Deiseb a gwblhawyd Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu

​Mae Hanes Cymru'n bwysig i bob un disgybl, gan ei fod o'n rhoi cefndir am hanes ein Cenedl a'n treftadaeth i bawb sy'n mynd drwy'r system addysg. Mae yna agweddau o Hanes Cymru, megis Cyfreithiau Hywel Dda, Gwrthryfel Glyndŵr a Boddi Capel Celyn yn perthyn i bob cymuned yng Nghymru. Mae'n bryderus felly fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymwrthod ag argymhelliad y pwyllgor Diwylliant, Y Gymraeg a Chyfathrebu i greu corff cyffredin o wybodaeth ar gyfer yr holl ddisgyblion sy'n astudio hanes - Mae'n bwysig creu cwricwlwm Hanes Cymru lle mae disgyblion yn dysgu am ddigwyddiadau a materion sy'n genedlaethol, yn ogystal â dysgu am Hanes eu cymunedau a'u hardaloedd nhw.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

7,927 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 4 Tachwedd 2020

Gwyliwch y ddeiseb ‘Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu corff cyffredin o wybodaeth am Hanes Cymru fydd pob disgybl yn ei ddysgu’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 4 Tachwedd 2020