Deiseb a wrthodwyd Archwilio pa mor ymarferol fyddai cyfleuster dylunio a gweithgynhyrchu ar gyfer Offer Meddygol yn GIG Cymru

Mae digwyddiadau diweddar wedi dangos, er bod GIG Cymru wedi'i 'ddatganoli', fod San Steffan yn dal i ymyrryd.
Sgandal profion Covid Roche, problemau PPE, a gwybodaeth gamarweiniol am y cyfyngiadau cloi yn Lloegr yn cael ei chyhoeddi heb ddangos yn glir beth oedd canllawiau’r seneddau datganoledig.
Hefyd, honnir bod y GIG yn gyffredinol wedi cael ei 'herwgipio' gan brynwyr sy'n talu arian parod am offer (ee peiriannau anadlu) a archebwyd yn flaenorol ar gyfer y DU.

Rhagor o fanylion

Byddai cyfleuster o'r math yma o fudd i GIG Cymru a’r wlad gyfan, byddem yn manteisio ar y canlynol:-
Cyflenwad Diogel – Dim rhagor o ymyrraeth allanol
Cost Is yn sgil Perchnogaeth – caffael a chymorth
Cost Defnyddio – Symleiddio’r stocrestr
Cyflenwad pahaus o Ddarnau Sbâr – darnau sbâr am bris synhwyrol, cymorth am gyfnod hirach i offer heb gost gwarantau estynedig
Rhyngwynebau Cyffredin – Gwallau Llai Aml
Addasu ac Arloesi – Gan ddefnyddio’r arbenigedd clinigol yn GIG Cymru, adrannau Clinigol, EBME a Ffiseg Meddygol ar draws y gwasanaeth gellid cael offer sy'n addas at y diben heb unrhyw 'ategolion' diangen; dylai fod yn bosibl dylunio a chynhyrchu offer sy'n addas at y diben, sy'n ddigon cadarn i oroesi’r defnydd trwm ohono yr amgylchedd Gofal Iechyd
Cymorth a chanllawiau ar gael o'r tu mewn, cymorth gydol oes a gwaredu yn y pen draw
Swyddi Uwch Dechnoleg – Creu peirianwyr medrus iawn, trwy lwybr dwyochrog i mewn i EBME
Ailddatblygu ardaloedd ôl-ddiwydiannol sy’n brin o swyddi.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi