"completed","signature_count":1426,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-11-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2026-04-13T12:38:04.747Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-11-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-04-10T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-11-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-04-10T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-04-10T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2026-04-13T12:24:46.123Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1323,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1323.json"},"attributes":{"action":"Dylid gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny.   \r\n\r\nCyhoeddwyd dogfen o'r enw No Longer a Diagnosis of Exclusion, a oedd yn amlygu bod y rhai a gafodd ddiagnosis o anhwylder personoliaeth yn cael eu cam-drin, yn 2003.  \r\n  \r\nCyhoeddwyd canllawiau NICE ar gyfer Anhwylder Personoliaeth Ffiniol yn 2009. Naw mlynedd yn ddiweddarach, ac mae llai na hanner ymddiriedolaethau Cymru yn darparu gwasanaethau sy'n cydymffurfio â'r canllawiau. Mae hyn yn cymharu ag 84 y cant yn Lloegr.   \r\n  \r\nMae pobl sydd â'r diagnosis hwn yn aml yn dod o gefndiroedd o gamdriniaeth ac esgeulustod. Bydd 1 o bob 10 o bobl gyda'r diagnosis hwn yn marw drwy hunanladdiad. Darganfu'r Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ddynladdiad a Hunanladdiad, o'r 1 o bob 10 o bobl a derfynodd eu bywydau dros gyfnod eu hastudiaeth, nid oedd yr un ohonynt yn derbyn gofal a argymhellir gan NICE.   \r\n  \r\nMae arbenigwyr yn y maes yn rhybuddio y bydd ymddiriedolaethau iechyd nad oes ganddynt wasanaethau arbenigol yn or-ddibynnol ar driniaeth breifat y tu allan i'r ardal. Cefnogwyd y farn hon gan gynrychiolwyr o ymddiriedolaethau nad oes ganddynt wasanaethau arbenigol yn y gynhadledd Anhwylder Personoliaeth Cymru yng Nghaerdydd yn 2016.  \r\n  \r\nRhaid inni wneud rhagor i gefnogi'r rhai sydd wedi goroesi camdriniaeth, ac wedi cael digon o gam eisoes. Rhaid inni hefyd wneud rhagor i amddiffyn trethdalwyr Cymru, drwy ddarparu gwasanaethau cymunedol effeithiol yn hytrach na lleoliadau trin drud y tu allan i'r ardal.   \r\n  \r\nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ymddiriedolaethau GIG yng Nghymru yn gweithredu canllawiau NICE ar gyfer trin Anhwylder Personoliaeth Ffiniol neu gyfiawnhau pam nad ydynt yn gwneud hynny.","additional_details":"","state":"completed","signature_count":137,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-04-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:31:59.640Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-04-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-04-09T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-01-26T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-04-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-04-09T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-04-09T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:31:59.639Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1315,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1315.json"},"attributes":{"action":"Is-ddeddfau Pysgota arfaethedig Newydd a methiannau Cyfoeth Naturiol Cymru","background":"​Fel mater o frys, gofynnwn i Weinidog y Cabinet ymchwilio i ymddygiad Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru yn ystod y broses ymgynghori a’r argymhelliad i wneud newidiadau i is-ddeddfau pysgota gwialen a llinell yng Nghyfarfod y Bwrdd (Cyfoeth Naturiol Cymru) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Bangor ar 18 Ionawr 2018, cyn derbyn unrhyw gynigion i newid is-ddeddfau pysgota presennol.\n\n1. Methodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru â dilyn y drefn ddemocrataidd drwy wrthod caniatáu i aelodau Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru bleidleisio ar gynigion newydd o ran Is-ddeddfau pysgota newydd gan bysgotwyr gwialen a llinell. Mabwysiadodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru safiad didrugaredd, ac anwybyddodd bryderon y rhanddeiliaid yn ystod y broses ymgynghori ac aelodau Bwrdd llawn Cyfoeth Naturiol Cymru yn y cyfarfod.\n\n2. Argymhellodd Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru newidiadau i’r Is-ddeddfau i Gynulliad Cymru ac yntau wedi ardystio yng nghyfarfod y Bwrdd na fyddai’r cynigion yn effeithio llawer, neu ddim o gwbl, ar leihau stociau eogiaid a brithyllod môr o fewn dalgylchoedd afonydd mewndirol ledled Cymru.\n\n3. Gyda Swyddogion Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydnabod bod \"materion eraill\" sy’n cyfrannu at leihau’r stociau eog a brithyllod môr, methasant â blaenoriaethu a gweithredu ar y \"materion eraill\" hyn, ac maent wedi gwneud hynny dros nifer o ddegawdau, heb gynllunio ar gyfer y dyfodol. Felly, mae Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru yn torri gofynion Adran 6 (6) o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 ac yn methu â chyflawni ei hamcan o leihau’r risg i lefelau stoc eog a brithyllod môr yn afonydd Cymru, yn enwedig o ran:\n\n(a) Atal, monitro, gorfodi ac erlyn yn effeithiol o ran llygredd.\n\n(b) Monitro ysglyfaethu bywyd gwyllt ac argymell rheolaethau cymesur.\n\n","additional_details":"​4. Derbyniodd Swyddogion Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru yn agored yng nghyfarfod y Bwrdd eu bod wedi methu â chyfathrebu’n effeithiol a mabwysiadu polisi o weithredu cytundebau gyda rhanddeiliaid, y disgwylir iddynt fonitro ac adrodd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru a gorfodi’n wirfoddol y newidiadau arfaethedig i is-ddeddfau, y mae llawer yn anghytuno â nhw.\n\n5. Methwyd â mabwysiadu strategaeth, a gydnabyddir fel arfer gorau mewn gwledydd eraill, i fonitro ac asesu risg pob afon yn gywir, nac argymell dim sancsiynau fesul afon unigol, gyda rhanddeiliaid perthnasol.\n\n6. Mae Bwrdd a Gweithrediaeth Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu â bodloni gofynion gofal a diwydrwydd dyladwy yn ystod y broses ymgynghori, a arweiniodd at fethiant i gydnabod pa mor bwysig yw sut y bydd eu his-ddeddfau newydd yn effeithio’n andwyol ar:\n\n(a) Gyfleoedd pysgota hamdden, budd economaidd i gymunedau gwledig ac arfordirol, a hefyd maent yn mynd yn groes i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015.\n\n(b) Ewyllys da rhanddeiliaid sydd wedi monitro a gwarchod yr amgylchedd naturiol yn effeithiol heb Cyfoeth Naturiol Cymru ers dros ddegawd, a pheryglwyd yr ewyllys da barhaus honno ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. \n\n","state":"completed","signature_count":1070,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-03-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:13:25.069Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-03-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-04-06T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-09-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-03-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-04-06T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-04-06T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:13:25.069Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1287,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1287.json"},"attributes":{"action":"Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig","background":"​Fel llawer o blant eraill yn y Deyrnas Unedig, mae fy mab yn dioddef o dyslecsia. Mae ysgrifennu a darllen Saesneg yn her ddyddiol felly dychmygwch orfod dysgu darllen ac ysgrifennu iaith arall na fyddwch byth yn ei defnyddio. Dyma beth mae fy mab yn gorfod ei wneud bob dydd gan ein bod yn byw yng Nghymru. Rwyf wedi ceisio ei dynnu o’r gwersi Cymraeg fel y gall gael gwersi Saesneg ychwanegol ond mae’n rhwymedigaeth gyfreithiol i’r ysgol ddysgu Cymraeg yng Nghymru. Mae’n her ddyddiol i blant â dyslecsia sy’n byw yng Nghymru. Dylai Cymraeg fod yn ddewisol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig, ac nid yn orfodol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":81,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-01-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:11:46.296Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-01-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-04-05T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-03-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-01-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-04-05T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-04-05T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:11:46.295Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1273,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1273.json"},"attributes":{"action":"Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd.","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno \"Tystysgrif Mynediad\" yn dangos rhifau o ddim i bump yn yr un modd â'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Dylid asesu pob adeilad a ddefnyddir gan y cyhoedd fel siopau, siopau bwyd, clybiau chwaraeon, tafarndai a swyddfeydd, yn ogystal â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl pa mor hygyrch pa mor hygyrch ydynt i gadeiriau olwyn, yn ogystal â pha mor hawdd ydynt i rywun sydd â nam ar y synhwyrau neu anabledd dysgu eu defnyddio.   \r\n  \r\nRydym eisiau i bob safle busnes gael rhif i'w arddangos i ddangos sut mae ei adeiladau yn ystyried pobl anabl. Rydym yn gobeithio y bydd y rheini sy'n cael sgoriau uchel yn darbwyllo safleoedd cyfagos i wella mynediad ac ennill sgôr uchel eu hunain.\r\n\r\nPan gyflwynwyd Tystysgrifau Hylendid Bwyd gyntaf yng Nghymru, nid oeddent yn orfodol, ond fe ddaethant yn orfodol yn ddiweddarach. Ers cyflwyno'r Dystysgrif Hylendid Bwyd, rydym yn credu bod safonau bwyd wedi gwella'n helaeth ac mae safleoedd sydd â rhif uchel yn arddangos eu tystysgrifau â balchder.  Rydym yn credu y bydd safleoedd yn gwneud mwy o ymdrech i wella mynediad a gwasanaethau i'r gymuned anabl pe bai Tystysgrif debyg ar gyfer mynediad yn cael ei chyflwyno.\r\n\r\n\r\n","additional_details":"​Rydym yn credu y bydd cyflwyno tystysgrif o'r fath yn gwella'n aruthrol y gwasanaethau i siopwyr anabl a'r rheini sydd eisiau mynd allan am ddiod neu bryd o fwyd, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sef cyfleusterau y mae'r rhan fwyaf yn eu cymryd yn ganiataol.   \r\n  \r\nEr mwyn ennill sgôr o bump, yn ogystal â bod yn hygyrch i gadeiriau olwyn, bydd angen i safleoedd fod yn gwbl gynhwysol i'r rheini â nam ar eu golwg a'u clyw, ac o bosibl bod gan staff ddealltwriaeth o'r rheini ag anabledd dysgu.   \r\n  \r\nMae bwyty â bwydlen braille neu staff sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a chynnig profiad llawer haws a llai o straen i rywun wrth wneud y pethau bob dydd y mae'r rhan fwyaf yn eu cymryd yn ganiataol.   \r\n  \r\nUn syniad posibl, yn ogystal â chael sgôr dim i bump, fyddai cael symbolau ychwanegol o dan hyn i ddangos a oes gan safle fynediad llawn i gadeiriau olwyn, toiledau hygyrch, gwybodaeth mewn braille neu staff sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion, ac a yw'n ystyried awtistiaeth.   \r\n  \r\nRydym yn teimlo y byddai hyn yn arwain at welliannau mawr. Mae llawer o siopau bwyd yn cystadlu â'i gilydd i gael sgôr uwch ac rydym yn gobeithio y bydd hyn hefyd yn digwydd yn achos Tystysgrif Mynediad.\r\n\r\n","state":"completed","signature_count":3045,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:31:50.124Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-03-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-03-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-03-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:31:50.124Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1284,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1284.json"},"attributes":{"action":"Dylid adolygu a newid y canllawiau o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu unrhyw ganllawiau y mae’n eu rhoi o ran gwobrau am bresenoldeb mewn ysgolion yng Nghymru.​\n\n​\n\nMae llawer o blant ledled Cymru yn dioddef o salwch cronig sy'n effeithio ar eu presenoldeb yr ysgol. Gall plentyn golli ysgol oherwydd y salwch ei hun neu oherwydd apwyntiadau ysbyty y mae'n rhaid iddo fynd iddynt mewn cysylltiad â'r salwch.\n\n \n\nCaiff gwobrau am bresenoldeb, y mae llawer o'r plant hyn yn colli cyfle i'w hennill, eu cyflwyno gan ysgolion bob blwyddyn. Mae hyn yn annheg, ac mae hefyd yn gwahaniaethu yn erbyn y plant hyn.\n\nHoffwn gynnig bod Llywodraeth Cymru naill ai'n cyflwyno ystyriaethau ar gyfer y plant hyn, neu'n cynghori awdurdodau lleol ac ysgolion na ddylid rhoi gwobrau am bresenoldeb.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":123,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-01-09T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:11:36.798Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-01-09T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-03-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-01-09T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-03-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-03-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:11:36.797Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1316,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1316.json"},"attributes":{"action":"Rhoi'r gorau i ddefnyddio ardystiad gweithwyr ar brosiectau Llywodraeth Cymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i roi'r gorau i ddefnyddio a hyrwyddo ardystiad gweithwyr ar gontractau Llywodraeth Cymru.  \nMae ardystiad gweithiwr yn gynllun trwyddedu galwedigaethol wedi'i breifateiddio.\n\n1) Mae'n annemocrataidd ac yn amharu ar egwyddorion y gyfraith gyffredin (hawliau tad-cu).\n\n2) Mae'n rhoi cost hyfforddi a chymwysterau ar weithwyr, yn enwedig gweithwyr hunangyflogedig a gweithwyr asiantaeth sydd heb fawr o siawns o gael grantiau na chyllid.\n\n3) Mae'n lleihau'r siawns o symud i fyny ar gyfer y tlotaf mewn cymdeithas.\n\n4) Mae'n atal symudedd gweithwyr, ar adeg pan mae angen gweithlu hyblyg arnom.\n\n5) Mae'n caniatáu i fuddiannau corfforaethol gael rheolaeth dros weithlu cyfan ein sectorau economaidd, gan gynyddu costau busnesau bach ac isgontractwyr.\n\n6) Mae'n hyrwyddo ceisio rhent, sy'n golygu bod defnyddwyr yn talu mwy am gynhyrchion a gwasanaethau.\n\n7) Mae'n lleihau cynhyrchedd.\n\n8) Mae'n doreithiog a bydd yn ymledu i bob sector economaidd.\n\n9) Gall greu gwrthdaro o ran buddiannau.\n\n10) Nid oes tystiolaeth bod ardystio gweithwyr yn gwella ansawdd na safon crefftwaith.\n\n11) Mae profiad, sgiliau a gwybodaeth yn lleihau risgiau iechyd a diogelwch, a gellir cyflawni'r rhain a'u profi heb gymwysterau.\n\n12) Mae'n cynyddu cost prosiectau cyhoeddus.\n\nI3) Os oes angen gofynion cymhwyster ar ddiwydiant, yna dylai ein llywodraeth a etholwyd yn ddemocrataidd greu deddfwriaeth.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":66,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-03-09T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:13:44.370Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-03-09T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-03-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-07-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-03-09T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-03-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-03-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:13:44.369Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1283,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1283.json"},"attributes":{"action":"Mae ein byd naturiol yn cael ei wenwyno gan blastigau untro...mae'n bryd cyflwyno treth!","background":"​Mae'r dystiolaeth ar gael i'r rhai sydd am ei gweld ... mae ein dibyniaeth ar blastig untro a daflir i ffwrdd yn gwenwyno ein byd naturiol.   \n  \nMae adar y môr yn bwyta plastigau, mae pysgod yn bwyta plastigau, mae pysgod cregyn yn bwyta plastigau ac rydym ni, felly, yn bwyta plastigau.   \n  \nMae cynhyrchu plastigau untro yn cynyddu bob blwyddyn, ond dim ond 9 y cant o blastigau sy'n cael eu hailgylchu yn y byd.   \n  \nErs i gynhyrchu plastigau ar raddfa fawr ddechrau yn y 1950au, rydym wedi cynhyrchu 8.3 biliwn o dunelli ... yn gyfwerth â phwysau un biliwn o eliffantod Affricanaidd! A disgwylir i'r ffigur hwnnw gyrraedd 34 biliwn o dunelli erbyn 2050!!   \n  \nNid oes dim o'r plastig hwn wedi bioddiraddio yn ystod y cyfnod hwn, ond yn hytrach mae wedi parhau i leihau, gan ei wneud bron yn amhosibl i'w ddileu!   \n  \nRydym yn annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno treth ar yr holl blastigau untro sy'n debyg i'r taliad 5p llwyddiannus iawn ar fagiau siopa untro.   \n  \nMae'n bryd gweithredu. \n\n","additional_details":"​Grŵp gwirfoddol yw Cyfeillion Traethau'r Barri, a sefydlwyd saith mlynedd yn ôl, y mae ei nod yw cael gwared â sbwriel, llawer ohono yn blastig, o bum prif draeth y Barri. Rydym yn ymdrechu i ailgylchu cymaint ohono ag y gallwn.   \n  \nMae angen inni ddylunio ein pecynnau a'n cynwysyddion untro fel eu bod yn bioddiraddio'n hawdd yn ein hamgylchedd.\n\n","state":"completed","signature_count":102,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-01-02T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:31:37.097Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-01-02T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-03-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-01-02T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-03-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-03-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:31:37.096Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1295,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1295.json"},"attributes":{"action":"Amddiffyn Maint Dosbarthiadau mewn Ystafelloedd Dosbarth a Gweithdai Dylunio a Thechnoleg","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob ysgol yng Nghymru yn mabwysiadu safon BS4163:2014 yn llawn fel gofyniad yn hytrach nag argymhelliad, er mwyn amddiffyn iechyd a diogelwch disgyblion, athrawon a thechnegwyr.\n\n \n\nYn dilyn cyfarfodydd rhwydweithio ar gyfer athrawon Dylunio a Thechnoleg gan Ein Rhanbarth ar Waith, daeth yn amlwg bod y pwysau ariannol ar ysgolion yn arwain at sefyllfa lle y mae gofyn i athrawon Dylunio a Thechnoleg fwyfwy i addysgu dosbarthiadau mwy na’r 20 disgybl yr argymhellir yn BS4163:2014 \"Iechyd a diogelwch ar gyfer dylunio a thechnoleg mewn sefydliadau addysgol - Cod Ymarfer\". Mae dosbarthiadau mwy o faint yn anochel yn arwain at risg uwch o ran disgyblion yn cael eu hanafu mewn amgylcheddau gweithdy.\n\n","additional_details":"​Mae Cod Ymarfer BS4163:2014 yn nodi’n glir fel a ganlyn:   \n  \n\"9 Rheoli’r amgylchedd addysgu  \n  \n 9.1   \n  \nGwybodaeth gefndir  \nDylid ystyried yn ofalus nifer y dysgwyr mewn unrhyw un ardal weithio, i sicrhau y ceir gweithio diogel a goruchwyliaeth effeithiol.   \n  \nYng Nghymru a Lloegr, dylai dim mwy nag 20 o ddysgwyr fod gydag un athro cymwys, sydd wedi cymhwyso, mewn unrhyw un ardal weithio.  \n  \nYn yr Alban a Gogledd Iwerddon, dylai dim mwy nag 20 disgybl fod ar gyfer pob dosbarth mewn pynciau ymarferol.\"\n\n","state":"completed","signature_count":338,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-01-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:11:52.951Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-01-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-02-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-06-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-01-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-02-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-02-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:11:52.950Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1312,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1312.json"},"attributes":{"action":"Mae angen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer chwarae!!","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu cyllid dynodedig blynyddol i roi cymorth ariannol i bob Awdurdod Lleol wrth gyflawni eu dyletswydd yn unol â'u hasesiad o ddigonolrwydd cyfleoedd chwarae er mwyn osgoi cau darpariaethau chwarae agored megis RAY Ceredigion\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":328,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-02-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:13:15.029Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-02-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-02-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-02-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-02-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-02-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:13:15.028Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1301,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1301.json"},"attributes":{"action":"Rhaid achub y coed a'r tir yng NJgerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr","background":"Fel trigolion lleol, rydym yn credu bod y gwaith arfaethedig i atal llifogydd yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath ym Mhen-y-lan, Caerdydd yn ddinistriol, ac yn ddianghenraid felly.\n\nRydym wedi gweld y llanast yng Ngerddi Waterloo ac yn gwrthwynebu Cyfnod 3 o Gynllun Llifogydd y Rhath gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn ehangu'r nant ym Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath gan arwain at gwymp dros 30 o goed mewn ardal lle na chafwyd unrhyw lifogydd yn y gorffennol.\n\nRydym am achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath er mwyn gwarchod cymeriad yr ardal, lleihau'r difrod ecolegol a gwarchod cynefinoedd ein bywyd gwyllt lleol.\n\nCredwn nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried yn briodol yr holl opsiynau sydd ar gael, a'u bod wedi camarwain y cyhoedd â ffigyrau anghywir yn ystod eu cyfnod ymgynghori, a chredwn ei bod, mewn gwirionedd, yn ddianghenraid i chwalu gerddi'r parc er mwyn ehangu sianel y nant gan waredu hen goed yn y broses.\n\n​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r gorau i'r gwaith yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath ac ystyried yr opsiynau ymarferol eraill sydd ar gael i liniaru'r perygl canfyddedig o lifogydd yn yr ardal hon.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":8700,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2018-02-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:12:27.741Z","rejected_at":null,"opened_at":"2018-02-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-01-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-22T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2018-02-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-01-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-01-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-01-31T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-07T14:47:46.462Z","archived_at":"2021-05-06T15:12:27.740Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Penderfynodd y Pwyllgor wneud ei waith craffu manwl ei hun ar y mater hwn, yn hytrach na chyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl.\r\n\r\nCafodd y Pwyllgor dystiolaeth fanwl gan y deisebwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru a bu’n monitro’r datblygiadau. Caeodd y ddeiseb ym mis Mehefin 2020 ar y sail bod yr ymgyrchwyr wedi llwyddo yn eu nod i gael y risg llifogydd wedi’i ailasesu ac oherwydd nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar hyn o bryd."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1199,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1199.json"},"attributes":{"action":"Newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth.","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":5133,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-06-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:08:25.237Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-06-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-01-29T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-11-13T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-06-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-01-29T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-01-29T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2018-01-29T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-07T14:30:59.172Z","archived_at":"2021-05-06T15:08:25.236Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Cynhaliodd y Pwyllgor sesiynau tystiolaeth gyda'r deisebydd ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg. Cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio'r ddeiseb i'w hystyried fel rhan o ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i 'Addysgu hanes, diwylliant a threftadaeth Cymru'."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1282,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1282.json"},"attributes":{"action":"Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u cyllido'n annibynnol","background":"​Gwasanaethau cymorth i ddynion sy'n ddioddefwyr trais yn y cartref i gael eu rhedeg a'u hariannu yn annibynnol ar Gymorth i Fenywod Cymru a'r holl fudiadau cysylltiedig.   \n  \nY diffiniad traws-lywodraethol o drais a cham-drin yn y cartref yw: \"Unrhyw ddigwyddiad neu batrwm o achosion o ymddygiad, trais neu gamdriniaeth sy'n rheoli, yn gorfodi, yn bygwth, rhwng pobl 16 oed neu hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu'n aelodau o'r teulu, waeth beth fo'u rhyw neu rywioldeb.\"   \n  \nGall Cam-drin yn y Cartref effeithio ar unrhyw un. Mae mwy o ddioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd yn chwilio am help, cyngor, cymorth a  diogelwch nag erioed o'r blaen. Mae'n bwysig bod dioddefwyr gwrywaidd yn haeddu cymorth a chyllid annibynnol gan grwpiau penodol o ran rhywedd fel Cymorth i Fenywod Cymru a grwpiau cysylltiedig.\n\nMae dioddefwyr/goroeswyr gwrywaidd yn haeddu cymorth/help sy'n benodol i'w hanghenion, tra'n parhau i gynnal eu hurddas, a rhoi diogelwch iddynt hwy a'u plant sy'n gyfartal ac yn debyg i'r hyn y mae menywod yn ei dderbyn ar hyn o bryd.\n\n","additional_details":"​Mae'r ystadegau Cam-drin yn y Cartref cyfredol ledled Cymru a Lloegr yn nodi y bydd Cam-drin yn y Cartref yn effeithio ar 1 o bob 4 menyw ac 1 o bob 6 dyn yn ystod eu hoes.   \n  \nMae Cam-drin/Trais yn y Cartref yn broblem a all effeithio ar unrhyw un, felly oni ddylem fod yn:  \n \"Rhoi pobl a'u plant yn gyntaf.\"   \n  \nNid oes mwy o fwlch o ran argaeledd gwasanaethau a chymorth yn seiliedig ar ryw person yn unig ar draws Cymru a'r DU.  \n Mae angen i agweddau newid oherwydd ni ddylai neb (a'u plant) barhau heb ddiogelwch a chymorth mewn modd mor gyhoeddus a chywilyddus oherwydd eu rhyw yng Nghymru, yn yr oes sydd ohoni.   \n  \n Cefnogwch hyn i helpu i gefnogi eraill.\n\n","state":"completed","signature_count":138,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-12-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:30:57.415Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-12-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2018-01-26T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-12-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2018-01-26T00:00:00.000Z","referred_at":"2018-01-26T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:30:57.414Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1266,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1266.json"},"attributes":{"action":"Sicrhau mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o frys","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i alw am ddatrysiad i drafodaethau parhaus rhwng GIG Cymru, Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan, Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Arbenigol Cymru a Vertex Pharmaceuticals ynghylch mynediad i'r feddyginiaeth ffibrosis systig, Orkambi, fel mater o'r brys eithaf.\n\n","additional_details":"​Mae gan 418 o bobl yng Nghymru ffibrosis systig (CF). Mae CF yn anhwylder etifeddol sy'n lleihau bywyd. Yr oedran canolrifol ar farwolaeth i berson â CF yn 2016 oedd 31 oed. Mae CF yn cael ei achosi gan fwtadiadau yn y genyn CFTR sy'n arwain at fwcws trwchus, gludiog yn cronni yn yr ysgyfaint ac organau eraill. Yn raddol, mae'r croniad hwn yn achosi heintiau cronig yn yr ysgyfaint a difrod cynyddol i'r ysgyfaint. Mae'r baich triniaeth ar gyfer person â CF yn uchel a gall bywyd bob dydd fod yn anodd. \n\n \n\nMae Orkambi yn feddyginiaeth fanwl y gallai 40% o bobl yn y DU gyda CF gael budd ohoni. Tra bod triniaethau CF confensiynol yn targedu'r symptomau, mae meddyginiaethau manwl yn mynd i'r afael â'r mwtadiadau genetig sylfaenol sy'n achosi'r cyflwr. Er nad yw Orkambi yn wellhad, canfuwyd ei bod yn  arafu'r dirywiad yng ngweithrediad yr ysgyfaint - yr achos marwolaeth mwyaf cyffredin i bobl â CF - o 42%. \n\n \n\nYm mis Gorffennaf 2016, cydnabu'r Sefydliad Cenedlaethol Rhagoriaeth Glinigol (NICE) Orkambi fel 'triniaeth bwysig.' Fodd bynnag, nid oeddent yn gallu argymell y cyffur i'w ddefnyddio o fewn y GIG ar sail cost effeithiolrwydd a diffyg data hirdymor.\n\n \n\nYm mis Mehefin 2017, trefnodd yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Cystig ddiwrnod o brotest cenedlaethol yn y Senedd, Stormont, Holyrood, Downing Street ac ar-lein i alw am derfyn ar y diffyg cynnydd. Ers y protestiadau, mae Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Arbenigol Cymru (WHSSC) wedi cyflwyno Grŵp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) gyda'r dull portffolio a ddatblygwyd gan wneuthurwr y cyffur, Vertex Pharmaceuticals.\n\n \n\nRydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i alw am ddatrysiad i'r trafodaethau parhaus hyn rhwng GIG Cymru, yr AWMSG, WHSSC a Vertex Pharmaceuticals fel mater o'r brys pennaf. Mae'n hanfodol bod dull ad-dalu teg a chynaliadwy i'w gael ar gyfer Orkambi ac ar gyfer y biblinell gyffrous o driniaethau yn y dyfodol.\n\n \n\nMae pobl yng Nghymru wedi bod yn aros yn rhy hir am y cyffur trawsnewidiol hwn. Maen nhw'n haeddu gwell.\n\n \n\n","state":"completed","signature_count":5717,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-11-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:11:18.121Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-11-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-11-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-11-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2017-12-31T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-07T14:44:07.412Z","archived_at":"2021-05-06T15:11:18.120Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Penderfynodd y Pwyllgor wneud ei waith craffu manwl ei hun ar y mater hwn, yn hytrach na chyfeirio'r ddeiseb ar gyfer dadl.\r\n\r\nAr ôl ystyried ystod o dystiolaeth gan Lywodraeth Cymru, Vertex Pharmaceuticals, yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig a’r deisebydd, caewyd y ddeiseb ym mis Tachwedd 2019 yn dilyn cadarnhad bod cytundeb wedi’i wneud i sicrhau bod Orkambi ar gael i gleifion yng Nghymru: https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cytundeb-mynediad-ir-meddyginiaethau-ffeibrosis-systig-orkambir-and-0"},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1131,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1131.json"},"attributes":{"action":"Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru","background":"​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru. Mae Lles Anifeiliaid (ac eithrio hela ac arbrofi ar anifeiliaid) yn fater datganoledig yng Nghymru.\n\nYm mis Rhagfyr 2015, dywedodd Rebecca Evans AC (y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd), \"Mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad oes unrhyw le i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau\".\n\nO dan ei chyfarwyddyd hi,  comisiynodd Llywodraeth Cymru adroddiad annibynnol a chafwyd tystiolaeth gan dros 600 o arbenigwyr yn y maes. Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Gorffennaf 2016, ac roedd y casgliadau’n glir.  \nYn ôl yr adroddiad, mae’r dystiolaeth wyddonol yn dangos nad yw syrcasau teithiol sy’n defnyddio anifeiliaid gwyllt yn bodloni’r gofynion lles a nodir o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.\n\nMae'r adroddiad hefyd yn datgan \"Nid yw bywyd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sŵau teithiol yn “fywyd da” nac yn “fywyd sy’n werth ei fyw”.\n\nYm mis Rhagfyr 2016, dywedodd Lesley Griffiths AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig) fod Llywodraeth Cymru yn  gweithio tuag at sefydlu system drwyddedu, debyg i honno sy’n cael ei rhedeg gan DEFRA yn Lloegr ar hyn o bryd. Dylid nodi bod Llywodraeth y DU wedi rhoi’r system hon ar waith yn 2011 fel mesur dros dro hyd nes y gellid gwaharddiad yr arfer.\n\nMae’r dogfennau trwyddedu sydd ar gael i’r cyhoedd eu gweld yn dangos yn glir fod y system drwyddedu hon yn methu yn ei hymdrech i ddiogelu anifeiliaid. Mae'r ddwy syrcas anifeiliaid sydd wedi’u trwyddedu o dan DEFRA ar hyn o bryd wedi torri amodau eu trwyddedau droeon, ac mae eu trwyddedau wedi’u hatal ar ryw adeg neu'i gilydd.\n\nMewn arolwg a gynhaliwyd gan RSPCA Cymru, roedd 74% o bobl Cymru yn awyddus i’r arfer hwn gael ei wahardd. Cyflwynodd y corff hwn hefyd ddeiseb i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cymru yn 2015.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":6398,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-02-28T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:51:29.276Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-02-28T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-09-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-02-28T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2017-12-31T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2018-03-07T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T14:51:29.275Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2018-03-07","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/4911#A42158","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/4911?startPos=13154&l=cy","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Mawrth 2018"},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1218,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1218.json"},"attributes":{"action":"Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG","background":"​Creodd A119 o'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 bwerau i ddelio â phobl sy'n achosi niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG. Ni chafodd hyn ei ddeddfu yng Nghymru, ac nid oes unrhyw ddarpariaethau i ddelio â phobl sy'n creu problemau ar gyfer y GIG yn y modd hwn.   \n  \nMae yna nifer o unigolion sy'n achosi problemau tra ar safleoedd y GIG, ac mae'r heddlu yn derbyn llawer o alwadau i ddelio ag ymddygiad o'r fath, ond nid oes unrhyw ffordd o ymdrin â'r mater hwn yn effeithiol gan nad oes trosedd benodol y gall yr heddlu ei defnyddio i atal pobl, heb fod ganddynt esgus rhesymol, sydd naill ai'n achosi aflonyddwch neu niwsans, yn gwrthod gadael yr adeilad pan ofynnir iddynt, neu nad ydynt ar y safle at ddiben cael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol.\n\n","additional_details":"​Mae'r gost i wasanaethau iechyd a'r heddlu wrth ddelio â phobl sy'n achosi niwsans ar safleoedd y GIG yn sylweddol. Mae nifer o'r unigolion hyn yn ymddangos dro ar ôl tro, ac nid oes unrhyw bwerau i ddelio â hyn. Mae eu presenoldeb hefyd yn achosi gofid i eraill sy'n mynd at y GIG am resymau dilys. Mae A119 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 wedi cael ei defnyddio'n llwyddiannus gan yr heddlu ac iechyd yn Lloegr i fynd i'r afael â'r mater ers i'r adran benodol ddod i rym yn 2009, ac eto nid oes unrhyw bŵer i wneud hynny yng Nghymru, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y byddai pwerau tebyg i fynd i'r afael â'r mater hwn yn cael eu datblygu yng Nghymru, nid yw hyn wedi digwydd.\n\n","state":"completed","signature_count":74,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-07-19T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:30:47.785Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-07-19T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-12-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-02-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-07-19T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-12-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-12-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:30:47.785Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1189,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1189.json"},"attributes":{"action":"Gostwng yr Oedran Pleidleisio i Un ar Bymtheg","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ostwng yr oedran pleidleisio i un ar bymtheg ar gyfer yr etholiadau hynny lle y mae ganddo'r pwerau i wneud hynny.\n\n","additional_details":"​Rydym yn byw mewn cymdeithas ddemocrataidd a dylai pob aelod ohoni feddu ar y gallu i fod yn gyfrifol am eu dewisiadau yn ein gwlad. Yn un ar bymtheg gallwch briodi, cael babi, a thalu trethi. Yn un ar bymtheg gallwch gyfrannu at economi'r wlad, ond ni allwch eto benderfynu sut y caiff arian cyhoeddus ei wario.  \n\n","state":"completed","signature_count":87,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-05-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:07:54.320Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-05-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-12-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-09-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-05-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-12-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-12-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:07:54.319Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1151,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1151.json"},"attributes":{"action":"Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref","background":"​Yma yng Nghymru, roeddwn i’n falch mai ni oedd y cyntaf i gael Comisiynydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc a Chomisiynydd ar gyfer Pobl Hŷn. Yn anffodus, mae’r Alban wedi achub y blaen arnom i gael Comisiynydd ar gyfer Cyn-filwyr.\n\nRydym ni gyn-filwyr angen rhywun i fod yn llais a chynrychiolaeth ar ein rhan i lywodraeth Cynulliad Cymru. Nid beth mae’r “uwch-swyddogion” eisiau i chi ei wybod.\n\nRydym angen rhywun a all gwrdd â ni, a fydd yn gwybod ein safbwynt a’r hyn yr ydym ei angen. I gefnogi’r sawl anffodus sy’n cael eu hunain yn y carchar yn hytrach nag eu bod derbyn triniaeth iechyd meddwl am Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":50,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-03-17T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:52:38.640Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-03-17T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-12-13T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-12-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-03-17T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-12-13T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-12-13T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:52:38.639Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1219,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1219.json"},"attributes":{"action":"Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru","background":"​Mae bron deng mlynedd ers i Lywodraeth Cymru ddiddymu taliadau parcio mewn ysbytai ac eto, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i roi contract i Indigo Parking UK sy'n mynd ati'n ddidrugaredd i ddirwyo staff gweithgar y GIG a chleifion gwael, sef y rheini sydd lleiaf tebygol o fedru eu fforddio!   \n  \nMae'n hen bryd diddymu contractau parcio yn ysbytai Cymru ar unwaith ac atal y cwmnïau hyn rhag codi tâl ar y bobl wannaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.​\n\n","additional_details":"​Nod y ddeiseb hon yw dangos cefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael dirwy gan gwmnïau gorfodi fel Indigo Parking UK, a hynny'n aml ar yr adeg pan oeddent ar eu gwannaf.  \n  \nDylai bod modd defnyddio'r gyfraith i gael gwared ar y cwmnïau hyn a dylid dangos nad oes croeso iddynt yng Nghymru.​\n\n","state":"completed","signature_count":102,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-07-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:09:16.436Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-07-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-12-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-10-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-07-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-12-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-12-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:09:16.436Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1235,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1235.json"},"attributes":{"action":"Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i adnabod yn briodol a chefnogi'n effeithiol yr unigolion hynny yr effeithir arnynt ac a niweidir gan ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a'r adwaith wrth ddiddyfnu oddi wrthynt.  \r\n   \r\nSefydlwyd y ddeiseb hon i godi ymwybyddiaeth o sefyllfa unigolion yng Nghymru yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth ar gyffuriau gwrth-iselder a bensodiasepinau ar bresgripsiwn a'r adwaith wrth geisio diddyfnu oddi wrthynt. Yn benodol gofynnwn i Lywodraeth Cymru gefnogi galwad Cymdeithas Feddygol Prydain ledled y DU am gamau i ddarparu cymorth amserol a phriodol ar gyfer unigolion yr effeithir arnynt.   \r\nMae'r term \"dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn\" yn cyfeirio'n benodol at y sefyllfa lle mae cleifion, ar ôl cymryd eu meddyginiaeth gwrth-iselder neu bensodiasepin yn union fel a ragnodwyd gan eu meddyg, yn gweld na allant roi'r gorau oherwydd yr effeithiau diddyfnu difrifol. Mae'n bwysig nodi yma bod caethiwed a dibyniaeth yn gysylltiedig â'i gilydd, ond yn faterion gwahanol. Mae defnyddio'r term 'bod yn gaeth' yn awgrymu bod yr unigolyn yn ymddwyn mewn ffordd benodol er mwyn ceisio pleser. Mae adroddiadau am ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn y cyfryngau yn parhau i gyfeirio at \"camddefnyddio\" a \"bod yn gaeth\" fel pe bai'r claf yn gyfrifol mewn rhyw ffordd am ei niwed ei hun. Mae hyn ymhell o'r gwir. Ni cheir unrhyw bleser o gwbl o sylweddoli eich bod yn dioddef amrywiaeth eang o symptomau corfforol ac emosiynol wrth geisio rhoi'r gorau i'ch meddyginiaeth gwrth-iselder neu cymryd llai ohoni. Mewn rhai achosion, gall y symptomau gyfyngu ar fywyd pobl ac, yn drasig, gallant fod yn angheuol hyd yn oed. Mae ar gleifion angen cydnabyddiaeth ffurfiol, cymorth ac arweiniad i'w helpu drwy eu taith o roi'r gorau i'r feddyginiaeth ac nid yw hynny'n bodoli ar hyn o bryd.\r\n\r\n","additional_details":"​Yn ddiweddar, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi tynnu sylw at broblem dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn. Ym mis Mai 2017 ysgrifennodd: \"Prescribing of psychoactive drugs is a major clinical activity and a key therapeutic tool for influencing the health of patients. But often their use can lead to a patient becoming dependent or suffering withdrawal symptoms. In the absence of robust data, we do not know the true scale and extent of the problem across the UK. However, the evidence and insight presented to us by many charity and support groups shows that it is substantial. It shows us that the 'lived experience' of patients using these medications is too often associated with devastating health and social harms. This represents a significant public health issue, one that is central to doctors' clinical role, and one that the medical profession has a clear responsibility to help address.\" Oherwydd nad yw sgil effeithiau, effeithiau goddefiad ac effeithiau diddyfnu'r meddyginiaethau hyn yn cael eu hadnabod yn feddygol am yr hyn ydynt, pan fydd cleifion yn datblygu'r effeithiau/symptomau cysylltiedig hyn maent yn aml yn cael presgripsiwn ar gyfer meddyginiaethau eraill ac yna mae'r gymysgedd o nifer o feddyginiaethau yn cymhlethu'r problemau ymhellach.  \r\nMae cleifion yr effeithir arnynt yn eu cael eu hunain â diagnosis amwys, e.e.'symptomau heb esboniad meddygol' neu 'anhwylderau'r system anorganaidd / corfforol'. Yn y bôn, diagnosis seiciatrig yw pob un o'r rhain, yn priodoli amrywiol symptomau corfforol sy'n gwanychu a llesgáu'r claf i'w bryder a'i gredoau ac ati ei hun.  Effaith hyn yw diystyru, diraddio a digalonni rhagor ar y cleifion hyn. Os na ellir cydnabod bod modd i gleifion ddioddef niwed a chamweithrediad anorganaidd parhaus ar y system nerfol o ganlyniad i gymryd meddyginiaethau 'yn unol â'r presgripsiwn' (weithiau dros lawer o flynyddoedd), bydd dysg a gwelliant meddygol systemig yn cael eu llesteirio a bydd cleifion yn parhau i gael eu niweidio ymhellach. Yn y cyfamser ni sylweddolir o hyd faint y risgiau wrth roi'r presgripsiwn cychwynnol, ac mae'r canllawiau camarweiniol a'r cyngor 'arfer gorau' ar gyfer rhoi meddyginiaethau o'r fath ar bresgripsiwn yn parhau yr un fath.​\r\n","state":"completed","signature_count":213,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-09-25T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:10:16.343Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-09-25T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-05-22T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-09-25T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2019-05-22T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T15:10:16.342Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2019-05-22","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/5658#A51200","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/5658?startPos=8121&l=cy","debate_pack_url":"http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=19952","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 22 Mai 2019."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1261,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1261.json"},"attributes":{"action":"Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.","background":"​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn cyflwyno'r ddeiseb hon i Gynulliad Cymru er mwyn ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ar yr A487 i ffin y plwyf ble mae'r terfyn 50 mya yn dechrau.  \nAr hyn o bryd mae'r terfyn 40mya yn dod i ben cyn ble'r oedd yr ysgol leol gynt, ar ffordd Lon-yr-Ysgol. Mae'r ysgol bellach wedi cau, ond mae'r plant yn dal yma, ac maent bellach yn cael eu codi yn arosfan bws Lon-yr-Ysgol ble y byddant yn aros, ar brydiau gyda rhieni gyda phlant bach, am y bws ysgol. Yn y prynhawn, pan fyddant yn cael eu gollwng ar ddiwedd y dydd, mae'n sefyllfa wahanol, gan bod yn rhaid i'r plant groesi'r A487 o ochr arall y ffordd.  \nY cyfyngiad cyflymder yn y man lle y mae'r plant yn gorfod croesi'r ffordd yw 60mya ac mae'r traffig, sydd wedi'i ryddhau o gyfyngiadau'r parth 40mya, yn cyflymu ac yn aml yn goddiweddyd ar y rhan syth hon o'r ffordd. Draw yr ochr bellaf i'r ffordd nid oes arwydd 'Araf – Plant yn croesi', dim arwydd arosfan bws na lloches arosfan bws i roi rhybudd i fodurwyr y gallai cerddwyr fod yn croesi.  \nDyma hefyd y man ble y mae'r ramp mynediad i'r anabl wedi'i leoli ar ddwy ochr y ffordd, a defnyddir hwn gan rieni â chadeiriau gwthio a'r henoed gyda fframiau cerdded yn ogystal â chan bobl gydag anabledd ac ati.  \nBu un farwolaeth eisoes ar y rhan hon o'r ffordd a'r wythnos diwethaf cafodd cerbyd mawr arall ddamwain a mynd oddi ar y ffordd a thrwy'r gwrych, gan falurio rhan fawr o ffens.  \nCredaf mai mater o amser yn unig yw nes y bydd plentyn yn colli ei fywyd.  \nErs i'r terfyn cyflymder gael ei osod ar y ffordd, adeiladwyd fferm solar gyda mynediad i'r rhan hon o'r ffordd a thraffig ychwanegol. Hefyd mae hen adeiladau'r ysgol wedi dod yn barc busnes, gyda siop sglodion, busnes ceiropractydd, warws carpedi, man golchi ceir, ac mae rhagor i ddod.  \nMae hyn oll wedi arwain at gynnydd o ran traffig trwm sy'n troi i mewn i Lon-yr-Ysgol ac yn ceisio ei gadael.  \nMae'r ddeiseb hon yn gofyn i Gynulliad Cymru roi blaenoriaeth i ddiogelwch ein plant, ac ymestyn y parth 40mya i gynnwys y rhan gyfan o'r A487 o fewn ffin y plwyf.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-11-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:11:09.341Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-11-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-09-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-11-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:11:09.340Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1247,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1247.json"},"attributes":{"action":"Mynd i'r afael â chysgu ar y stryd","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r ffaith bod pobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru. Mae llywodraeth ddatganoledig yn \"llywodraeth sy'n nes at y bobl,\" yr holl bobl!\n\nSymudais i Gymru yn ddiweddar, ac rwyf wedi cwympo mewn cariad â phopeth Cymreig. Ond bob dydd mae fy hapusrwydd yn gymysg â thristwch mawr oherwydd fy mod yn gweld cymaint o bobl sy'n cysgu ar y stryd. Mae eu dioddefaint parhaus yn sarhad imi fel aelod o'r hil ddynol. Fel unigolyn, ni allaf ddatrys eu problem ar fy mhen fy hun ond gyda'n gilydd fel llywodraeth a phobl gallwn wneud gwahaniaeth.\n\nMae'r bobl ddigartref yr wyf yn cerdded heibio iddynt bob dydd yng Nghymru wedi nodi eu bod yn teimlo fel \"pobl sydd wedi mynd yn angof\". Maent yn byw mewn cylch dieflig na ellir ond ei dorri os bydd y llywodraeth yn gosod strategaeth glir i'w cael oddi ar y stryd ac i mewn i lety diogel er mwyn iddynt adennill eu bywydau. Oddeutu pythefnos yn ôl gwelais unigolyn digartref, a dywedodd rhywun fod pobl sy'n cysgu ar y stryd eisiau bod yn ddigartref. Wrth imi ddadlau yn erbyn y rhesymeg hon, gwelodd y ddau ohonom ddyn digartref ger City Road yn darllen llyfr!\n\nNid oes neb yn dewis bod yn ddigartref. Mae pobl yn dod yn ddigartref o ganlyniad i amgylchiadau penodol ac mae gan y llywodraeth ddyletswydd i gael pobl oddi ar y stryd fel y gallant bleidleisio a bod yn ddinasyddion gweithredol sy'n byw ag urddas, ac fel bod cyfleoedd gwaith ar gael iddynt. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru roi cymorth i unrhyw un sydd mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod ond nid yw hynny'n datrys problem unigolion sydd eisoes yn ddigartref ac sy'n cysgu ar y strydoedd. Mae angen inni roi sylw nawr i'r ffaith bod pobl yn cysgu ar y stryd!\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":71,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-10-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:10:51.348Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-10-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-10-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-10-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-11-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:10:51.347Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1207,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1207.json"},"attributes":{"action":"Achub Cenhedlaeth y Dyfodol yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol unigol yn dyrannu o leiaf 50 y cant o’u dyraniadau amcanol i waith ieuenctid drwy’r ‘Grant Cynnal Refeniw’.\n\n","additional_details":"​Mae’r mater o p’un ai y dylid neilltuo symiau penodol o’r ‘Grant Cynnal Refeniw’ ar gyfer gwaith ieuenctid ai peidio eisoes wedi’i nodi yn un o’r adroddiadau a gyhoeddwyd gan y ‘Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg’ yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n ffaith bod yna fwlch rhwng y cyfraniadau ariannol gwirioneddol i waith ieuenctid gan awdurdodau lleol unigol drwy’r Grant Cynnal Refeniw a’r dyraniad amcanol ar gyfer y gwaith hwn.  \nMae hyn yn hanfodol i sicrhau a chynnal ansawdd y gwaith a wneir gyda phobl ifanc yng Nghymru er mwyn iddynt gael cyfleoedd gwerthfawr i wella eu hunain mewn amgylchedd cefnogol. Ni ddylai’r ffactor hanfodol hwn ddibynnu ar benderfyniadau awdurdodau lleol yn unig, sy’n amrywio o un i’r llall oherwydd eu blaenoriaethau o ran gwariant. Rhaid i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn fwy rhagweithiol i sicrhau bod y lefel isaf yn cael ei chynnal o ran ansawdd y gwasanaethau a ddarperir ledled Cymru.  \nMae neilltuo rhannol yn atal awdurdodau lleol unigol rhag gostwng ymhellach lefel yr adnoddau ariannol sy’n cael eu gwario ar waith ieuenctid, gan eu galluogi i gynnal rhywfaint o annibyniaeth wrth flaenoriaethu eu gwariant yn unol â’u blaenoriaethau unigol. Efallai mai’r syniad penodol hwn yw’r ateb mwyaf realistig i’r mater.\n\n","state":"completed","signature_count":54,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-06-30T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:08:50.031Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-06-30T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-11-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-01-23T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-06-30T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-11-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-11-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:08:50.031Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1245,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1245.json"},"attributes":{"action":"Cael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar agwedd orfodol Bagloriaeth Cymru ac adolygu strwythur y cwrs i sicrhau ei fod yn addas at y diben. Ar hyn o bryd mae’n cynnwys tasg sy’n annog gamblo dan oed a diofalwch ariannol.\n\nMae ein plant yn haeddu’r hawl i ragori ar y llwyfan byd-eang. Mae tua 70% o’u hastudiaethau eisoes yn bynciau gorfodol ac mae Bagloriaeth Cymru yn cymryd cyfleoedd oddi wrthynt oherwydd na allant astudio’r holl bynciau y maent yn dymuno mynd ar eu trywydd. Efallai bod y 'cymhwyster' yn ffordd o dicio blwch ond nid yw’n helpu myfyrwyr Cymru i wireddu eu potensial (gweler y detholiad dilynol o adroddiad gan Lywodraeth Cymru). Bydd hyn yn cael effaith andwyol ar weddill eu bywydau ac ar eu rhagolygon gyrfa at y dyfodol. Rhowch yr un cyfleoedd i blant sy’n astudio yn ysgolion Cymru â’r rheini o wledydd eraill y Deyrnas Unedig a gwnewch addysg Cymru yn rhywbeth i fod yn falch ohono eto.\n\n","additional_details":"Daw’r canlynol o adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun i gymhwyster Bagloriaeth Cymru (Cymhwyster Bagloriaeth Cymru, Ionawr 2015), gan nodi – Roedd canfyddiadau adroddiad WISERD yn ddwy ran yn bennaf. Daeth i'r casgliad fod CBC yn arbennig o werthfawr o ran paratoi pobl ifanc ar gyfer addysg uwch, o bosibl oherwydd y pwysau sydd ganddo yn nhariff UCAS. Ar yr un pryd, roedd yr adroddiad yn cefnogi canfyddiad blaenorol mewn adroddiad yn 2011 yn benodol ar Brifysgol Caerdydd nad oedd elfen Graidd CBC gyfwerth â gradd A Safon Uwch. At hynny, daeth i'r casgliad fod myfyrwyr gyda CBC yn fwy tebygol o dynnu'n ôl o'r brifysgol ac yn llai tebygol o sicrhau 'gradd dda', a ddiffinnir fel gradd Dosbarth Cyntaf neu radd Ail Ddosbarth Uwch.\n\nMae'r adroddiad yn dadlau y gall y ddau ganfyddiad fod yn gysylltiedig. Daw i'r casgliad yr ymddengys fod CBC yn gwella'r tebygolrwydd o fynd i'r brifysgol, gyda phopeth arall yr un peth; ond ymddengys y daw'r fantais hon ar draul canlyniadau llwyddiannus yn y brifysgol.​\n\n","state":"completed","signature_count":60,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-10-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:10:40.835Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-10-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-11-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-06-11T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-10-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-11-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-11-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:10:40.834Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}}]}