Deiseb a wrthodwyd Atal y dreth gyngor dros dro: COVID-19

​Mae pobl Cymru yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i atal y dreth gyngor dros dro yn sgîl y pandemig COVID-19.

 

Mae pobl Cymru yn cydymffurfio â chanllawiau’r Llywodraeth ar ynysu cymdeithasol drwy osgoi teithio diangen, gweithio o gartref pan fydd hynny'n bosibl, addysgu eu plant gartref, osgoi eu teulu, eu ffrindiau a’u cymdogion.

 

Gorfodwyd pobl i gau eu busnesau, mae swyddi wedi’u colli, effeithiwyd ar eu hincwm a’u contractau, ac mae gan bawb ofnau gwirioneddol am ddiogelwch eu hanwyliaid.

Roedd llawer o bobl yn cael trafferth i dalu eu biliau misol yr aelwyd cyn i'r pandemig gyrraedd Cymru. Yn awr, yn y cyfnod digyffelyb hwn, mae ar bobl Cymru angen sicrwydd y bydd eu cynghorau lleol yn atal taliadau'r dreth gyngor dros dro, nes y gall pobl ddychwelyd i'r gwaith.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi