Deiseb a gwblhawyd Diogelwch ar y ffyrdd: Gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr drwy Benparcau, Aberystwyth.

Byddai gostwng y terfyn cyflymder ar gefnffordd yr A487 i 20 milltir yr awr yng nghymuned drefol boblog Penparcau, sy’n gartref i dros 1,000 o blant, sef y nifer uchaf yng Ngheredigion, yn gwella diogelwch, yn hyrwyddo llesiant ac yn hybu cynaliadwyedd drwy annog pobl i wneud dewisiadau amgen o ran teithio llesol. Mae’r A487 yn cynnig mynediad at ysgol gynradd ac at Hwb Cymunedol Fforwm Cymunedol Penparcau, a dyma’r unig ffordd o gael mynediad at y Swyddfa Bost leol a siopau’r gymuned.

Rhagor o fanylion

Ar hyn o bryd, mae’r A487 yn rhwystr rhwng dwy ochr ardal breswyl Penparcau. Byddai gostwng y terfyn cyflymder o 30 milltir yr awr i 20 milltir yr awr yn galluogi plant, yn ogystal ag aelodau’r gymuned leol, i gael mynediad mwy diogel at eu hysgol leol, at weithgareddau cymunedol (a gynhelir mewn tair canolfan a neuadd gymunedol sydd drws nesaf i’w gilydd), at ddwy eglwys ac at barc a man chwarae. Mae cydymffurfio â Deddf Llesiant Cymunedau’r Dyfodol yn hanfodol, ac mae’n hollbwysig gostwng y terfyn cyflymder ar y ffordd hon i leihau allyriadau carbon a llygredd, yn ogystal ag annog rhagor o bobl i deithio’n llesol a defnyddio’r seilwaith feicio lleol. Byddai hyn yn gwella diogelwch yn y gymuned, yn lleihau llygredd ac yn hybu cynaliadwyedd, a fyddai yn ei dro yn arwain at lai o anghydraddoldeb o ran iechyd yn y gymuned leol.

Fel ardal Cymunedau’n Gyntaf yn y gorffennol, ac fel ardal sy'n wynebu nifer sydd yn uwch na’r cyfartaledd o ffactorau amddifadedd lluosog, dylai Llywodraeth Cymru flaenoriaethu camau i fynd i’r afael â’r mater hwn i hyrwyddo cynhwysiant cymunedol a threchu anghydraddoldeb.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

335 llofnod

Dangos ar fap

10,000