Deiseb a wrthodwyd Creu dull adalw ar gyfer Aelodau’r Cynulliad

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyflwyno dull lle gall etholwyr adalw eu Haelod Cynulliad a galw am is-etholiad dilynol, yn debyg i'r dull a gyflwynwyd gan Ddeddf Adalw Aelodau Seneddol 2015.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi