{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau.json?page=46&state=archived","first":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?state=archived","last":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=54&state=archived","next":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=47&state=archived","prev":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=45&state=archived"},"data":[{"type":"petition","id":1239,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1239.json"},"attributes":{"action":"Adolygu cymorth i geiswyr lloches sy’n ymgymryd ag addysg bellach","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), y Gronfa Ariannol Wrth Gefn (CAwG) a Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLlC) i ganiatáu i fwy o geiswyr lloches allu cymryd rhan mewn addysg bellach.\n\n","additional_details":"​Yn y cyfnod anodd hwn pan mae chwyddiant yn cynyddu ac mae eitemau bob dydd yn mynd yn fwyfwy drud i ddinasyddion y DU hefyd, mae bron yn amhosibl i geiswyr lloches symud ymlaen ymhellach yn eu haddysg uwch/mynediad. Rydym ni (Ceiswyr Lloches) yn cael ychydig dros £5 y dydd yn unig gan y Swyddfa Gartref, ac o'r swm hwn mae'n rhaid prynu bwyd, dillad, costau cludiant dyddiol ac mae'r rhestr yn parhau. Hyd yn oed pe byddwn yn ceisio rhywsut (trwy dorri i lawr ar fwyd neu rywbeth arall pwysig) mae cost y cludiant ar gyfer y cwrs cyfan gan gynnwys unrhyw daliadau eraill fel cofrestru a gofal plant yn ormod i allu ymdopi â hwy. Fy mhwynt yw na ddylid gwahaniaethu rhwng ceisiwr lloches ac unrhyw berson arall sy'n byw yng Nghymru os yw'r ddau'n ceisio mynd i'r coleg ar gyfer cyrsiau addysg uwch/mynediad. Os yw person o Gymru yn cael CAwG a GDLlC yna dylai ceisiwr lloches hefyd dderbyn y ddau, neu unrhyw gymorth cysylltiedig arall a fydd yn ei alluogi i symud ymlaen yn ei fywyd. Oherwydd costau a grybwyllwyd eisoes, rwyf wedi gweld cynifer o geiswyr lloches yn gwrthod eu cyfle i ymgymryd ag addysg uwch. Mae hefyd yn golygu na fyddant yn gwneud unrhyw beth cynhyrchiol gan nad yw gweithio'n cael ei ganiatáu, a bydd eistedd gartref yn eu gwneud yn fwy rhwystredig. Hoffwn hefyd sôn am enghraifft ddiweddar pan y gwnaeth person anghenus (y gwrthodwyd ei gais am loches ac y cafodd ei gymorth ariannol a'i dŷ ei dynnu'n ôl gan y Swyddfa Gartref) gyflawni hunanladdiad. Roedd yn byw yn y sefyllfa hon ers peth amser ac nid oedd yn gallu gwneud defnydd o'i fywyd. Rwy'n credu pe byddai wedi cael cyfle efallai na fyddai wedi mynd mor bell â hynny. Byddai galluogi mwy o geiswyr lloches i gael addysg nid yn unig yn rhoi rhywfaint o bwrpas iddynt mewn bywyd ond byddai hefyd yn cyfoethogi'r gymuned lle maent yn byw. Wedi'r cyfan, o dderbyn ein trwydded breswyl, byddem yn annibynnol ac yn rhydd i weithio a bydd yr addysg hon yn ein helpu mewn sawl ffordd i lunio ein teuluoedd a'n cymunedau mewn ffyrdd llawer gwell.​\n\n","state":"completed","signature_count":78,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-09-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:10:25.048Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-09-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-11-24T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-05-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-09-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-11-24T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-11-24T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:10:25.047Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1270,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1270.json"},"attributes":{"action":"Band eang cyflym i bentref Llangenni","background":"​​Rydym ni, preswylwyr pentref Llangenni ym Mhowys, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rheoli eu contract am fand eang cyflym yng Nghymru gyda BT mewn modd fel y bydd pentref Llangenni wedi cysylltu â chyflymder uchel erbyn 31 Rhagfyr 2017.\n\n","additional_details":"​​Ar hyn o bryd, mae preswylwyr yn ein pentref yn profi colli gwasanaeth yn rheolaidd neu gyflymder mor isel â 0.01Mb/s. Mae llawer o breswylwyr yn rhedeg busnesau neu sefydliadau gwirfoddol o adref ac mae angen band eang cyflym arnynt. Mae'r gwasanaeth presennol yn gwbl annerbyniol.​\n\n","state":"completed","signature_count":72,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-11-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:11:25.647Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-11-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-11-20T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-04-02T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-11-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-11-20T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-11-20T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:11:25.646Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1242,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1242.json"},"attributes":{"action":"Arbedwch ein cefn gwlad - dylid adolygu TAN 1","background":"​Mae newidiadau i Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN1) yn 2015 wedi arwain at dargedau tai blynyddol na ellir eu cyrraedd. Mae hyn wedi arwain at wahanu penderfyniadau cynllunio oddi wrth y broses gynllunio ddemocrataidd leol, ac wedi tanseilio Cynlluniau Datblygu Lleol mabwysiedig (CDLlau) ledled Cymru.   \n  \nRydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adfer y defnydd o \"fethodoleg cyfraddau adeiladu yn y gorffennol\" o fewn Nodyn Cyngor Technegol 1, ochr yn ochr â’r \"fethodoleg weddilliol\". Byddai hyn yn sicrhau bod Cynghorau yn gallu cynnal asesiadau anghenion cyflenwi tir deallus a chredadwy. Mae perfformiad o ran cyflenwi tai yn y gorffennol wedi adlewyrchu amodau economaidd a gallu a gwydnwch y diwydiant adeiladu lleol.   \nEr mwyn sicrhau cyflenwad o dir hygyrch a chyflawnadwy, ac i gydbwyso’r angen am dai gyda’r angen i ddiogelu ein hamgylchedd a’n treftadaeth, mae’n hanfodol bod amodau economaidd a chynhwysedd y diwydiant adeiladu lleol yn cael eu hystyried mewn cyfrifiadau blynyddol o ran y Cyflenwad Tir Pum mlynedd ar gyfer Tai.\n\nMae newidiadau i TAN1 wedi gorfodi Cynghorau Lleol i ganiatáu datblygiadau tai sy’n fwy na’r hyn a ystyrir yn alw lleol. Mae’r datblygiadau hyn yn aml ar raddfa fawr ac yn cael effaith andwyol ar y llain werdd a threftadaeth ein Sir, wrth i ardaloedd trefol a gwledig or-ehangu. Mae hyn, yn ei dro, yn rhoi galwadau ychwanegol ar wasanaethau sydd eisoes wedi’u hymestyn, fel Meddygon Teulu, Ysbytai, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Ysgolion.   \n  \nMae tynnu methodoleg y cyfraddau adeiladu yn y gorffennol yn 2015 yn achosi i nifer cynyddol o Awdurdodau Lleol ddatgan diffyg Cyflenwad Tir am bum mlynedd. Mae hyn, yn ei dro, yn gorfodi Cynghorau Lleol, yn erbyn eu hewyllys a’u tueddiad naturiol, i gymeradwyo ceisiadau datblygu hapfasnachol ar dir maes glas sy’n sensitif yn lleol, tir heb ei ddyrannu yn eu CDLlau a, phan na roddir cymeradwyaeth leol i’r ceisiadau hapfasnachol hyn, mae penderfyniadau democrataidd lleol yn cael eu gwrthdroi ar apêl, yn benodol oherwydd diffyg Cyflenwad Tir 5 mlynedd ar gyfer Tai.\n\n","additional_details":"​Yn 2014, roedd gan Gyngor Sir Conwy gyflenwad tir am fwy na saith mlynedd pan archwiliwyd ei Gynllun Datblygu Lleol gan yr Arolygydd Cynllunio, ac y cymeradwywyd ef. Lai na 12 mis yn ddiweddarach roedd y newidiadau i TAN 1 wedi lleihau cyflenwad tir Sir Conwy i lai na phum mlynedd. Mae hyn wedi lleihau ymhellach gyda chyfrifiadau blynyddol o’r cyflenwad tir a fu ers hynny. Yn 2017, mae cyflenwad tir Conwy yn 3.1 blynedd erbyn hyn, o ganlyniad uniongyrchol i’r newidiadau i TAN1, ac mae’r Cyngor yn cael ceisiadau datblygu hapfasnachol ar gyfer tir nad yw wedi’i ddyrannu yn y CDLl, er bod tir a ddyrannwyd ar gael. Pe bai methodoleg y cyfraddau adeiladu yn y gorffennol yn cael ei ganiatáu o hyd, byddai gan Sir Conwy gyflenwad am 8.5 mlynedd heddiw.   \nMae canllawiau Llywodraeth Cymru ar TAN1 yn dweud wrth Gynghorau Lleol sut i gyfrifo eu cyflenwad o dir tai. Dylai pob Cyngor feddu ar ddigon o dir i ddiwallu anghenion ar gyfer pum mlynedd o adeiladu tai. Yn y TAN1 blaenorol, roedd dau ddull o gyfrifo faint o dir yr oedd ei angen:   \n  \n 1. Y dull gweddilliol, sy’n seiliedig ar gyfanswm yr angen am dai o Gynllun mabwysiedig.  \n 2. Y dull cyfraddau adeiladu yn y gorffennol, gan ddefnyddio’r cyfraddau adeiladu tai ar sail y 5 mlynedd ddiwethaf i ragweld y drefn am y 5 mlynedd nesaf.   \n  \nMae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i ni gydbwyso ein penderfyniadau a’n gweithredoedd o ran effaith heddiw ac effaith yn y dyfodol. Yn sicr, oni ddylem ddefnyddio’r meddylfryd hwn i gynllunio tir a’r defnydd o dir? Mae polisi presennol Llywodraeth Cymru yn gorfodi i dir glas allweddol gael ei goncritio ac i ddod yn dir llwyd yn barhaol. Gwrthodwyd yn chwyrn y cam o osod a chyfyngu ar y defnydd o’r \"fethodoleg weddilliol\" yn ystod y cyfnod ymgynghori a thu hwnt, ond anwybyddwyd lleisiau’r Cynghorau Lleol. Mae angen i Gynghorau Lleol allu:  \n• amddiffyn treftadaeth a’r amgylchedd, a’r defnydd o dir glas sensitif, ac ymarfer disgresiwn, dyfarnu a rheolaeth leol o ran ble y mae angen datblygu a ble y’i caniateir.\n\n","state":"completed","signature_count":706,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-09-28T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:30:31.446Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-09-28T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-11-05T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-09-28T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-11-05T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-11-05T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:30:31.445Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1243,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1243.json"},"attributes":{"action":"Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded y mae wedi'i rhoi i NNB Genco, sy'n caniatáu gollwng hyd at 300,000 o dunelli o ddeunydd a halogwyd yn ymbelydrol, wedi'i garthu o wely'r môr ar safle pwerdy niwclear Hinkley Point, yn nyfroedd glannau Cymru.\r\n\r\nRydym hefyd yn gofyn bod cyfnod atal y drwydded yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i sicrhau bod asesiad llawn o'r effaith Amgylcheddol, dadansoddiad radiolegol cyflawn a samplu craidd yn cael eu cynnal o dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, a bod ymchwiliad cyhoeddus, gwrandawiad llawn o dystiolaeth annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cynnal cyn rhoi caniatâd i ollwng unrhyw waddodion o Hinkley.","additional_details":"​Mae Trwydded Forol 12/45/ML, a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn caniatáu gwaredu hyd at 300,000 o dunelli metrig o waddod morol a halogwyd yn ymbelydrol, wedi'i garthu o wely'r môr ar safle pwerdy niwclear Hinkley Point, ar safle dympio morol Cardiff Grounds yn agos at arfordir de Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i waith ddechrau ar y ddwy bibell newydd yn adweithydd niwclear Hinkley C.\r\n \r\nMae'r gwaddodion sydd i'w carthu wrth ymyl y pibellau gwastraff a ddefnyddir ar gyfer gollyngiadau o bedwar adweithydd presennol Hinkley. Mae dadansoddiad a gomisiynwyd gan asiantaethau Llywodraeth y DU yn dangos bod y gwaddod wedi'i halogi gan wastraff ymbelydrol a ryddhawyd i'r môr dros gyfnod o 50 mlynedd a mwy o waith ar safle Hinkley. Mae'r cyfrifiadau sy'n deillio o'r data swyddogol yn nodi y gallai'r gwaddodion carthu arfaethedig fod yn dal o leiaf 7 biliwn o Bqs o ymbelydredd, ond mae'r adroddiadau yn nodi y byddai'r symiau y byddai pobl yn dod i gysylltiad â nhw'n isel iawn.\r\n\r\nMae gollyngiadau ymbelydrol Hinkley i'r môr yn cynnwys dros 50 o radio-niwclidau, ond dim ond tri ohonynt yr ymchwiliwyd iddynt drwy'r dadansoddiad. Felly, bydd cynnwys ymbelydredd gwirioneddol y gwaddodion yn llawer uwch na'r hyn a ddangosir drwy'r dadansoddiad sydd ar gael.  Mae'r dystiolaeth sydd ar gael hefyd yn awgrymu mai dim ond samplau arwynebol (0 i 5cm o ddyfnder) o'r gwaddodion a ddadansoddwyd, er bod ymchwil samplau craidd o fannau eraill ym Môr Iwerddon yn dangos y gall crynodiadau fod hyd at bum gwaith yn uwch ar ddyfnderoedd islaw 5cm.\r\n\r\nEr bod deunydd ymbelydrol gwaddodol yn debygol o wasgaru i ddechrau, mae astudiaethau'n profi ei fod wedyn yn ailgronni ar wastadeddau llaid arfordirol ac aberol a morfeydd heli, a'i fod hefyd yn gallu cael ei drosglwyddo o'r môr i'r tir yn sgil gwyntoedd o'r môr a llifogydd arfordirol. Rydym yn nodi nad oes ymchwil ar yr hyn sy'n digwydd i ymbelydredd o'r fath yn nyfroedd glannau de Cymru.  Yn y cyd-destun hwn, rydym yn pryderu nad oes gwaith ymchwil digonol wedi digwydd ynghylch y risgiau amgylcheddol a'r risgiau i iechyd pobl yn sgil y gwaredu arfaethedig, a bod unrhyw gasgliadau sy'n seiliedig ar y data anghyflawn presennol yn annibynadwy.","state":"completed","signature_count":7033,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-09-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:10:32.333Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-09-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-06-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-09-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2018-05-23T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T15:10:32.332Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2018-05-23","transcript_url":"http://cofnod.cynulliad.cymru/Meeting/4986#A43752","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/4986?startPos=10825&l=cy","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mai 2018"},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1140,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1140.json"},"attributes":{"action":"Adeiladu Ffordd Osgoi Cas-gwent i Gael Gwared ar y Tagfeydd oddi ar yr M48 i'r A48","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymdrin yn ymarferol â'r broblem tagfeydd ar yr A48 drwy Gas-gwent unwaith ac am byth.\n\nMae lleihau'r doll ar Bont Hafren yn cynnig cyfle anferthol am dwf yn Sir Fynwy, Fforest y Ddena a de-orllewin Cymru. Fodd bynnag, mae seilwaith y ffordd yn annigonol. Mae'r A48 eisoes yn dioddef tagfeydd ac ansawdd aer gwael drwy dref Cas-gwent. Gyda'r ystadau tai newydd yn Sir Fynwy a Fforest y Ddena, mae'r cynigion presennol yn methu, mewn modd annerbyniol, i hwyluso twf.\n\nMae'r cynllun hwn wedi bod yn ddyhead ers y 1960au ac oni bai y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o'r diwedd yn cydweithredu ac yn ymrwymo, yna bydd y ffyniant economaidd sydd o fewn cyrraedd yn cael ei atal, gan adael, yn lle hynny, i ansawdd bywydau preswylwyr ddirywio a llesteirio datblygiad economaidd cynaliadwy.\n\n","additional_details":"​Enghraifft dda o sut mae'r mater hwn wedi cael ei esgeuluso gan bob cangen o lywodraeth yw bod chwaer ddeiseb wedi'i chyflwyno i Lywodraeth y DU gan ei bod wedi gwrthod y gwreiddiol gan ddweud ei fod yn fater i Gymru yn unig.\n\nRydym yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau nad yw'r llwybr trafnidiaeth hanfodol hwn yn dod yn syrthio i'r fagl o gael ei basio i ochr arall y ffin.\n\n","state":"completed","signature_count":201,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-03-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:52:05.289Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-03-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-06-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-03-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:52:05.288Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1220,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1220.json"},"attributes":{"action":"Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU","background":"​Rwyf yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal Cymwysterau Cymru rhag parhau i wahaniaethu yn erbyn dysgwyr cyfrwng Cymraeg, a sicrhau cydraddoldeb ieithyddol o ran cwricwlwm ysgol.\n\nYn 2015, penderfynodd CBAC ollwng Seicoleg TGAU oherwydd niferoedd ymgeiswyr cymharol fach (37 canolfan - 5 yn rhai cyfrwng Cymraeg gyda 144 ymgeisydd cyfrwng Cymraeg bob blwyddyn). Oherwydd hyn, rhoddwyd gwahoddiad gan Gymwysterau Cymru (CC) i'r Cyrff Dyfarnu Saesneg; AQA, OCR, Pearson-Edexell,  gynnig y pwnc hwn, a rhai eraill e.e. Economeg, yng Nghymru.\n\nYn anffodus, ac yn anghrediniol, ni roddwyd unrhyw bwysau arnynt i gynnig y pynciau yma yn y Gymraeg. Ymateb Cymwysterau Cymru i hyn yw dweud y byddai'r Cyrff Saesneg yn gwrthod cynnig pynciau yng Nghymru yn gyfan gwbl pe tase nhw yn cael eu gorfodi i gynnig opsiwn Cymraeg, a bod CC yn ceisio sicrhau 'y dewis ehangaf o bynciau i ddysgwyr Cymru' (Cylchlythyr CC, Rhagfyr 2016).\n\n'Y dewis ehangaf o bynciau i ddysgwyr Cymru'....heblaw eich bod yn dilyn addysg Gymraeg! Ym mis Medi, ni fydd cwrs Seicoleg TGAU blwyddyn 10 yn rhedeg yn fy ysgol am y tro cyntaf ers 2009, tra bod yr ysgol cyfrwng Saesneg ychydig filltiroedd i ffwrdd, yn cychwyn ar gwrs Seicoleg TGAU newydd yn Saesneg trwy AQA. Yr unig reswm pam nad wyf gallu cynnig y pwnc yw oherwydd ein bod yn dysgu drwy'r Gymraeg. Mae pedair canolfan Gymraeg arall yn yr un sefyllfa.\n\nMae angen Seicolegwyr sy'n gallu trafod eu pwnc drwy'r Gymraeg. Wrth amddifadu disgyblion cyfrwng Cymraeg rhag y cyfle i astudio Seicoleg TGAU drwy'r Gymraeg, dyna golli 144 myfyriwr y flwyddyn fyddai efo'r potensial o gyfrannu at Seicoleg - fel athro, darlithydd, therapydd, ymchwilydd a.y.b drwy'r Gymraeg yn hyderus oherwydd bod y derminoleg berthnasol yn gyfarwydd iddynt.\n\n","additional_details":"​Safodd 144 ymgeisydd bapur Uned 2 TGAU Seicoleg CBAC drwy'r Gymraeg i orffen y cwrs yn 2015, a 5 canolfan yn ei gyflwyno, felly mae potensial o niferoedd sylweddol, nid llond llaw. Rwyf wedi trefnu y byddai tri arholwr Seicoleg profiadol ar gael i weithio i unrhyw Fwrdd Saesneg fel na fyddai angen cyfieithu unrhyw sgriptiau (atebion) ymgeiswyr, ond y papur ei hun.\n\nYr unig Fwrdd Saesneg wnaeth hyd yn oed ystyried y cais (gen i, nid CC), oedd Pearson, ond gwrthod wnaethon nhw yn y diwedd gan ddweud 'y byddai angen Cymry Cymraeg ar bob lefel o gynhyrchu'r papurau'. Mae hynny'n nonsens llwyr oherwydd dydy hynny ddim yn digwydd hyd yn oed yn CBAC ble mae'r Prif Arholwr a'r Swyddog Pwnc yn ddi-Gymraeg!\n\nNid wyf yn beio'r Byrddau, oherwydd pam dyle nhw fynd i'r drafferth os nad oes rhaid iddyn nhw? Ar Gymwysterau Cymru y mae'r bai am eu polisi llipa, nad yw'n amddiffyn hawliau dysgwyr cyfrwng Cymraeg. Byddai hi wedi bod yn bosibl creu elfen o gystadleuaeth rhwng y Byrddau Saesneg trwy roi blaenoriaeth i rai a fyddai'n agored i'r syniad o gynnig opsiwn Cymraeg, ond doedd dim ymdrech i wneud hyn o gwbl.\n\nMae hyn yn hollol annerbyniol yn y Gymru Fodern. Os ydy Cyrff Dyfarnu Saesneg yn cael cynnig pynciau yng Nghymru, rhaid gwneud yn glir iddyn nhw bod angen cynnig papur Cymraeg ble mae cais rhesymol dros wneud hyn.\n\n","state":"completed","signature_count":652,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-07-31T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:30:17.009Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-07-31T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-07-31T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-10-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:30:17.008Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1230,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1230.json"},"attributes":{"action":"Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â rhyddhau na gwerthu tir i lywodraeth y DU i ddatblygu archgarchar ym Maglan. \r\n\r\nMae Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn cynnig adeiladu 'archgarchar' â lle i 1600 o ddynion ar rostir Baglan. \r\n\r\nMae'r safle yn agos at gartrefi a chyfleusterau lleol a busnesau lleol, a bydd yn rhoi straen sylweddol ar ffyrdd a gwasanaethau iechyd yn yr ardal.  Mae'r safle mewn parth menter ac wedi'i ddynodi ar gyfer defnydd economaidd yn ogystal â bod mewn ardal lle y ceir perygl llifogydd.  \r\n\r\nMae gan Gymru eisoes lawer o leoedd gwag yn y carchardai sydd ganddi ar hyn o bryd.\r\n\r\nByddai'r carchar hwn yn cyflwyno'r holl broblemau sy'n gysylltiedig â charchardai mawr ac ni chafwyd unrhyw warant gan y naill lywodraeth na'r llall ynglŷn â'r camau amddiffyn a fyddai'n cael eu rhoi ar waith i gynorthwyo Port Talbot i ymdopi â nifer mor fawr o garcharorion. \r\n\r\nNid oes unrhyw sicrwydd tymor hir y byddai'r carchar newydd yn parhau i gael ei neilltuo ar gyfer carcharorion categori C. Gellid ei newid yn y dyfodol i gadw troseddwyr mwy peryglus. \r\n\r\nGall Port Talbot wneud yn well na hyn ac mae ein tref yn haeddu llawer mwy. A wnewch chi lofnodi'r ddeiseb a dweud wrth Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, DIM archgarchar ym Mhort Talbot?","additional_details":"","state":"completed","signature_count":8791,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-09-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:10:06.757Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-09-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-10-23T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-02-12T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-09-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-10-23T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-10-23T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2017-10-23T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2017-12-06T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T15:10:06.756Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2017-12-06","transcript_url":"http://cofnod.cynulliad.cymru/Meeting/4664#A40324","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/4664?startPos=9616&l=cy","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Rhagfyr 2017."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1250,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1250.json"},"attributes":{"action":"Ailagor Gorsaf Carno","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn croesawu'r gwaith o ddatblygu Achos Busnes ar gyfer ailagor gorsaf Carno, yn dilyn deiseb Grŵp Gweithredu Gorsaf Carno i'r Cynulliad 10 mlynedd yn ôl. Rydym yn nodi bod yr achos busnes diwygiedig yn dangos cymhareb o 1.65 o ran manteision i gostau ac y byddai stopio'r rhan fwyaf o drenau yng Ngharno yn cyd-fynd â'r amserlen lawnach bresennol. Mae Carno yn gymuned cymharol anghysbell, sydd wedi'i lleoli ar y darn hiraf o reilffordd heb orsaf weithredol arni yng Nghymru gyfan. Byddai cael gorsaf yma yn rhoi mynediad llawer gwell a chynaliadwy at swyddi a gwasanaethau. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor gorsaf Carno yn unol ag amserlen o bum mlynedd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":877,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-10-30T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:11:01.299Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-10-30T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-10-04T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-07-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-10-30T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-10-04T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-10-04T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:11:01.298Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1201,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1201.json"},"attributes":{"action":"Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru, yng nghyd-destun ei hymgynghoriad ar y diwygiadau i gyfreithiau trwyddedu tacsis, i gau'r bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith, gan olygu bod cannoedd o dacsis a cherbydau hurio preifat o'r tu allan i'r dref yn heidio i Gaerdydd i weithio ar sail hurio preifat.\r\n\r\n","additional_details":"Mae digon o gerbydau trwyddedig yng Nghaerdydd i wasanaethu'r ddinas heb fod angen y ceir hyn o leoedd mor bell i ffwrdd â Llundain, Glannau Mersi, Canolbarth Lloegr ac ati yn ogystal ag awdurdodau cyfagos fel Casnewydd, y Fro a Rhondda Cynon Taf ac ati. Cafwyd cerbydau hyd yn oed nad oeddynt yn gweithio ar unrhyw lwyfan, gan weithredu'n anghyfreithlon a chuddio y tu ôl i'r ffaith fod cynifer o dacsis 'estron' yn y ddinas.\r\n\r\nNid oes DIM marciau ar lawer o'r cerbydau hyn, sy'n dirmygu'r safonau a osodwyd gan Gyngor Sir Caerdydd ar gyfer cerbydau y mae'n eu trwyddedu, gan gynnwys lifrai amlwg iawn a gwybodaeth fanwl am y strydoedd lleol. Gwaetha'r modd dim ond mater o amser yw hi cyn i rywun agored i niwed neidio i mewn i gar heb drwydded, â chanlyniadau trychinebus.\r\n\r\nRydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mai'r unig dacsis a cherbydau hurio preifat y caniateir iddynt weithio yng Nghaerdydd yw'r rhai a drwyddedwyd gan Gyngor Sir Caerdydd. Y rheswm am hyn yw i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i sicrhau nad yw Caerdydd yn cael ei gorlenwi â mwy o geir na'r hyn sydd ei angen gan y bydd hynny'n arwain at fwy fyth o dagfeydd a llygredd yn ein prifddinas os caniateir i'r sefyllfa barhau. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i yrwyr presennol a drwyddedir gan Gyngor Caerdydd ennill rhywbeth sy'n agosáu at fod yn gyflog byw.​","state":"completed","signature_count":390,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-06-28T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:08:35.277Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-06-28T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-10-02T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-06-28T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-10-02T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-10-02T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:08:35.277Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1216,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1216.json"},"attributes":{"action":"Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol","background":"​Fel rhywun sy'n cael Grant Byw'n Annibynnol Cymru ac yn ymgyrchu dros bobl anabl, rwy'n bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei phenderfyniad i roi'r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru o fis Ebrill 2019 ymlaen.   \nCyflwynwyd Grant Byw'n Annibynnol Cymru i helpu pobl a oedd yn arfer hawlio arian gan Gronfa Byw'n Annibynnol Llywodraeth y DU, a gaewyd yn 2015. Mae'r cynllun yn helpu mwy na 1,500 o bobl ledled Cymru. Mae gan bawb sy'n cael y Grant lefel uchel o anghenion gofal a chymorth.  \nY bwriad oedd rhoi'r gorau i'r cynllun ym mis Mawrth 2017, ond ym mis Tachwedd, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, y byddai'r cyllid yn parhau am flwyddyn arall.  \nYna, bydd y gronfa £27 miliwn yn cael ei throsglwyddo'n uniongyrchol i awdurdodau lleol yn ystod 2018-19 fel y gallant ddiwallu anghenion cymorth y rhai a oedd yn arfer cael arian drwy'r Gronfa Byw'n Annibynnol erbyn 31 Mawrth 2019. \n\n","additional_details":"Pam yr ydym yn gwrthwynebu'r penderfyniad: \n\nDywedodd Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad wedi'i wneud ar sail cyngor gan randdeiliaid. Cynrychiolwyr o'r trydydd sector neu ddinasyddion oedd y mwyafrif ar y grŵp rhanddeiliaid.  Ond nid oeddynt eisiau cael gwared ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru, a'r pwynt allwedd ol yw na chafodd ein cyngor ei dderbyn.\n\nDylid cofio hefyd nad oes yn rhaid rhoi'r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru, ac mae llwyddiant Cronfa Byw'n Annibynnol yr Alban yn brawf o hynny; sydd hefyd yn ddadl o blaid cefnogi Cronfa Byw'n Annibynnol Gogledd Iwerddon.\n\nAt hyn ny, roedd maniffesto poblogaidd y blaid Lafur yn nodi cynlluniau i sefydlu system ofal gene dlaethol a fyddai'n annibynnol ar awdurdodai lleol.  \n\nDyma'r union amser y dylai'r Blaid Lafur uno yn erbyn y Torïaid ar faterion o'r fath. Rhaid i ni gwestiynu pam nad yw Plaid Lafur Cymru yn chwarae ei rhan wrth newid y tirlun gwleidyddol?  \nYn wir, yn y pen draw, dylem fod yn anelu at sefydlu Cronfa Byw'n Annibynnol i Gymru fel nad oes yn rhaid i unrhyw berson anabl ddioddef yr ansicrwydd a'r unigedd a wynebir gan y rheini sy'n cael Grant Byw'n Annibynnol Cymru ar hyn o bryd. Ni allwn ddechrau credu bod gwir gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb i bawb yn bosibl oni fydd Llafur Cymru yn ailystyried ei benderfyniad ynghylch Grant Byw'n Annibynnol Cymru.\n\nMae'n siŵr y bydd Llafur Cymru yn dadlau y dylem roi cyfle i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) lwyddo. Fodd bynnag, mae angen buddsoddiad ac adnoddau sylweddol ar y Ddeddf ddelfrydyddol hon i sicrhau ei bod yn llwyddo – ac nid oes dim golwg o'r gwelliannau sydd eu hangen ar ein seilwaith er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn llwyddo. Efallai'n wir ei bod yn bryd cael chwyldro yn y ffordd y darperir gofal cymdeithasol, ond gallai'r fath drawsnewid gymryd degawd neu ragor, ac nid yw'r rhai sy'n derbyn Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn haeddu cael eu trin fel arbrawf pan fo'u hanghenion o ran gofal a chymorth yn gofyn am sefydlogrwydd a strwythur hirdymor. \n\n​ \n\n","state":"completed","signature_count":631,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-07-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:44:45.855Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-07-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-09-26T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-07-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-09-26T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-09-26T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:44:45.854Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1126,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1126.json"},"attributes":{"action":"Sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno polisi er mwyn sicrhau sganio gorfodol gan gynghorau am ficrosglodion mewn anifeiliaid anwes.\n\nMae milfeddygon a llochesi yn sganio anifeiliaid anwes y deuir o hyd iddynt, ond nid oes unrhyw ofyniad ar gynghorau i wneud hynny. Gall y system ficrosglodion fod yn gwbl effeithiol dim ond os yw anifeiliaid sydd â microsglodion yn cael eu sganio. Mae'r drefn hon yn hanfodol o safbwynt perchnogion sy'n gorfod dioddef yr artaith o chwilio am anifail anwes sydd wedi mynd ar goll am wythnosau neu fisoedd, a hynny heb wybod beth sydd wedi digwydd iddo.\n\nAr hyn o bryd, nid oes polisi ar waith i sicrhau bod cynghorau yn sganio'r cathod a'r cŵn y mae'r timau sy'n glanhau'r strydoedd ar ran y cynghorau yn dod o hyd iddynt. Os yw anifail anwes yn mynd ar goll, gall hyn fod yn brofiad arteithiol i'w berchennog. Weithiau, pan fydd cath yn mynd ar goll, ni fydd ei berchennog byth yn cael gwybod a yw wedi cael ei lladd mewn damwain ffordd, er enghraifft. Nid oes unrhyw derfyn ar y mater i berchennog yr anifail, a gall y teimlad o golled barhau'n ddi-ben-draw.\n\n","additional_details":"​Ar hyn o bryd, dyma'r cynghorau yng Nghymru nad ydynt yn sganio anifeiliaid anwes: Gwynedd, Ynys Môn, Caerdydd, Casnewydd, Blaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot. Ar hyn o bryd, mae'r cynghorau sy'n weddill yn sganio anifeiliaid.\n\nFodd bynnag, mae'r cynghorau hyn yn cyfaddef eu bod ond yn sganio anifail pan fyddant yn penderfynu ei fod mewn cyflwr priodol i wneud hynny. Mae'r drefn hon ond yn lleddfu galar perchnogion yn rhannol; bydd nifer o berchnogion yn parhau i fod yn y tywyllwch. Mae mwyafrif yr anifeiliaid sy'n cael eu taro ar y ffyrdd yn dioddef anafiadau difrifol. Ni ddylid defnyddio anaf o'r fath fel esgus i beidio â bodloni'r ddyletswydd foesol i roi gwybod i'r perchennog. Dylid sganio pob anifail anwes, waeth beth yw ei gyflwr, a rhoi gwybod i'r perchennog. Rydym y cydnabod y gall glanhawyr stryd deimlo gofid neu drallod wrth sganio anifeiliaid sydd mewn cyflwr drwg, ond y ffaith yw y byddant yn gorfod ymdrin â'r anifeiliaid hyn waeth beth yw ein polisi arfaethedig. Maent yn ymdrin ag achosion o'r fath yn rheolaidd ar hyn o bryd. Rydym yn gwerthfawrogi natur y gofid hwn, ond ni fydd y sefyllfa sy'n bodoli ar hyn o bryd yn gwaethygu o ganlyniad i'r polisi arfaethedig, ac ni fyddai'r gofid hwn yn cyfateb i ofid perchnogion sy'n adnabod ac yn caru'r anifeiliaid hyn ar lefel bersonol ac y mae ganddynt hawl foesol i wybod beth sydd wedi digwydd iddynt.\n\n","state":"completed","signature_count":910,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-02-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:51:09.778Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-02-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-09-25T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-11-27T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-02-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-09-25T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-09-25T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:51:09.777Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1229,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1229.json"},"attributes":{"action":"Amddiffyn Cyllyll Môr ar Draeth Llanfairfechan","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wneud y canlynol:  \n• comisiynu astudiaeth ymchwil i ganfod cyflwr gwelyau'r cyllyll môr a'u hyfywedd fel adnodd naturiol hirdymor, a rhoi moratoriwm ar waith ar gyfer pysgota cyllyll môr hyd nes y gall yr ymchwil adrodd ar ei ganfyddiadau;   \n• cadarnhau tymor 'caeëdig' ar gyfer cynaeafu cyllyll môr sy'n cyd-fynd â'r tymor silio h.y. mis Mai i fis Medi;   \n• llunio rheoliadau yn ogystal â'r maint glanio lleiaf o 10cm i gynnwys cwotâu penodol y mae unigolion yn cael eu casglu; a  \n• chyflwyno deddfwriaeth a rheoliadau i amddiffyn y cyllyll môr ar draeth Llanfairfechan.  \n\"Mae'r cynaeafu ar raddfa fawr o gyllyll môr ar draeth Llanfairfechan wedi bod yn destun pryder i lawer o drigolion a chadwraethwyr ers nifer o flynyddoedd.\" (Cyf: llythyr at Lesley Griffiths AC, Ysgrifennydd y Cabinet gan Janet Finch Saunders AC 28 Gorffennaf 2017.)\n\nAr hyn o bryd yr unig reolaeth reoliadol ar gyllyll môr yw bod yn rhaid iddynt fod â maint glanio lleiaf cyfreithiol o 10cm, ac mae gwiriadau sy'n ymwneud â rheoli'r hyn sy'n dod yn rhan o'r gadwyn fwyd. Mae llawer o drigolion yn pryderu am y diffyg ymddangosiadol o weithdrefnau a/neu reoliadau sy'n llywodraethu'r broses o gasglu cyllyll môr yn enwedig o ran dynodi tymor 'caeëdig' yn ystod silio, y cwotâu a ganiateir, a'r angen am gynnal gwaith ymchwil ar y cyllyll môr i ganfod yr effaith ar yr ecosystem a'r amgylchedd lleol.\n\nErs 2013 nodwyd gan nifer o ffynonellau fod cyllyll môr yn cael eu cynaeafu mewn niferoedd mawr o draeth Llanfairfechan. Mae tystiolaeth i gefnogi'r honiad hwn wedi cael ei dogfennu ar sawl achlysur yn y cyfryngau cymdeithasol. Mae cais diweddar ar Hysbysfwrdd Llanfairfechan ar gyfer unrhyw luniau neu fideos o'r rheini sy'n casglu cyllyll môr yn dangos yn glir bod nifer fawr o bobl yn ymwneud â'r gweithgarwch hwn. Mae'r broses o gasglu'r cyllyll môr fel arfer yn digwydd ar ôl llanw uchel.​\n\n","additional_details":"​Dyma rywfaint o gefndir hanesyddol am y mater hwn. Yn 2013 amlygwyd y cynaeafu gan bapur newydd Weekly News gan Tom Davidson pan nodwyd fod 'criw o dros 100 o bobl yn cynaeafu llawer iawn o gyllyll môr...' Roedd pryderon hefyd fod gweithwyr anghyfreithlon yn cael eu hecsbloetio a bod y cyllyll môr yn cael eu pysgota at ddibenion masnachol. Ar y pryd, dywedodd un o'r trigolion ei fod 'wedi gweld golygfeydd tebyg yn ymwneud â nifer cynyddol o gasglwyr yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf. Mae'r trigolion yn flin oherwydd y nifer fawr o gynaeafwyr gydag ofnau y gallai'r cynefin lleol gael ei ddifrodi yn anadferadwy, gyda channoedd o gyllyll môr yn cael eu casglu oddi ar y traeth yn rheolaidd.'  \nEr bod yr ofnau o ran bod y casglwyr yn cael eu defnyddio fel rhan o gaethwasiaeth fodern a'r pysgod cregyn yn dod yn rhan o'r gadwyn fwyd wedi cael eu tawelu gan ymdrechion parhaus yr heddlu a'r Asiantaeth Safonau Bwyd, mae canlyniadau amgylcheddol y broses gyson a systematig o gasglu cyllyll môr yn parhau i fod yn broblem fawr, a all effeithio ar fywyd adar môr ac eraill yn yr ardal, ynghyd ag achosi newidiadau posibl yn y dwysedd o dywod ar y traeth. Mae rhai pryderon ynglŷn â'r tywod yn ansefydlog mewn mannau a gallai pobl sy'n anghyfarwydd â'r traeth yn hawdd fynd i drafferthion e.e. mae rhai o'r casglwyr yn cynaeafu'r cyllyll môr gryn bellter i ffwrdd oddi wrth ddiogelwch y tir.   \nMae wedi bod yn eithaf diraddiol a rhwystredig i ddinasyddion cyffredin wylio'r ysbeilio o adnodd amgylcheddol ac yn cwestiynu pam mae sefydliadau sydd â chylch gwaith i warchod yr amgylchedd yn ymddangos i gael eu llyffetheirio oherwydd y diffyg gweithdrefnau/deddfau priodol. Mae hyn yn syndod o gofio bod traeth Llanfairfechan wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Ardal Gwarchodaeth Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig. 2013. Mae'n rhaid bod rheoliadau o fewn y cyrff hyn o wybodaeth i fanteisio arnynt fel ffynhonnell i ddiogelu'r anghydbwysedd hwn mewn ecosystem o'r fath?​\n\n","state":"completed","signature_count":460,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-08-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:19:44.340Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-08-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-09-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-06-08T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-08-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-09-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-09-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:19:44.339Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1228,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1228.json"},"attributes":{"action":"Cymhwyso’r Ddeddfwriaeth Systemau Llethu Tân Awtomatig o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol ar gyfer Cymru.","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu a diwygio gweithrediad presennol y Rheoliadau Systemau Chwistrellu Tân o fewn y Rheoliadau Adeiladu cyfredol a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2016 (Cymru).\n\nDylai’r adolygiad i ddiwygio ystyried yn benodol sut y mae’r rheoliad wedi cael ei integreiddio i’r Rheoliadau Adeiladu cyfredol mewn perthynas â phrosiectau sy’n dod o fewn y categori \"Newid Defnydd Hanfodol” (Rheoliad 5) a’r gofyniad i ôl-ffitio systemau llethu tân awtomatig. Dylai’r adolygiad yn bennaf ystyried yr hyn a gyflawnir mewn gwirionedd pan fydd dau eiddo yn cael eu cyfuno i un eiddo, o gofio: - \n\n1) Pan fydd dau annedd yn dod yn un, dylai’r broses adeiladu ei hun gael ei hystyried yn ddim gwahanol i’r hyn a fyddai’n cael ei ystyried fel Estyniad i annedd. O dan y Rheoliadau Adeiladu presennol nid oes angen i system llethu tân awtomatig gael ei gosod mewn Estyniadau waeth beth fo’u maint.\n\n2) Y gofyniad yw i osod system llethu tân awtomatig yn yr adeilad yn ei gyfanrwydd ac nid dim ond yn y rhan sydd wedi’i ddatblygu.\n\n3) Nid yw’r Rheoliad yn ystyried unrhyw gamau lleihau tân sylweddol sydd eisoes yn digwydd o ganlyniad i’r prosiect adeiladu, fel lleihau nifer y ceginau o fewn eiddo (mae 70% - 80% o’r holl danau domestig yn dechrau mewn ceginau yn ôl Firesafe.org.uk).\n\n4) Mae’r costau cyfredol ar gyfer systemau llethu tân awtomatig wedi’u \"hôl-osod\" yn golygu nad yw’r gofyniad yn gost effeithiol, sef ffaith a ategir gan bob astudiaeth a gomisiynwyd ac astudiaeth annibynnol a gynhaliwyd hyd yma. (Mae costau a dyfynbrisiau a gasglwyd yn amrywio o £5,000 i dros £10,000, yn dibynnu ar argaeledd llif o ddŵr, nifer y penaethiaid sy’n gweithredu, a gofynion o ran tanc a seilwaith).\n\n5) Mae’r Ddeddfwriaeth wedi cael ei rhoi ar waith heb seilwaith digonol. O fewn Cymru gyfan dim ond 7 o gwmnïau BAFSA cofrestredig sy’n bodoli. Mae hyn yn debygol iawn o arwain at brisio heb fod yn gystadleuol.\n\n","additional_details":"​Dylai’r adolygiad hefyd edrych ar y goblygiadau ehangach o ran sut y mae’r ddeddfwriaeth hon wedi cael ei rhoi ar waith, nawr ei bod wedi bod ar waith ers peth amser. Dylai ystyriaethau gynnwys:\n\n1) Cynnal y systemau - Nid yw’r ddeddfwriaeth yn cynnwys dim ynghylch unrhyw ofynion cynnal a chadw parhaus ar ôl i system gael ei gosod. Dull Cynulliad Cymru yn hyn o beth yw darparu \"Taflen\" i’r cyhoedd sydd i fod i ddarparu gwybodaeth i berchennog cartref ynglŷn â gofynion cynnal a chadw’r system; fodd bynnag, mae hyn yn llai na’r hyn a fyddai’n cael ei gyflawni pe bai’n rhan o’r ddeddfwriaeth i sicrhau y caiff y system ei chynnal a’i chadw yn barhaus. Fodd bynnag, yr effaith yn sgil hyn yw rhoi rhagor o faich ar berchnogion tai o ran costau bod yn berchen ar gartref a’i redeg, gyda chostau cynnal a chadw parhaus a amcangyfrifir dros £2000 y flwyddyn.\n\n2) Risg Legionella (oherwydd diffyg cynnal a chadw) - Credir yn eang nad yw systemau chwistrellu yn gyffredinol yn ffynhonnell Legionella (FPA RC63), fodd bynnag, gan mai Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu ar Systemau Chwistrellu Domestig fel gofyniad ar gyfer pob adeilad newydd a chartref a gaiff ei drawsnewid, credwn fod angen mwy o waith ymchwil, yn enwedig gan fod y rheoliadau yn hepgor cynnwys cynnal a chadw’r system. Rydym ni o’r farn, wrth i systemau heneiddio, ac na chânt eu cynnal oherwydd costau, y bydd y risg o Legionella yn rhoi’r cyhoedd mewn mwy o berygl o haint yn gyffredinol.\n\n3) Costau - Oherwydd lled elw tynn ar gyfer Adeiladwyr Tai a Datblygwyr, mae rhai bellach wedi rhoi’r gorau i adeiladu tai mewn rhai ardaloedd yng Nghymru (cwmni Persimmon a chwmni Redrow) neu byddant yn rhoi’r gorau iddi’n fuan, o ganlyniad uniongyrchol i’r Ddeddfwriaeth hon.\n\n4)  Dadansoddiad Budd Cost - Yn ystod yr ymchwiliad cychwynnol amcangyfrifwyd y byddai’r system yn costio £1500 - £2500 i bob cartref. Mewn gwirionedd mae’r gost rhwng £5,000 a £10,000 am bob gosodiad.  Yn aml mae angen offer ychwanegol oherwydd na all Dŵr Cymru warantu isafswm llif a phwysau’r dŵr.\n\n","state":"completed","signature_count":62,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-08-16T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:09:58.649Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-08-16T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-09-15T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-06-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-08-16T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-09-15T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-09-15T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:09:58.648Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1224,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1224.json"},"attributes":{"action":"Na i Gylch Haearn arfaethedig Castell y Fflint","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wrthod y cynlluniau arfaethedig o adeiladu Cylch Haearn y tu allan i Gastell y Fflint gan ein bod yn ymwybodol iawn o arwyddocâd hanesyddol Edward I a'i Gylch Haearn, a ddefnyddiwyd i ddarostwng a llethu ein pobl.\n\nRydym o'r farn bod hyn yn arbennig o amharchus i bobl Cymru a'n hynafiaid sydd wedi brwydro yn erbyn gorthrymder, darostyngiad ac anghyfiawnder am gannoedd o flynyddoedd.\n\nGofynnwn ichi ailfeddwl y penderfyniad i adeiladu'r heneb hon a defnyddio'r arian ar gyfer rhywbeth arall.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":11091,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-08-02T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:09:30.527Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-08-02T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-09-13T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-01-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-08-02T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-09-13T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-09-13T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2017-09-13T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2020-08-03T10:21:18.916Z","archived_at":"2021-05-06T15:09:30.526Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":null,"transcript_url":"","video_url":"","debate_pack_url":"","overview":"Gohebodd y Pwyllgor â Llywodraeth Cymru ynghylch cerflun ‘cylch haearn’ arfaethedig Castell y Fflint ac, yn sgil cadarnhad bod y prosiect wedi’i ganslo, cytunodd i beidio â threfnu dadl ar y ddeiseb yn y Senedd.\r\n\r\nMae’r ohebiaeth lawn a drafododd y Pwyllgor i’w gweld yma: https://busnes.senedd.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=19786&Opt=3"},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1225,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1225.json"},"attributes":{"action":"Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn","background":"Galwn ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a choffáu tri chan mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn eleni (1717-2017).  \n  \nCredwn fod Williams Pantycelyn wedi gosod y seiliau ar gyfer y Gymru Fodern trwy ei holl emynau (dros 900), ei weithiau llenyddol amrywiol (90), a'i genhadu diflino dros yr efengyl trwy Gymru ben baladr am 40 mlynedd.  \n  \nArweiniodd Diwygiadau Methodistaid y 18fed ganrif, y bu Williams yn rhan mor allweddol ohonynt, at sefydlu'r corff cenedlaethol cyntaf yn hanes Cymru ers 400 mlynedd, sef Methodistiaid Calfinaidd Cymru (1811).  \n  \nRoedd hwnnw yn ei dro yn gyfrwng i sbarduno cyfres o ddiwygiadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pellach fu'n gwbl ganolog wrth greu'r Gymru Fodern.  \n  \nMae Pantycelyn felly yn fwy na dim ond un o ffigurau mawr y traddodiad ffydd yng Nghymru. Mae'n un o ffigurau mawr ein stori genedlaethol fel Cymry.  \n  \nMae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei gyfraniad anferthol i'n cenedl a galwn ar y Llywodraeth i drefnu dathliad priodol wedi i'r aelodau ddychwelyd i Gaerdydd ym mis Medi.\n\n","additional_details":"Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi trefnu dathliadau cyffelyb i nodi cyfraniadau dau o Gymry amlwg eraill yn ddiweddar. Y llynedd, dathlwyd cyfraniad y nofelydd plant Roald Dahl, a'r flwyddyn gynt, dathlwyd cyfraniad y bardd Dylan Thomas. Gwariwyd symiau helaeth o arian trethdalwyr Cymru ar y digwyddiadau hyn.  \n  \nGyda chynsail fel hon wedi ei gosod ddwywaith yn ddiweddar, credwn y byddai'n anesgusodol i'n llywodraeth genedlaethol wrthod cydnabod cyfraniad Williams Pantycelyn yn yr un modd.  \n  \nGyda phob dyledus barch i Dylan Thomas a Roald Dahl, a'u cyfraniadau unigol yn eu meysydd priodol - does dim modd cymharu eu cyfraniadau hwy i fywyd Cymru gyfan gyda chyfraniad y Pêr Ganiedydd, William Williams.  \n  \nBu ymateb cyhoeddus ffyrnig yn ddiweddar i ffiasgo \" Y Cylch Haearn\" a'r syniad hwn o wario £400,000 i ddathlu goresgyniad Cymru gan Edward I gyda darn o gelf yng Nghastell y Fflint. Y gŵyn a gafodd ei mynegi dro ar ôl tro gan aelodau o'r cyhoedd oedd, sut ar wyneb y ddaear gallai Llywodraeth Cymru fod mor anwybodus ac ansensitif am hanes Cymru ei hun?  \n  \nByddai dathlu a choffáu bywyd a gwaith Williams Pantycelyn mewn modd priodol yn dangos fod gan Lywodraeth Cymru ymdeimlad tuag at ein hanes cenedlaethol.   \n  \nUn syniad y carem ichi ei ystyried ydy trosglwyddo'r arian a ddynodwyd ar gyfer y Cylch Haearn a chodi darn o gelf aruchel yn Llanymddyfri i gofio am Y Pêr Ganiedydd.\n\n","state":"completed","signature_count":547,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-08-14T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:09:39.754Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-08-14T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-09-11T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-05-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-08-14T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-09-11T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-09-11T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:09:39.753Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1043,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1043.json"},"attributes":{"action":"Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ymgyrch ddiogelwch ‘addysg gyhoeddus’ flynyddol i addysgu holl ddefnyddwyr y ffordd sut i fynd heibio i geffylau a marchogwyr yn ddiogel, ac sy’n tynnu sylw at y peryglon / canlyniadau o beidio â gwneud hynny.   \n  \nRydym yn ymwybodol o ddeiseb yn y DU gyfan sy’n ymgyrchu dros lunio cyfraith ar basio ceffylau ar y ffordd yn llydan ac araf (https://www.change.org/p/uk-govt-make-it-law-to-pass-by-a-horse-wide-and-slow-and-abide-by-our-hand-signals) ac yn ei chefnogi, ond byddai’n well gennym weld addysg a dulliau atal yn hytrach na gweld erlyniadau yn dilyn digwyddiad difrifol neu angheuol.   \n  \nMae gan Lywodraeth Cymru y cyfle i fanteisio ar y deunyddiau a’r wybodaeth sydd eisoes ar gael yn sgîl ymgyrchoedd presennol fel: ‘Dead Slow’, sef ymgyrch diogelwch ar y ffordd Cymdeithas Ceffylau Prydain, (http://www.bhs.org.uk/safety-and-accidents/dead-slow ), tra bydd yn pwysleisio materion penodol sy’n wynebu defnyddwyr y ffordd yng Nghymru. Mae’r materion hyn yn cynnwys y cysylltiadau agos rhwng cymunedau trefol a chymunedau gwledig yng Nghymru, a phoblogrwydd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid. Mewn cymunedau mwy trefol (e.e. yr ardal gymudo o amgylch Caerdydd), mae swm sylweddol o draffig sy’n defnyddio ffyrdd gwledig, naill ai fel llwybr byr neu fel prif lwybr mynediad. Mewn rhannau eraill o Gymru (e.e. Caerfyrddin a Sir Benfro) ceir mewnlifiad blynyddol o ymwelwyr nad oes ganddynt lawer o brofiad o weld ceffylau ar y ffyrdd.   \n  \nY cyfan a ofynnwn yw bod gyrwyr yn dynodi marchogwyr fel defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed, a bod yn fwy ystyriol wrth fynd heibio i geffylau. Rydym yn teimlo mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy arweiniad Llywodraeth Cymru, yn unol â’u hymrwymiad i ‘Weithio gyda chynrychiolwyr o’r gymuned marchogaeth i ddeall eu pryderon ynghylch diogelwch y ffyrdd a sut i hwyluso ymgysylltiad â phartneriaid eraill.’ (Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013)).\n\n","additional_details":"​Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain (BHS) yn amcangyfrif bod y diwydiant ceffylau o werth economaidd o £7 biliwn, a’i fod yn cyflogi 220,000 - 270,000 o bobl. Mae hyn, ochr yn ochr â’r manteision iechyd a lles sy’n gysylltiedig â marchogaeth ceffylau yn golygu ei fod yn rhan bwysig o fywyd Cymru. Ond, yn gynyddol, teimlir nad yw llais marchogwyr yn cael ei glywed.   \n  \nByddai llawer o farchogwyr yn dewis peidio â defnyddio priffyrdd cyhoeddus, ond, gan fod faint o lwybrau ceffylau hygyrch sydd ar gael yn amrywio ledled Cymru, nid oes fawr o ddewis ganddynt yn aml iawn.\n\nMae Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013) yn cydnabod bod ceffylau a’u marchogwyr (yn ogystal â gyrwyr cerbydau ceffylau) yn agored i niwed ar y rhwydwaith ffyrdd, ac y gall gwrthdrawiad rhwng ceffyl a cherbyd arwain at ganlyniadau sy’n bygwth bywyd ar gyfer y ceffyl, y marchog a phobl mewn ceir a cherbydau eraill. Mae hefyd yn datgan bod yna dystiolaeth sy’n awgrymu nad oes cofnod manwl o nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sy’n ymwneud â cheffylau.  \n  \nWrth i nifer y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu mewn lleoliadau gwledig / lled-wledig gynyddu, gwelir cynnydd yn swm y traffig ar ffyrdd gwledig, sy’n cael eu defnyddio’n aml gan beiriannau fferm, ceffylau a marchogion. Mae llawer o yrwyr, newydd a phrofiadol, yn aml nad ydynt yn gwybod am y peryglon posibl o yrru’n gyflym ar y ffyrdd hyn, ac nid yw llawer yn gwybod sut i basio ceffylau yn ddiogel. Nid yw’r ffaith bod y terfyn cyflymder cyfreithiol ar y ffyrdd hyn yn 60 milltir yr awr, yn golygu ei bod yn ddiogel i yrru ar y cyflymder hwnnw.   \n  \nAr ben hynny, mae tystiolaeth gan Gymdeithas Ceffylau Prydain (http://www.bhs.org.uk/our-charity/press-centre/news/jan-to-jun-2016/riding-and-road-safety-campaign ) sy’n dangos bod cynnydd o ran y digwyddiadau sy’n ymwneud â cheffylau, marchogion a cherbydau modur ar y ffordd ym mis Mehefin. Er bod y rhesymau dros y cynnydd hwn yn parhau’n aneglur, mae’n bosibl eu bod yn ymwneud â gyrwyr ar eu gwyliau ar ffyrdd anghyfarwydd mewn amgylchiadau anghyfarwydd.\n\n \n\n","state":"completed","signature_count":1755,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-08-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:19:06.445Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-08-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-09-08T00:00:00.000Z","completed_at":"2021-03-16T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-08-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-09-08T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-09-08T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:19:06.444Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1226,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1226.json"},"attributes":{"action":"Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i naill ai rhoi sticeri bin du newydd [(gweler yr enghraifft sydd wedi’u chynnwys\\*)](/NAfW%20Documents/Get%20Involved%20documents/Landfillposter.pptx) neu finiau olwyn printiedig sy’n annog aelwydydd ledled Cymru i ystyried cynnwys y bin cyn ei adael ar ymyl y ffordd i’w gasglu.\n\nTeimlwn, drwy ddisgrifio’r bin yn benodol fel bin ‘tirlenwi’, y bydd hyn yn fodd o atgyfnerthu’r ystyriaeth a roddir i’r eitemau sydd ynddo. Rydym wedi cynnwys ychydig o wybodaeth ffeithiol am faint o amser y bydd rhai eitemau bob dydd yn aros mewn safleoedd tirlenwi os nad ydynt yn cael eu hailgylchu. Credwn fod hyn yn bwerus iawn, ac y gall wella ymrwymiad Cymru i ailgylchu, ac felly y byddwn yn cyrraedd ein targedau ar gyfer y dyfodol. \n\nYn y pen draw, rydym am annog pobl i ailgylchu rhagor, yn ogystal â helpu i leihau faint o nwyddau ailgylchadwy sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.\n\n\\*_Dim ond fersiwn Saesneg o’r ddelwedd sydd ar gael oherwydd y cafodd ei chyflwyno fel rhan o’r ddeiseb._\n\n","additional_details":"​Fy enw i yw Claire Perrin ac rwy’n athrawes yn y Celtic English Academy. Ar ddechrau’r tymor hwn, dechreuais brosiect dosbarth ar ailgylchu, ac anogais fy neg o ddisgyblion i nodi’r opsiynau posibl sydd gan breswylwyr yn y brifddinas. Darganfuwyd hefyd bod Cymru’n rhagori ar ei hymrwymiad i leihau gwastraff tirlenwi erbyn 2025 a’i bod yn arwain y ffordd i weddill y DU o ran gwella mynediad at ganolfannau ailgylchu ac o ran casgliadau o gartrefi yn gyffredinol.\n\nFodd bynnag, dechreuodd fy nisgyblion sylwi bod llawer o bobl nad ydynt yn ailgylchu’n gywir. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau ffotograffig o fagiau ailgylchu gwyrdd mewn biniau olwyn du, bwyd mewn bagiau gwyrdd a du ar ymyl ffyrdd ac eitemau y gellir eu hailgylchu mewn bagiau du. Cynhaliwyd trafodaethau yn y dosbarth ar y rhesymau posibl pam bod hyn yn digwydd. Cynhaliwyd arolwg hefyd a oedd yn gofyn i bobl adnabod y nwyddau ailgylchadwy yn y rhestr ganlynol:\n\nCynhwysyddion bwyd anifeiliaid anwes; eitemau hylendid personol; dalenni alwminiwm; cynhwysyddion bwyd cyflym; cylchgronau; pecynnau creision; bocsys wyau; bagiau plastig; dillad         \n\nCanfuwyd bod llawer o bobl nad oeddent yn gwybod pa eitemau y mae modd eu hailgylchu. Darganfuwyd hefyd nad oedd pobl yn ystyried faint o amser y mae’n ei gymryd i eitemau safleoedd tirlenwi bydru. Pan wnaethom roi gwybod hyn iddynt, cawsant gryn sioc ac roeddent yn awyddus i wneud rhagor i ailgylchu. Roedd hyn yn sbardun i ni ddod o hyd i ateb posibl i faint o eitemau a roddir, yn anghywir, mewn bagiau du / gwyrdd, a byddai modd cyflwyno’r cam hwn ar draws Cymru, a thrwy hynny annog pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros reoli eu gwastraff ac yn hynny o beth, atal eitemau y gellir eu hailgylchu rhag cael eu hanfon yn syth i safleoedd tirlenwi.\n\n","state":"completed","signature_count":33,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-08-14T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:09:50.554Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-08-14T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-09-07T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-11-27T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-08-14T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-09-07T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-09-07T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:09:50.553Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1214,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1214.json"},"attributes":{"action":"Ailagor gorsaf Drenau Crymlyn","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor gorsaf drenau Crymlyn. Rydym yn credu y gallai Crymlyn fod yn ganolfan drafnidiaeth gyhoeddus bwysig. Byddai ei lleoliad allweddol yn cynnig pwynt cyfnewid ar gyfer sawl dull teithio rhwng gwasanaethau rheilffordd llinell Glynebwy ar ei newydd wedd a phrif lwybr y bysiau cyflym rhanbarthol drwy ganol y cymoedd. Mae safle'r orsaf yn gyfleus ar gyfer y rhwydwaith priffyrdd, ac mae ganddo faes parcio mawr a lle i fysiau. Mae modd cyrraedd llwybrau cerdded a beicio o'r safle. Nodwn fod y llygredd aer ar un o'r strydoedd yng Nghrymlyn gyda'r gwaethaf y tu allan i Lundain a bod angen gwella cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn gwella iechyd y cyhoedd. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i asesu'r achos dros ailagor gorsaf drenau yng Nghrymlyn ac i ystyried  ei hychwanegu at y rhestr flaenoriaethau nesaf o gynigion ar gyfer gorsafoedd newydd yng Nghymru.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":208,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-07-17T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:09:06.884Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-07-17T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-08-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-11-13T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-07-17T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-08-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-08-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:09:06.883Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1212,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1212.json"},"attributes":{"action":"Canolfan Trawma Difrifol De Cymru – Caerdydd ac Abertawe","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu canolfannau trawma difrifol yn Ysbyty Treforys, Abertawe yn ogystal ag Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd yn hytrach na dim ond ar un safle.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":69,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-07-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:08:59.166Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-07-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-08-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-01-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-07-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-08-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-08-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:08:59.165Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1188,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1188.json"},"attributes":{"action":"Cefnffordd yr A487 Trwy Dre Taliesin: Angen Brys am Fesurau Effeithiol i Arafu Traffig","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau effeithiol i arafu traffig ar hyd cefnffordd yr A487 sy'n dirwyn yn uniongyrchol drwy ganol pentrefi cyfagos Tre Taliesin a Thre'r Ddôl, ac i ymgynghori â'r trigolion sy'n byw yn y pentrefi hyn a cheisio'u barn.\n\n","additional_details":"​Yr A487 yw'r brif gefnffordd rhwng y gogledd a'r de ac mae'n dirwyn ar hyd arfordir gorllewin Cymru. Mae nifer fawr a chynyddol o gerbydau sy'n goryrru a thraffig nwyddau trwm yn teithio ar hyd y gefnffordd hon drwy ganol pentrefi cul Tre Taliesin a Thre'r Ddôl yng Ngheredigion. Ddiwedd 2016, ffurfiwyd Grŵp Gweithredu Taliesin A487 gan y pentrefwyr. Mae'r grŵp gweithredu lleol wedi cyfarfod a chyfathrebu'n agos â Chyngor Cymuned Llangynfelyn, Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Ceredigion a'r Aelod Seneddol lleol i gynnal dadansoddiad o'r problemau a'r atebion posibl. Mae'r grŵp hefyd wedi mynegi'i bryderon wrth Asiantaeth Cefnffyrdd Gogledd-orllewin Cymru, ac wedi cynnig cyfarfod â hi i gyfleu eu safbwyntiau, ond ni dderbyniwyd y gwahoddiad hyd yma.   \n  \nMae'n bwysig bod llais pentrefwyr sy'n byw o ddydd i ddydd gyda thraffig sy'n goryrru yn cael ei glywed a bod Llywodraeth Cymru yn ystyried eu safbwyntiau'n llawn, er mwyn i fesurau arafu traffig effeithiol, sy'n diogelu pentrefwyr a defnyddwyr y ffordd, gael eu cynllunio a'u rhoi ar waith.\n\n","state":"completed","signature_count":52,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-05-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:07:43.715Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-05-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-07-05T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-09-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-05-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-07-05T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-07-05T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:07:43.714Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1191,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1191.json"},"attributes":{"action":"Galwad i ddychwelyd darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod 24 awr i Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg","background":"​Mae SWAT wedi ymladd i gadw gwasanaethau gofal iechyd eilaidd diogel, effeithiol a hygyrch i bobl Sir Benfro ers 2005. Methodd deiseb flaenorol i gadw darpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg. Heb gyfiawnhad, cafodd y Gweinidog dros Iechyd a Bwrdd Iechyd Hywel Dda wared ar ddarpariath Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn Ysbyty Cyffredinol Dosbarth Llwynhelyg yn 2014 a adawodd pobl Sir Benfro gydag opsiwn iechyd trydydd dosbarth anniogel, annheg ac anhygyrch i famau, babanod a phlant yn arbennig. \n\nAr ran SWAT a phobl Sir Benfro rwy'n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y ddarpariaeth Pediatreg, Obstetreg dan arweiniad Ymgynghorydd ac Uned Gofal Arbennig Babanod yn dychwelyd ar unwaith i'r lefelau cyn 2014. Nid yw SWAT a phobl Sir Benfro yn cytuno â chanoli gwasanaethau i safle Glangwili.\n\nRoedd yn rhaid i'r Bwrdd Iechyd gynnal asesiadau o effaith ar gydraddoldeb ac mae'r rhain wedi dangos yn glir bod carfan gyfan o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wedi bod ac yn cael eu rhoi mewn perygl oherwydd y newidiadau hyn. Yn benodol, mae'r rhai sydd fwyaf agored i niwed, yr ifanc iawn, menywod beichiog, y rhai sydd wedi'u herio'n economaidd a'r rhai ag anableddau wedi cael eu heffeithio'n sylweddol ac yn parhau i gael eu heffeithio gan hyn. Mae gan y Bwrdd Iechyd hyn i gyd wedi'i ddogfennu yn ei asesiadau, ond ymddengys ei fod yn methu neu'n anfodlon dod o hyd i atebion ar gyfer y materion hyn. \n\nRwy'n gofyn ichi ddychwelyd gwasanaethau i'r gwasanaethau o'r radd flaenaf yr oeddent yn arfer bod. Byddai hyn yn ail-ddarparu gwasanaethau teg, hygyrch, diogel a chynaliadwy yn hytrach na'r trefniant presennol sy'n anfantais difrifol i'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn Sir Benfro. \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":759,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-06-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:08:08.045Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-06-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-06-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-05-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-06-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-06-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-06-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:08:08.044Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1153,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1153.json"},"attributes":{"action":"Dylid Gwneud Opsiwn Fegan yn Orfodol Mewn Ffreuturiau Cyhoeddus","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn orfodol cynnwys opsiwn fegan ym mhob ffreutur neu wasanaeth cyhoeddus yng Nghymru lle y mae ganddi’r pŵer i wneud hynny.\n\nMae Senedd Portiwgal wedi cymeradwyo opsiwn fegan gorfodol ym mhob ffreutur cyhoeddus (e.e. ysgolion, prifysgolion, carcharau, ysbytai) – sy’n gam enfawr ar gyfer arlwyo fegan i bawb. Mae dros 5 y cant o’r boblogaeth yn fegan, ac mae’r ganran yn cynyddu. Mae deiet fegan yn fwy iachus, mae’n arbed adnoddau ac mae’n amddiffyn y blaned ac, yn fwy na dim, nid oes creulondeb yn ei gylch. Mae’r Cenhedloedd Unedig wedi galw arnom i fwyta rhagor o fwydydd sy’n deillio o blanhigion. Mae bwydydd sy’n deillio o anifeiliaid yn gysylltiedig â chanser a chlefyd y galon.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":118,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-03-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:53:09.207Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-03-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-06-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-01-23T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-03-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-06-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-06-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:53:09.206Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1192,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1192.json"},"attributes":{"action":"Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol","background":"​Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Llywodraeth Cymru i gadw gwasanaethau crefyddol yn ysgolion gwladol Cymru fel rhai ‘optio allan’ ac ‘‘o natur Gristnogol fras yn gyfan gwbl neu’n bennaf’’, gan ystyried ffyrdd o sicrhau eu bod yn parhau i fod yn berthnasol i bobl sydd o grefydd wahanol a’r rhai sydd heb grefydd o gwbl.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":2209,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-06-19T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:08:16.899Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-06-19T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-06-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-06-19T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-06-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-06-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:08:16.898Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1184,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1184.json"},"attributes":{"action":"Gwell Gwasanaethau Iechyd Meddwl ar gyfer Oedolion","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wella'r driniaeth a roddir i oedolion mewn gwasanaethau iechyd meddwl gan ganolbwyntio'n benodol ar wella gwasanaethau yn y gymuned, fel y Timau Iechyd Meddwl Cymunedol, adrannau damweiniau ac achosion brys, gwasanaethau i gleifion mewnol a gwasanaethau ambiwlans.\n\nYn rhy aml, mae'r gwasanaethau iechyd meddwl wedi siomi oedolion. Mae'n warthus meddwl bod miloedd o oedolion bob dydd yn cael eu troi o'r neilltu pan fyddant yn crefu am gymorth. Cael eich derbyn i'r ysbyty a'ch asesu'n gyflym gan seiciatrydd sy'n dweud y dylech 'wneud rhywbeth i dynnu'ch sylw oddi wrth eich problemau, a byddwch yn iawn' a chael eich anfon adref.\n\nRwy'n deall y bu toriadau mawr i'r gwasanaethau hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond a dweud yn gwir mae'n annerbyniol. Ni ddylid rhoi pris ar iechyd meddwl rhywun. Dylid rhoi gofal o'r un lefel i iechyd meddwl ag i iechyd corfforol.  \nPam mae mwy o gefnogaeth ar gyfer plant sy'n dioddef o iechyd meddwl? Mae cymorth ar gael i blant ar ôl iddynt gael eu derbyn i'r ysbyty, ond nid oes dim ar gyfer oedolion. Efallai y gwneir addewidion y byddant yn derbyn cymorth gan wasanaethau penodol, ond mae'r addewidion yn mynd i'r gwellt yn gyflym. Rwy'n ffieiddio at y straeon erchyll rwyf wedi'u clywed gan bobl yn y system. Rwyf wedi gweld drosof fy hun y diffyg gofal ar gyfer oedolion sy'n dioddef o iechyd meddwl gwael. Mae angen i hyn newid ac mae angen iddo newid yn gyflym. Nid wyf yn fodlon sefyll o'r neilltu mwyach a gwylio hyn yn digwydd. \n\nRwyf am weld newidiadau enfawr yn y ffordd y mae cleifion sy'n oedolion yn cael triniaeth a chymorth. Dylai pob gwasanaeth gydlynu â'i gilydd i ddarparu'r gofal gorau posibl. Ar hyn o bryd mae'r trefniadau cyfathrebu rhwng gwasanaethau yn ddiffygiol, gan adael y claf heb gefnogaeth. Os oes angen gwasanaethau brys ar gleifion, mae angen i rywfaint o gymorth dilynol fod ar gael pan fyddant yn dychwelyd adref. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau ar agor rhwng 9am a 5pm, ond nid yw iechyd meddwl yn diflannu am 5pm ac mae angen mwy o gymorth hygyrch ar ôl yr oriau arferol. Rwyf am weld mwy o ofal gan staff hefyd. Efallai eu bod wedi cael yr hyfforddiant sy'n ofynnol ar gyfer eu swydd ond nid oes empathi a pharch i'w gweld yn unman. Mae'n bryd i bethau newid.\n\n","additional_details":"​Iawn, beth am sgwrsio.  \nGall iechyd meddwl fod yn dipyn o bwnc tabŵ o hyd, ond arhoswch gyda mi am funud. Rwyf am i chi ddychmygu teimlo'n hollol ar goll, yn wag ac heb reswm i fyw. Rydych am i'r boen ddod i ben felly rydych chi'n cymryd cam anoddaf eich bywyd; rydych yn gofyn am help. Yr unig beth rydych chi ei eisiau yw i rywun gydnabod pa mor ddrwg yw eich poen a gwneud iddo ddiflannu. \n\nMae'r meddygon / parafeddygon / heddlu / seiciatrydd yn dweud wrthych nad yw'n 'ddim byd i boeni amdano, rhaid eich bod chi'n cael diwrnod gwael ac mae hynny'n beth arferol'. Y gwir yw ei fod yn fwy na dim ond diwrnod gwael, rydych chi wedi methu â dianc o'r lle tywyll hwn ers llawer mwy na hynny. Nid ydynt yn gwrando, rydych chi'n mynd adref ac er nad oeddech yn meddwl ei bod yn bosibl, rydych chi'n teimlo'n waeth nag oeddech cyn gofyn am help. \n\nNID DYMA SUT DYLAI PETHAU FOD! Dylai'r cymorth a'r gefnogaeth fod ar gael yn rhwydd i'r rhai sydd eu hangen, ond nid felly y mae hi a dyna beth y mae angen ei newid. Os bydd y ddeiseb hon yn gweithio, gallai achub miloedd o fywydau bob dydd. Dangoswch eich cefnogaeth trwy lofnodi'r ddeiseb hon a'i rhannu. Mae'n rhaid i bethau newid.\n\n","state":"completed","signature_count":84,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-05-10T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:07:24.844Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-05-10T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-06-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-05-10T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-06-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-06-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:07:24.844Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1175,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1175.json"},"attributes":{"action":"Cael Gwared ar y Rhwymedigaeth ar Ysgolion i Gynnal Gweithredoedd Addoli Crefyddol","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i basio deddf a fydd yn cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1333,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-05-08T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:06:56.399Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-05-08T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-06-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-05-08T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-06-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-06-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:06:56.398Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1098,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1098.json"},"attributes":{"action":"Atal TGAU Cymraeg Gorfodol","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i newid ei pholisi a chaniatau i blant roi’r gorau i Gymraeg lefel TGAU (cyfnod allweddol 4). Rhowch ddewis i blant drwy beidio â gwneud yr iaith Gymraeg yn orfodol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":128,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-12-09T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:48:42.203Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-12-09T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-06-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-11-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-12-09T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-06-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-06-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:48:42.203Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1163,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1163.json"},"attributes":{"action":"Ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn adeg y Pasg 2018","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddarparu'r dull angenrheidiol i ganiatáu i Gyfoeth Naturiol Cymru ailagor Ffordd Goedwig Cwmcarn yn llawn i geir preifat adeg y Pasg 2018.\n\n","additional_details":"​Yn ystod haf 2014, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru y byddai Ffordd Goedwig Cwmcarn, a elwir hefyd yn Daith Cwmcarn, ar gau am o leiaf ddwy flynedd o fis Tachwedd 2014, a bod hyn yn angenrheidiol oherwydd haint llarwydd Japan yn nyffryn Cwmcarn a'r llechweddau cyfagos. Mae'r broses o gael gwared ar y llarwydd bellach bron wedi'i gwblhau ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn dechrau adfer y llwybrau beiciau a llwybrau troed, ond nid ymddengys fod bwriad adfer Taith Cwmcarn, er bod y mwyafrif helaeth o'r llwybr heb ei niweidio. Mae canolbwyntio ar ddefnyddwyr ceir preifat y ffordd yn annheg ac yn ddianghenraid pan fydd defnyddwyr eraill dim ond yn wynebu amhariad dros dro. Mae llawer o'r rhai sy'n cael mynediad i'r Ffordd gyda char preifat yn gwneud hynny am na allant symud llawer - mae rhai yn deuluoedd gyda phlant bach, mae llawer yn hŷn, yn anabl neu o'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig a mewnfudwyr. Mae methu â darparu cyfleuster ar gyfer y bobl hyn yn wahaniaethol, yn enwedig pan fo cynlluniau, a'r arian ar gael, i ddarparu cyfleusterau pellach ar gyfer defnyddwyr eraill. Mae diffyg ffordd sy'n gwbl hygyrch yn amddifadu'r bobl hynny sydd fwyaf difreintiedig yn ddiwylliannol ac yn fateryddol o'u prif gyfleuster ar gyfer iechyd a lles. Mae ein sefydliad, Cyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn eisiau mynediad cyfartal i holl ddefnyddwyr Taith Cwmcarn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru a Chyfoeth Naturiol Cymru i ddarparu ffordd o wneud hyn yn bosibl.\n\n","state":"completed","signature_count":1450,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-04-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:06:31.243Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-04-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-05-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-04-02T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-04-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-05-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-05-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:06:31.242Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1129,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1129.json"},"attributes":{"action":"Cerflun i Anrhydeddu Billy Boston","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i anrhydeddu un o arwyr chwaraeon Prydain a Chymru, Billy Boston, gyda cherflun ym Mae Caerdydd.   \n  \nCafodd ei eni a'i fagu yn ardal y dociau yng Nghaerdydd ac mae'n hen bryd i'w lwyddiannau ar y maes chwarae gael eu cydnabod gan ei dref enedigol a'i wlad.  \n  \nAr ddechrau ei yrfa rygbi, cafodd ei anwybyddu gan glwb ei dref enedigol, Clwb Rygbi Caerdydd, ac o ganlyniad ni wireddwyd ei freuddwyd o chwarae ym Mharc yr Arfau. Wigan wnaeth elwa ar golled Caerdydd a Chymru, ac aeth Billy ymlaen i sgorio 478 cais mewn 487 gêm i'r clwb. Dyma rai o uchafbwyntiau eraill ei yrfa:  \n  \nTair Cwpan Her a theitl Pencampwriaeth RFL ym 1960  \n24 cais mewn 31 gêm ar gyfer Prydain ac roedd yn aelod o'r tîm a enillodd Cwpan y Byd ym 1960.  \n  \nMae Wigan wedi ei anrhydeddu yn ddiweddar gyda cherflun, a cheir cerflun hefyd yn stadiwm Wembley yn tynnu sylw at ei ddylanwad a'i statws o fewn rygbi'r gynghrair.  \n  \nMae Clwb Rygbi CIAC (clwb cyntaf Billy) yn barod i helpu mewn unrhyw ffordd i godi arian ac ati, ac mae gennym chwaraewr ar hyn o bryd sy'n gerflunydd ac a fyddai'n fwy na hapus i fod yn rhan o'r prosiect.  \n  \nMae'n bryd cywiro camweddau'r gorffennol, a rhoi i Billy y parch a'r anrhydedd y mae'n eu haeddu gan Gaerdydd a Chymru, a pha well ffordd o wneud hynny na gyda cerflun yn y rhan o Gaerdydd lle y cafodd ei eni a'i fagu. \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":151,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:51:17.651Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-05-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-10-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-05-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-05-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:51:17.650Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1091,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1091.json"},"attributes":{"action":"Symud Cynulliad Cymru o Gaerdydd","background":"​Rydym yn galw am symud y Cynulliad Cenedlaethol o Gaerdydd i Aberystwyth er mwyn dechrau 'ail-gydbwyso' bywyd ac economi cenedlaethol Cymru.\r\n\r\n","additional_details":"​Mae Caerdydd yn ffynnu, ac yn tyfu ar gyfradd esbonyddol, tra bod y rhan fwyaf o Gymru yn aros yn ei hunfan, sy'n ei gwneud yn glir nad yw'r model presennol Caerdydd/Cymru o ddatblygu economaidd yn gweithio ar gyfer 80 y cant o'r wlad.\r\n\r\nMae Caerdydd yn cael y gyfran fwyaf o fuddsoddiad a swyddi yn cael effaith andwyol ar weddill y wlad, ac er bod y duedd hon yn weladwy yn y degawdau sydd wedi mynd heibio, mae wedi ennill mwy o fomentwm a dod hyd yn oed yn fwy niweidiol er lles y genedl ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eistedd am y tro cyntaf ym 1999.\r\n\r\nYn waeth na hynny, mae tystiolaeth gynyddol o lygredd; y math o lygredd sy'n anochel pan fo'r rheini sydd â dylanwad gwleidyddol a rheolaeth ar y pwrs cyhoeddus yn cyfarfod yn rheolaidd, mewn cyd-destunau cymdeithasol a chyd-destunau eraill, y rheini sy'n ceisio manteisio ar gysylltiadau o'r fath.\r\n\r\nCredwn, yn y byrdymor, mai'r ffordd hawsaf o wella'r anghydbwysedd anghynaladwy a chynyddol hwn, a'r bygythiad cynyddol o lygredd, yw symud Cynulliad Cymru a'i hasiantaethau a'i hadrannau amrywiol y tu allan i Gaerdydd.\r\n\r\nByddai Aberystwyth yn leoliad delfrydol a chanolog ar gyfer y Cynulliad a'i staff cymorth. Gellid lleoli asiantaethau eraill o amgylch y wlad, oherwydd yng nghyfnod y rhyngrwyd a fideo-gynadledda, nid oes angen i weision sifil ac eraill weithio y drws nesaf i'w gilydd.\r\n\r\nByddai'r buddion i rai o'r rhannau o Gymru sydd wedi'u hesgeuluso fwyaf yn gwneud iawn yn fuan am y costau cychwynnol sy'n ymwneud â'r adleoliadau.","state":"completed","signature_count":53,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-12-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:47:48.850Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-12-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-05-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-10-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-12-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-05-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-05-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:47:48.850Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1177,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1177.json"},"attributes":{"action":"Diweddaru’r cyngor a roddir ynghylch strôc – B.E.F.A.S.T. – a helpu i achub bywydau a bywoliaethau","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Gynulliad Cymru adolygu'r cyngor a roddir ynghylch strôc gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac mewn llenyddiaeth marchnata. Ar hyn o bryd, mae hyn wedi'i seilio ar ganllawiau FAST (Face, Arms, Speech, Time) – sy'n annog pobl i ystyried yr wyneb, y breichiau, y lleferydd ac amser. Gall strôc effeithio ar rannau o'r ymennydd nad ydynt yn gyfrifol am unrhyw un o'r swyddogaethau hynny, felly dylid hefyd ystyried cydbwysedd a llygaid (Balance, Eyes) i unioni hynny.\n\nDaeth yr anaf i fy ymennydd i, a ddangosodd fy mod wedi cael strôc cerebelar, i'r amlwg yn ddamweiniol pan gefais MRI am reswm arall. Roedd hyn yn egluro'r fertigo sydyn a ddaeth drosof dros flwyddyn ynghynt. Pe bai'r gweithwyr meddygol proffesiynol amrywiol a welais bryd hynny wedi sylweddoli mai dyna oedd yn bod, gallwn fod wedi cael triniaeth ar gyfer strôc yn syth ac mae'n bosibl na fyddai fy ymennydd wedi'i niweidio i'r fath raddau. Pe bawn i, fel aelod o'r cyhoedd, yn gwybod am BEFAST, byddwn wedi deall pa mor beryglus oedd fy symptomau. Mae Prifysgol Stanford wedi bod yn ein cynghori i ddefnyddio canllawiau BEFAST ers blynyddoedd: http://scopeblog.stanford.edu/2014/05/02/be-fast-learn-to-recognize-the-signs-of-stroke/\n\n","additional_details":"​Fy stori bersonol i yw fy mod yn byw ar fy mhen fy hun, a chefais bwl sydyn o fertigo drwg ddechrau mis Rhagfyr 2015. Bûm yn fy ngwely am dri diwrnod cyfan ac nid oeddwn yn gallu symud i fwyta, yfed nac i wneud unrhyw beth arall. Pe bawn i'n gwybod bod posibilrwydd fy mod wedi cael strôc, buaswn wedi galw am ambiwlans ar unwaith. Ar ôl gwella'n ddigonol, es i'n ôl i weithio ond wythnos yn ddiweddarach, cefais bwl arall o fertigo, a hynny'n gyhoeddus - a ffoniodd rhywun am ambiwlans. Daeth y pwl hwn i ben yn gynt y tro hwn ond bu'r parafeddyg gyda mi am awr cyn trefnu apwyntiad i mi weld fy meddyg y noson honno. Pan es i weld fy meddyg yn yr ysbyty, lle'r oedd yn gweithio ar y pryd, cefais bwl arall o fertigo, ac ni fu modd i mi weithio o gwbl am fis o leiaf ar ôl hynny. Ar ôl mynd i weld y meddyg droeon dros y tri mis nesaf, cefais fy nghyfeirio yn y diwedd i'r adran ENT er mwyn trin fy fertigo, gan nad oedd fy symptomau'n diflannu fel roedd pawb wedi gobeithio. Ddiwedd mis Ionawr 2107, cefais MRI o'r diwedd i geisio darganfod y rheswm dros y boen barhaus yn fy nghlust. O ganlyniad, gwelwyd fy mod wedi cael strôc. Cefais wybod ar 14 Chwefror 2017, dros 15 mis ar ôl i fy symptomau cyntaf ymddangos.   \nNid wyf yn gallu gweithio'n llawn amser, ac rwyf yn dal i gael profion i geisio deall ay rhesymau dros y strôc. ​Mae'n bosibl mai TIAs oedd y digwyddiadau cyntaf ac mai dim ond y strôc lawn olaf achosodd y niwed parhaol - ar ôl i'r parafeddyg fy ngweld. Mae'n amhosibl gwybod yn bendant a fyddwn wedi gallu osgoi'r problemau hyn pe bai fy nghyflwr wedi'i ddarganfod ynghynt -  hyd yn oed pe bawn i wedi dechrau cymryd asprin bob dydd i deneuo'r gwaed (sef y cyngor a roddir os oes amheuaeth bod rhywun wedi cael TIA). Ni chefais y cyngor hwnnw, ac fe wyddom fod fy ymennydd wedi'i niweidio.\n\nDiolch i chi am roi sylw i'r mater hwn.\n\n","state":"completed","signature_count":105,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-05-09T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:07:15.028Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-05-09T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-05-24T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-11-21T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-05-09T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-05-24T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-05-24T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:07:15.027Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1022,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1022.json"},"attributes":{"action":"Galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Trelales, Broadlands a Merthyr Mawr yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr A48 ger Cylchfan Ewenni, Merthyr Mawr, Broadlands a Threlales yn ddiogel i holl ddefnyddwyr y ffyrdd ac i gerddwyr.\n\nMae llawer o ddamweiniau yn digwydd ar yr A48 ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Lladdwyd dau berson dros y flwyddyn ddiwethaf, ac mae gormod o fân ddamweiniau yn digwydd i geir, cerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio'r ffordd hon, yn ogystal â damweiniau a fu bron â digwydd.\n\nEr hyn, mae'r A48 o Island Farm yn parhau i fod yn ffordd lle gellir teithio ar gyflymder o 60 mya, ac mae llwybr beicio Broadlands yn gorffen yn Newbridge Fields.\n\n \n\nRydym yn galw am:\n\n \n\n - ostwng y terfyn cyflymder o 60 mya i 40 mya ar unwaith;\n\n \n\n - man croesi diogel ar yr A48 o warchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau ar lwybr Merthyr Mawr;\n\n \n\n - llwybr cerdded/beicio estynedig i alluogi ein plant i gerdded i'r ysgol yn ddiogel;\n\n \n\n - gwaith ymchwil i opsiynau i atal pobl rhag anwybyddu'r cyfarwyddyd i beidio â throi i'r dde ar gyffyrdd Merthyr Mawr, er enghraifft ynys ganolog, neu’r posibilrwydd o ddarparu cylchfan er mwyn galluogi cerbydau i droi yn ddiogel.\n\n \n\n- Rhaid sicrhau bod arian ar gael ar unwaith i atal rhagor o drychinebau.\n\nYmunwch â'r ymgyrch heddiw. Faint o deuluoedd eraill fydd yn gorfod gweld eu bywydau'n cael eu dinistrio cyn y bydd camau'n cael eu cymryd? \n\n","additional_details":"​Nid oes unrhyw fannau croesi diogel o'r llwybrau cerdded cyhoeddus sy'n cysylltu gwarchodfa natur Newbridge Fields/Craig-y-Parcau â chefn Broadlands ac ymlaen i lwybr dynodedig Merthyr Mawr.\n\nDisgwylir i blant Broadlands gerdded ar ffordd lle gellir teithio ar gyflymder o 60 milltir yr awr er mwyn cyrraedd Ysgol Brynteg, neu groesi'r ffordd honno, gan beryglu eu bywydau bob dydd.\n\n \n\nNid yw rhai gyrwyr yn talu sylw i'r arwyddion sy'n eu gorchymyn i beidio â throi i'r dde yng nghyffyrdd Merthyr Mawr, ac mae hyn yn creu peryglon ychwanegol i ddefnyddwyr eraill.\n\n \n\nMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cysylltu'r broses o gyflwyno gwelliannau â’r datblygiad hir-ddisgwyliedig yn Island Farm. <font color=\"#000000\" face=\"Calibri\" size=\"3\"> </font>\n\n","state":"completed","signature_count":997,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-06-16T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:40:09.817Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-06-16T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-05-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-09-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-06-16T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-05-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-05-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:40:09.816Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1165,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1165.json"},"attributes":{"action":"Diogelu Cerddoriaeth Fyw yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gymryd camau i ddiogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw yng Nghymru. Rydym yn gofyn yn benodol i’r Cynulliad gyflwyno’r egwyddor o ‘asiant dros newid’ sy’n sicrhau mai’r rhai sy’n datblygu unrhyw eiddo newydd sy’n gyfrifol am ddatrys problemau’n ymwneud â sŵn o fusnesau  gerllaw sydd wedi’u sefydlu’n barod. Rydym yn galw ymhellach ar y Cynulliad Cenedlaethol i ddeddfu i ganiatáu i awdurdodau lleol gydnabod ardal o ‘arwyddocâd diwylliannol cerddorol’ fel rhan o’r fframwaith cynllunio.\n\n","additional_details":"​Mae’r egwyddor o ‘asiant dros newid’ wedi’i mabwysiadu yn Lloegr ac mae’n diogelu lleoliadau cerddoriaeth fyw sydd wedi’u sefydlu eisoes drwy sicrhau mai’r person neu’r busnes sy’n gyfrifol am unrhyw newid sydd hefyd yn gyfrifol am reoli effaith y newid hwnnw. Felly, os caiff tai neu westy eu codi’r drws nesaf i leoliad cerddoriaeth fyw, cyfrifoldeb y datblygwr, yn hytrach na’r lleoliad cerddoriaeth fyw, yw lleihau effaith y sŵn. Os na chaiff yr egwyddor o ‘asiant dros newid’ ei mabwysiadu yng Nghymru, bydd datblygiadau newydd yn bygwth lleoliadau cerddoriaeth fyw. Dyma sy’n digwydd ar Stryd Womanby yng Nghaerdydd, lle bwriedir adeiladu gwesty newydd. Yn ogystal â hyn, ar hyn o bryd mae Maer Llundain yn cynnig cydnabod rhannau o Lundain fel ‘ardal o arwyddocâd diwylliannol cerddorol’. Rydym yn credu y dylai awdurdodau lleol Cymru fedru dewis gwneud hyn hefyd, yn enwedig yn achos lleoedd fel Stryd Womanby, lle dechreuodd gyrfa cynifer o gerddorion Cymru.\n\n","state":"completed","signature_count":5383,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-04-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2025-07-30T21:15:32.718Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-04-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-04-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-10-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-04-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-04-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-04-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":"2017-04-30T00:00:00.000Z","scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2017-07-12T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T15:06:42.264Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2017-07-12","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/4305#A693","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/4305?startPos=11760&l=cy","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2017."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":1137,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1137.json"},"attributes":{"action":"Diffyg Cymorth i Blant ag Anableddau Mewn Argyfwng","background":"Yr wyf yn ceisio tynnu sylw at yr angen i dîm argyfwng plant Cwm Taf gydnabod bod angen hanfodol i blant ag anableddau gael cymorth mewn argyfwng, a chael yr hawl i gael eu trin fel unrhyw blentyn arall.\n\nYr wyf yn fam i bedwar o blant. Mae gan Tom, fy mab canol, anghenion niferus, anawsterau dysgu difrifol, awtistiaeth, anhwylder hwyliau yn ogystal â phroblemau iechyd ychwanegol eraill. Mae Tom yn cyrraedd pwynt argyfwng bob hyn a hyn, sy'n golygu cynnydd mewn ymddygiad ymosodol, gweiddi yn uwch nag arfer, anafu ei hun yn ogystal ag eraill, a llawer o newidiadau eraill mewn ymddygiad. Mae sgiliau cyfathrebu Tom yn hynod gyfyngedig ac nid yw'n gallu dweud wrthym beth sydd o'i le na beth y gallwn ei wneud i helpu. Rydym wedi bod ar bwynt argyfwng gyda Tom, sydd bellach yn 15 oed ac ar ddogn uchel o feddyginiaethau, lawer gwaith dros y blynyddoedd ac mae'n rhyfeddol nad yw'r sefyllfa wedi gwella o ran cymorth i blant ag anableddau pan fyddant mewn argyfwng. Mae Tom mewn argyfwng ar hyn o bryd, ac wedi bod felly ers peth amser. Ychydig iawn o gymorth yr ydym ni fel teulu wedi'i gael, os o gwbl, i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn. Rwyf wedi cael gwybod bod tîm argyfwng plant yn bodoli. Fodd bynnag, nid yw'n cefnogi plant ag anableddau! Siawns nad yw plentyn mewn argyfwng, p'un a oes ganddo anableddau neu beidio, yn dal i fod yn blentyn mewn argyfwng. Yn wir, efallai fy mod yn anghywir, ond mewn rhai achosion efallai bod angen mwy o gymorth argyfwng arno. Ni allaf gredu bod y rhaniad hwn yn dal i fod yn dderbyniol yn yr oes hon.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":200,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-03-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:51:57.024Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-03-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-04-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-01-21T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-03-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-04-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-04-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:51:57.023Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1147,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1147.json"},"attributes":{"action":"Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu a chynnal gwaith ymchwil yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynhyrchu strategaeth ac argymhellion i feithrin gallu ein plant, o’u plentyndod cynnar,  i wrthsefyll effeithiau distrywiol seiberfwlio.\n\n","additional_details":"​Dylai’r strategaeth gynnwys cyngor i rieni ac ysgolion ynghylch:  \n\\* sut i greu safbwyntiau iach a chreu perthynas iach ag eraill ar y cyfryngau cymdeithasol   \n\\* sut i baratoi plant i adnabod ac amddiffyn eu hunain rhag y math o ymddygiad sy’n cyfateb i seiberfwlio\n\n\\* sut i ddysgu plant i wahanu profiadau ar-lein oddi wrth brofiadau bywydau ‘go iawn’  \n\\* sut i feithrin gallu plant i ymdopi’n emosiynol ag ymosodiadau personol ar-lein\n\n","state":"completed","signature_count":421,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-03-17T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:52:30.433Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-03-17T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-04-26T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-10-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-03-17T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-04-26T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-04-26T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:52:30.432Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1178,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1178.json"},"attributes":{"action":"Mynnu cyllid gan Lywodraeth Cymru i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i gefnogi Autism Spectrum Connections Cymru.\n\nMae'r elusen hon yn unigryw yng Nghymru. Nid yw Autism Spectrum Connections Cymru yn cael dim cyllid gan y Llywodraeth ar hyn o bryd. Mae'n dibynnu'n llwyr ar gyllid gan ffynonellau nad ydynt, o angenrheidrwydd, yn gallu ei chefnogi'n barhaol.\n\nMae'r ganolfan galw heibio agored, unigryw hon yn chwarae rhan bwysig o ran gwella bywydau pobl sy'n byw gydag awtistiaeth yng Nghymru.\n\nHoffem gael sicrwydd gan Lywodraeth Cymru y bydd yr elusen hon yn parhau i fod ar agor ac yn cael ei hariannu'n llawn o hyd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":148,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-05-09T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:07:06.013Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-05-09T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-04-26T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-04-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-05-09T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-04-26T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-04-26T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:07:06.012Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1133,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1133.json"},"attributes":{"action":"Cydnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant","background":"​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cymru i berswadio Llywodraeth Cymru i ddiogelu plant a phobl ifanc Cymru drwy gydnabod yn ffurfiol fod unrhyw un sy’n 'Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant' yn cam-drin plentyn yn emosiynol. Rydym yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau penodol i leihau’r effaith a gaiff achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant ar blant a'u teuluoedd.\n\n","additional_details":"Rydym yn cynnig bod Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau a ganlyn:\n\n• Cydnabod bod unrhyw un sy’n ‘Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant’ yn cam-drin plentyn yn emosiynol ac, wrth ddiffinio’r term, dylid cynnwys y diffiniad a gafwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder (paragraff 1) yma  https://petition.parliament.uk/petitions/164983 ) \n\n• Comisiynu ac ariannu hyfforddiant gorfodol i weithwyr proffesiynol gan gynnwys staff y Gwasanaethau Cymdeithasol a Cafcass Cymru (ond nid dim ond y rhain), i’w helpu i adnabod achosion o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant ac i sicrhau eu bod yn gwybod am y trefniadau sydd ar waith i ddiogelu plant rhag niwed.\n\n•Sefydlu ac ariannu ymgyrch genedlaethol i roi gwybodaeth i blant a'u teuluoedd a’u dysgu am y cysyniad o Ddieithrio Plentyn oddi wrth Riant a'r niwed y mae'n ei achosi.\n\n• Rhoi dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gymryd camau i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin a’u niweidio drwy eu Dieithrio oddi wrth Riant.   \n  \nDyma sut y diffiniwyd 'Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant’ gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder:\n\n‘In cases where parents are separated, parental alienation refers to a situation in which one parent (usually the parent with whom the child lives) behaves in a way which creates anxiety in the child, so that it appears the child is opposed to living or spending time with the other parent.'\n\nDaw'r diffiniad hwn o’r paragraff cyntaf yn ymateb y Llywodraeth i ddeiseb Mr. Darren Towill sydd i’w gweld yn: https://petition.parliament.uk/petitions/164983   \nMae CAFCASS Lloegr eisoes wedi cydnabod bod unrhyw un sy’n dieithrio plentyn oddi wrth riant yn euog o gam-drin y plentyn hwnnw. Mewn erthygl yn y Telegraph ar-lein, dyddiedig 12 Chwefror, 2017, dywedodd Anthony Douglas, Prif Weithredwr CAFCASS,  fod Dieithrio Plentyn oddi wrth Riant yn sicr gyfystyr ag esgeuluso neu gam-drin plentyn, o ran ei effaith bosibl.  http://www.telegraph.co.uk/news/2017/02/12/divorced-parents-pit-children-against-former-partners-guilty/\n\n","state":"completed","signature_count":2063,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-03-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:16:23.819Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-03-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-04-25T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-07-06T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-03-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-04-25T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-04-25T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:16:23.818Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1142,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1142.json"},"attributes":{"action":"Ar Gyfer Eitemau Untro: Cyflwyno System Dychwelyd Ernes ar Gyfer Cynwysyddion Diodydd a Sicrhau y Gellir Compostio Cynwysyddion Bwyd Cyflym a'r Offer sy'n Gysylltiedig â Hwy.","background":"​Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu er mwyn i Gymru gyfrannu'n gadarnhaol at y nod byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ac i adeiladu ar y canlyniadau rhagorol a gafwyd drwy godi tâl ar fagiau plastig, drwy weithredu dau gam arall a fyddai'n helpu Cymru i gyrraedd economi diwastraff, cylchol. Hynny yw:  \n  \n1. Cyflwyno system dychwelyd ernes yng Nghymru ar gyfer pob cynhwysydd diod untro, fel poteli gwydr a phlastig a chaniau alwminiwm.   \n2. Deddfu er mwyn codi tâl ar yr holl gynwysyddion bwyd a diodydd cyflym a'r offer sy'n gysylltiedig â hwy nad oes modd eu compostio'n llawn, oni bai ei bod yn bosibl eu hailddefnyddio, eu hail-lenwi, eu cynnwys mewn cynllun dychwelyd neu eu casglu i'w hailgylchu mewn siopau.  \n  \nMae systemau dychwelyd ernes eisoes ar waith mewn mwy na 40 o wledydd ledled y byd a phrofwyd bod y rhain yn lleihau sbwriel, yn cynyddu cyfraddau ailgylchu drwy greu cyflenwad mwy dibynadwy o ddeunyddiau o ansawdd da, yn lleihau costau ar gyfer awdurdodau lleol ac yn creu swyddi.  \n  \nMae papurau lapio bwyd cyflym a chwpanau untro yn eitemau sbwriel cyffredin ar ein strydoedd a bydd sicrhau bod modd eu hail-lenwi/eu hailddefnyddio, a'i bod yn hawdd eu hailgylchu neu eu compostio, yn lleihau sbwriel.  \n  \nMae'r gwaith o gynhyrchu cynwysyddion diodydd newydd yn ogystal â chynwysyddion bwyd cyflym a chwpanau newydd yn defnyddio llawer iawn o ynni, sy'n cyfrannu at allyriadau nwyon tŷ gwydr. Po fwyaf yr ydym yn ailgylchu, a pho leiaf o ysbwriel yr ydym yn ei ollwng, gorau oll ar gyfer ein hamgylchedd a'n heconomi.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1994,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-03-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:52:18.559Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-03-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-04-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-03-10T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-03-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-04-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-04-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:52:18.559Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1071,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1071.json"},"attributes":{"action":"Cryfhau’r Fframwaith Deddfwriaethol a Rheoleiddiol Ynghylch Cyfleusterau Prosesu Pren Gwastraff","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i: \r\n\r\nGyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus perthnasol eraill i weithio gyda'i gilydd i ddefnyddio eu pwerau a'u dyletswyddau presennol i gymryd camau gorfodi effeithiol ac effeithlon o fewn y diwydiant ailgylchu. \r\n\r\nCryfhau'r fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddiol lle bo angen er mwyn galluogi cyrff cyhoeddus perthnasol i gymryd camau gorfodi mwy effeithiol ac effeithlon (gan gynnwys monitro), a'u galluogi i erlyn a gosod cosbau ariannol cryfach ar gwmnïau a chyfarwyddwyr cwmnïau unigol sy'n torri eu rheolaethau gweithredol fel amodau cynllunio neu delerau eu trwyddedau gweithredol a thrwyddedau amgylcheddol;   \r\n  \r\nAdolygu'r ddeddfwriaeth bresennol i ganiatáu i'r cyhoedd, Gwasanaethau Tân ac Achub a chyrff cyhoeddus adennill y costau o ymdrin ag achosion, fel y tân diweddar yn South Wales Wood Recycling Ltd, os canfyddir yr achoswyd y tân o ganlyniad i esgeulustod y cwmni, gweithred droseddol neu achosion eraill o dorri rheoliadau, amodau neu ganiatadau gan y cwmni.   \r\n  \r\nAdolygu'r rheolau diogelu'r amgylchedd a rhoi cyfarwyddyd i awdurdodau lleol i sicrhau nad oes unrhyw fath o gyfleusterau prosesu pren gwastraff yn cael eu lleoli'n agos at safleoedd preswyl, safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig na safleoedd o bwysigrwydd i gadwraeth natur.   \r\n  \r\nCynnal asesiad cynhwysfawr ar y goblygiadau iechyd tymor hir yn sgil mewnanadlu'r llwch pren a achosir gan brosesu pren gwastraff a chynnal asesiad parhaus o'r haenau llwch a geir mewn cyfleusterau prosesu pren.","additional_details":"","state":"completed","signature_count":232,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-10-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:45:59.172Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-10-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-04-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-06-19T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-10-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-04-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-04-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:45:59.171Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1099,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1099.json"},"attributes":{"action":"Deiseb Gyhoeddus ar gyfer Ffordd Osgoi i Ddinas Powys","background":"​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru annog Lywodraeth Cymru i ddarparu’r cyllid a’r cymorth sydd eu hangen ar gyfer adeiladu Ffordd Osgoi i Ddinas Powys.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":3305,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-12-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:50:32.706Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-12-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-03-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-10-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-12-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-03-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-03-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:50:32.706Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1152,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1152.json"},"attributes":{"action":"Cynnal Profion TB ar Wartheg","background":"​Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gwrthwynebu cynnig gan Lywodraeth Cymru i ostwng y cyfnod amser ar gyfer cynnal y profion TB arferol ar wartheg mewn ardaloedd penodol yng Nghymru o 12 mis i 6 mis.\n\nYr weithred y deisebir amdani: tynnu’r cynig hwn yn ôl, a chynnal y status quo.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":309,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-03-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:52:54.482Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-03-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-03-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-07-11T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-03-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-03-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-03-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:52:54.481Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1162,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1162.json"},"attributes":{"action":"Adfer Gwasanaeth Deintyddol Symudol Corwen","background":"​Rydym yn galw ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau bod arian ar gael i adfer y gwasanaeth deintyddol symudol yn ardal Bala-Wrecsam ac iddo barhau fel gwasanaeth pwysig i iechyd plant yr ardal yn y dyfodol.\n\n","additional_details":"Rydym am ddechrau deiseb gan obeithio y cawn fan ddeintyddol newydd i ddod i'n hysgol i'n helpu ni i edrych ar ôl ein dannedd, fel o'r blaen. Rydym eisoes wedi colli ein bws ysgol ac rydym yn teimlo ein bod yn colli llawer o'r gymuned ac y bydd hyn yn cael effaith fawr ar ein dyfodol.\n\n","state":"completed","signature_count":157,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-03-31T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T15:06:20.840Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-03-31T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-03-20T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-07-11T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-03-31T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-03-20T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-03-20T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T15:06:20.839Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1095,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1095.json"},"attributes":{"action":"Bysiau Ysgol i Blant Ysgol","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau y rhoddir blaenoriaeth i ddiogelwch pob plentyn wrth iddynt deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.\n\n Rydym am gael bysiau ysgol penodedig â sedd a gwregys diogelwch i bob plentyn, fel y gall plant deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol yn ddiogel, ac ni ddylai unrhyw blentyn gael ei orfodi i deithio ar fysiau cyhoeddus gorlawn.  Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch plant.\n\n<font size=\"3\"><font color=\"#000000\"><em><span style='font-family:\"lucida sans unicode\", sans-serif;'> </span></em></font></font>Mae gan ein plant yr hawl i deimlo'n ddiogel. Gall bysiau cyhoeddus fynd yn orlawn. Nid oes gennym ddim syniad pwy allai fod yn teithio ar fws cyhoeddus. Bysiau at ddefnydd y cyhoedd yw bysiau cyhoeddus ac nid cludiant i'r ysgol. Nid ydym yn gofyn am wasanaeth di-dâl. Nid ydym yn gofyn am gael rhywbeth am ddim, dim ond tawelwch meddwl bod ein plant yn ddiogel pan fyddant yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Rydym yn dysgu ein plant bod pobl ddieithr yn beryglus ac eto mae disgwyl i ni eu hanfon ar fws cyhoeddus yn llawn pobl ddieithr bob dydd.\n\n \n\nBu farw fy merch ar ôl iddi gael ei tharo gan fws cyhoeddus a ddefnyddiodd i deithio adref o'r ysgol. Rwy'n teimlo ei bod hi'n anochel y bydd rhiant arall yn wynebu'r un hunllef â mi os na wneir rhywbeth i sicrhau bod gan blant ddull diogel o deithio yn ôl ac ymlaen i'r ysgol.\n\n","additional_details":"​Bydd llawer o bobl yn cofio fy merch Louise a'r ffordd ofnadwy y bu farw. I'r rhai nad ydynt yn cofio, roedd Louise yn 11 oed ac ond megis dechrau yn yr ysgol uwchradd. Roedd fy mhlant yn dibynnu ar fws cyhoeddus oherwydd y pellter i gyrraedd yr ysgol. Ar 19 Mawrth 2001, roeddwn i'n disgwyl i Louise ddod adref o Ysgol Uwchradd Cei Connah ar yr amser arferol, ond roedd y bws yn hwyr y diwrnod hwnnw. Dechreuais boeni, ac wrth i mi adael y tŷ gwelais ffrindiau Louise a ddywedodd wrthyf ei bod hi wedi cael ei tharo gan gerbyd. Rhedais at ben y stryd i weld fy merch brydferth yn ymladd am ei bywyd yn y ffordd, â phlant ysgol gofidus o'i hamgylch. Roeddwn i'n methu â deall beth oedd wedi digwydd. Yn y misoedd wedyn, daeth i'r amlwg bod y bws yr oedd Louise yn teithio adref arno yn orlawn. Roedd oedolion yn sefyll yn siarad â'r gyrrwr. Soniwyd am wthio, a bod ei bag wedi'i ddal yn y drws neu yn yr olwyn, gan achosi iddi gael ei llusgo o dan y bws yr oedd hi newydd ddod oddi arno. Profwyd bod mannau dall nad oedd modd eu gweld yn y drychau ac roedd hynny wedi cyfrannu at y ddamwain.   \n  \nYn dilyn penderfyniad i gau ysgol leol, Ysgol Uwchradd John Summers, mae llawer o rieni wedi siarad â mi am eu pryderon ynghylch diogelwch eu plant wrth deithio ar fysiau cyhoeddus yn ôl ac ymlaen i'r ysgol. Codwyd pwyntiau sydd wedi codi ofn arnaf, felly rwy'n arwain ymgyrch yn enw fy merch er mwyn sicrhau na fydd unrhyw blentyn yn cael ei orfodi i ddefnyddio bysiau trafnidiaeth gyhoeddus fel cludiant i'r ysgol. \n\n","state":"completed","signature_count":737,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-12-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:48:21.828Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-12-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-03-19T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-07-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-12-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-03-19T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-03-19T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:48:21.828Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":920,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/920.json"},"attributes":{"action":"Cludiant Ysgol am Ddim i Holl Blant Cymru","background":"​Rwyf yn cychwyn y ddeiseb hon i holl blant Cymru gael cludiant am ddim i'r ysgol ac oddi yno, lle maent yn byw yn y dalgylch.\n\n","additional_details":"​Er enghraifft, oherwydd toriadau Llywodraeth y DU i gyllid y sector cyhoeddus a'r angen i'r cyngor wneud arbedion sylweddol o ganlyniad i hynny, mae cyngor Rhondda Cynon Taf bellach yn dymuno codi tâl o £285 y plentyn bob blwyddyn o fis Medi 2016 am eu cludo i'r ysgol ac oddi yno neu £95 i'r rheini sy'n cael prydau ysgol am ddim.  Gellid gwneud toriadau mewn mannau eraill e.e. a oes gwir angen planhigion yn y gymuned?\n\n","state":"completed","signature_count":194,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-09-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T11:08:06.371Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-09-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-03-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-10-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-09-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-03-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-03-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T11:08:06.371Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1106,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1106.json"},"attributes":{"action":"Mwy o darpariaeth ar gyfer chwaraeon moduro oddi ar y ffordd","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddarparu mwy o gymorth drwy Gyfoeth Naturiol Cymru i wneud darpariaeth ar gyfer beiciau modur oddi ar y ffordd. Ymhellach, gofynnwn am i’r Cynulliad bennu cyfeiriad ar gyfer awdurdodau lleol a’r heddlu yn unol â Grŵp Moduron Oddi ar y Ffordd Cymru. Yn olaf, gofynnwn am i Weinidogion gyfarfod â rhai o’r bobl sy’n ymwneud â darpariaeth oddi ar y ffordd i drafod y cymorth a geisir gennym.\n\n","additional_details":"​Mae’r defnydd o “feiciau modur oddi ar y ffordd” yn bwnc sydd wedi hollti barn yng Nghymru yn aml, gyda rhai o blaid ac eraill yn erbyn. O ganlyniad i hyn, mae nifer o’r rhai sy’n defnyddio ffyrdd yn gyfreithlon wedi cael eu pardduo, ac ni wahaniaethwyd rhwng y defnyddwyr cyfreithlon a’r rhai sy’n reidio’n wrthgymdeithasol.  \n  \nMae cerbydau oddi ar y ffordd yn werth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn i economi Cymru. Yn 2002, cynhaliodd yr Undeb Awtofeicio arolwg ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf ac amcangyfrifwyd bod 10,000 o feiciau a cherbydau oddi ar y ffordd yn cael eu defnyddio yn ardal y cyngor hwnnw. Mae busnesau lleol yn gweld cynnydd cyson bob blwyddyn yn y defnydd o feiciau. Yn achos y rhan fwyaf, ceisir ymhél â’r gamp yn gyfreithiol, ond mae’r ffaith bod cyn lleied o leoliadau, a’r gostyngiad yn nifer y cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig, yn golygu bod nifer gynyddol yn methu â chadw at y gyfraith. Yn y sefyllfa sydd ohoni, mae’r heddlu yn aml yn targedu defnyddwyr oddi ar ffordd, gan gynnwys y rhai sy’n ymddwyn yn gyfreithiol ac yn gyfrifol.  \n  \nMae Grŵp Moduron Oddi ar y Ffordd Cymru, sy’n cynghori’r Cynulliad, yn ogystal â phob un o’r 22 awdurdod lleol a’r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru, wedi dod i’r casgliad mai dull triphlyg o addysg, gorfodaeth a darpariaeth yw’r unig ffordd o roi stop ar weithgarwch anghyfreithlon. Er bod addysg a gorfodi yn digwydd yn rheolaidd, ymddengys mai ychydig iawn sy’n cael ei ddarparu ar gyfer defnyddwyr moduron oddi ar y ffordd. Ar hyn o bryd, yn ne Cymru, un trac motocrós sydd yn agored i’r cyhoedd. Mae hynny’n annigonol, ac ar gyfer beicwyr motocrós yn unig y mae’r ddarpariaeth honno. Mae llawer o’r cilffyrdd sydd ar agor i unrhyw draffig yn cael eu cau neu eu gwneud yn destun Gorchmynion Rheoleiddio Traffig, ac mae mentrau i wneud darpariaeth yn cael eu hatal gan yr heddlu neu gan Gyfoeth Naturiol Cymru.  \n  \nDrwy greu mannau ar gyfer beicio modur oddi ar y ffordd, gellid lleihau yn aruthrol y defnydd gwrthgymdeithasol o feiciau modur. Ym Merthyr Tudful, creodd Cyfoeth Naturiol Cymru drac beicio mynydd pwrpasol a ddenodd 66,000 o ymwelwyr yn y flwyddyn gyntaf.\n\n","state":"completed","signature_count":318,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-02-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:50:49.392Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-02-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-02-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-10-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-02-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-02-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-02-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:50:49.391Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1087,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1087.json"},"attributes":{"action":"Atal gasympio; dilyn y broses brynu yn yr Alban","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu'r ffordd yr ydym yn prynu ac yn gwerthu tai ac i asesu a fyddai'n bosibl gweithredu system fel yr un yn yr Alban i atal gasympio.\n\n","additional_details":"​Fy enw i yw Victoria Bridle.  Roedd fy ngŵr a minnau'n arfer byw yn ne-ddwyrain Llundain a gwnaethom symud i ogledd Cymru tua thair blwyddyn a hanner yn ôl. Ychydig wythnosau'n ôl gwnaethom gynnig ar dŷ yr oeddem wedi syrthio mewn cariad ag ef. Derbyniwyd y cynnig ac roedd y tŷ Wedi'i Werthu yn Amodol ar Gytundeb. Dywedodd ein gwerthwr tai wrthym ei fod wedi dweud wrth yr asiant arall i'w dynnu oddi ar y farchnad fel nad oedd ar gael ar gyfer ymweliadau na derbyniadau mwyach.  Roedd popeth yn mynd yn dda iawn hyd nes inni gael gwybod gan ein gwerthwr tai fod yr asiant arall wedi cael galwad ffôn yn dweud bod rhywun arall wedi gwneud cynnig a'i fod wedi'i dderbyn. Felly y cyfan y gwnaethom ei dalu oedd ffioedd y cyfreithwyr.\n\nGwnaethom sefydlu'r ddeiseb hon er mwyn ceisio atal hyn rhag digwydd gan fod gennym bopeth, gan gynnwys cynnig morgais, yn eu lle.   \nAt hynny, gwnaethom hyd yn oed weld y gwerthwyr ar y dydd Sadwrn gyda'n plentyn 18 mis oed i gael golwg terfynol o gwmpas ar y gosodiadau a'r ffitiadau.  Dywedodd y gwerthwyr hyd yn oed beth yr oeddent am eu gadael inni a gwnaethom ysgwyd llaw hefyd. Wrth ddweud wrth bobl eraill am hyn, roeddent yn meddwl bod gasympio yn anghyfreithlon, ond yn amlwg nid yw hynny'n wir.   \n  \nAc i goroni'r cwbl, es i at werthwr tai arall y diwrnod o'r blaen i ofyn a oedd ganddynt unrhyw beth arall ar werth. Gwnaethant hyd yn oed geisio rhoi'r tŷ y cawsom ein gasympio arno inni. Felly, maent yn amlwg yn ceisio gasympio'r bobl hyn, sy'n amlwg yn anghywir. Llofnodwch y ddeiseb hon a'i drosglwyddo i deulu a ffrindiau i'w lofnodi er mwyn ceisio atal hyn rhag digwydd.\n\n","state":"completed","signature_count":18,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-11-30T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:47:40.530Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-11-30T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-02-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-03-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-11-30T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-02-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-02-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:47:40.529Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1079,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1079.json"},"attributes":{"action":"Rhowch derfyn ar fasnachu anifeiliaid anwes egsotig yng Nghymru","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau gweithredu yn erbyn masnachu mewn anifeiliaid egsotig sy’n cael eu dal a’u magu ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes yng Nghymru. Dylai hefyd wahardd trwyddedu pob busnes sydd ynghlwm â’r fasnach ddinistriol, greulon ac anfoesegol hon, gydag eithriadau clir ar gyfer canolfannau achub a chanolfannau achub trwyddedig.\n\nRydym hefyd yn annog Llywodraeth Cymru i ddilyn esiampl Llywodraeth yr Alban, sydd wedi ymrwymo i adolygu masnachu a mewnforio anifeiliaid egsotig ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes yn yr Alban ym mis Chwefror 2015, dan arweiniad Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig a'r Amgylchedd. Er mwyn i Gymru gael ei chymryd o ddifrif yn y gymuned gadwraeth fyd-eang, rydym o’r farn na allwn gael ein gweld yn caniatáu i’r fasnach hon barhau yn ein gwlad ein hunain. Mae hyn yn amlygu pryderon Cymdeithas Milfeddygon Prydain (BVA), y Federation of Veterinarians of Europe (FVE) a'r RSPCA.\n\n","additional_details":"​Mae anifeiliaid fel mwncïod, 'meerkats', ymlusgiaid a chrwbanod yn anifeiliaid gwyllt sy'n perthyn i’w cynefin naturiol, ac ni ddylent fod mewn cewyll a thanciau gwydr yng nghartref rhywun. Caiff dros 1000 o rywogaethau o famaliaid, adar, infertebratau, ymlusgiaid, amffibiaid a physgod eu magu a’u dal ar gyfer y fasnach anifeiliaid anwes egsotig. Ein dadl ni yw mai dim ond yn eu cynefinoedd naturiol y gellir bodloni anghenion cymdeithasol, corfforol ac ymddygiadol cymhleth yr anifeiliaid hyn. Hefyd, ceir tystiolaeth gref sy'n cysylltu’r fasnach mewn anifeiliaid egsotig â dinistrio cynefinoedd a difodiant rhywogaethau yn y gwyllt. Ochr yn ochr â dioddefaint anifeiliaid o'r fath wrth deithio - gan gynnwys llawer o gofnodion am farwolaethau - gall anifeiliaid ifanc dyfu i fod yn oedolion peryglus a all fynd dros ben llestri mewn amgylcheddau domestig nad ydynt yn addas i fodloni eu hanghenion lles am fwy o le a bwyd.\n\n","state":"completed","signature_count":222,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-11-16T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-07T12:16:07.197Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-11-16T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-10-12T23:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-11-16T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-07T12:16:07.196Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1113,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1113.json"},"attributes":{"action":"Achub Gwasanaethau TWF","background":"Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â Mudiad Meithrin, i ailystyried penderfyniad andwyol y llywodraeth ddiwethaf i ddiddymu prosiect TWF. Yn benodol, rwy'n galw ar y Llywodraeth i weithredu ar frys i: \r\n\r\n•\twrthdroi'r penderfyniad o dorri £200,000 i'r prosiect sy'n olynu TWF \r\n\r\n•\tadfer parhad o’r cymorth yr oedd TWF yn ei gynnig a oedd yn canolbwyntio ar drosglwyddiad iaith a chefnogi babanod a rhieni newydd yn genedlaethol, hytrach nag yn dameidiol. Byddai hyn yn golygu adfer swyddi i swyddogion gyda phresenoldeb yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Ddinbych, Sir Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Sir Fynwy, Tor-faen a Wrecsam. \r\n\r\n•\tsicrhau cyllid ar gyfer gweithgareddau hybu’r Gymraeg i rieni sydd â chysylltiadau â gwasanaethau megis Cymraeg i Oedolion, y Mentrau Iaith, Llyfrgelloedd a Chanolfannau Hamdden, gan gynnwys gweithgareddau sy'n rhoi cymorth i iechyd meddwl ôl-enedigol hefyd. ","additional_details":"","state":"completed","signature_count":912,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2017-02-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:51:01.435Z","rejected_at":null,"opened_at":"2017-02-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-04-04T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2017-02-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:51:01.434Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1093,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1093.json"},"attributes":{"action":"Mae Angen Cyfyngiadau Llymach ar Cyfoeth Naturiol Cymru.","background":"​Mae angen llywodraethu a chraffu llymach ar Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae angen rhoi'r gorau i droi tir amaethyddol proffidiol yn gynefinoedd ac yn Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig lle mae'n rhaid i'r ffermwr gydymffurfio gyda hyd yn oed mwy o gyfyngiadau er mwyn ceisio gwneud bywoliaeth!   \nAr hyn o bryd, mae Cyfoeth Naturiol Cymru (yr ochr Amgylcheddol) yn sefydliad sy'n cynnwys swyddogion nad ydynt yn barod i wrando ar wybodaeth leol, a dim ond yn rhoi cyngor yn unol â'r hyn y gallant ei ddarllen mewn llyfrau! Dim ond un nod mewn bywyd sydd ganddynt, a hynny yw troi ein cefn gwlad yn un warchodfa natur amhroffidiol enfawr ar draul y trethdalwr a chymunedau gwledig yn gyffredinol! Mae angen i'n cynrychiolwyr etholedig graffu'n agosach ar eu gwaith!\n\nFelly, rydym yn galw ar y Cynulliad i adolygu arferion a pholisïau cyfredol Cyfoeth Naturiol Cymru o ran y ffordd y mae'n gweinyddu tir a allai gael ei droi'n gynefin neu'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Ar hyn o bryd, mae'r sefydliad yn gwneud mwy o ddrwg na da i gefn gwlad! Mae angen taro cydbwysedd a fydd o fudd i bawb.\n\n \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":19,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-12-05T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:48:11.796Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-12-05T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-01-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-05-09T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-12-05T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-01-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-01-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:48:11.795Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1096,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1096.json"},"attributes":{"action":"Deiseb i Warchod Ein Stryd Fawr","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn credu bod cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol Llywodraeth Cymru yn annigonol o ran diwallu anghenion busnesau yr effeithir arnynt gan ailbrisiadau diweddaraf adeiladau, ac rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu pecyn o fesurau rhyddhad ardrethi parhaol i ysgafnhau'r pwysau ariannol ar fusnesau bychain.\n\n<font size=\"3\"><font color=\"#000000\"><span style='font-family:\"lucida sans unicode\", sans-serif;'> </span></font></font>\n\n","additional_details":"​Bydd nifer o fusnesau bychain yng Nghymru'n wynebu'r posibilrwydd o orfod cau o ganlyniad i ardrethi busnes uwch oherwydd ailbrisiadau gorfodol.  \n  \nBydd cynllun rhyddhad ardrethi estynedig ar gael i fusnesau bychain yn Lloegr o fis Ebrill 2017 ymlaen, a fydd yn lleihau eu hardrethi ac yn lliniaru'r effaith a gaiff ailbrisiadau arnynt.  \n  \nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu'r cynllun rhyddhad hwn i fusnesau Cymru i warchod ein Stryd Fawr. \n\n","state":"completed","signature_count":939,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-12-08T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:48:34.717Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-12-08T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-01-15T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-02-06T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-12-08T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-01-15T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-01-15T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:48:34.716Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":1067,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/1067.json"},"attributes":{"action":"Darparu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Mwy Hygyrch","background":"​Er mwyn darparu gwasanaethau iechyd meddwl mwy hygyrch, dylai Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr nad oes neb sy’n gofyn am gymorth gan wasanaeth iechyd meddwl gael ei droi ymaith heb help. Os oes unrhyw un yn mynd at eu meddyg teulu neu unrhyw weithiwr gofal iechyd proffesiynol i ofyn am gymorth ar gyfer problem iechyd meddwl, dylid eu cyfeirio’n awtomatig at y Tîm Argyfwng a dylai’r tîm hwn gymryd camau ar unwaith i’w helpu. Nid yr unigolyn ddylai fod yn gyfrifol am gysylltu â’r Tîm Argyfwng ei hun. Dylid cynnig therapi un i un, yn hytrach a therapi grŵp,  bawb. \r\n\r\nFel y gŵyr nifer, nid yw fy mywyd i wedi bod yn hawdd ac rwyf wedi cael problemau iechyd meddwl; rwy’n cael pyliau o iselder, gorbryder, anhwylder straen wedi trawma (PTSD) ac OCD. Cyrhaeddais y gwaelod un yn ddiweddar, a sgrechian am help ond, er i mi gredu y byddai’r gwasanaethau iechyd meddwl yn fy helpu,  cefais fy siomi’n arw ganddynt.\r\n\r\nRwyf am i’m profiad i helpu eraill yng Nghymru i gael y cymorth sydd ei angen arnynt.","additional_details":"","state":"completed","signature_count":73,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-10-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T14:45:17.018Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-10-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2017-01-06T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-10-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2017-01-06T00:00:00.000Z","referred_at":"2017-01-06T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T14:45:17.017Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}}]}