Deiseb a gwblhawyd Sicrhau bod pob ysgol gynradd yn cadw pellter cymdeithasol o 1 metr fan lleiaf ym mis Medi 2020.

Rhaid amddiffyn ein plant, ac amddiffyn ein GIG.

Nid yw'n gyfrinach bod ein GIG yn ei chael hi’n anodd ymdopi â phwysau'r gaeaf bob blwyddyn, gan gynnwys y ffliw tymhorol, a bod ysbytai'r DU yn llawn o ganlyniad i’r pwysau hyn. Bob blwyddyn, mae ein sianeli newyddion a’n ffrydiau newyddion yn llawn straeon am y pwysau hyn. Byddai cynnydd sydyn mewn achosion o’r coronafeirws yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG, gan arwain, o bosibl, at chwalu’r system. Er gwaethaf hyn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu anfon ein plant yn ôl i’r ysgol, a hynny heb fesurau cadw pellter cymdeithasol i'w hamddiffyn.

Rhagor o fanylion

Mae tystiolaeth yn dangos bod angen lefel o normalrwydd ar blant er mwyn atal problemau iechyd meddwl a sicrhau ffyrdd iach o fyw iddynt. Gan gydnabod hyn, a chadw mewn cof y peryglon sy’n wynebu ein plant a’r GIG, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i ailystyried ei chynnig, ac i ystyried cynnig cyfuniad o addysg gartref ffurfiol, drwy ddysgu o bell, a pharhau â’r fodel “swigen”, sy'n hwyluso mesurau cadw pellter cymdeithasol. Byddai hyn yn caniatáu i blant ddychwelyd i'r ysgol yn rhan amser, ond byddai hefyd yn caniatáu iddynt ymgymryd ag astudiaethau ffurfiol amser llawn. Rwy'n cynnig y dylai'r dull hwn gael ei weithredu hyd at dymor y gwanwyn, pan fydd y cyfnod blynyddol o bwysau'r gaeaf wedi pasio.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

124 llofnod

Dangos ar fap

5,000