Deiseb a gwblhawyd Talu grantiau Coronafeirws i bob busnes sy'n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach, yr un fath â gweddill y DU

Ar 17 Mawrth 2020 cyhoeddodd y Canghellor y byddai pob busnes bach â llai na 9 o weithwyr ac sy’n gymwys i gael Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach yn cael grant o £10,000 (y Gronfa Grantiau i Fusnesau Bach).

Ar 8 Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw diwygiedig o ran llety hunanarlwyo. Mae'r newid hwn mewn polisi wedi eithrio miloedd o fusnesau dilys rhag cael cyllid grant sydd ei angen arnynt yn druenus, gan nad oes ganddynt incwm yn ystod argyfwng y Coronafeirws.

Rhagor o fanylion

Mae Llywodraeth Cymru wedi gorfodi pob busnes llety gwyliau i gau oherwydd argyfwng y Coronafeirws, ac mae'r holl leoedd a gadwyd wedi’u canslo. Erbyn hyn, nid oes gan y busnesau hynny unrhyw incwm ond maent yn dal i orfod gwario ar ariannu a chynnal a chadw'r eiddo, a gallai hynny beri caledi ariannol mawr.

Yng ngweddill y DU, mae pob awdurdod lleol wedi talu'r cyllid grant i fusnesau gosod gwyliau hunanarlwyo. Mae'n annheg iawn nad yw'r grantiau hyn a ariennir yn ganolog yn cael eu cymhwyso'n gyfartal ledled y wlad, ac yn groes i addewid y Canghellor.

Mae'r newid hwn mewn polisi eisoes yn achosi problemau yn yr ardal, fel y gwelir yn yr erthygl hon yn y wasg leol: https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/second-home-crackdown-hitting-genuine-18139173

Llofnodwch i ofyn i Lywodraeth Cymru ddiddymu'r newid polisi hwn a dosbarthu'r Gronfa Grantiau i Fusnesau Bach yn deg fel y gwnaed yng ngweddill y DU.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

360 llofnod

Dangos ar fap

5,000