Deiseb a gwblhawyd Rhyddhau'r £59 miliwn o bunnoedd i'r celfyddydau er mwyn atal lleoliadau cerddoriaeth lleol ar lawr gwlad rhag cau

Mae llawer o'r lleoliadau celfyddydol ac adloniant yn wynebu cael eu cau yn fuan. Oni bai fod Llywodraeth Cymru yn dechrau trefnu cymorth yn syth drwy ddyrannu’r £59 miliwn o bunnoedd sydd ganddi ar gyfer y diwydiant bydd llawer o leoliadau yn cau.

Rhagor o fanylion

Yn anffodus, mae adloniant a'r celfyddydau fel petaent ar waelod blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ychydig iawn o drafod sy'n digwydd ac mae diffyg gwybodaeth dim ond yn ychwanegu at y broblem.

Cefnogwch y diwydiant adloniant drwy arwyddo'r ddeiseb hon cyn i ddiwydiant hanfodol arall gael ei golli yn eich ardal chi a mwy o bobl wynebu diweithdra.

Mae'n bryd i Lywodraeth Cymru ddangos cefnogaeth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

100 llofnod

Dangos ar fap

5,000