Deiseb a wrthodwyd Peidio â gwneud TGAU Cymraeg yn orfodol mewn ysgolion Saesneg eu hiaith yng Nghymru

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i beidio â gwneud Cymraeg TGAU yn orfodol mewn ysgolion Saesneg eu hiaith yng Nghymru. Er ei bod yn bwysig gwarchod y Gymraeg, rydym yn credu y dylai plant y mae eu rhieni wedi dewis eu hanfon i ysgolion Saesneg eu hiaith gael dewis. Y plant hyn yw dyfodol Cymru. Rhowch ddewis iddynt.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi