{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau.json?page=48&state=archived","first":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?state=archived","last":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=54&state=archived","next":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=49&state=archived","prev":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=47&state=archived"},"data":[{"type":"petition","id":788,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/788.json"},"attributes":{"action":"Gwneud Iechyd Meddwl yn Rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol","background":"​Mae'n bwysig addysgu pobl ifanc am arwyddion a symptomau salwch meddwl, er mwyn hyrwyddo lles meddyliol, trwy ddysgu ffyrdd cadarnhaol o ymdopi a sut i sianelu emosiynau yn gadarnhaol. Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl, er mwyn chwalu'r stigma a'r gwahaniaethu y mae miliynau o bobl yn eu hwynebu bob dydd. Bydd hyn yn dod â gwell dealltwriaeth o sut i gefnogi pobl sydd ag anawsterau meddyliol. Bydd yn haws i fwy o bobl deimlo y gallant geisio, a chael, y cymorth sydd ei angen yn daer, ynghyd ag ymyrraeth gynnar, a fydd yn golygu y gellir arbed mwy o arian y GIG ac achub bywydau. Dim ond os ydym yn gwneud gwahaniaeth yn awr. Rwyf o'r farn y byddai arwyddion a symptomau fy Anorecsia wedi cael eu canfod yn gynt pe buasai iechyd meddwl yn rhan o'r cwricwlwm cenedlaethol, yn lle ei gadael yn rhy hwyr. Rwyf o'r farn y byddai pobl wedi dangos mwy o gefnogaeth a dealltwriaeth pe buasai'r addysg ganddynt. Un fenyw ydw i, yn ceisio fy ngorau i addysgu'r genhedlaeth nesaf, diolch i Fixers UK. Rwy'n rhedeg fy mhrosiect fy hun o'r enw Black Cat Project. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn rhoi sylw iddo. Gadewch inni wneud gwahaniaeth yn awr!\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":224,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-09-10T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-09-10T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-04-07T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-09-13T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-09-10T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-04-07T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-04-07T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":919,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/919.json"},"attributes":{"action":"Gorsaf Bŵer Tata Steel ym Mhort Talbot","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio pob dull sydd ar gael iddi, gan gynnwys dulliau ariannol, i gefnogi'r gwaith o gwblhau'r orsaf bŵer newydd sydd wedi'i chynllunio ar gyfer gwaith dur Port Talbot. Bydd adeiladu'r orsaf hon yn creu swyddi a phan fydd yn weithredol, bydd yr orsaf yn lleihau allyriadau, yn lleihau costau rhedeg Tata ac yn helpu i ddiogelu swyddi hollbwysig yn yr ardal.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":531,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-09-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-09-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-03-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-09-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-03-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-03-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":885,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/885.json"},"attributes":{"action":"Dylid Gosod System Goleuadau Traffig yng Nghylchfan Cross Hands","background":"​Dengys ystadegyn a gyhoeddwyd yn ddiweddar mai cylchfan Cross Hands yw'r 3ydd cylchfan mwyaf peryglus yng Nghymru o ran damweiniau traffig a phobl yn cael eu hanafu. Bydd unrhyw un sy'n byw yn yr ardal neu sy'n teithio'n rheolaidd ynddi'n gwybod pa mor beryglus yw'r gylchfan erbyn hyn. Llofnodwch a rhannwch y ddeiseb, er mwyn pwyso am ddatrysiad. \n\n","additional_details":"​Mae'r gwrthwynebwyr yn dadlau y byddai goleuadau traffig yn arafu traffig ar ffordd sydd eisoes yn brysur. Gosodwyd goleuadau traffig ar gylchfannau Caerfyrddin a Phont Abraham ers peth amser, ac nid yw tagfeydd traffig yn broblem ddifrifol yn y ddau le. Wrth i'r ffyrdd brysuro, mater o amser yn unig ydyw nes bydd rhywun yn cael ei anafu'n ddifrifol. Dylid defnyddio synnwyr cyffredin a chynorthwyo i gyflwyno camau gorfodi er mwyn gwneud y ffordd hon yn llawer mwy diogel i bob modurwr.\n\n","state":"completed","signature_count":27,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-05-19T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-05-19T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-03-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-05-19T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-03-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-03-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":902,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/902.json"},"attributes":{"action":"Adolygiad o Bysgota Cregyn Bylchog ym Mae Ceredigion","background":"​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn galw ar i Lywodraeth Cymru atal treillio am gregyn bylchog ym Mae Ceredigion a sicrhau bod y dolffiniaid a'r llamhidyddion sy'n sefydlog yno yn cael eu diogelu yn awr ac yn y dyfodol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":33,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-07-10T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-07-10T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-03-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-07-10T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-03-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-03-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":914,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/914.json"},"attributes":{"action":"Cynllun y Taliad Sylfaenol yng Nghymru - Mae Angen Model Taliad Rhanbarthol Tecach","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei phenderfyniad i osod model cyfradd wastad ar gyfer talu cymhorthdal Cynllun y Taliad Sylfaenol i ffermwyr Cymru.   \nGrant yr Undeb Ewropeaidd i helpu'r diwydiant ffermio yw Cynllun y Taliad Sengl. Gall ffermwyr wneud cais am y grant unwaith y flwyddyn - ym mis Mai fel arfer - ac mae'r taliadau'n cychwyn ym mis Rhagfyr.  \nYm mis Gorffennaf 2015, gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad i ddechrau talu ar gyfradd wastad fesul hectar i holl ffermwyr Cymru o dan Gynllun y Taliad Sylfaenol.   \nO ganlyniad i'r penderfyniad hwn, amcangyfrifir y bydd 1,323 o ffermydd yn colli mwy na €2,500, a bydd taliadau llawer ohonynt yn gostwng tua 40-60% dros gyfnod o bum mlynedd. Bydd y taliadau a gollir yn dod i €100,000 fesul fferm, bob blwyddyn o nawr tan 2019.   \nBydd y model taliad cyfradd wastad i holl ffermwyr Cymru yn arwain at ddiweithdra a methiant busnesau. Bydd hyn hefyd yn cael effaith niweidiol ar yr amgylchedd ac ar ansawdd a maint cynnyrch bwyd o Gymru, oherwydd y bydd yr effaith waethaf ar ffermydd cynhyrchiol.  \n Ceir gwahaniaethau sylweddol yng nghynhyrchiant tir ffermio yng Nghymru. Felly, mae'n hollbwysig bod Cynllun y Taliad Sylfaenol yn cael ei droi'n rhanbarthol. Bydd y penderfyniad hefyd yn rhoi ffermwyr cynhyrchiol yng Nghymru o dan anfantais o'i gymharu â ffermwyr cyfatebol mewn gwledydd eraill; er enghraifft, mae ffermwyr yn Lloegr yn derbyn taliadau Cynllun y Taliad Sylfaenol ar sail ranbarthol.  \n Mae'n amlwg er budd gorau'r gymuned ffermio a Chymru'n ehangach i sicrhau bod cynllun taliad tecach ar waith.\n\n \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":139,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-09-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-09-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-03-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-09-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-03-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-03-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":903,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/903.json"},"attributes":{"action":"Sgrinio Rheolaidd ar gyfer Diabetes Math 1 mewn Plant a Phobl Ifanc.","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno sgrinio rheolaidd ar gyfer diabetes math 1 mewn plant a phobl ifanc **.**\n\nYm mis Ionawr eleni, yn drychinebus collom ein hannwyl ŵyr 13 oed, Peter Baldwin, a hynny oherwydd diabetes math 1 oedd heb ei ganfod nes ei bod yn rhy hwyr i'w achub. Roedd Peter yn ddisgybl oedd yn annwyl iawn ac yn uchel ei barch gan bawb yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Mae pawb yn ei golli yno, ond mae'r boen i'w deulu yn aruthrol.  \nYn ddiweddar, cyflwynwyd gwobr Pride of Britain i'n merch Beth am ei hymdrechion yn codi arian ac ymwybyddiaeth ar gyfer y clefyd ofnadwy hwn, ond gyda'ch cymorth chi a chymorth eich ffrindiau a'ch teulu, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn.  \nA fyddech cystal â threulio ychydig funudau yn arwyddo'n deiseb i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno rhaglen sgrinio a chodi ymwybyddiaeth o'r angen i archwilio unrhyw un sy'n dod at weithiwr gofal iechyd proffesiynol â symptomau anesboniadwy tebyg i ffliw neu deimlad o salwch cyffredinol i weld a ydynt yn dioddef o ddiabetes math 1. Yr unig beth sydd ei angen mewn prawf o'r fath yw pigiad i'r bys neu sampl wrin ac mae'n cymryd llai o amser nag ydych chi wedi'i dreulio yn darllen y paragraff hwn; mae hefyd yn costio ychydig geiniogau. Ein bwriad yw gwneud y prawf hwn yr un mor arferol mewn meddygfeydd teulu a chlinigau â phrofion tymheredd a phwysau gwaed.  \nDrwy lofnodi'r ddeiseb hon, gallech helpu i achub bywydau ac atal rhagor o golled erchyll mewn teuluoedd.\n\n","additional_details":"​Y safon ddelfrydol fyddai sgrinio pob person ifanc er mwyn canfod y cyflwr llechwraidd hwn yn gynnar. Mae sawl rhan o'r byd yn gweld manteision sgrinio o'r fath ac yn ei gyflwyno – y diweddaraf yw Gogledd Carolina yn UDA. Mae linc isod i benderfyniad Gogledd Carolina.  \nhttp://insulinnation.com/living/reegans-rule-passes-north-carolina/  \nMae Senedd yr Alban yn arwain y ffordd yn y DU ac eisoes wedi ymrwymo i drafod y mater, ac mae'n ymddangos yn debygol iawn y bydd yn cychwyn sgrinio. Rydym eisiau hyn ar gyfer ein plant yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddechrau sgrinio cyn gynted â phosibl.   \nLLOFNODWCH Y DDEISEB A'I RHANNU Â CHYNIFER O BOBL Â PHOSIBL   \n(a chofiwch longyfarch eich hun – mae'n bosibl eich bod wedi achub bywyd plentyn)  \n  \nMae deiseb ar Change.org yn casglu llofnodion ar hyn o bryd ar gyfer y newid hwn ar draws y DU:  \nhttps://www.change.org/p/craig-williams-mp-screen-children-for-type-1-diabetes\n\n","state":"completed","signature_count":2570,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-07-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T11:07:21.947Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-07-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-10-03T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-07-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2018-10-03T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T11:07:21.946Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2018-10-03","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/5354#A45757","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/5354?startPos=6560&l=cy","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Hydref 2018."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":946,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/946.json"},"attributes":{"action":"Coed mewn Trefi","background":"​Rwy'n cefnogi'r dyhead y dylai pob dinas, tref a phentref yng Nghymru fanteisio ar o leiaf 20% o orchudd canopi coed, i gyd fynd â maestrefi deiliog y lleoedd gorau i fyw\n\n- Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi hyn drwy sefydlu cronfa her ar gyfer plannu coed er mwyn gwella'r amgylchedd lle mae pobl yn byw\n- Dylai hyn gefnogi'n arbennig, plannu coed brodorol a all ddarparu cynefin a ffynhonnell neithdar i bryfed peillio, a hefyd coed ffrwythau, a fydd yn darparu ffynhonnell gynaliadwy o fwyd.\n- Byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi gwybod i mi os ydych yn gallu dod.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":2258,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-10-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-10-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2018-05-15T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-10-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":678,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/678.json"},"attributes":{"action":"Caniatáu i’r Cyhoedd Recordio Cyfarfodydd Llywodraeth Leol yng Nghymru","background":"Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi i bobl ac etholwyr Cymru yr un hawliau i recordio cyfarfodydd Llywodraeth Leol ag sydd gan eu cymheiriaid yn Lloegr.   \n  \nGwybodaeth ychwanegol: Mae’r darpariaethau manwl wedi’u cynnwys yn yr is-ddeddfwriaeth a wnaed o dan Ddeddf 2000, sef Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol) (Cyfarfodydd a Mynediad at Wybodaeth) (Lloegr) 2012. Deddfwyd y rheoliadau ym mis Medi 2012, a chawsant eu cyhoeddi ar wefan yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":186,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-06-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-06-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-03-07T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-06-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":853,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/853.json"},"attributes":{"action":"Dileu’r Cymhwyster Bagloriaeth Cymru","background":"​Ar adeg pan ddywedir wrth bobl ifanc bod yn rhaid iddynt ragori mewn pynciau cwricwlwm craidd fel Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth, mae Bagloriaeth Cymru yn cymryd amser y gellid ei ddefnyddio i ganolbwyntio ar y meysydd hyn. Mae Bagloriaeth Cymru yn gymhwyster dibwrpas nad yw o unrhyw ddiben gwirioneddol i ddyfodol myfyriwr.  Gallai'r cymhwyster Bagloriaeth Cymru gael ei ddileu'n hawdd neu ei ddisodli gan gwrs dinasyddiaeth. Gallai dileu Bagloriaeth Cymru hefyd helpu i wella graddau gan y byddai'n caniatáu i fyfyrwyr ganolbwyntio ar gyrsiau TGAU a Safon Uwch gwirioneddol, a byddai'n tynnu'r pwysau ychwanegol oddi ar fyfyrwyr.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":378,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-02-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-02-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-02-19T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-02-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-02-19T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-02-19T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":847,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/847.json"},"attributes":{"action":"Offer i Helpu Pobl Eiddil","background":"Ni allaf ddeall pam, ar ôl dwy flynedd o apelio i'r bobl sydd â'r pŵer i ddatrys problemau, nad yw addasiad bach wedi'i wneud er mwyn fy ngalluogi i, menyw 77 oed gydag anhawster symudedd oherwydd arthritis yn y ddwy glun/ben-glin, deithio yn y car cymunedol. Nid oes gan y ddau gar a brynwyd at y diben o helpu pobl hŷn a phobl anabl, y mae eu hangen arnaf, ddolenni cydio fel y gall y teithiwr yn y sedd flaen fynd i mewn i'r car. Mae fy ffeil o gysylltiadau'n cynnwys gwneuthurwr y car, a oedd yn fwy na pharod i bostio dolenni cydio, ac roedd cwmni yng Nghaerdydd yn barod i'w gosod (dwi'n siŵr bod arbenigwyr tebyg yn Abertawe!)\n\nRwyf felly yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau ei bod yn orfodol gosod dolenni cydio mewn cerbydau a ddefnyddir mewn cynlluniau trafnidiaeth cymunedol.\n\n","additional_details":"​Rwy'n fwy na pharod i dalu'r gost o osod y dolenni cydio - gyda'r amcangyfrif yn £200. Felly, rwy'n gwneud yr apêl hwn mewn ymdrech olaf i fy ngalluogi i ymweld â'r meddyg, sef fy prif angen, a chael rhywfaint o gyswllt cymdeithasol. Ar hyn o bryd, mae fy nghyswllt drwy'r rhyngrwyd ar gyfer siopa ac ati. Os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i dacsis masnachol gael dolenni cydio, yna dylai maen prawf tebyg fod yn gymwys i geir cymunedol.\n\n","state":"completed","signature_count":23,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-02-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-02-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-02-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-02-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-02-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-02-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":992,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/992.json"},"attributes":{"action":"Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd","background":"​Rydym ni, y rhai a lofnodwyd isod, yn galw ar breswylwyr Cymru sy’n berchen ar gŵn a chathod i gefnogi ein deiseb i Lywodraeth Cymru i gael gwared ar y gwaharddiad ar goleri electronig wedi’u cysylltu â ffensys ffin anweladwy/ffensys cudd fel y gallwn ddiogelu ein hanifeiliaid anwes rhag niwed naill ai o: a) Traffig Ffyrdd b) Crwydro i Berygl c) Achosi damweiniau a allai olygu y byddwn ni, perchenogion y cŵn a’r cathod, yn gyfreithiol atebol iddynt.\n\n \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":10,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-02-08T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-02-08T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-02-09T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-02-08T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-02-09T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-02-09T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":983,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/983.json"},"attributes":{"action":"Yr Ymgyrch Caplaniaeth Elusennol","background":"​Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i beidio â defnyddio cyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer gofal crefyddol, ac i weithio gydag arweinyddion crefydd gyfundrefnol i sefydlu ymddiriedolaeth elusennol i ariannu gofal crefyddol yn ysbytai Cymru.\n\n \n\n","additional_details":"​\n\nMae’r ymgyrch caplaniaeth elusennol yn cynnwys rhwydwaith anffurfiol o ddinasyddion sy’n pryderu y dylid defnyddio pob miliwn o bunnoedd o arian cyhoeddus a ddyrennir i’r GIG yng Nghymru i hyrwyddo iechyd cyhoeddus ac i drin y rheini sydd angen sylw meddygol.\n\n \n\nNid oes gan ein hymgyrch unrhyw arian ac nid oes angen unrhyw arian arnom.  Ni chaiff ei noddi gan unrhyw sefydliad arall yng Nghymru na’r tu allan i Gymru. Mae gwasanaethau modern sy’n seiliedig ar y rhyngrwydd yn caniatáu i ni gyfathrebu â’n gilydd ac â’n cynrychiolwyr sydd wedi’u hethol yn ddemocrataidd.\n\n \n\nMae ein cefnogwyr i gyd wedi gweld dwy ddogfen sydd wedi’u darparu i gefnogi’r ddeiseb hon ac maent yn cytuno â hwy, sef Principles, sy’n nodi ein hysgogiad, a Proposal sy’n nodi ein hachos gyda thystiolaeth ategol a dadl resymegol.\n\n \n\nRydym yn darparu trydedd dogfen sef Employment, sy’n rhoi tystiolaeth o’r ffordd y caiff yr arian sy’n cael ei dynnu o Gyllideb y GIG ar gyfer gwasanaethau caplaniaeth ysbytai ei wario ar hyn o bryd.\n\n \n\n \n\n","state":"completed","signature_count":1,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-02-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-02-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-02-08T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-02-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-02-08T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-02-08T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":869,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/869.json"},"attributes":{"action":"Talwch Gost y Dreth Ystafell Wely yng Nghymru","background":"Yn dilyn argymhelliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol ei hun, mae'r corff Caerdydd a De Cymru yn erbyn y Dreth Ystafell Wely, Shelter Cymru, Tenantiaid Cymru, TPAS a'r Eglwys yng Nghymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddyrannu'r arian angenrheidiol i dalu cost y dreth ystafell wely yng Nghymru fel sydd wedi'i gyflawni yn yr Alban.   \n  \nMae Caerdydd a De Cymru yn Erbyn y Dreth Ystafell Wely (C & SWABT) yn ymgyrch ar lawr gwlad a gaiff ei harwain gan denantiaid, sydd wedi ymrwymo i frwydro yn erbyn y 'dreth ystafell wely'.   \n  \nMae ein profiad yn dangos bod baich ariannol y dreth ystafell wely yn parhau i effeithio'n bennaf ar bobl sy'n glaf, yn anabl a'r bobl sy'n fwyaf bregus yn ariannol yn ein cymunedau. Ar hyn o bryd, mae oddeutu 33,000 o aelwydydd yn wynebu dewis amhosibl o ddod o hyd i arian ychwanegol nad oes ganddynt, neu symud i gartrefi llai nad ydynt yn bodoli.   \n  \nYn ystod 2013 a 2014, rhoddwyd 5136 o orchmynion meddiannu ataliedig i denantiaid cymdeithasol yng Nghymru. Gall toriadau dramatig mewn taliadau tai dewisol, ynghyd â'r pwysau yn sgîl rhagor o ddiwygio lles arwain at gynnydd pellach yn nifer y bobl sy'n wynebu dyledion a bygythiadau troi allan anorchfygol.   \n  \nRydym yn ymwybodol iawn o'r heriau cyllidebol a berir gan danariannu llywodraeth ganolog. Fodd bynnag, yn ein barn ni, cost peidio ag ymyrryd fydd troi miloedd o bobl o'u cartrefi a gwenwyno di-droi'n-ôl yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru.   \n  \nMae Llywodraeth Cymru yn gwario canran is o'i gwariant ar dai na'r Alban na Gogledd Iwerddon. Mae'n hanfodol bod y gyllideb tai yn cael ei chynyddu, fel nad yw tâl atodol y taliadau tai dewisol yn dod ar draul gwasanaethau tai hanfodol eraill. Yn yr Alban, nid oes yr un tenant yn talu'r Dreth Ystafell Wely. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos yr un arweinyddiaeth, i weithredu ar argymhelliad y Pwyllgor ac i ddileu tlodi a diflastod i ddegau o filoedd o denantiaid Cymru.\n\n","additional_details":"Ar 24 Gorffennaf, argymhellodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol ei hun y dylid cynnal dadansoddiad cost / budd lliniaru effaith lawn cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr drwy daliadau tai dewisol, fel y mae Llywodraeth yr Alban yn dewis ei wneud.\n\nAr ôl y cyhoeddiad hwn, galwodd clymblaid o asiantaethau yn y sector,  ac unigolion uchel eu proffil, gan gynnwys Archesgob Cymru a Tenant Participation ar Lywodraeth Cymru i ddod o hyd i'r arian i dynnu'r tâl hwn oddi ar denantiaid.\n\nMae Caerdydd a De Cymru yn Erbyn y Dreth Ystafell Wely eisoes wedi gweithio gyda'i bartneriaid, awdurdodau lleol yng Nghymru ac arweinwyr yn y sector i ymgorffori arfer gorau a thynnu'r dreth ystafell wely oddi ar gannoedd o bobl; naill ai drwy eithriadau yn y gyfraith neu drwy apeliadau tribiwnlys.\n\nMae'r ymgyrch hefyd wedi llwyddo i atal dros 30 achos o droi pobl allan o'u cartrefi.\n\nFodd bynnag, mewn oes o doriadau cynyddol o ran cyllid canolog a'u heffaith ar wasanaethau cefnogi, ein barn bendant ni yw nad yw'r cyfyngder presennol yn gynaliadwy.\n\nMae’r amcangyfrifon gorau’n awgrymu na fyddai cyfanswm y gost i Lywodraeth Cymru yn fwy na £17 miliwn.\n\nMae bellach yn amser i weithredu!\n\n","state":"completed","signature_count":193,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-04-30T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-04-30T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-02-08T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-04-30T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-02-08T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-02-08T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":905,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/905.json"},"attributes":{"action":"Mynediad Cyfartal i’r Iaith Gymraeg","background":"Dylai'r Gymraeg fod mor hygyrch â'r Saesneg. Yn anffodus, nid dyma'r sefyllfa. Rwyf yn siarad o brofiad. Rwyf wedi symud i Gymru, a hoffwn ddysgu o leiaf ychydig o Gymraeg. Mae dod o hyd i ddosbarth Saesneg sy'n rhad ac am ddim yn gymharol hawdd, ond mae'n amhosibl dod o hyd i ddosbarth Cymraeg sy'n rhad ac am ddim.\n\nMae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn datgan na ddylai unrhyw un gael ei drin yn llai ffafriol nag unrhyw un arall yn sgil ei genedligrwydd, tarddiad ethnig neu genedlaethol, crefydd, cred grefyddol neu athronyddol neu ddiffyg crefydd neu gred.\n\nDylai'r broses o ddysgu Cymraeg fod mor hygyrch â dysgu Saesneg i bawb, gan gynnwys mewnfudwyr cenhedlaeth gyntaf.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":45,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-07-14T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-07-14T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-02-05T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-07-14T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-02-05T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-02-05T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":891,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/891.json"},"attributes":{"action":"Dyfed, DIM DIOLCH","background":"Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gwbl barod i weld llywodraeth leol yng Nghymru'n cael ei diwygio ond yn gwrthod y cynnig i ail-greu awdurdod Dyfed a oedd yn hynod amhoblogaidd ac a ddiddymwyd ym 1996. Dylai Llywodraeth Cymru ddysgu gwersi'r gorffennol a pheidio â cheisio gorfodi ateb y mae pob un o'r tair Sir yr effeithir arnynt yn ei wrthod.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":879,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-05-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-05-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-02-05T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-05-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-02-05T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-02-05T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":980,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/980.json"},"attributes":{"action":"Rhyddhad Ardrethi Busnes i siopau elusen yng Nghymru","background":"​\n\nMae siopau elusen yn gwneud cyfraniad hollbwysig i godi arian ar gyfer ystod eang o achosion da yng Nghymru. Mae 100 y cant o’u helw yn mynd i elusen, gan godi dros £12 miliwn bob blwyddyn yng Nghymru.\n\n \n\nByddai cynlluniau i leihau cymorth cyfradd i siopau elusen yng Nghymru yn lleihau’r incwm hwn, a byddai’n achosi i siopau elusen i  gau, gan adael mwy o siopau gwag ar strydoedd mawr Cymru ac yn bygwth 700 o swyddi llawn amser a 9,000 o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n cael eu cynnig gan siopau elusen yng Nghymru. Byddai’n lleihau y gwasanaethau mae elusennau yn gallu eu darparu i gymunedau yng Nghymru yn arwyddocaol.\n\n \n\nRydym ni’n galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog  Llywodraeth Cymru i wrthod cynlluniau allai gyfyngu y cymorth cyfradd hanfodol i siopau elusen Cymru.\n\n \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":22600,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-01-31T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-01-31T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-02-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-01-31T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-02-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-02-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":898,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/898.json"},"attributes":{"action":"Creu Pencampwr yr Iaith Gymraeg mewn Cymunedau yng Nghymru","background":"Cyflwynaf y ddeiseb hon i chi fel pwynt cychwyn ar yr ymgyrch i greu Pencampwr yr Iaith Gymraeg drwy ein cymunedau yng Nghymru. Bydd y rôl hon yn un wirfoddol o fewn y gymuned, a bydd y pencampwr yn cael ei benodi i hyrwyddo defnydd o'r Iaith Gymraeg yng Nghymru, a chefnogi datblygiadau o fewn ei chymunedau.   \n  \nBydd y Pencampwr yn arwain materion gyda'r iaith, yn cynnwys rôl o fewn Ysgolion Cynradd ac Uwchradd, rôl o fewn Cynghorau Plwyf a Thref, a chyswllt agos gyda Chynghorwyr Sir a'r Cyngor Sir.   \n  \nBydd y Pencampwr yn cael cymorth gan Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg i weithredu'r rôl, ac i sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn cyd-fynd â pholisïau lleol a Chymru.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":10,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-06-16T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-06-16T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-01-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-06-16T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-01-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-01-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":796,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/796.json"},"attributes":{"action":"Galw ar bob Plaid Wleidyddol Gymreig i Gynnig Popeth yn Ddwyieithog","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu y dylai pob plaid wleidyddol a'u hymgeiswyr sy'n sefyll ar gyfer etholiad (cyffredinol/cenedlaethol/lleol) gynnig popeth yn ddwyieithog (Cymraeg/Saesneg). Mae hyn yn golygu taflenni, cylchlythyrau, gwefannau (ac ati) ymgeiswyr unigol, grwpiau'r blaid a'r brif blaid.  \n  \nMae rhai pleidiau gwleidyddol eisoes yn cynnig y gwasanaeth hwn. Mae rhai ymgeiswyr hefyd yn cynnig y gwasanaeth hwn, ond nid pawb.  \n  \nRydym yn galw ar bob plaid wleidyddol i sicrhau bod gan siaradwyr Cymraeg yr un hawliau i gael gwybodaeth â'r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":48,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-10-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-10-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-01-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-10-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-01-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-01-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":857,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/857.json"},"attributes":{"action":"Galwn am Ddeddfwriaeth Cynllunio Well a Mwy Effeithiol ar gyfer Tai Amlfeddiannaeth ac am Orchymyn Dosbarthiadau Defnydd Newydd","background":"Dylid cyflwyno gorchymyn dosbarthiadau defnydd newydd - Gorchymyn C5 - i gynnwys HMOs - tai amlfeddiannaeth yng Nghymru – sy'n dod o dan y diffiniad o HMO yn Rhan 7 o'r Ddeddf Tai 2004 ar y cyd ag Atodlen 14 i Ddeddf Tai 2004.\n\nGalwn hefyd am i drothwy dwysedd gael ei gyflwyno trwy ganiatáu i awdurdodau cynllunio ddileu hawliau datblygu a ganiateir yn y rhannau o Gymru sy'n gweithredu cynllun trwyddedu ychwanegol - neu ar sail dinas gyfan, pa un bynnag sydd fwyaf priodol, fel y byddai \"newid defnydd sylweddol\" rhwng dosbarthiadau defnydd yng Nghymru yn gofyn caniatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd.   \nCredwn y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i gymell landlordiaid HMO sy'n ystyried \"fflipio\" eu heiddo o dan y darpariaethau ar gyfer HMOs yn y Ddeddf Tai a'r Ddeddf Cynllunio, yn debyg i gynllun Troi Tai'n Gartrefi Cymru, fel bod landlordiaid HMOs yn cael gwneud cais am gymorth grant busnesau bach a chanolig i ddychwelyd eiddo HMO at ddefnydd domestig yn unig.\n\n","additional_details":"​Bydd yr ymgyrch hon yn rhedeg hyd at etholiad y Cynulliad yn 2016 ac mae'n gofyn bod Lywodraeth Cymru yn defnyddio ei phwerau deddfu helaethach i gysoni'r diffiniadau cyfreithiol o dan ddeddfwriaeth tai a deddfwriaeth cynllunio, gan hefyd alluogi i awdurdodau cynllunio lleol ddefnyddio meini prawf DWYSEDD HMO penodol sy'n berthnasol i gymuned neu dinas-ranbarth er mwyn cyfyngu ar nifer yr HMOs lle y nodir neu y rhagwelir effeithiau a chanlyniadau andwyol.   \nMae'r ddeiseb yn gofyn am gymhelliant yng Nghymru a fyddai'n annog landlordiaid HMOs i ddychwelyd eiddo at ddefnydd domestig yn unig gan felly wella'r stoc tai fforddiadwy a fyddai ar gael.\n\n","state":"completed","signature_count":11,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-03-25T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-03-25T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-01-18T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-03-25T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-01-18T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-01-18T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":854,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/854.json"},"attributes":{"action":"Dod â Defnydd o’r Gymraeg i Ben.","background":"​Dod â'r ddarpariaeth orfodol ddrud gan y sector cyhoeddus o ran y Gymraeg i ben a gwario'r miliynau a wastraffwyd ar wasanaethau'r rheng flaen.   \n  \nFel y gwyddom, Cymru yw'r wlad dlotaf yng ngorllewin Ewrop, mae datganoli wedi bod yn drychineb i unrhyw un y tu allan i Gaerdydd, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn draed moch ac nid yw Cymru'n gallu fforddio talu am yr iaith wirion hon.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":12,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-03-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-03-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-01-15T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-03-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-01-15T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-01-15T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":846,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/846.json"},"attributes":{"action":"Cyfreithloni Cymorth i Farw","background":"​Yn dilyn y bleidlais ddiweddar yn Senedd y DU, rwyf wedi ymchwilio rhywfaint i'r pwnc. Yn ôl fy ngwaith ymchwil, mae 82 y cant o'r cyhoedd o'r farn y dylai meddyg, yn ôl pob tebyg neu yn sicr, gael cynorthwyo claf i farw ar gais y claf os oes ganddo glefyd poenus na ellir ei wella. Ni all pobl sydd â salwch angheuol farw ag urddas yn y DU, ac ar hyn o bryd, mae'n rhaid iddynt fynd i Dignitas yn y Swistir neu dreulio ddiwedd eu hoes mewn poen, ac yn fy marn i nid yw hynny'n deg. Rwyf yn galw am gyfreithloni cymorth i farw yn achos y rhai sydd â salwch angheuol. Hyd yn oed os oes gan unigolyn dri mis i fyw, mae hynny'n dri mis yn llai o boen a dioddefaint. I gloi, hoffwn ddyfynnu Brittany Lauren Maynard, a ddarganfu fod ganddi diwmor ar yr ymennydd nad oedd modd ei drin ac a ddewisodd ddod â'i bywyd i ben ag urddas yng nghlinig Dignitas yn y Swistir. Gofynnaf i chi helpu i wireddu breuddwyd Brittany, fel na fydd angen i bobl eraill ddioddef y fath boen. \"I want to see a world where everyone has access to death with dignity\".\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":154,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-02-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-02-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-01-11T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-02-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-01-11T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-01-11T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":978,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/978.json"},"attributes":{"action":"Cefnogi'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru)","background":"​\n\nRydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r Bil Rheoli Cŵn Cymru.\n\n \n\nRydym ni, sydd wedi llofnodi isod, ac sy’n byw yng Nghymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r Bil Rheoli Cŵn (Cymru) i fynd i’r afael â phroblemau’n ymwneud â chŵn peryglus a bygythiol, ac i beidio â dibynnu ar gynigion tameidiog Llywodraeth y DU sydd wedi'u gosod allan yn ei Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol drafft. Cafwyd esboniad cychwynnol o'r Bil hwn yn y Papur Gwyn  “Putting Victims First, More Effective Responses to Anti-social Behaviour”.\n\n \n\nCytunwn â Llywodraeth Cymru sy’n dweud yn ei datganiad fod Hysbysiad Rheoli Cŵn yn amlwg yn well na’r holl ddeddfwriaeth bresennol gan nad oes angen mynd ag achosion gerbron y llys ac, felly, mae llai o bwysau ar y pwrs cyhoeddus. Credwn hefyd fod cynigion Llywodraeth y DU, sy'n cynnwys pedwar dull gorfodi gwahanol, sef-\n\n \n\n- gwaharddebau i atal niwsans annoyance;;\n- gorchmynion ymddygiad troseddol;\n- pwerau gwasgaru;\n- hysbysiadau amddiffyn cymunedol;\n\n \n\nyn llawer rhy gymhleth, trwsgl a biwrocrataidd ac y byddant yn arwain at oedi. Rhaid gwneud cais i’r llys cyn rhoi dau ohonynt ar waith - gwaharddebau a gorchmynion ymddygiad troseddol.\n\n \n\nCredwn fod yr un Hysbysiad Rheoli Cŵn cynhwysfawr a gynigir i Gymru yn ddull llawer iawn gwell ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i lunio deddf sy’n seiliedig ar y cysyniad hwn yn unol â’r bwriad gwreiddiol.  Rydym yn tynnu sylw Llywodraeth Cymru at y canlynol: (i) casgliadau hynod feirniadol Pwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ynghylch adroddiad Pwyllgor yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, sef 'Rheoli Cŵn a Lles' sy'n dweud bod cynigion Llywodraeth y DU yn 'rhy syml' ac yn 'resynus o annigonol'. Mae'r Pwyllgor hefyd yn argymell bod DEFRA a'r Swyddfa Gartref yn cyflwyno Hysbysiadau Rheoli Cŵn a (ii) y ffaith bod y cyrff sydd wedi uno yn yr ymgyrch, sef undebau, elusennau anifeiliaid, yr heddlu a milfeddygon hefyd  yn anfodlon ar y cynigion. \n\n \n\n \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1119,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2016-01-04T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2016-01-04T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-01-05T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-02-25T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2016-01-04T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-01-05T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-01-05T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":819,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/819.json"},"attributes":{"action":"Ffilm am Owain Glyndwr","background":"​Hoffwn ddeisebu Llywodraeth Cynulliad Cymru i ariannu ffilm am fywyd Owain Glyndwr.\n\nFy marn i yw y byddai o ddiddordeb cyhoeddus gan y byddai ffilm o'r fath yn codi proffil Cymru ar raddfa fyd-eang, fel y gwnaeth Braveheart i'r Alban.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":94,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-12-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-12-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-01-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-12-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-01-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-01-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":947,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/947.json"},"attributes":{"action":"Cefnogi Sgrinio Blynyddol ar gyfer Canser yr Ofari (CA125)","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi sgrinio blynyddol ar gyfer canser yr ofari (Prawf Gwaed CA124\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":104,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-11-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T11:09:44.022Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-11-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2016-01-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-01-17T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-11-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2016-01-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2016-01-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2017-03-29T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T11:09:44.021Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2017-03-29","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/4259#A543","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/4259?startPos=12760&l=cy","debate_pack_url":"","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 29 Mawrth 2017."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":856,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/856.json"},"attributes":{"action":"Cylchfan ar gyfer Cyffordd yr A477/A4075","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar Gyffordd Mynegbost yr A477/A4075 a rhoi cylchffordd yn ei lle – nid yw'r trefniadau presennol wedi datrys y problemau ar y rhan beryglus hon o'r ffordd.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":115,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-03-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-03-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2020-03-10T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-03-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":895,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/895.json"},"attributes":{"action":"Diddymwch Ddeddfwriaeth Rhentu Doeth Cymru","background":"Mae'r ddeddfwriaeth yn cynnig bod pob landlord ac asiant sy'n gosod tai wedi'i drwyddedu i allu gosod eiddo yng Nghymru. Mae gwerth i hyn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae'r cynllun a gyflwynwyd yn or-gymhleth ac yn hynod gostus. Byddai ei gwneud yn anghyfreithlon i unigolion neu asiantaethau osod eiddo, a hwythau heb fod yn aelodau o sefydliad cydnabyddedig h.y. ARLA, NAEA, RICS neu â chysylltiadau â landlordiaid preifat, yn sicrhau bod y tenant yn cael ei ddiogelu gan fod yr uchod oll â safonau a meini prawf y mae'n rhaid i aelodau gadw atynt. Cefnogir hyn hefyd gan yr angen i gael yswiriant diogelu arian cleientiaid a bod yn aelod o gynllun unioni annibynnol fel Yr Ombwdsmon Eiddo, dyweder. Wedyn, ni fyddai angen unrhyw ymglymiad costus pellach gan Lywodraeth Cymru.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":29,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-06-03T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-06-03T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-06-03T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":870,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/870.json"},"attributes":{"action":"Democratiaeth mewn Llywodraeth Leol","background":"​Yn y blynyddoedd diwethaf, cafwyd tuedd ar lefel llywodraeth leol yng Nghymru lle gwelwyd swyddogion anetholedig yn cymryd rheolaeth o awdurdodau lleol i bob pwrpas.   \n  \nYn ddieithriad, mae hyn yn digwydd pan fo grŵp bach o gynghorwyr yn cytuno i ddangos teyrngarwch i uwch swyddogion yn hytrach nag i'r cyngor y cawsant eu hethol iddo a'r bobl sy'n byw yn yr ardal leol.   \n  \nMae'n ddigwyddiad sy'n arwain at nifer o bryderon.   \n  \n1. Pan fydd uwch swyddogion yn arfer pŵer a chynrychiolwyr etholedig yn cael eu hallgáu, i bob pwrpas, o'r broses gwneud penderfyniadau yna, yn amlwg, mae'r broses ddemocrataidd yn cael ei thanseilio ac nid oes atebolrwydd am yr hyn a wneir.   \n  \n2. Os yw'r rhan fwyaf o gynrychiolwyr etholedig yn cael eu hallgáu o unrhyw rôl heb law am rai arwynebol, mae'n codi'r cwestiwn pam mae angen i gynghorau, sy'n brin o arian, dalu cymaint, mewn ffyrdd amrywiol, i eunuchiaid gwleidyddol.   \n  \nFelly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn ymwybodol o'r bygythiad hwn i ddemocratiaeth leol, ac os daw'n amlwg bod uwch swyddogion yn dylanwadu mewn ffordd amhriodol ac annemocrataidd ar drefniadau rheoli unrhyw awdurdod lleol, i rybuddio'r awdurdod hwnnw'n gyhoeddus mai'r cynrychiolwyr etholedig yn unig sydd â'r pŵer i wneud penderfyniadau, ac os caiff y fath rybudd ei anwybyddu, i wneud yr awdurdod hwnnw'n destun mesurau arbennig.\n\n","additional_details":"Ni waeth beth yw maint eu cyflogau gormodol na pha gymwysterau sydd ganddynt, cyflogeion y cyngor a gweision yr etholwyr a'r boblogaeth ehangach yw uwch swyddogion llywodraeth leol o hyd.  Pan fyddant yn tanseilio democratiaeth drwy gymryd rheolaeth dros yr awdurdodau lleol sy'n eu cyflogi, mae hynny'n annerbyniol ac yn beryglus.\n\nAc eto, dyma'r union sefyllfa a welir mewn nifer o'n hawdurdodau lleol, ond, am resymau y gŵyr hi orau beth ydynt, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu'r sefyllfa, er bod y broblem o ran uchafiaeth swyddogion wedi bod yn amlwg ers sawl blwyddyn.\n\n","state":"completed","signature_count":144,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-05-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-05-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-05-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":976,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/976.json"},"attributes":{"action":"Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru","background":"​\n\nRydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth genedlaethol ar gyfer Cau'r Bwlch o ran cyrhaeddiad addysgol rhwng disgyblion byddar a'u cyfoedion.\n\nMae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yng Nghymru yn cyflwyno'r ddeiseb hon heddiw oherwydd ei bod yn Wythnos Ymwybyddiaeth o fod yn Fyddar, ac mae dwy flynedd wedi mynd heibio ers i 55 Aelod Cynulliad roi adduned y byddent yn cymryd camau i Gau'r Bwlch ar gyfer plant byddar.\n\nEr hynny, mae ystadegau Llywodraeth Cymru yn dangos bod bylchau sylweddol o ran cyrhaeddiad rhwng disgyblion byddar a'u cyfoedion. Yn 2012, roedd disgyblion byddar 26 y cant yn llai tebygol o lwyddo i basio 5 TGAU ar radd A\\*-C, a 41 y cant yn llai tebygol o lwyddo i basio ar raddau A\\*-C yn y pynciau craidd Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.\n\nMae ein [deiseb fideo [Opens in a new browser window]](http://www.ndcs.org.uk/closethegap) yn gofyn i'r arbenigwyr (plant byddar eu hunain) beth sydd bwysicaf yn eu barn hwy. Dywedasant wrthym:\n\n- Mae angen cefnogaeth briodol arnom yn yr ysgol a'r coleg\n- Mae angen acwsteg dda ym mhob ystafell ddosbarth arnom\n- Bydd rhai ohonom yn defnyddio iaith arwyddion. Helpwch ni i annog ein cyfoedion sy'n clywed a'n hathrawon i ddysgu iaith arwyddion.\n- Mae arnom angen i fwy o athrawon a disgyblion fod ag ymwybyddiaeth o fod yn fyddar.\n\nMae gormod o ddisgyblion byddar yn wynebu rhwystrau yn hyn o beth. Mae angen strategaeth genedlaethol er mwyn goresgyn y rhwystrau a Chau'r Bwlch!\n\n \n\n","additional_details":"​\n\nMae modd llwytho ein deiseb fideo a'r adroddiad sy'n cyd-fynd â hi oddi ar y wefan: www.ndcs.org.uk/ClosetheGapWales\n\n \n\nCynhyrchwyd y ddeiseb fideo gyda chymorth wyth o bobl ifanc byddar, ac mae'n disgrifio'r pedwar ffactor pwysicaf i ddisgyblion byddar mewn ysgolion a cholegau, yn eu barn hwy.\n\n \n\nMae'r adroddiad sy'n cyd-fynd â'r fideo yn nodi'r rhwystrau y bydd llawer o ddisgyblion byddar yng Nghymru yn eu hwynebu yn y meysydd hyn. Mae hefyd yn cynnig awgrymiadau ynghylch sut y gallai strategaeth helpu i oresgyn y rhwystrau hyn.\n\n \n\n","state":"completed","signature_count":0,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-12-16T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T11:10:35.404Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-12-16T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-12-17T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-05-21T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-12-16T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-12-17T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-12-17T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-06T11:10:35.403Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":888,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/888.json"},"attributes":{"action":"Datblygwch Fferm Tynton yn Ganolfan Ymwelwyr a Gwybodaeth","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod cyfraniad pwysig Dr Richard Price nid yn unig i'r Oes Oleuedig yn y ddeunawfed ganrif, ond hefyd i'r broses o greu'r byd modern yr ydym yn byw ynddo heddiw, a datblygu ei fan geni a chartref ei blentyndod yn ganolfan wybodaeth i ymwelwyr lle gall pobl o bob cenedl ac oed ddarganfod sut mae ei gyfraniadau sylweddol i ddiwinyddiaeth, mathemateg ac athroniaeth wedi dylanwadu ar y byd modern.  \n\n","additional_details":"​Mae Fferm Tynton yn Llangeinwyr, man geni Dr Richard Price a chartref ei blentyndod, ar werth. Wedi mynd â'i ben iddo, mae'r fferm bellach wedi cael ei hadfer mewn modd sensitif ac mae bron pob un o'r nodweddion gwreiddiol wedi cael eu cadw. Mae Cymdeithas Richard Price yn ymwybodol bod y tŷ yn denu ymwelwyr o bob cwr o'r byd a chaiff hyn ei gadarnhau gan Lyfr Ymwelwyr y perchennog blaenorol a lofnodwyd gan ymwelwyr â'r fferm. Byddai lleoliad a tharddiad y fferm yn ei gwneud yn ganolfan ddysgu ddelfrydol lle gall pobl ddarganfod sut berson pwysig ydoedd ac y mae'n parhau i fod.  Mae hwn yn gyfle i brynu'r eiddo am bris y farchnad a helpu i ddathlu llwyddiannau cawr deallusol ac apostol rhyddid Cymru.\n\n \n\n","state":"completed","signature_count":112,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-05-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-05-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-12-13T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-05-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-12-13T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-12-13T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":974,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/974.json"},"attributes":{"action":"Plannu Coed i Leihau Llifogydd","background":"​\n\nRydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i leihau'r risg o lifogydd i filoedd o gartrefi drwy'r wlad drwy gefnogi plannu o leiaf 10 miliwn coeden dros y pum mlynedd nesaf, gan greu perthi, lleiniau coed a mannau coediog wedi'u targedu yn y mannau gorau ar gyfer amsugno'r dŵr ac arafu dŵr ffo.   Byddai plannu'r coed hyn yn cyfrif tuag at nod bresennol Llywodraeth Cymru i blannu 100,000 hectar o goed i amsugno carbon deuocsid o'r awyrgylch. \n\n                       \n\n \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":2708,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-12-11T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-12-11T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-12-12T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-12-11T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-12-12T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-12-12T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":887,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/887.json"},"attributes":{"action":"Bwyd yn Ysbytai Cymru","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio safonau bwyd yn ysbytai Cymru. Rhaid archwilio darpariaeth pob bwrdd iechyd i sicrhau ei fod yn ateb gofynion cleifion a'r rhai sydd ag anghenion dietegol a chyflyrau meddygol, a rhaid gorfodi safonau ym mhob rhan o GIG Cymru. Dylid darparu bwyd maethlon a ffres mewn ysbytai fel rhan bwysig o becyn gofal y claf ac i helpu i adfer iechyd yn hytrach na gwneud pethau'n waeth. Rhaid darparu ar gyfer anghenion dietegol – a gofalu bod bwyd heb glwten neu lactos ar gael, ynghyd â bwyd i'r rhai sy'n dioddef o glefyd seliag, llysieuwyr a feganiaid - ond mae profiad yn dangos nad yw hyn yn digwydd ar hyn o bryd a bod cleifion yn aml yn teimlo'u bod yn creu trafferth os ydynt yn gofyn am fwyd gwahanol. Rhaid safoni bwyd i gleifion sy'n dioddef o gyflyrau meddygol – gan gynnwys y rhai sy'n dioddef o gyflyrau'r coluddyn neu sydd wedi cael llawdriniaeth, i sicrhau eu bod yn cael y maeth priodol bob amser.  Ar hyn o bryd, mae cleifion ar rai wardiau'n cael yr un bwyd waeth beth yw eu cyflwr, eu pwysau na'u hanghenion dietegol. Nid yw hyn yn dderbyniol - gall beri gofid i gleifion a gall fod yn niweidiol iddynt. Ni ddylai ysbytai ddibynnu ar berthnasau i ddod â bwyd i'r cleifion, ni ddylent ddisgwyl i'r cleifion fwyta'r un pryd diflas bob dydd, na chaniatáu iddynt ddihoeni os na allant fwyta'r bwyd sydd ar gael. Rhaid i faeth fod yn rhan allweddol o becyn gofal pob claf. Nid ydym yn gofyn i ysbytai gynnig bwyd sy'n haeddu seren Michelin, dim ond prydau bwyd sy'n gwneud lles, yn hytrach na niwed, i gleifion.   \n\n","additional_details":"​Mae fy mhrofiad i o'r bwyd y mae'r GIG yn ei ddarparu'n dangos bod y safonau'n amrywio'n ôl ward, ysbyty ac adran ac mae gwahaniaeth hefyd rhwng safonau yng Nghymru a Lloegr. Nid yng Nghymru yn unig y mae'r broblem– mae'r GIG yn gyffredinol yn cael trafferth darparu prydau bwyd i'r rhai sydd ag ymwrthedd isel neu sydd â chyflyrau dietegol. Ond mae fy mhrofiad o fwyd ysbytai Cymru yn ddiweddar yn dangos nad yw'r safon yn ddigon da. Nid oedd bwydlenni i'w cael (yn wahanol i ysbyty Caer ac ysbytai eraill Lloegr) ac roedd y cleifion i gyd yn cael yr un pryd bwyd waeth beth oedd eu cyflwr, eu pwysau neu eu hanghenion dietegol. Ar un ward, cynigiwyd cyri, cawl ffacbys a brechdanau tiwna a chorn melys i gleifion a oedd newydd gael llawdriniaeth ar y coluddyn. Roedd y bwydydd hyn yn gwbl amhriodol - ac o bosibl yn niweidiol. Ar adegau, os nad oeddech yn gallu bwyta dim a oedd ar y troli neu os nad oeddech wrth ymyl eich gwely, nid oeddech yn bwyta, oni bai bod nyrs yn fodlon gwneud tost i chi. Rhaid i hyn newid; heb y maeth priodol, rwy'n credu bod pobl yn gorfod aros yn hirach yn yr ysbyty.\n\n \n\n","state":"completed","signature_count":40,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-05-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-05-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-12-04T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-05-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-12-04T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-12-04T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":973,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/973.json"},"attributes":{"action":"Mynediad at Iaith Arwyddion Prydain i bawb","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i wella mynediad at addysg a gwasanaethau o ran Iaith Arwyddion Prydain er mwyn gwella ansawdd bywyd pobl fyddar o bob oedran.\r\n\r\nGwella mynediad fel y gall teuluoedd ddysgu Iaith Arwyddion Prydain:  Pan fo plentyn yn cael diagnosis ei fod yn fyddar / yn drwm ei glyw, dylid cynnig gwersi am ddim / gwersi â chymhorthdal i'w rieni, fel y gallant ddysgu Iaith Arwyddion Prydain (mae cwrs Iaith Arwyddion Prydain lefel un yn costio tua £300 y pen).  Drwy ddefnyddio lleferydd yn unig, mae plant byddar yn ei chael yn anodd datblygu sgiliau cyfathrebu, neu'n methu â gwneud hynny, gan fethu â chyrraedd cerrig milltir pwysig. Bydd dysgu ieithoedd eraill drwy Iaith Arwyddion Prydain (Saesneg / Cymraeg) yn gwella dealltwriaeth y plentyn.\r\n\r\nCyflwyno Iaith Arwyddion Prydain ar y Cwricwlwm Cenedlaethol: Bydd plant a phobl ifanc byddar sy'n dysgu Iaith Arwyddion Prydain pan fyddant yn ifanc yn cael gwell mynediad at addysg a bydd yn fuddiol i'w lles.  Dylai Iaith Arwyddion Prydain gael ei haddysgu i bawb gan athrawon byddar cymwys mewn ysgolion, a byddai hynny'n sicrhau gwell mynediad i bawb yn y gymdeithas.  Credwn y dylai Iaith Arwyddion Prydain gael ei chynnig fel cymhwyster iaith i bob dysgwr. Nid yw TGAU Cymraeg (ac ieithoedd modern eraill) yn cael eu cynnig bob amser i ddisgyblion byddar; mae angen gwella'r sefyllfa hon hefyd.\r\n\r\nGwella mynediad at addysg mewn Iaith Arwyddion Prydain i blant a phobl ifanc byddar: mae eu mynediad at addysg mewn Iaith Arwyddion Prydain yn gyfyngedig ar hyn o bryd, ac yn aml, mae cymwysterau'r cynorthwywyr sydd ar gael yn annigonol. Mae bwlch enfawr o ran addysg plant byddar, ac mae llawer yn cael eu trin, ar gam, fel pe tai ganddynt anabledd dysgu. Mae hynny'n effeithio'n negyddol ar eu datblygiad, gan olygu eu bod nhw'n llai annibynnol oherwydd addysg wael, gan arwain at ddiffyg cyflogaeth. Mae angen sicrhau bod gweithwyr cymorth cyfathrebu sydd â chymwysterau digonol ar gael mewn ysgolion.\r\n\r\nSicrhau bod gwasanaethau ac adnoddau ym maes Iaith Arwyddion Prydain ar gael i bobl ifanc fyddar: galluogi defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain i gael gafael ar wybodaeth yn eu dewis iaith drwy adnoddau digidol ar gyfer gwasanaethau fel addysg, gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a thrafnidiaeth gyhoeddus, gan sicrhau bod gwasanaethau ar gael iddynt yn ddiwahân, yn yr un modd â mynediad yn achos yr iaith Gymraeg.","additional_details":"","state":"completed","signature_count":1162,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-12-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2021-05-06T11:10:20.387Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-12-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-12-02T00:00:00.000Z","completed_at":"2019-02-06T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-12-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-12-02T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-12-02T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":"2019-02-06T00:00:00.000Z","archived_at":"2021-05-06T11:10:15.425Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":{"debated_on":"2019-02-06","transcript_url":"https://cofnod.cynulliad.cymru/Plenary/5424#A48514","video_url":"http://www.senedd.tv/cy/5424?startPos=6140&l=cy","debate_pack_url":"http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12394","overview":"Trafodwyd y ddeiseb yn y Cyfarfod Llawn ar 6 Chwefror 2019."},"topics":[]}},{"type":"petition","id":972,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/972.json"},"attributes":{"action":"Sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol yng Nghymru","background":"​Yr ydym ni, sydd wedi llofnodi’r ddeiseb hon, yn annog Cynulliad Cenedlaethol Cymru i sefydlu Diwrnod Gwrthwynebwyr Cydwybodol swyddogol yng Nghymru. Byddai hyn yn goffâd priodol i bawb a ddioddefodd yn ystod y rhyfel ac yn enwedig i’r rhai a safodd yn nhraddodiad Cymreig heddychiaeth er gwaethaf y cost personol.   Cymru fyddai’r wlad gyntaf i wneud hyn – gweithred a all ysbrydoli eraill i weithredu yn yr un modd.\n\n \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":400,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-12-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-12-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-12-02T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-12-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-12-02T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-12-02T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":879,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/879.json"},"attributes":{"action":"Y Pwysau Ychwanegol sy’n Wynebu Ardaloedd Gwledig Prin eu Poblogaeth","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod yr heriau ariannol o ddarparu lefel briodol o ddarpariaeth addysgol mewn ardaloedd gwledig prin eu poblogaeth. Mae toriadau mewn gwariant yn cael effaith niweidiol ar gymunedau ysgolion, i'r graddau bod plant yn gadael eu sir breswyl (ac yn gynyddol, yn siroedd y gororau fel Powys, yn gadael Cymru) er mwyn parhau â'u haddysg. Mae ysgolion a'r chweched dosbarth ar fin cyrraedd pen eu tennyn, wedi'u llethu gan y bygythiad parhaus i gau. Mae ein plant yn cael eu gorfodi i deithio pellteroedd anghynaladwy ar is-ffyrdd, gan chwalu grwpiau o ffrindiau ac ychwanegu hyd at ddwy awr at y diwrnod ysgol. Mae addysg feithrin bellach dan fygythiad hefyd. Gyda thoriadau parhaus i gyllidebau ysgolion, sy'n achosi diswyddiadau dro ar ôl tro, mae'n amhosibl darparu addysg o'r ansawdd y mae athrawon wedi'u hyfforddi i'w\n\ndarparu, ac y mae ein pobl ifanc yn ei haeddu. Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ymchwilio ar unwaith i'r heriau ychwanegol i addysg mewn ardaloedd gwledig prin eu poblogaeth, ac i gynyddu'r cyllid i ardaloedd fel Powys yn unol â hynny. Mae colli ein hysgolion yn datgan marwolaeth ein cymunedau a'n heconomïau lleol. Os yw Cymru ddatganoledig am ffynnu, mae angen i'n Llywodraeth arwain y trafodaethau ar ariannu yn San Steffan. Mae angen i chi fod ar ein hochr ni!\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1049,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-05-15T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-05-15T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-11-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-05-15T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-11-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-11-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":865,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/865.json"},"attributes":{"action":"Mae’n anodd amgyffred sut y byddai bywyd wedi bod heb fy Ngweithiwr Cymorth","background":"​Ar ôl dwy flynedd o gymorth caled, heriol ac eto, a roddodd foddhad, gan fy ngweithiwr cymorth, rwyf heddiw'n astudio yn y Brifysgol ac yn byw bywyd sy'n llawn cariad, gobaith, hapusrwydd a chwerthin. Rwy'n ceisio rhoi fy hun mewn sefyllfa lle gallaf roi bywyd da i fy nheulu.  Fy ngweithiwr cymorth yw fy nghadarnhad dyddiol i 'Fyw fy Mreuddwydion' o hyd.\n\nNoddir y swydd gan y Rhaglen Cefnogi Pobl.  Heb y rhaglen, ni fyddwn i a fy nheulu wedi cael y cymorth hwnnw a newidiodd ac a achubodd ein bywydau.\n\nHoffwn i Gymru gyfan wybod beth mae arian Cefnogi Pobl yn ei wneud. Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i'w gefnogi ac ymrwymo i'w ddiogelu yn y dyfodol, fel y bydd miloedd o bobl yng Nghymru yn cael yr un math o gymorth i arbed eu bywydau ag y cefais i.\n\nRwy'n ddiolchgar o'r Rhaglen Cefnogi Pobl. Bu o gymorth i arbed fy mywyd i. Os ydych am sicrhau y bydd yr un cymorth ar gael i eraill bob amser, llofnodwch fy neiseb.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":664,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-04-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-04-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-11-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2017-02-14T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-04-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-11-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-11-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":863,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/863.json"},"attributes":{"action":"Derwen Brimmon","background":"​Derwen Brimmon, Fferm Brimmon Isaf, Y Drenewydd, Powys.   \n  \nRydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gadw at argymhellion adroddiad a gomisiynodd gan yr arbenigwr coedyddiaeth a benodwyd fel rhan o'r asesiad amgylcheddol ar gyfer ffordd osgoi yr A483 y mae gwir angen amdani yn Y Drenewydd.   \n  \nByddai hyn yn arwain at gadw un o 'Henebion Naturiol' mwyaf arwyddocaol Sir Drefaldwyn, tra'n hwyluso adfywiad economaidd y dref sirol. Mae pobl o Sir Drefaldwyn, ar draws Cymru ac yn wir y byd ehangach yn ymwybodol bod cynaliadwyedd bob amser wedi bod yn 'brif egwyddor drefniadol' Llywodraeth Cymru ers creu'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1999.   \n  \nBydd diogelu Derwen Brimmon, fel rhan o Ffordd Osgoi hanesyddol yr A483 yn Y Drenewydd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i warchod ein genedigaeth-fraint er Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":4730,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-04-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-04-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-11-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-04-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-11-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-11-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":872,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/872.json"},"attributes":{"action":"Talwch Gostau Teithio Llawn Myfyrwyr Nyrsio","background":"​Yn 2014, newidiodd Llywodraeth Cymru ei pholisi ar deithio i leoliadau gwaith, sef yr elfen mewn gwaith o gwrs nyrsio. Cyn y newid hwn, roedd myfyrwyr yn cael eu talu am eu treuliau teithio o'u cartref i'w gweithle. Bellach, telir myfyrwyr am gost teithio o'u cartref, neu'r brifysgol y maent yn astudio ynddi. Yna defnyddir y pellter lleiaf i gyfrifo'r taliad y maent yn ei gael.  \n  \nMae myfyrwyr nyrsio heb ddibynyddion yng Nghymru yn derbyn bwrsari o oddeutu £100 i £500 y mis. Ar ei orau, dyw'r ffigur uwch, o'i wasgaru ar draws eu horiau gwaith, yn ddim gwell nag isafswm cyflog. Ar leoliadau gwaith, mae disgwyl i fyfyrwyr nyrsio fabwysiadu nifer gynyddol o gyfrifoldebau nyrs. Maent yn darparu gofal – yn ymolchi, gwisgo a bwydo cleifion; yn siarad â chleifion a'u teuluoedd; ac yn gweithio gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i wella llesiant cleifion. Hefyd, mae gofyn iddynt ddangos eu bod yn dysgu o'r lleoliadau gwaith hyn, ac yn mireinio'u sgiliau wrth ofalu am gleifion.  \n  \nMae torri'r lwfansau teithio ar gyfer y lleoliadau gwaith hyn yn gyfystyr â thorri'r cyfanswm a dderbynnir am fod yn fyfyriwr nyrsio. Mae'r newid hwn yn achosi nifer o effeithiau andwyol.  \n  \nMae hyn yn rhoi cymhelliant i brifysgolion gynnig lleoliadau mor agos â phosibl i'r campws i fyfyrwyr - gan gyfyngu ar brofiad clinigol myfyrwyr nyrsio cyn iddynt gymhwyso.  \nMae'n gwneud nyrsio'n llai deniadol i bobl o gymunedau gwledig neu anghysbell.  \nMae'n ffafrio nyrsys sy'n byw'n agosach at eu prifysgol, a gallai fod yn rhwystr i'r rheini sy'n methu symud oherwydd ymrwymiadau i blant ac eraill.  \nMae'n gwneud nyrsio'n llai deniadol i bobl mewn gwaith amser llawn, neu o gefndiroedd difreintiedig.  \n  \nRydym yn credu y dylid talu costau teithio myfyrwyr nyrsio lle bynnag y maent yn byw, i'r lleoedd y maent yn gweithio ynddynt. Rydym yn credu bod y newid hwn yn ei gwneud yn llai tebygol y bydd pobl yn dewis gyrfa mewn nyrsio, ac yn credu y bydd yn cyfyngu ar y profiadau y byddant yn eu cael cyn cymhwyso. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthdroi'r newid hwn, er budd myfyrwyr nyrsio a'u cleifion.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":102,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-05-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-05-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-11-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-05-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-11-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-11-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":832,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/832.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd Defnydd Ar-lein a Phleidleisio Electronig gan Aelodau Cynulliad yn Siambr y Senedd","background":"​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Aelodau'r Cynulliad yn cael eu gwahardd rhag defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod sesiynau yn y Senedd, ac i sicrhau bod pleidleisio yn y Senedd yn cael ei wneud drwy ddangos dwylo, ar lafar neu ddefnyddio papur pleidleisio.\n\n","additional_details":"Mae yna ofid y gall defnyddio'r rhyngrwyd yn ystod trafodaethau yn y Senedd effeithio'n negyddol ar uniondeb trafodaethau gwleidyddol a deddfwriaeth yng Nghymru. Dylai Aelodau'r Cynulliad ganolbwyntio'n llawn ar sesiynau trafod. Os nad yw Aelodau'r Cynulliad yn talu sylw i drafodaethau yn y Senedd, sut y gallwn ddibynnu arnynt i ystyried diddordebau'r bobl y maent yn eu cynrychioli?\n\nDylid hefyd bleidleisio drwy ddangos dwylo, ar lafar neu ddefnyddio papur pleidleisio neu gofrestriad er mwyn sicrhau tryloywder llawn. Mae technoleg a'r rhyngrwyd yn gymorth mawr ar gyfer gwaith gweinyddu ac ymchwil ond ni ddylid dibynnu arnynt, na chaniatáu iddynt ddylanwadu ar y broses ddemocrataidd a thrafodaeth wleidyddol iach a chadarn yn gyffredinol.\n\nO gymharu, mae Aelodau Cynulliad Gogledd Iwerddon wedi pleidleisio yn erbyn pleidleisio electronig yn siambr eu Cynulliad hwy. Yn yr Alban, er y caniateir defnyddio dyfeisiau electronig yn lle nodiadau ar bapur i siarad yn sesiynau Senedd yr Alban, mae Llywydd Senedd yr Alban wedi gwahardd defnyddio'r rhyngrwyd.\n\n","state":"completed","signature_count":3,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-01-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-01-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-11-15T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-01-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-11-15T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-11-15T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":862,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/862.json"},"attributes":{"action":"Codi Tâl am Barcio a'r Berthynas â'r Stryd Fawr a'i Llwyddiant","background":"Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol yng Nghymru, i wneud asesiad llawn o'r berthynas rhwng codi tâl am barcio ceir a llwyddiant y stryd fawr leol.\n\nMae'r Athro Calvin Jones o Ysgol Fusnes Caerdydd wedi pwysleisio'r effaith economaidd negyddol o dalu am barcio ceir, yn enwedig mewn trefi marchnad. Yng ngoleuni hyn - ac astudiaeth Weinidogol gyfredol ar y mater - rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol Cymru i osod moratoriwm ar gyflwyno tâl am barcio ceir ar safleoedd newydd yn eu perchnogaeth ac unrhyw gynnydd mewn ffioedd parcio tan etholiad 2017.\n\nYn ogystal, rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymgysylltu'n rhagweithiol â chynghorau tref a chymuned perthnasol, cyn gweithredu unrhyw newidiadau yn y drefn leol ar gyfer parcio ceir. Dylai cynghorau tref a chymuned gael y cyfle i fabwysiadu meysydd parcio yn eu hardal - gan nad oes unrhyw un mewn sefyllfa well i ddeall deinameg y stryd fawr leol - cyn i unrhyw opsiynau eraill, yn enwedig rhoi gwaith rheoli ar gontract allanol, gael eu hystyried.\n\nYn olaf, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud rheoliadau clir a thryloyw sy'n llywodraethu'r gweithdrefnau ynghylch taliadau parcio ceir i awdurdodau lleol eu dilyn.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":89,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-04-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-04-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-11-11T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-04-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-11-11T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-11-11T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":855,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/855.json"},"attributes":{"action":"Mynnu ein Hawliau i'r Gymraeg yn y Sector Breifat","background":"Galwn ar y Cynulliad Cenedlaethol i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau gwasanaethau Cymraeg gwell gan yr holl sectorau preifat a gwirfoddol, sy'n dod o fewn cwmpas Mesur y Gymraeg 2011, drwy gydweithio gyda Chomisiynydd y Gymraeg i gyflwyno rheoliadau i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2016 neu ar yr adeg gynharaf bosibl.\n\nMae cannoedd o filoedd o bobl Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg sylfaenol bob dydd gan nifer fawr o gyrff, megis cwmnïau ffôn, band-eang, ynni, a thrafnidiaeth. Achosir yr anghyfiawnder cwbl ddiangen hwn oherwydd nad yw Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg wedi gweithredu'n llawn y pwerau sydd ganddynt o dan Mesur y Gymraeg, a basiwyd yn unfrydol gan y Cynulliad bron i bum mlynedd yn ôl. Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd y Gymraeg felly yn rhwystro ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru.\n\nCredwn ymhellach y dylid diwygio Mesur y Gymraeg er mwyn cyflymu a symleiddio'r broses o osod Safonau'r Gymraeg ar gyrff a chwmnïau, sefydlu hawliau cyffredinol i'r Gymraeg, ac ymestyn sgôp y Mesur i weddill y sector breifat, gan gynnwys archfarchnadoedd a banciau.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":442,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-03-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-03-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-11-09T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-03-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-11-09T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-11-09T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":809,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/809.json"},"attributes":{"action":"Gwahardd y Defnydd o Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau yng Nghymru","background":"​Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod:  \n- Yn credu na all anghenion cymhleth anifeiliaid gwyllt gael eu bodloni'n ddigonol mewn amgylchedd syrcas;  \n- Yn nodi bod anifeiliaid gwyllt yn parhau i wynebu'r posibilrwydd o fywyd mewn amgylchedd syrcas anaddas yng Nghymru;  \n- Yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gwaharddiad llwyr ar ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn cael ei gyflwyno yng Nghymru cyn gynted ag y bo modd.\n\n","additional_details":"​Mae rhagor o wybodaeth am waith RSPCA Cymru i roi terfyn ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru ar gael yma: http://politicalanimal.wales/wild-animals-circuses-wales/\n\n","state":"completed","signature_count":517,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-11-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-11-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-10-09T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-11-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-10-09T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-10-09T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":831,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/831.json"},"attributes":{"action":"Ceisiadau cynllunio nwy ac olew anghonfensiynol.","background":"​Rydym yn galw ar y Gweinidog Cyfoeth Naturiol i ddiwygio CYFARWYDDYD CYNLLUNIO GWLAD A THREF (HYSBYSU) (OLEW A NWY ANGHONFENSIYNOL) (CYMRU) 2015 er mwyn galw pob cais cynllunio'n ymwneud â datblygiadau olew a nwy  anghonfensiynol i mewn. Mae'r datblygiadau hyn yn cynnwys drilio arbrofol am nwy siâl, methan gwely glo a nwyeiddio glo tanddaearol.\n\n","additional_details":"Ar hyn o bryd mae'r Cyfarwyddyd yn ymwneud â cheisiadau sy'n cynnwys dulliau echdynnu anghonfensiynol penodol yn unig ac mae'r Awdurdodau Cynllunio Lleol yn tueddu i ganiatáu'r cais.   \n  \nNid yw'r Cyfarwyddyd presennol yn berthnasol i nwyeiddio glo tanddaearol er y gall effeithiau'r broses hon fod yr un mor niweidiol i'r amgylchedd a chymunedau. Nid yw ychwaith yn berthnasol i ddrilio arbrofol neu ddrilio prawf. Mae pryderon cynyddol ynghylch effaith drilio arbrofol, yn enwedig o safbwynt sŵn, traffig, y posibilrwydd o darfu ar gyrsiau dŵr ac o greu symudiadau seismig, creu safleoedd diwydiannol yng nghefn gwlad a'r effaith ar brisiau tai.   \n  \nOs oes moratoriwm ar echdynnu, yna beth yw pwrpas archwilio? Os yw gwaith echdynnu wedi'i wahardd, mae'n annerbyniol ac afresymol caniatáu i waith archwilio fynd rhagddo.\n\n","state":"completed","signature_count":1254,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-01-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-01-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-09-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-01-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-09-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-09-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":833,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/833.json"},"attributes":{"action":"Gweithio i Amddiffyn Llywodraeth Leol wrth Bennnu Cyllidebau yn yr Hydref","background":"​Rydym yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithio i amddiffyn llywodraeth leol wrth bennu cyllidebau yn yr Hydref.   \n  \nHelpu i amddiffyn y gwasanaethau rydym i gyd yn dibynnu arnynt gymaint, y gwasanaethau rydym eu hangen pan fyddwn yn ei chael hi'n anodd fwyaf.   \nHelpu i ddiogelu ein swyddi yr ydym mor falch eu gwneud yn ein cymunedau.   \n  \nRHAID i Lywodraeth Cymru ddod o hyd i opsiynau eraill i'w hystyried, opsiynau a fyddai'n cael cryn dipyn yn llai o effaith ar ein cymunedau lleol.\n\n","additional_details":"Bydd toriadau pellach i'r gyllideb yn dinistrio ein cymunedau. Mae'r gwasanaethau y mae llywodraeth leol yn eu darparu yn hanfodol i bob un ohonom.  \nBydd toriadau pellach i gyllideb llywodraeth leol yn dinistrio swyddi, gwasanaethau a chymunedau lleol.   \n  \nEr enghraifft: mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yn un o'r awdurdodau sy'n wynebu'r lefelau uchaf o amddifadedd yn y DU. I reoli'r toriad diweddar o £102 miliwn i'w gyllideb, mae wedi gweithio'n galed mewn partneriaeth gref gyda'r undebau llafur er mwyn osgoi diswyddo gorfodol a chontractio gwasanaethau'n allanol. Mae'r toriadau wedi cael effaith ar y gwasanaethau a ddarperir a'r gweithlu.   \n  \nGallai toriadau pellach olygu colli swyddi, gan gynnwys swyddi ar reng flaen gwasanaethau, a throsglwyddo gwasanaethau'r cyngor i'r sector preifat. Mae UNSAIN Castell-nedd Port Talbot wedi dangos nad yw contractio gwasanaethau'n allanol yn gweithio'n hirdymor. Pan gaiff cwmnïau o'r sector preifat eu defnyddio, mae'n amharu ar ddarparu gwasanaethau, mae'n gostus ac mae islaw safonau arferol, yn ogystal â cholli swyddi a chael effaith ar delerau ac amodau gweithwyr. \n\n","state":"completed","signature_count":196,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-01-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-01-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-09-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-01-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-09-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-09-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":756,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/756.json"},"attributes":{"action":"Addysg Gymraeg: Bendith neu Felltith?","background":"​Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo, yn gywir ddigon, i gyflawni gwerth gorau am arian ym mhob Gwasanaeth Cyhoeddus. Yn anffodus, mae'r Adran Addysg a Sgiliau yn gwario £2 biliwn bob blwyddyn, ond i ddarparu addysg o'r safon waethaf yn y DU. Mae'r Gweinidog wedi dweud mai \"Addysg heddiw yw Economi yfory\"; os yw'n iawn, mae'r rhagolygon i Gymru yn llwm iawn.   \n  \nO'i chymharu â safonau rhyngwladol PISA, mae ansawdd yr addysg a geir yn ein hysgolion wedi bod yn dirywio yn drychinebus ers dyfodiad Datganoli. Mae'r Llywodraeth yn amddiffyn ei hun drwy ddweud mai tlodi a phoblogaeth wasgaredig sy'n llesteirio'r ddarpariaeth o Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru, ond mae Cynnyrch Domestig Gros Gogledd Iwerddon yn is, ac mae gan Ogledd Iwerddon a'r Alban lai o bobl fesul milltir sgwâr.   \n  \nMae'r Amgylchedd i'w weld mewn dwylo diogel. Ni ellir datblygu safle segur heb Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol o flaen llaw; ni chaniateir troi'r un garreg os oes y posibilrwydd lleiaf y bydd madfall yn cuddio o dani neu aderyn mudol yn ei chwilota. Nid yw ein Plant, mae'n debyg, yn haeddu'r un gofal - gan na chynhelir Asesiad cyfatebol o Effaith Addysgol pob menter newydd cyn iddi amharu ymhellach ar y dosbarth.   \n  \nO gofio bod 50% o'r boblogaeth islaw'r cyfartadledd ym mhob dawn a gallu - wrth reswm – anghyfrifol oedd i'r Llywodraeth weithredu'r Polisi Addysg Gymraeg heb yn gyntaf sefydlu bod gan blant sydd islaw'r cyffredin o ran eu sgiliau iaith y gallu i fod yn ddwyieithog. Yn absenoldeb unrhyw dystiolaeth i'r gwrthwyneb, mae'n gwbl bosibl mai baich ychwanegol y rhaglen ddwyieithog hon sy'n llyffetheirio ein pobl ifanc ym mhrofion PISA ac am oes.   \n  \nRydym yn gofyn i'r arbrawf Addysg Gymraeg gael ei roi heibio - oni bai y gellir dangos yn glir nad yw ei barhad yn gwneud unrhyw niwed.\n\n","additional_details":"​Ni all y Llywodraeth, mae'n debyg, wahaniaethu rhwng RHAID ac EISIAU: rhaid iddi reoli'r Economi yn llwyddiannus, rhaid iddi gyflwyno Addysg o'r radd flaenaf a rhaid iddi sicrhau gwerth gorau am arian yn yr holl wariant cyhoeddus; yn ogystal, fel dyhead cenedlaethol hollol ddilys, efallai y bydd yn awyddus i feithrin y Gymraeg fel y bydd yn ffynnu... ond ni ellir gadael i fympwyon o'r fath ymyrryd â'r hyn sydd rhaid.   \n  \nDywedir bod gweithredu Polisi yn destun craffu dwys gan y Cynulliad a chan Gyrff Cyhoeddus eraill y tybir eu bod yn annibynnol. Mae'n syndod, felly, na all Pwyllgorau'r Cynulliad, nac Estyn, na Swyddfa'r Archwilydd Cyffredinol gyflwyno unrhyw dystiolaeth i ddangos:  \n• bod cyflogwyr yn gwerthfawrogi, a bod arnynt eisiau, weithwyr sy'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg;   \n• bod person a chanddo sgiliau iaith is na'r cyffredin yn meddu ar y gallu i fod yn ddwyieithog;   \n• NAD baich ychwanegol y rhaglen ddwyieithog sy'n llyffetheirio ein pobl ifanc ym mhrofion PISA;   \n• bod y Llywodraeth, gan gyfeirio'n arbennig at ein safle dirywiol o ran PISA, yn cael y gwerth gorau am arian yn ei gwariant ar addysg;   \n• bod creu cyfoeth yn digwydd yn Gymraeg; neu,   \n• fod yr Adran Addysg a Sgiliau, er gwaethaf pob arwydd i'r gwrthwyneb, yn addas i'r diben.   \n  \nEnghraifft arall o ffolineb yr Adran Addysg a Sgiliau yw bod £12 miliwn yn cael ei afradu, bob blwyddyn, ar y rhaglen Cymraeg i Oedolion: nid yn yr ystafell ddosbarth, ar \"addysgu\", ond ar weinyddu. Yn waeth, ni all neb ddweud sawl dysgwr sydd wedi dod yn rhugl yn y Gymraeg, os o gwbl.\n\n","state":"completed","signature_count":117,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-08-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-08-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-07-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-08-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-07-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-07-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":667,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/667.json"},"attributes":{"action":"Newid yr Oedran y mae’n Rhaid Talu am Docyn Oedolyn o 16 i 18.","background":"Manylion: Nid yw pobl o dan 18 oed yn cael eu hystyried yn oedolion. Mae’n pris tocyn oedolyn Arriva yn gywilyddus i bobl 16-17 oed. Mae’n costio £ 2.60 am docyn un ffordd i Gaerdydd o bellter o ddau safle bws. Fel arfer byddai plant 16-17 oed yn gofyn i’w rhieni am arian ar gyfer tocyn trên, bws ac ati felly pam y dylem gael ein gorfodi i dalu mwy os ydym yn dal yn dibynnu ar ein rhieni i fenthyg arian i ni? Ni allwn wneud pethau eraill fel gyrru, yfed a phleidleisio felly pam y dylem dalu pris uwch am docynnau? Rwy’n gofyn i bobl i lofnodi’r ddeiseb hon i godi’r oedran y mae’n rhaid talu am docynnau oedolion gan mai 18 yw oedran oedolyn mewn gwirionedd.   \n  \nYn ôl confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau’r plentyn, mae’r gyfraith ryngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i’r llywodraeth weithredu er lles gorau’r plentyn, a gaiff ei ddiffinio fel unrhyw un o dan 18 oed.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":55,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-05-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-05-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-07-11T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-05-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-07-11T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-07-11T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":814,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/814.json"},"attributes":{"action":"Deiseb yn Erbyn Canllawiau Anstatudol yng Nghymru ar Gyfer Awdurdodau lleol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref","background":"Ym mis Mai 2014, cyhoeddodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cynulliad Cymru y byddai canllawiau anstatudol newydd yn cael eu llunio ar gyfer Addysg Ddewisol yn y Cartref, yn dilyn ymgynghoriad â theuluoedd sy'n addysgu yn y cartref.  \n  \nMae canllawiau drafft wedi'u cyhoeddi i ymgynghori arnynt ac nid ydynt yn adlewyrchu safbwyntiau cryf y teuluoedd hynny sy'n addysgu yn y cartref.  \n  \nCredwn fod y canllawiau hyn wedi'u hysgrifennu'n wael, eu bod yn gamarweiniol ac yn debygol o arwain at fethiant pellach yn y gydberthynas rhwng teuluoedd sy'n addysgu yn y cartref ac awdurdodau lleol.  \n  \nRydym yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i dynnu'r canllawiau drafft yn eu hôl gan nad ydynt yn addas at y diben.  \n   \nYn hytrach, dylai awdurdodau lleol weithio tuag at ddangos eu dealltwriaeth o'r gyfraith sy'n bodoli eisoes ynghylch addysg yn y cartref, a chydymffurfio â'r canllawiau cyfredol sydd wedi'u diffinio'n glir.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":2846,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-11-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-11-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-07-02T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-11-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-07-02T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-07-02T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":798,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/798.json"},"attributes":{"action":"Dyfodol Addysg Bellach","background":"Rydym yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i dorri £26 miliwn o'r cyllid ar gyfer Addysg Bellach yn y flwyddyn 2015/16 ac yn cydnabod bod y toriad o 8 y cant i gyllideb Cymru, a gyflwynwyd gan San Steffan, wedi creu heriau ariannol i Gymru. Fodd bynnag, nid ydym yn deall penderfyniadau Llywodraeth Cymru, yn dilyn hynny, i ddyrannu'r arian o San Steffan mewn ffordd a fydd yn arwain at galedi mawr i aelod allweddol o'r 'Teulu Addysg' yng Nghymru.   \n  \nMae colegau wedi ymdopi'n rhagorol â sawl blwyddyn yn olynol o doriadau cyllid ac ni allwn weld sut y gallant barhau i gyflawni'r cylch gwaith a ddisgwylir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn nodi polisi Llywodraeth Cymru i ddibynnu'n fwy ar gyfraniadau cyflogwyr er mwyn ariannu hyfforddiant cyflogeion, ond nid ydym wedi ein hargyhoeddi y bydd hynny'n ddigon i lenwi'r bwlch yn sgil toriadau'r Llywodraeth.  \n  \nAt hynny, bydd y toriad o 50% i gyllid cyrsiau rhan-amser yn gwneud difrod sylweddol i ddarpariaeth addysg bellach gan adael miloedd o oedolion heb fynediad at gyfleoedd i wella eu haddysg neu ailhyfforddi. Bydd hefyd yn peryglu cannoedd o swyddi addysg bellach.   \n  \nMae colegau addysg bellach yng Nghymru wedi cydweithio â Llywodraeth Cymru yn sgil toriadau cyllid blaenorol a chyfres o fentrau uno, ond maent bellach wedi cyrraedd pen eu tennyn.  \n  \nRydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â rhoi'r toriadau hyn ar waith ac i fuddsoddi'n briodol mewn cyfleoedd dysgu gydol oes i bawb.\n\n","additional_details":"Mae Undeb Prifysgolion a Cholegau (UCU) Cymru yn pryderu:   \n  \n\\* Y bydd cyflogwyr yn amharod i lenwi’r bwlch a adawyd yn sgîl tynnu cyllid Llywodraeth Cymru, neu’n methu â llenwi’r bwlch.   \n  \n\\* Bydd oedolion yn cael eu cyfyngu i hyfforddiant a gaiff ei ystyried yn addas gan gyflogwyr.   \n  \n\\* Bydd oedolion sydd mewn swyddi anfoddhaol sy’n talu cyflog isel yn methu â chael mynediad at yr addysg y mae ei hangen arnynt i wella eu cyfleoedd gwaith yn rhywle arall.  \n  \n\\* Bydd toriadau o ran cyllid yn cyfyngu’n ddifrifol ar y dewisiadau sydd ar gael i oedolion.  \n  \n\\* Dilëeir y cyfleoedd i wella eu cyfleoedd bywyd ar gyfer llawer o oedolion a’u teuluoedd, ac mae hynny’n wrthgynhyrchiol o ran mynd i’r afael â threchu tlodi a gwella’r economi yng Nghymru.  \n  \n\\* Effeithir yn niweidiol ar ansawdd y ddarpariaeth sydd ar ôl, oherwydd bydd llai o staff, bydd maint y dosbarthiadau’n fwy a bydd llai o amser i gynnal y cyrsiau.\n\n","state":"completed","signature_count":2047,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-10-14T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-10-14T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-06-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-10-14T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-06-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-06-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":824,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/824.json"},"attributes":{"action":"Achub Dechrau’n Deg Glyncorrwg","background":"​Cyflwynir y ddeiseb hon i achub Dechrau'n Deg Glyncorrwg.   \nMae rhieni plant sy'n rhan o raglen Dechrau'n Deg, neu rieni sydd â phlant a fydd yn dod i'r oedran i gymryd rhan yn y rhaglen yn fuan wedi cael llythyrau sy'n nodi y bydd Dechrau'n Deg yn cael ei ddileu o'n cymuned ym mis Gorffennaf 2015.   \nPam y dylai ein plant golli'r cyfle hwn? Mae Dechrau'n Deg yn gam pwysig ymlaen ar gyfer plant bach, i'w gosod ar y ris gyntaf yn eu haddysg ac yn barod i ddechrau yn yr ysgol. Mae hwn yn wasanaeth a ddarperir i bobl sy'n byw mewn 'ardaloedd o amddifadedd', a dyna ydym ni. Eto, mae'r gwasanaeth yn cael ei gymryd oddi arnom. Mae hwn yn gam annoeth.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":148,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-01-13T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-01-13T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-06-22T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-01-13T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-06-22T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-06-22T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":818,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/818.json"},"attributes":{"action":"Diogelu Dechrau’n Deg yng Nghroeserw","background":"​Mae'r preswylwyr a enwir isod yn gwrthwynebu unrhyw gynlluniau i gwtogi ar wasanaethau ar gyfer y rhaglen Dechrau'n Deg yng nghymuned Croeserw, neu gael gwared arnynt. Bydd unrhyw newidiadau i'r gwasanaeth hwn yn cael effaith niweidiol ar addysg ein plant.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":169,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-12-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-12-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-06-22T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-12-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-06-22T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-06-22T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":810,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/810.json"},"attributes":{"action":"Achubwch Brosiect Filter - Ymgyrch a Sefydlwyd i Atal Pobl Ifanc Rhag Ysmygu ac i'w Helpu i Roi'r Gorau Iddi.","background":"​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu prosiect Filter - sef ymgyrch a sefydlwyd i atal pobl ifanc rhag ysmygu ac i'w helpu i roi'r gorau iddi.\n\n","additional_details":"​Mae bron 5,500 o bobl yng Nghymru yn marw o glefydau sy'n gysylltiedig ag ysmygu bob blwyddyn ac mae 21% o oedolion yng Nghymru yn ysmygu ar hyn o bryd. Gall plant fynd yn gaeth i ysmygu  - mae llond dosbarth o bobl ifanc yn dechrau ysmygu bob dydd yng Nghymru; rhaid gwneud mwy i leihau'r nifer hon.\n\nMae prosiect Filter, a ariannwyd am dair blynedd gan y Gronfa Loteri Fawr ac a gaiff ei roi ar waith gan ASH Wales Cymru, wedi bod yn llwyddiant mawr gan addysgu pobl ifanc mewn cymunedau difreintiedig am ysmygu. Ond mae'r gwasanaeth o dan fygythiad gan y daw ei gyllid i ben ym mis Hydref 2015.\n\nMae'r gwasanaeth yn cynnig:\n\n• Gweithdai wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc\n\n• Hyfforddiant i weithwyr proffesiynol a gwirfoddolwyr ifanc\n\n• Cymorth i roi'r gorau i ysmygu drwy ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol\n\n• Gwefan sy'n rhoi gwybodaeth a chyngor i bobl ifanc yn benodol\n\nMae tîm datblygu ieuenctid prosiect Filter wedi gweithio gyda dros 5,000 o bobl ifanc mewn dros 200 o sesiynau  ledled Cymru, a hynny gyda chefnogaeth y cyfryngau cymdeithasol a gwasanaethau ar-lein. Mae'r tîm wedi creu cysylltiadau hollbwysig mewn cymunedau difreintiedig ledled Cymru, lle mae cyfraddau ysmygu ar eu huchaf. Mae'r tîm hefyd wedi hyfforddi dros 750 o weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phobl ifanc.\n\nDros y tair blynedd diwethaf mae'r fenter hon wedi darparu gwasanaeth gwerthfawr, gan fynd i'r afael â'r broblem fwyaf ym maes iechyd cyhoeddus yng Nghymru. Mae helpu pobl ifanc i roi'r gorau i ysmygu, a'u hatal rhag dechrau gwneud hynny, ymhlith blaenoriaethau pwysicaf Llywodraeth Cymru, fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Rheoli Tybaco. \n\nAeth Prifysgol Caerdydd ati i gynnal gwerthusiad annibynnol o brosiect Filter a daeth i'r casgliad bod y tair agwedd ar waith prosiect yn  ymarferol ac yn hyblyg a bod modd eu haddasu wrth eu rhoi ar waith.\n\nDaw grant Y Gronfa Loteri Fawr i ben ym mis Hydref eleni a, heb unrhyw gyllid pellach gan Lywodraeth Cymru neu Iechyd Cyhoeddus Cymru, ni fydd gennym unrhyw wasanaeth sy'n gweithio gyda phobl ifanc y tu allan i leoliadau ysgol. Mae gwasanaeth fel prosiect Filter yn hanfodol i sicrhau cenhedlaeth ddi-fwg ac i fynd i'r afael â'r broblem fwyaf rydym yn ei hwynebu o ran iechyd cyhoeddus.\n\n","state":"completed","signature_count":365,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2014-11-20T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2014-11-20T00:00:00.000Z","closed_at":"2015-06-12T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2014-11-20T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2015-06-12T00:00:00.000Z","referred_at":"2015-06-12T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}}]}