Deiseb a wrthodwyd Dylai pob sefydliad bwyd, o dan y gyfraith, gadw amrywiaeth o gynhyrchion heb glwten

​Gall llysieuaeth a feganiaeth fod yn ddewis i lawer o bobl oherwydd athroniaeth gysylltiedig sy'n ymwrthod â thrin anifeiliaid fel nwyddau. Ond nid oes dewis gan bobl sydd ag anhwylderau sy'n gysylltiedig â glwten e.e. clefyd seliag, sensitifrwydd i glwten heb fod yn seliag, atacsia a achosir gan glwten, dermatitis herpetiformis ac alergedd i wenith. Mae llawer o sefydliadau bwyd yn darparu ar gyfer anghenion llysieuwyr a feganiaid, ond ymddengys nad oes sylw yn cael ei roi i bobl sy'n gorfod byw heb glwten. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn mynd allan am bryd o fwyd neu godi byrbryd ar y ffordd i'r gwaith, gan nad oes bwydlen heb glwten neu mae diffyg opsiynau.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi