{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau.json?page=54&state=archived","first":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?state=archived","last":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=54&state=archived","next":null,"prev":"https://deisebau.senedd.cymru/petitions.json?page=53&state=archived"},"data":[{"type":"petition","id":185,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/185.json"},"attributes":{"action":"Atal Faniau Symudol Bwydydd Cyflym rhag gweithredu mewn ardaloedd Ysgolion","background":"Mae’r Deisebwyr yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried deddfwriaeth i atal Faniau Symudol Bwydydd Cyflym rhag gweithredu o fewn 400 metr i bob ysgol yng Nghymru, a hynny rhwng 08.00 a 16.30 o ddydd Llun i ddydd Gwener yn ystod y tymor.  \n  \nGwybodaeth ychwanegol: Mae Cyngor Wrecsam yn ddiweddar wedi cytuno ar nodyn Cyfarwyddyd Cynllunio sy’n dweud : Ni ddylai Mannau Gwerthu Bwydydd Poeth Cyflym newydd gael eu lleoli... o fewn 400 metr i ffin ysgol neu goleg trydyddol. Ni ellir defnyddio amodau cynllunio i gyfyngu defnyddio cerbydau symudol bwydydd cyflym, ac os ydynt yn cydymffurfio â rheoliadau priffyrdd ac iechyd yr amgylchedd, gallant weithredu heb drwydded. Dadleuir, felly, y bydd deddfu fel yr awgrymir yn hyrwyddo nod cymdeithasol o leihau faint o fwydydd afiach rhad sydd ar gael i blant, yn lleihau gordewdra ac yn hyrwyddo bwyta iach.   \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":43,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-12-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-12-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-02-29T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-12-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-02-29T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-02-29T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":157,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/157.json"},"attributes":{"action":"Tocynnau Teithio Rhatach ar gyfer Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus sy’n Iau na 18 Oed","background":"Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno tocynnau teithio rhatach ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus sy’n iau na 18 oed.\n","additional_details":"Ar hyn o bryd, mae’r gyfradd costau teithio i blant wedi’i phennu ar gyfer pobl sydd o dan 14 oed. Mae hyn, yn ôl pob tebyg, yn dyddio’n ôl i’r adeg pan mai dyna fyddai oedran plant yn gadael yr ysgol. Byddai’r mesur hwn yn decach pe byddai’r oedran yn codi i 16, oherwydd hyd yn oed os yw plant yn dechrau gweithio pan yn 16 oed, mae’n anhebygol y byddant yn ennill digon o arian i fforddio talu’r gost lawn. Byddai hefyd yn annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.\n","state":"completed","signature_count":26,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-08-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-08-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-02-29T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-08-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-02-29T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-02-29T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":153,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/153.json"},"attributes":{"action":"Mwy o Doiledau i Ferched mewn Lleoliadau Adloniant","background":"Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ddiwygio rheoliadau adeiladu mewn modd a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i gynyddu’r ddarpariaeth o doiledau i ferched mewn lleoliadau adloniant cyhoeddus.   \n  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":27,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-07-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-07-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-02-29T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-07-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-02-29T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-02-29T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":178,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/178.json"},"attributes":{"action":"Deiseb yn galw am wella gwasanaethau seicig a sythweledol yng Nghymru","background":"Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth darparwyr gwasanaethau seicig a’r cyhoedd o ddarpariaethau Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":38,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-02-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-02-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-02-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":958,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/958.json"},"attributes":{"action":"Achub ein Gwasanaethau Ysbyty","background":"Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, am weld ein HOLL wasanaethau iechyd lleol yn cael eu cynnal a'u diogelu yn Ysbyty'r Tywysog Phillip.\n\n- Rydym yn gwrthwynebu'r bwriad i israddio'n hysbyty.\n- Gofynnwn i'r Gweinidog Iechyd a Llywodraeth Lafur Cymru adolygu'u cynlluniau fel mater o frys.\n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":9000,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2015-11-17T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2015-11-17T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-02-28T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2015-11-17T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-02-28T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-02-28T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":192,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/192.json"},"attributes":{"action":"Deiseb yn erbyn y Llwybr Arfordirol o Gaerdydd i Gasnewydd a thu hwnt.","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, i derfynu’r Llwybr Arfordirol arfaethedig o gwmpas Cymru, yng Nghaerdydd. Credwn y byddai gosod y llwybr rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt yn achosi aflonyddu gormodol a dinistriol ar y miloedd o adar gwyllt ar yr arfordir, sy’n hedfan i ffwrdd ar ddim (goddefgarwch o bobl, y Gylfinir: tua 400 llath, Pibydd y Mawn a’r Pibydd Coesgoch: tua 200 i 300 llath yn unig). Mae’r adar hyn yn dibynnu ar y llain tir cul a’r morfa heli hwn ger eu parth bwydo, i orffwys ac fel noddfa ddiogel.  \nDynodwyd y lle fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig at ddibenion cadwraeth, ac mae’n rhan o Gynllun Rhyngwladol ‘Pwysig i Adar’, Aber Afon Hafren. Bu’r safle hwn yn lloches am filoedd o flynyddoedd yn sicr, a chaiff ei fygwth yn aml.  \nEr bod nifer o ddewisiadau eraill ar gael i gerdded, nid oes dewis arall ar gael i’r cynefin arfordirol hwn.  \n  \n  \n\n","additional_details":"Gwybodaeth Atodol: Pan fyddant yn cael eu cynhyrfu, mae’n rhaid i’r adar hedfan i fan arall lle mae pobl yn ddigon pell oddi wrthynt. Mae hynny’n defnyddio egni gwerthfawr ac yn amharu ar eu patrymau gorffwys. Os byddant yn cael eu cynhyrfu’n aml, fe allai arwain at heidiau o adar yn gadael yr ardal yn barhaol er mwyn chwilio am lefydd eraill i fwydo, sydd eisoes o dan bwysau yn y byd modern. Byddai hynny’n amddifadu aelodau cymdeithasau gwylio adar Morgannwg, Gwent a’r RSPB a phobl eraill o’r ased lleol gwerthfawr hwn, yn awr ac yn y dyfodol.  \n\n","state":"completed","signature_count":14,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2012-01-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2012-01-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-02-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2012-01-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-02-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-02-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":186,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/186.json"},"attributes":{"action":"Annog gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau Addysg Bellach","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd mewn colegau Addysg Bellach.   \n  \nGwybodaeth ategol: Gall Gweithgarwch Corfforol fod yn gyfrwng i wella a chynnal nid yn unig priodoleddau corfforol unigolion ond hefyd eu hiechyd a’u lles yn gyffredinol. Rwy’n credu bod angen i Golegau Addysg Bellach osod amcanion a thargedau clir i gynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn ystod eu hamser hamdden drwy greu rhaglen strwythuredig, gynhwysol a difyr sy’n uno ac yn cynnwys y myfyrwyr ac sy’n addasu i’w hanghenion. Drwy wella iechyd cyffredinol myfyrwyr, gellir gwella nid yn unig perfformiad y coleg, ond perfformiad Cymru gyfan. Mae gennym ddyletswydd nid yn unig i hyrwyddo gweithgarwch corfforol, iechyd a lles, ond hefyd i gymryd camau pendant i gyfrannu at raglenni a fydd yn ysbrydoli’n myfyrwyr i fyw’n iachach ac i gymryd rhan yn amlach mewn gweithgarwch corfforol.  \n  \nRwy’n credu bod bwlch eang a gwendid amlwg yn y modd y caiff gweithgarwch corfforol ac iechyd ei hyrwyddo mewn colegau Addysg Bellach. Mae angen strategaeth a chanllawiau clir i golegau eu dilyn. Mae gennym ddyletswydd i geisio hyrwyddo gweithgarwch corfforol ac iechyd ymhlith ein myfyrwyr er mwyn gwella iechyd cyffredinol ein cenedl.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":23,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-12-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-12-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-02-13T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-12-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-02-13T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-02-13T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":196,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/196.json"},"attributes":{"action":"Diogelu yr adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i restru, neu i ddiogelu mewn ffordd arall, yr adeiladau nodedig ar safle hen Ysbyty Canolbarth Cymru. A hwythau heb eu rhestru, ond wedi’u lleoli yn yr Ardal Gadwraeth, maent yn rhan werthfawr o dreftadaeth bensaernïol a chymdeithasol Talgarth.  \n  \nGwybodaeth gefndirol: Cafodd Ysbyty Aberhonddu a Sir Faesyfed achlysur agor mawreddog ym 1903. Mae’r coflyfr yn disgrifio’r miloedd o bobl oedd yn bresennol a bod pob twll a chornel o’r adeilad anferthol yn cael ei archwilio. Ar y cyfan, roedd y sefydliad yn rhyfeddod o’i oes. Mae bellach mewn cyflwr truenus, ond mae’r enghraifft bwysig hon o noddfa Edwardaidd cynnar ar ffurf esielon neu saeth, a gynlluniwyd gan Giles, Gough a Trollope, a nodwyd gan Pevsner ac sydd ar gofrestr Adeiladau mewn Perygl SAVE Britain’s Heritage, yn gwbl deilwng o’i chadw. Wedi’i lleoli tua hanner milltir o Dalgarth mewn ardal eithriadol o hardd o gefn gwlad ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Ardal Gadwraeth Talgarth, mae ganddi berthynas arbennig â Thalgarth. Byddai colli unrhyw ran o’r adeiladau gwreiddiol/nodedig yn golled annerbyniol i asedau treftadaeth Talgarth.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":206,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2012-01-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2012-01-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-02-08T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2012-01-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-02-08T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-02-08T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":180,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/180.json"},"attributes":{"action":"Ffibr optig i ardaloedd gwledig","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i wneud rhagor er mwyn hwyluso’r broses o ddarparu band eang ffibr optig / band eang y genhedlaeth nesaf i bawb yng Nghymru, gan gynnwys y sector eFasnach a busnesau cyfathrebu newydd (yn y diwydiant TG), erbyn 2013. Dylid sicrhau hefyd bod busnesau sydd eisioes yn bodoli yn gallu cyfathrebu â’i gilydd yn well ac y byddai’r ddarpariaeth o fudd i’r cymunedau lleol yn ogystal. Er enghraifft, yn y Cymoedd, mae cyflymder y rhyngrwyd sydd ar gael i nifer o deuluoedd a busnesau yn araf iawn o’i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Diben y ddeiseb hon yw galw am osod ffibr optig yn yr ardaloedd hyn, lle mae busnesau eisioes wedi’u sefydlu, er mwyn helpu i adfywio’r ardaloedd mwyaf tlawd yng Nghymru/Wales.  \n  \nGwybodaeth ategol:  \nAr hyn o bryd, y darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd eu hunain sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rhyngrwyd cyflym i ardaloedd penodol, ac fe’u hannogir yn rhannol (ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd) i ddarparu gwasanaeth rhyngrwyd cyflym mewn ardaloedd gwledig. Er enghraifft Ofcom a Fujitsu. Fodd bynnag, nid yw hon yn fenter yng Nghymru ac rwyf o’r farn y gallai greu gwaith yng Nghymru petai’r Cynulliad yn galw amdano. Byddai hyn o fudd mawr i gwmnïau o ran cyfathrebu ac eFasnachu ac o ran denu busnesau newydd i Gymru.  \n  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":17,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-11-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-11-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-02-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-11-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-02-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-02-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":184,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/184.json"},"attributes":{"action":"Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun","background":"Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn i’r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi’r alwad ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Chyngor Sir Penfro i sicrhau y buddsoddir mewn cynllun i wella canol tref Abergwaun, gan gynnwys mesurau sy’n ymwneud â cherddwyr a rheoli traffig. Mae’n rhaid i gynllun gwella o’r fath wella hyfywedd a chynaliadwyedd y dref a’i gwneud yn gwbl hygyrch i’r holl drigolion ac ymwelwyr, gan gynnwys y rheini sydd ag anghenion o ran symudedd ac anableddau eraill.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1042,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-12-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-12-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-01-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-12-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-01-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-01-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":195,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/195.json"},"attributes":{"action":"Gwasanaethau Ambiwlans ym Mynwy","background":"Datganiad y ddeiseb:  \nRydym ni o’r farn y dylai Mynwy gael y ddarpariaeth ambiwlans briodol. Gan fod disgwyl i boblogaeth Mynwy gynyddu, a bod Uned Mân Anafiadau Monnow Vale wedi cau’n ddiweddar, bydd rhagor o alw ar y gwasanaeth ambiwlans.   \nCynulliad Cenedlaethol Cymru:  \nRydym yn gofyn i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad Cenedlaethol gynnal ymchwiliad i’r gwasanaeth ambiwlans yng nghefn gwlad Cymru. Byddem yn annog y Pwyllgor i ymchwilio i’r problemau penodol sy’n bodoli ym Mynwy a pha effaith gafodd cau’r Uned Mân Anafiadau yn Monnow Vale ar y gwasanaeth ambiwlans.   \nLlywodraeth Cymru:   \nRydym yn annog y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ddefnyddio’i phwerau i’w gwneud yn ofynnol i Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ddarparu gwasanaeth ambiwlans o safon uchel ledled Cymru ac yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel Mynwy.  \nYmddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru:  \nRydym yn galw ar Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i wella’r ddarpariaeth ym Mynwy mewn termau real, gydag uned dibyniaeth fawr a/neu ambiwlans yn nhref Mynwy.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":450,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2012-01-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2012-01-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-01-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2012-01-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-01-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-01-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":173,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/173.json"},"attributes":{"action":"Problemau gyda’r GIG ar gyfer y Byddar","background":"Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y GIG yn darparu gwasanaeth gwell i bobl â nam ar eu clyw.  \n  \nOs bydd unigolyn byddar am gysylltu â’i feddyg teulu i wneud apwyntiad, ni fydd yn gallu gwneud hynny gan nad yw meddygfeydd yn cynnig gwasanaeth tecstio ar gyfer ffonau symudol. (Mae’r mwyafrif o bobl â nam ar eu clyw yn defnyddio ffonau symudol yn hytrach na ffonau testun). Pan fyddant yn cael llythyr oddi wrth y bwrdd iechyd yn gofyn iddynt wneud apwyntiad ag arbenigwr dros y ffôn, ni fyddant yn gallu gwneud hynny gan nad oes cyfleusterau ar gael iddynt. Pan fyddant yn mynd i’r ysbyty ar gyfer apwyntiad, nid oes gwasanaeth dolen sain ar gael a fyddai’n galluogi iddynt glywed ac ateb cwestiynau. Dywedir ei bod yn bosibl trefnu bod cyfieithydd ar gael. Rydym wedi ceisio sicrhau mynediad i’r math hwn o wasanaeth, ond mae ein hymdrechion wedi bod yn ofer. Pan fydd pobl â nam ar eu clyw mewn ysbyty neu feddygfa, ni fyddant yn gallu clywed eu henwau’n cael eu galw, ac nid oes negesfyrddau ar gael i roi gwybod iddynt pan fydd y meddyg yn barod i’w gweld. Ni fydd staff yn siarad â chleifion â nam ar eu clyw oddeutu 99.99% o’r amser. Yn hytrach, byddant yn siarad â’r cyfieithydd. Mae diffyg ymwybyddiaeth am fyddardod yn broblem. Gan mai iaith arwyddion yw iaith gyntaf pobl â nam ar eu clyw, mae Saesneg yn iaith estron iddynt, ac mae’r Saesneg a ddefnyddir gan berson â nam ar ei glyw yn iaith sylfaenol. Byddai rhoi’r newidiadau hyn ar waith yn helpu’r GIG i fodloni ei thargedau. Er enghraifft, byddai’n cwtogi amseroedd ymgynghoriadau ac yn arwain at ddiagnosau mwy cywir. Byddai’n helpu pobl â nam ar eu clyw gyda’u hannibyniaeth ac yn sicrhau preifatrwydd iddynt pan fyddant yn siarad â doctor neu nyrs. Mae gan fanciau a swyddfeydd post y gwasanaethau hyn, felly pam nad ydynt ar gael yn y GIG?\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":68,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-10-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-10-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-01-04T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-10-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-01-04T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-01-04T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":182,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/182.json"},"attributes":{"action":"Ailgyflwyno Cymorth Cartref ar gyfer plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig a’u teuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili","background":"Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ailgyflwyno cyllid i alluogi Cymorth Cartref Gwasanaeth Sbectrwm Awtistig Caerffili i barhau, fel ei fod ar gael i rieni plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig. Os na chaiff y gwasanaeth hwn ei ailgyflwyno, caiff hyn effaith andwyol ar blant sy’n awtistig, sy’n agored i niwed, drwy gydol eu blynyddoedd ffurfiannol a’u glaslencyndod. Sicrhewch nad yw rhieni plant sydd ag anhwylderau ar y sbectrwm awtistig yn wynebu argyfwng.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":138,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-11-25T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-11-25T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-01-03T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-11-25T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-01-03T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-01-03T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":161,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/161.json"},"attributes":{"action":"Cymru nid Wales","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gael gwared ar yr enw “Wales” a “Welsh” yn swyddogol. Mae Wales yn tarddu o’r gair Eingl-Sacsonaidd am rywun estron (“Waelisc”). Yn ein barn ni, mae’r enw hwn yn sarhaus, a dylid galw ein cenedl yn ôl ei henw gwreiddiol, sef ‘Cymru’ (gwlad y cymrodyr neu gydwladwyr). Ar ôl i ni gael ein galw’n estroniaid am dros fil o flynyddoedd, teimlwn ei bod yn amser cael gwared ar yr enw diraddiol hwn.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":119,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-08-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-08-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2012-01-01T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-08-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2012-01-01T00:00:00.000Z","referred_at":"2012-01-01T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":170,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/170.json"},"attributes":{"action":"Dyrannu Tai Cymdeithasol yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r system ddiffygiol a ddefnyddir i ddyrannu tai cymdeithasol yng Nghymru.  \nAr hyn o bryd, gall unigolyn nad yw erioed wedi ymweld â Chymru fod yn gymwys i gael tŷ cymdeithasol, a hynny o flaen rhywun a aned ac a fagwyd yng Nghymru. Mae’r sefyllfa hon yn deillio o system bwyntiau sy’n rhoi blaenoriaeth i geisiadau gan bobl ddigartref, pobl sy’n byw mewn tai yr ystyrir eu bod yn anaddas a phobl a gafodd eu rhyddhau’n ddiweddar o sefydliadau arbennig, ac ati.  \nAr yr olwg gyntaf, mae’r strategaeth hon yn ymddangos yn strategaeth glodwiw; serch hynny, pan gaiff ei chymhwyso ar lefel y Deyrnas Unedig, gwelwn lif diddiwedd o bobl sydd â ‘phroblemau’ ac sy’n hanu o’r tu allan i Gymru yn amddifadu pobl Cymru o’r cyfle i gael tai cymdeithasol. Yn rhy aml, bydd y datblygiadau hyn yn difetha cymunedau.  \nEr mwyn datrys y broblem hon, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno system lle byddai’n rhaid i unigolyn fyw yng Nghymru am gyfnod o bum mlynedd cyn y byddai’n gymwys i gael tŷ cymdeithasol. Yr unig eithriadau fyddai ffoaduriaid gwleidyddol a phobl eraill sy’n ceisio dianc o sefyllfaoedd lle maent yn cael eu herlid.  \n  \n\n","additional_details":"Yn gynharach eleni, dedfrydwyd aelodau o gang o bedoffiliaid i gyfnodau hir o garchar yn Llys y Goron Abertawe. Cartrefwyd aelodau’r gang hon yng Nghydweli gan Grŵp Gwalia, sef darparwr tai cymdeithasol. Roedd aelodau’r gang hon yn dod o Lundain yn wreiddiol ac roedd ganddynt ddedfrydau blaenorol, felly pam y cawsant eu lleoli mewn tref fach yng Nghymru?  \nYn anffodus, mae’r achos hwn yng Nghydweli yn un o nifer o enghreifftiau lle mae troseddwyr cydnabyddus a phobl annymunol eraill wedi cael eu cartrefu yng Nghymru. Mae’r achosion hyn wedi arwain at ddrwgdybiaeth gynyddol bod Cymru’n cael ei defnyddio fel tomen gan awdurdodau lleol ac asiantaethau eraill yn Lloegr. Yn ogystal, mae cyrff yng Nghymru wedi helpu’r sefyllfa hon i ddatblygu drwy dderbyn taliadau premiwm yn gyfnewid am gartrefu pobl o’r fath.   \nGan fod darparwyr tai cymdeithasol yn cael eu cofrestru a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru, siawns ei bod yn bryd adolygu rôl, cyfrifoldebau a threfniadau ariannu darparwyr tai cymdeithasol yng Nghymru.  \n\n","state":"completed","signature_count":115,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-10-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-10-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-10-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":163,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/163.json"},"attributes":{"action":"Galwad i’r Materion a Osodwyd yn yr Adroddiad ar Bêl-droed yng Nghymru a Gyhoeddwyd yn 2007 Gael eu Hadolygu.","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i adolygu cynnwys adroddiad 2007 y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon, ‘Pêl-droed yng Nghymru – adolygiad’.  \nYm mis Mawrth 2011, pleidleisiodd pobl Cymru o fwyafrif llethol dros ddatganoli rhagor o bwerau i Gymru. Un o’r meysydd hyn oedd chwaraeon a hamdden. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’r pwerau hyn nad oedd ar gael yn 2007 ac i adolygu’r adroddiad gwreiddiol. Mae’n rhaid i Gymdeithas Bêl-droed Cymru fod yn atebol i bobl Cymru a chynnig gwerth am arian i bobl Cymru. Rydym am i Lywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a FIFA i sicrhau bod hynny’n digwydd.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":96,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-09-14T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-09-14T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-12-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-09-14T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-12-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-12-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":159,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/159.json"},"attributes":{"action":"Datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gyhoeddi datganiad cyhoeddus yn cefnogi Bradley Manning, dinesydd Cymru / y DU.  \n  \nGwybodaeth ychwanegol: Bradley yw’r milwr caeth ei gyhuddo o ryddhau gwybodaeth am droseddau rhyfel America yn Irac i wefan WikiLeaks. Mae wedi byw yng Nghymru a’i deulu yn byw yng Ngorllewin Cymru. Mae’n wynebu 50 mlynedd yn y carchar ac o bosib y ddedfryd marwolaeth.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":119,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-08-18T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-08-18T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-12-20T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-08-18T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-12-20T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-12-20T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":156,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/156.json"},"attributes":{"action":"Ymgyrch yn erbyn troseddau casineb yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gondemnio’r cynnydd mewn troseddau casineb ac i annog Llywodraeth Cymru i lunio polisïau sy’n herio’r canfyddiad negyddol o werth pobl sydd ag anableddau dysgu yng Nghymru heddiw.  \n  \nGwybodaeth ychwanegol: Mencap Cymru yw’r sefydliad trydydd sector blaenllaw yng Nghymru sy’n gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd. Ar 22 Mehefin, bydd yn lansio ymgyrch tair blynedd yn erbyn trosedd casineb.   \n  \nMae’r ddeiseb yn ceisio herio Llywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd creu polisïau sy’n mynd i’r afael â’r agweddau negyddol tuag at bobl anabl a’u teuluoedd sydd gan rai pobl yn ein cymunedau yng Nghymru.  \n  \nMae nifer cynyddol o sefydliadau fel Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Pobl yn Gyntaf Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru wedi ymrwymo i atal troseddau casineb yn erbyn pobl anabl drwy hyrwyddo’r cyfraniadau cadarnhaol y mae pobl ag anabledd dysgu yn ei wneud i Gymru, drwy helpu i fynd i’r afael ag achosion o droseddau casineb o’r fath, yn ogystal â rhoi cefnogaeth ymarferol fel helpu pobl i roi gwybod am droseddau casineb.  \n  \nBydd y ddeiseb ar agor i’w llofnodi o lansiad yr ymgyrch yn ystod Wythnos Anableddau Dysgu, tan Ddiwrnod Rhyngwladol i Bobl ag Anableddau ar 3 Rhagfyr 2011.   \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":337,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-08-08T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-08-08T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-12-04T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-08-08T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-12-04T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-12-04T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":150,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/150.json"},"attributes":{"action":"Adalw CDLl (Cynlluniau Datblygu Lleol)","background":"’Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adalw’r holl Gynlluniau Datblygu Lleol ledled Cymru ac i roi’r gorau i ddefnyddio amcanestyniadau poblogaeth a gyhoeddir gan y Gyfarwyddiaeth Ystadegau ac a ddefnyddir i chwyddo niferoedd y tai mewn cynlluniau datblygu lleol. Galwn am i’r holl CDLl, waeth pa mor bell maent wedi cyrraedd, gael eu hatal ar unwaith er mwyn i lefel y twf mewn tai gyd-fynd ag anghenion lleol gwirioneddol.  \n  \nRydym ni sydd wedi llofnodi isod o’r farn fod yr holl CDLl sy’n cael eu llywio gan amcanestyniadau poblogaeth Llywodraeth Cymru heb eu hystyried yn fanwl, eu bod yn sylfaenol wallus ac yn niweidiol i gymunedau Cymru.  \n  \nNid yw’r math hwn o gynllunio yn gynaliadwy, ac nid oes ar bobl Cymru mo’i angen na’i eisiau. Er mwyn atal y niwed sydd eisoes yn cael ei wneud, ac i atal niwed a dinistr pellach na ellir eu gwrthdroi yn ein cymunedau, ein hamgylchedd a’n hunaniaeth ledled Cymru, apeliwn ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd ar unwaith.’  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":826,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-06-10T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-06-10T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-11-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-06-10T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-11-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-11-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":169,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/169.json"},"attributes":{"action":"Galwad i Achub Golchdy Stêm y Rhath","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i achub golchdy stêm y Rhath. Adeiladwyd y golchdy ym 1898 a’i gyfeiriad yw 33 Heol Malborough. Mae’r adeilad, sy’n dirnod unigryw, wedi’i leoli gerbron ardal gadwraeth Gerddi Melin y Rhath. Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn gwrthwynebu dymchwel yr adeilad hwn, cam a fyddai’n arwain at ddirywiad pellach yn nhreftadaeth bensaernïol a chymdeithasol Caerdydd. Dylid gwarchod golchdy stêm y Rhath er budd y gymdeithas gyfan, a dylai’r adeilad hwn fod yn amwynder y gall pawb ymfalchïo ynddo.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":145,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-10-07T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-10-07T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-11-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-10-07T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-11-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-11-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":172,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/172.json"},"attributes":{"action":"Cadw’r gwasanaethau y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda a Chaerdydd","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gadw’r gwasanaethau cymunedol hanfodol y mae Sporttrain yn eu darparu yn y Rhondda ac yn Grangetown, sef:  \n  \n• hyfforddiant gwaith i bobl ifanc;  \n• hyfforddiant ymgysylltu i bobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant;  \n• dysgu cymunedol;  \n• gwasanaethau lles, cymorth a chwnsela i bobl ifanc;  \n• hyfforddiant chwaraeon a gweithgareddau cymunedol i bobl ifanc.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":2300,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-10-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-10-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-11-24T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-10-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-11-24T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-11-24T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":181,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/181.json"},"attributes":{"action":"Cynllun am Addysg Gymraeg - Caerffili","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Gweinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru i roi blaenoriaeth frys i gais Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am gyllid i ariannu cynllun y mae ei ddirfawr angen i greu ysgol uwchradd Gymraeg ychwanegol erbyn 2013   \n  \nGwybodaeth ategol:  \nMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu mater brys. Yn ôl tueddiadau poblogaeth, amcangyfrifir y bydd 700 rhagor o blant yn y bwrdeistref yn dymuno cael addysg gynradd Gymraeg erbyn 2016 ac y bydd bron 1000 o blant ychwanegol yn chwilio am le mewn ysgolion cyfun erbyn 2020. Mae hyn yn golygu bod angen i’r bwrdeistref adeiladu o leiaf un ysgol gynradd ac un ysgol uwchradd newydd.   \n  \nMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflwyno cynlluniau o dan Raglen Ysgolion yr Ugeinfed Ganrif ar Hugain ac, fel awdurdodau eraill, roedd yn hynod siomedig pan gyhoeddodd y Gweinidog Addysg y bydd yn rhaid gohirio’r rhaglen tan 2014 a bod y meini prawf hefyd yn newid.   \n  \nMae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflwyno cais newydd sy’n sicrhau gwerth am arian gan ei fod yn defnyddio adeiladau gwag ar safle blaenorol ysgol Sant Ilan yng Nghaerffili.   \n  \nMae angen ateb gan y Llywodraeth ar frys gan nad oes digon o le yn yr ysgol gyfun bresennol a bydd yn rhaid gwrthod lle i ddisgyblion mor fuan â mis Medi 2013.   \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":621,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-11-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-11-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-11-23T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-11-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-11-23T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-11-23T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":177,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/177.json"},"attributes":{"action":"Targedau Ailgylchu ar gyfer Byrddau Iechyd","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i argymell wrth y Gweinidog Iechyd ei bod yn cyflwyno targedau ailgylchu sy’n gosod rhwymedigaeth gyfreithiol ar fyrddau iechyd yng Nghymru ar lefel sy’n debyg i’r hyn a osodir ar Awdurdodau Lleol .  \n  \nGwybodaeth Gefnogol  \nNododd cais Rhyddid Gwybodaeth diweddar fod Ysbyty Maelor yn Wrecsam wedi cael gwared ar 1,200 tunnell o wastraff y llynedd (nad yw’n cynnwys unedau trydanol WWEE). Dim ond 3 y cant o’r gwastraff hwnnw a gafodd ei ailgylchu ac aeth 55 y cant i safleoedd tirlenwi, gan gynnwys yr holl wastraff bwyd. Mae’r diffyg ymrwymiad hwn i ailgylchu’n annerbyniol a chan fod nifer o gyfleusterau ailgylchu lleol ar gael, ni ellir ei esgusodi. Cyfanswm y gost o waredu gwastraff o Ysbyty Maelor yw tua £350,000 bob blwyddyn, a phe byddai hyn yn batrwm cyffredinol drwy Gymru, yna byddai’r gost yn tua £5 miliwn.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":29,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-10-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-10-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-10-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":176,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/176.json"},"attributes":{"action":"Adolygiad Asedau ac Eiddo","background":"Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth Cymru i gynnal Adolygiad Asedau ac Eiddo ar eu hadeiladau a / neu eu heiddo unigol i leihau nifer yr eiddo nad yw’n cael ei ddefnyddio’n ddigonol ac i ddefnyddio’r cyfalaf a gaiff ei arbed i ariannu Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif.  \n  \nGwybodaeth gefnogol  \nMae gan y Cynulliad Cenedlaethol swyddfeydd yn Rhodfa’r Tywysog, Bae Colwyn, ac mae gan Lywodraeth Cymru swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno, nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol ac sy’n rhannol wag. Nid oes cyfiawnhad dros ariannu dau adeilad sydd mor agos at ei gilydd yn yr amseroedd ariannol caled hyn i drethdalwyr yng Nghymru. Gwerthfawrogir bod Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddau sefydliad ar wahân ond nid oes rheswm pam nad oes modd iddynt rannu’r un adeilad. Mae’r un sefyllfa yn wir mewn ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd mae’n debyg.  \n  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":19,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-10-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-10-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-10-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":175,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/175.json"},"attributes":{"action":"Gofal Di-dâl i Blant 3 a 4 yng Nghymru","background":"Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gofal di-dâl i blant 3 a 4 mlwydd oed ar gael mewn modd mwy hyblyg ledled Cymru er mwyn galluogi rhieni, yn enwedig rhieni sy’n gweithio, i ddewis pryd a lle y maent yn cael mynediad at ofal plant di-dâl.  \n  \nGwybodaeth gynorthwyol:  \nMae gan blant 3 a 4 mlwydd oed hawl i gael 15 awr o addysg di-dâl mewn ysgol feithrin cyn iddynt gyrraedd oed ysgol gorfodol. Fodd bynnag, nid yw llawer o rieni sy’n byw o fewn ffiniau ambell i awdurdod lleol yng Nghymru yn gallu defnyddio’r gofal plant di-dâl hwn oherwydd y cyfyngiadau sy’n bodoli.  \nGall rhieni ym Mro Morgannwg, er enghraifft, ond hawlio gofal plant di-dâl mewn ysgolion meithrin sy’n gysylltiedig ag ysgolion, ac mae’r gofal hwn wedi’i rannu’n 2.5 awr y dydd o ddydd Llun i ddydd Gwener. Fodd bynnag, mae Cyngor Casnewydd yn cynnig ‘gwasanaeth cynhwysfawr’ i rieni, lle mae 12.5 awr ar gael i’w hawlio ar gyfer gofal mewn ysgol feithrin neu feithrinfa breifat o’u dewis nhw. I ryw raddau, mae hyn yn camwahaniaethu yn erbyn rhieni sy’n gweithio mewn rhai awdurdodau lleol ac sy’n methu gollwng a chasglu eu plant am 2.5 awr o ofal plant, sy’n golygu eu bod yn colli’r cyfle i gael gofal plant di-dâl. Ar y llaw arall, mae rhieni eraill yn cael cyfanswm anghymesur o arian tuag at eu costau gofal plant. Annogwn Lywodraeth Cymru i gysoni’r system fel y gall rhieni ymhob awdurdod lleol gael ‘gwasanaeth cynhwysfawr’. Bydd hyn yn sicrhau bod gofal plant di-dâl ar gael i bawb - gan gynnwys rhieni sy’n gweithio.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":67,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-10-27T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-10-27T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-10-27T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-11-21T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":115,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/115.json"},"attributes":{"action":"Cysylltiadau bws a rheilffyrdd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adfer a/neu wella’r cysylltiadau trên a bws rhwng Caerfyrddin yn sir Gaerfyrddin ac Aberystwyth yn sir Ceredigion.\n","additional_details":"Efallai eu bod mewn siroedd cyfagos, ond mae’r daith trên o Gaerfyrddin i Aberystwyth yn farathon sy’n cymryd mwy na chwe awr. Daeth Rheilffordd Manceinion a Milford, a oedd yn cysylltu Caerfyrddin ac Aberystwyth, i Dregaron yn 1866 o gyfeiriad y de. Roedd yn gweithredu fel llwybr ‘rheolaidd’ rhwng trefi Caerfyrddin ac Aberystwyth ac roedd yn cysylltu De a Gogledd Cymru, cyswllt nad yw’n bodoli bellach yn anffodus, ar lwybr mor syml, gan i adroddiad yr Arglwydd Beeching ar ail-lunio Rheilffyrdd Prydain arwain at gau llawer o reilffyrdd yn yr 1960au. Heddiw, gyda thwf Aberystwyth a Llanbedr Pont Steffan fel rhai o brifysgolion mwyaf urddasol Prydain, ynghyd â harddwch llawer o drefi glan y môr fel Aberaeron, mae trigolion Cymru’n galw am i’r llwybr trên hwn gael ei ailsefydlu. Byddai’n gwneud y gwaith o deithio i gymudwyr yn haws, yn gyflymach ac yn fwy diogel gan y gallai rheilffordd fyddai’n cysylltu prif drefi’r gorllewin leihau traffig a damweiniau ar ffyrdd gwledig sef, yn ystadegol, y rhai mwyaf peryglus. \n","state":"completed","signature_count":558,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2010-04-19T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2010-04-19T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-11-12T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2010-04-19T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-11-12T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-11-12T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":167,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/167.json"},"attributes":{"action":"Atal dinistrio mwynderau ar dir comin","background":"Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i chwilio am ffyrdd i atal dinistrio mwynderau ar dir comin, gan gynnwys tir comin y Marian yn Llangoed, Ynys Môn.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":156,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-09-29T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-09-29T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-11-09T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-09-29T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-11-09T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-11-09T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":166,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/166.json"},"attributes":{"action":"Gorfodi Safonau Lles Anifeiliaid yn y Diwydiant Ffermio Cŵn Bach yn Ne-orllewin Cymru.","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol i orfodi safonau lles anifeiliaid yn y diwydiant ffermio cŵn bach yn ne-orllewin Cymru.   \nCeir yr ymyrraeth a’r ymchwiliad annibynnol hyn o ganlyniad i’r atgasedd eang sy’n bodoli oherwydd ei bod mor rhwydd cael trwydded i ffermio cŵn bach ac yn sgil diffyg gorfodi safonau lles. Mae’r atgasedd hwn yn creu delwedd negyddol iawn o Gymru ledled Cymru, y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.Yn ein barn ni, sefydlu ymchwiliad annibynnol yw’r unig ffordd ymlaen, a bydd hyn yn gam bach tuag at adfer enw da Cymru ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.Gobeithiwn y bydd yr ymchwiliad hefyd yn cwtogi ar weithgareddau ffiaidd y ffermydd cŵn bach didrwydded.  \n  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":3753,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-09-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-09-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-10-24T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-09-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-10-24T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-10-24T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":158,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/158.json"},"attributes":{"action":"Sefydlu Tîm Criced Cenedlaethol i Gymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gefnogi’r ymgyrch i sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru.  \n  \nGwybodaeth ychwanegol: Er bod yr Alban a’r Iwerddon wedi llwyddo i ddod yn aelodau o’r Cyngor Criced Rhyngwladol a chystadlu yng Nghwpanau’r Byd, mae Cymru wedi methu â gwneud hynny. Yn wir, nid oes yr un chwaraewr o Gymru wedi chwarae criced rhyngwladol ers dros bum mlynedd o ganlyniad i fod yn gysylltiedig â Bwrdd Criced Lloegr. Yn ddiweddar, chwaraeodd tîm criced Cymru a Lloegr nifer o gemau “cartref” ym mhrifddinas Cymru, er nad oedd yr un chwaraewr o Gymru’n aelod o’r tîm. Byddai’n annerbyniol mewn unrhyw chwaraeon eraill, fel rygbi, i dîm nad yw’n cynnwys yr un Cymro, sy’n chwarae o dan fanner gwlad arall, gyda bathodyn gwlad arall ar ei frest, i fod yn chwarae gêm “gartref” ym mhrifddinas Cymru. Ni fyddai hyn yn dderbyniol ar gyfer unrhyw chwaraeon eraill, ac ni ddylai fod yn dderbyniol ar gyfer criced. Nid yw’r trefniadau presennol yn meithrin criced yng Nghymru ac, mewn gwirionedd, maent yn peri niwed i’r gêm oherwydd bod diffyg cyfle i gricedwyr o Gymru chwarae i’r safon uchaf. Ar hyn o bryd, nid yw Cymru wedi’i chynrychioli o gwbl mewn criced rhyngwladol ac mae’n rhaid i hyn newid drwy sefydlu tîm criced cenedlaethol i Gymru.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":187,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-08-16T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-08-16T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-10-03T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-08-16T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-10-03T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-10-03T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":162,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/162.json"},"attributes":{"action":"Papur Cymraeg dyddiol i Gymru","background":"Galwn ar Lywodraeth i roi grant i Gyngor Llyfrau Cymru i’w galluogi i gefnogi ac ariannu papur dyddiol yn yr iaith Gymraeg. \n","additional_details":"Mae angen papur dyddiol yn y ddwy iaith i sicrhau fod y llywodraeth yn gallu gweithredu yn ddemocrataidd, sut ar wyneb y ddaear ydy’r Llywodraeth yn gallu llywodraethu yn deg, agored a thryloyw os nad ydy’r bobl sydd yn pleidleisio drostyn nhw ddim yn gwybod yr hyn maent yn ei wneud? Faint o sylw roddir i Gymru gan bapurau dyddiol Saesneg o Loegr? Faint o sylw roddir i Gymru gan y wasg Gymreig, Saesneg ei hiaith? Yr ateb syml, ddim digon o bell ffordd ac mae yn peryglu atebolrwydd y llywodraeth ym Mae Caerdydd ac i feddylfryd y Cymry, a’u synnwyr o hunaniaeth Gymreig. Neges subliminal y rhoddir felly fel canlyniad sydd yn pefrio i mewn i bennau’r Cymry ac sydd yn eu dysgu nad ydy Cymru yn ddigon mawr a phwysig i haeddu sylw y cyfryngau torfol, dyna pam mae pobl yn wfftio’r syniad o bapur dyddiol yn Gymraeg . Prydeindod a gawn yn y papurau yma, nid Cymreictod.\n","state":"completed","signature_count":37,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-09-12T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-09-12T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-10-03T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-09-12T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-10-03T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-10-03T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":168,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/168.json"},"attributes":{"action":"Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl","background":"Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i adeiladu Uned Arennol newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful,  \n  \nCafodd yr uned bresennol ei hadeiladu ym 1989 i drin 16 claf yr wythnos, ond mae’r nifer hwnnw bellach wedi codi i 52. Gyda nifer y cleifion arennol yn cynyddu’n flynyddol, rydym yn credu ei bod yn bwysig adeiladu uned newydd yn awr er mwyn ymdopi â’r cynnydd hwn. Byddai uned newydd hefyd yn golygu y gellid trin cleifion arennol sydd ond angen mân-driniaethau yn yr uned yn hytrach na’u trosglwyddo i ysbytai eraill sydd angen y gwelyau.  \nDyma rai yn unig o’r problemau sydd gennym yn yr uned bresennol:  \n  \n1. Diffyg ardal ynysu (a allai arwain at groes-heintio)  \n2. Un toiled yn unig i gleifion gwrywaidd a benywaidd  \n3. Ardal aros gyfyng  \n4. Aerdymheru gwael  \n5. Mae’r uned wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":56,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-10-06T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-10-06T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-09-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-10-06T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-09-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-09-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":147,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/147.json"},"attributes":{"action":"Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.","background":"Mae’r Gymdeithas er Lles Ceffylau a Merlod wedi cael llif o alwadau am gymorth gan aelodau pryderus o’r cyhoedd, perchnogion ceffylau a’r heddlu ynghylch ceffylau sydd wedi’u gadael, eu hesgeuluso neu sydd wedi’u hanafu. Mae nifer ohonynt wedi eu hanafu wrth iddynt grwydro ar ein ffyrdd sy’n beryglus iawn i fodurwyr.  \n  \nDoes dim microsglodyn gan yr un o’r ceffylau hyn – sydd wedi bod yn ofyniad cyfreithiol ar ebolion ac ebolesau sydd wedi’u geni ar ôl mis Gorffennaf 2009 – sy’n golygu nad yw hi’n bosibl olrhain perchnogion y ceffylau. Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod microsglodion yn cael eu defnyddio a bod pasbortau gan geffylau fel sy’n ofynnol yn ôl Deddfwriaeth 2009.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":2114,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-06-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-06-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-09-30T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-06-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-09-30T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-09-30T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":149,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/149.json"},"attributes":{"action":"Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni","background":"Rydym yn pryderu am statws a defnydd y Gymraeg yn y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r Gymraeg bellach yn iaith swyddogol yng Nghymru, ac rydym yn falch iawn o’r datblygiad hwn. Fodd bynnag, mae’r penderfyniad i adael i’r Cofnod - dogfen o’r pwys symbolaidd mwyaf - droi bellach yn ddogfen uniaith Saesneg ar y cyfan, ar ôl iddi fod yn gwbl ddwyieithog ers 1999, yn gwbl groes i’r datblygiad hwn ac yn sathru ar statws swyddogol y Gymraeg.  \n  \nGalwn felly ar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddychwelyd at y polisi o ddarparu Cofnod dwyieithog cyflawn fel y gall pobl Cymru ddarllen trafodion Cynulliad yn eu hiaith eu hunain, boed hynny yn Gymraeg neu’n Saesneg. Mater o egwyddor yw hyn, parchu hawliau iaith pobl Cymru ar lefel sylfaenol.  \n\n","additional_details":"Llythyr at y Comisiynwyr y Cynulliad Cenedlaethol:http://cymdeithas.org/2011/06/10/llythyr\\_at\\_gomisiynwyr\\_y\\_cynulliad\\_-\\_y\\_cofnod.html \n","state":"completed","signature_count":1335,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-06-10T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-06-10T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-09-19T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-06-10T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-09-19T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-09-19T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":146,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/146.json"},"attributes":{"action":"Manylion Gwariant dros £500 gan Awdurdodau Lleol","background":"Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i gyhoeddi manylion yr holl wariant dros £500 er mwyn bod yn agored a thryloyw. Dylai’r manylion gael eu cyhoeddi ar-lein ac mewn fformat sy’n hygyrch i’r cyhoedd, gyda’r rhyddid i ailddefnyddio’r data.  \n  \nMae nifer o gynghorau yn Lloegr bellach yn cyhoeddi’r wybodaeth hon ar eu gwefannau. Mae’r wybodaeth yn barod ar gael yng nghronfeydd data’r cynghorau, felly’r cyfan sydd angen ei wneud yw casglu’r wybodaeth mewn man canolog ac mewn ffordd hygyrch sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Rheoli Data. Byddai’r gost gychwynnol yn cael ei had-dalu gan yr arbedion a ddaw yn sgîl gostyngiad yn nifer y ceisiadau rhyddid gwybodaeth y mae awdurdodau lleol yn eu cael mewn perthynas â manylion gwariant.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":77,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-05-26T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-05-26T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-09-19T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-05-26T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-09-19T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-09-19T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":145,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/145.json"},"attributes":{"action":"Ffilmio a Recordio Cyfarfodydd Cynghorau","background":"Galwn ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i’w gwneud yn ddyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol yng Nghymru i recordio neu ddarlledu holl gyfarfodydd cynghorau sy’n agored i’r cyhoedd, neu eu ffrydio ar y we, er mwyn bod yn agored a thryloyw. Dylai’r ddyletswydd hon alluogi’r cyhoedd, fel arsyllwyr cyfrifol, i recordio neu ffilmio cyfarfodydd o’r fath heb gael caniatâd o flaen llaw, a rhoi rhwydd hynt iddynt ddefnyddio’r deunyddiau y maent yn eu recordio i ddarparu cyswllt uniongyrchol ac ehangach â’r etholwyr.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":224,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-05-24T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-05-24T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-09-19T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-05-24T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-09-19T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-09-19T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":152,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/152.json"},"attributes":{"action":"Rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i basio deddf er mwyn rheoli sŵn o dyrbinau gwynt sy’n peri diflastod yn ystod oriau anghymdeithasol. Gofynnwn am gychwyn cyfnodau o seibiant pan fydd tyrbinau gwynt yn cael eu diffodd.  \n  \nMae cyfnodau o seibiant rhag sŵn yn gyffredin mewn deddfwriaeth iechyd y cyhoedd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn galw amdanynt yn ei adroddiad ar sŵn cymunedol; ac ar hyn o bryd yn y Deyrnas Unedig maent yn weithredol mewn meysydd awyr, safleoedd adeiladu, ffatrïoedd a safleoedd eraill sydd â sŵn sy’n peri diflastod gyda’r hwyr a thros nos.  \n  \nRydym yn galw ar hyn i fod yn berthnasol i dyrbinau sydd dros 1.3MW, a bod cyfnodau o seibiant rhwng 18.00 a 06.00 ar gyfer tyrbinau sydd o fewn 1.5Km i breswylfeydd unigol; a rhwng 22.00 a 06.00 ar gyfer tyrbinau sydd o fewn 2Km i gymunedau. Dylai awdurdodau yng Nghymru sy’n trafod ceisiadau am dyrbinau sy’n cynhyrchu llai na 50MW o drydan, a’r Comisiwn Cynllunio Seilwaith sy’n trafod ceisiadau ar gyfer tyrbinau sy’n cynhyrchu dros 50MW o drydan, hysbysu datblygwyr o’r cyfyngiad iechyd y cyhoedd hwn a all effeithio ar dyrbinau unigol.  \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1075,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-07-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-07-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-09-16T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-07-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-09-16T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-09-16T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":135,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/135.json"},"attributes":{"action":"Cadwch Ein Hysbyty Cymuned","background":"Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i ymchwilio i fwriad y bwrdd iechyd lleol i gau Ysbyty Blaenau a’r Cylch, a mynd i’r afael â’r mater.  \n  \nGwybodaeth ychwanegol: Mae’r ysbyty wedi gwasanaethu ein cymuned am dros 100 mlynedd, a chaiff ei ddefnyddio at lawer o ddibenion. Er enghraifft, pan fydd cleifion oedrannus yn barod i adael ysbytai eraill fel Ysbyty Nevill Hall, y Fenni, ond nad ydynt yn barod i ddychwelyd i’w cartrefi , byddant yn treulio cyfnod o amser yn ysbyty Blaenau. Mae’r ysbyty hefyd yn darparu 42 o welyau ar gyfer y gymuned mewn dwy ward, a tua 80 o staff llawn-amser a rhan- amser. Mae 32 o welyau yn ward Nantyglo ac mae 10 o welyau yn Ward y Meddygon Teulu. Mae’r ysbyty’n darparu gofal is-aciwt ac adsefydlu i gleifion mewnol gan gynnwys ffisiotherapi a therapi galwedigaethol ar gyfer y gymuned leol, ac amrywiaeth o wasanaethau i gleifion allanol gan gynnwys: meddygaeth oedolion, clinigau i gleifion allanol, cyngor ar ymataliaeth, ffisiotherapi i gleifion allanol, therapi galwedigaethol i gleifion allanol, radioleg, podiatreg, rhewmatoleg, clinigau i gleifion allanol, clinigau diabetig a dieteg ddwywaith y mis. Mae’r ysbyty hefyd yn ganolfan i dîm Ymateb Cyflym Blaenau Gwent.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":40,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-01-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-01-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-07-04T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-01-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-07-04T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-07-04T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":151,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/151.json"},"attributes":{"action":"Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau: Cynigion i foderneiddio gwasanaethau gwylwyr y glannau","background":"Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gynnal asesiad risg annibynnol o’r effaith a gaiff cau Canolfannau Cydgysylltu Achub ar y Môr yn Aberdaugleddau a Chaergybi—ac israddio’r ganolfan yn Abertawe i oriau golau dydd—ar ddiogelwch ymwelwyr â’r arfordir. \n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":293,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-06-23T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-06-23T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-07-04T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-06-23T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-07-04T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-07-04T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":148,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/148.json"},"attributes":{"action":"Gwasanaethau Trenau Arriva Cymru rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Trenau Arriva Cymru yn darparu gwasanaethau trên i gymudwyr rhwng de-orllewin Cymru a de-ddwyrain Cymru sy’n amserol, yn gyfleus, yn addas i’r diben ac sy’n cynnwys digon o seddi/gerbydau i alluogi teithwyr i deithio’n gysurus.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":85,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-06-01T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-06-01T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-06-27T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-06-01T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-06-27T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-06-27T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":144,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/144.json"},"attributes":{"action":"Dywedwch Na i Tan 8 – Mae ffermydd gwynt a llinellau pŵer foltedd uchel yn difetha ein cymuned","background":"Mae ‘Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 8: Ynni Adnewyddadwy (2005)’ yn darparu cyngor a chanllawiau sydd, heb amheuaeth, yn arwain at halogi cefn gwlad prydferth canolbarth Cymru. Bydd dilyn y canllawiau hyn yn difetha ein tirwedd brydferth; yn cynyddu’r perygl i iechyd a achosir gan belydriad electromagnetig; yn niweidio twristiaeth, sef un o’r prif sectorau cyflogaeth; yn datbrisio adeiladau ac yn achosi difrod sylweddol i’r amgylchedd.  \n  \nPan gyhoeddwyd y nodyn cyngor technegol, a elwir yn TAN 8 yn aml, gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2005, nid oedd y boblogaeth leol yn amgyffred i ba raddau y byddai’n effeithio ar drigolion canolbarth Cymru.  \n  \nBydd Nodyn Cyngor Technegol 8 yn caniatáu i gannoedd o dyrbinau gwynt gael eu hadeiladu yn ein cymunedau.  \n  \nO ganlyniad i adeiladu’r ffermydd gwynt hyn, bydd rhaid i’r Grid Cenedlaethol osod llinellau trawsyrru pŵer i gludo’r pŵer i le bydd ei angen, er ein bod yn cydnabod nad yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhan o’r broses o benderfynu ar osod y llinellau pŵer hyn.  \nRydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymgymryd ag adolygiad sylweddol o bolisi TAN 8 a fydd yn cynnwys mwy o ymgynghori â’r cyhoedd.   \n\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":3256,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-04-19T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-04-19T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-06-16T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-04-19T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-06-16T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-06-16T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":143,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/143.json"},"attributes":{"action":"Na i losgyddion","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio ei bolisi cynllunio a’i bolisi ynghylch gwastraff gweddilliol er mwyn cael rhagdybiaeth yn erbyn adeiladu llosgyddion, gan eu bod yn gyrru’r rhan fwyaf o garbon o wastraff i mewn i’r awyr ar ffurf carbon deuocsid, yn rhyddhau gronynnau mân iawn a allant fod yn beryglus i iechyd y cyhoedd, ac yn creu lludw gwenwynig. Credwn fod llosgyddion yn wael i’r amgylchedd ac yn wael i bobl.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":1301,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-03-31T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-03-31T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-06-14T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-03-31T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-06-14T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-06-14T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":140,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/140.json"},"attributes":{"action":"Galw am ryddhau gafael Cadw ar eglwysi yng Nghymru","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ymchwilio i mewn i ran Cadw yn y broses o roi caniatâd cynllunio i adeiladau rhestredig er mwyn gwneud gwaith addasu i eglwysi. Mae hyn yn rhwystro cynulleidfaoedd gweithgar a hyfyw rhag defnyddio adeiladau rhestredig yng Nghymru, a, thrwy hynny, cânt eu cadw mewn cyflwr o inertia pensaernïol: nid ydynt yn gallu elwa o ddatblygiadau modern mewn deunyddiau adeiladu, ac mae’n anodd i eglwysi wneud y newidiadau sy’n angenrheidiol er mwyn iddynt wasanaethau’r genhedlaeth nesaf a’r gymuned leol.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":147,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-03-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-03-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-06-13T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-03-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-06-13T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-06-13T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":141,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/141.json"},"attributes":{"action":"Achubwch ein hysgolion bach","background":"Rydym ni, y rhai sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru gefnogi ysgolion bach ac yn benodol i gefnogi cynghorau er mwyn iddynt gadw ysgolion bach ar agor. Rydym yn credu bod ysgolion bach yn galon cymunedau gwledig, yn hanfodol i helpu’r iaith Gymraeg i oroesi, ac, uwchlaw bob dim, yn ganolfannau o ragoriaeth academaidd i’n plant. Rydym yn gofyn bod y Cynulliad yn ailystyried sut mae’n defnyddio meini prawf y Comisiwn Archwilio i ddynodi ysgolion fel rhai bach, a’r ffordd y mae’n dewis ariannu adeiladau newydd yn hytrach nag ailnewyddu hen adeiladau.  \n  \nGwybodaeth bellach: Mae ysgolion bach yn cau ledled Cymru. Mae’r ddeiseb hon yn uno’r holl bobl sy’n pryderu bod eu hysgolion o dan fygythiad ac yn cydnabod bod hwn yn fater Cymru gyfan. Mae gan y Cynulliad bwerau i helpu i atal yr ysgolion hynny rhag cael eu cau . Mae llawer o ysgolion wedi bodoli am ddegawdau, os nad am gannoedd o flynyddoedd. Nid oes gan bawb fynediad at gar ac nid yw’n iawn i gludo plant ifanc am filltiroedd mewn bws bob dydd. Mae cau’r ysgolion hyn yn groes i egwyddorion sylfaenol datblygu cynaliadwy sydd wedi’u hymgorffori yng nghyfansoddiad y Cynulliad.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":244,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-03-21T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-03-21T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-06-13T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-03-21T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-06-13T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-06-13T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":142,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/142.json"},"attributes":{"action":"Arian a fyddai’n galluogi disgyblion sydd ag anghenion addysgol arbennig i gael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffwrd","background":"Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i gynyddu’r arian ar gyfer pobl sydd ag anabledd dysgu i gael mynediad i addysg ôl-16 prif-ffrwd. \n","additional_details":".\n","state":"completed","signature_count":45,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-03-22T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-03-22T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-06-13T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-03-22T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-06-13T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-06-13T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}},{"type":"petition","id":139,"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/139.json"},"attributes":{"action":"Polisi Tai Cymdeithasol","background":"Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu ei bolisi tai cymdeithasol mewn perthynas â phoblogaeth frodorol y wlad.  \n  \nGwybodaeth ategol: Gyda phroblemau tai parhaus yng Nghymru, mae’r ymgyrch hon yn annog Llywodraeth Cynulliad Cymru i gydnabod y ffaith hon a chymryd camau trwy adolygu’r polisi tai cymdeithasol mor fuan â phosibl. Rydym yn credu bod y polisi presennol yn gwahaniaethu yn erbyn pobl frodorol Cymru ar ystod eang o faterion ac rydym yn credu hefyd y dylai pobl leol gael mynegi barn ynghylch pwy sy’n meddiannu unrhyw lety cymdeithasol gwag yn eu hardaloedd.  \n  \nMae ar bobl Cymru wir angen eich help ar y mater hwn a bydd llofnodi’r ddeiseb hon ac annog eraill i’w llofnodi yn mynd yn bell iawn tuag at roi cyfle gwell iddynt allu galw rhywle’n ‘gartref’.\n","additional_details":null,"state":"completed","signature_count":45,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":5000,"created_at":"2011-03-16T00:00:00.000Z","updated_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","rejected_at":null,"opened_at":"2011-03-16T00:00:00.000Z","closed_at":"2011-05-31T00:00:00.000Z","completed_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","moderation_threshold_reached_at":"2011-03-16T00:00:00.000Z","referral_threshold_reached_at":"2011-05-31T00:00:00.000Z","referred_at":"2011-05-31T00:00:00.000Z","debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2016-03-01T00:00:00.000Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":null,"debate":null,"topics":[]}}]}