Deiseb a gwblhawyd Cyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer biniau ailgylchu a chasglu deunyddiau i’w hailgylchu ym mhob lleoliad addysg yng Nghymru

​Ar hyn o bryd, mae cynghorau yng Nghymru yn codi tâl ar ysgolion i gasglu gwastraff i'w ailgylchu. O gofio bod eu cyllid blynyddol yn gyfyngedig, mae'n anodd i ysgolion dalu'r gost hon. O ganlyniad, mae llawer iawn o wastraff i'w ailgylchu yn mynd i safleoedd tirlenwi gan nad oes gan ysgolion finiau ailgylchu ac nid yw'r Cyngor yn trefnu i gasglu'r gwastraff hwn. 

Ym mis Ebrill 2019, penderfynodd Llywodraeth Cymru ddatgan argyfwng hinsawdd ond, er hynny, nid yw athrawon a dysgwyr yn gallu cyfrannu at leihau eu hallyriadau carbon lle maent yn gweithio neu'n dysgu. Bydd llawer o athrawon yn cymryd deunyddiau o'u hystafelloedd dosbarth i'w hailgylchu gartref, neu bydd Clybiau Eco mewn ysgolion yn casglu gwastraff, ond mae angen cysondeb yn genedlaethol, fel bod ailgylchu'n dod yn arfer gartref ac yn yr ysgol.

Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cyllid i ganiatáu i hyn ddigwydd ar hyd a lled y wlad, i ddangos ei bod yn cadw at ei harwyddair, sef ein bod yn wlad fach ag uchelgais fawr.  

Rhagor o fanylion

​Mae'n baradocs llwyr ein bod yn dysgu disgyblion i fyw'n fwy cynaliadwy a bod yn fwy ymwybodol o'r amgylchedd, ond yn yr union leoedd maen nhw'n dysgu am y materion hyn, ni allant roi'r hyn y maent yn ei ddysgu ar waith.

Nod cwricwlwm Dyfodol Llwyddiannus yw creu ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd. Dylai fod yn bosibl i bob ysgol ailgylchu deunyddiau fel rhan o fod yn ddinesydd egwyddorol, yn enwedig mewn gwlad sy'n ail yn y byd am ailgylchu gwastraff cartref.

Rhaid i ailgylchu ym mhob ysgol fod yn rhan annatod o nod Llywodraeth Cymru i fod yn wlad ddiwastraff erbyn 2050 a rhaid iddynt fod yn rhan o Gynllun Carbon Isel Cymru.

Rhaid gwneud mwy na dim ond hyrwyddo cyfrifoldeb personol a rhaid galluogi a grymuso ein pobl ifanc i weithredu a gwneud dewisiadau er gwell a rhaid i addysgwyr a phawb sy'n gweithio mewn ysgolion fedru gweithredu'n unol â'r negeseuon y maent yn eu cyflwyno i bobl ifanc. 

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

81 llofnod

Dangos ar fap

5,000