Deiseb a gwblhawyd Cyhoeddi canllawiau a chynllun talebau i achub gweithgarwch y sector babanod a phlant bach yng Nghymru

Yn dilyn y ddeiseb ar gyfer y sector hwn yn Lloegr, rydym ni yng Nghymru am gael yr un eglurder a chanllawiau!

Mae grwpiau babanod a phlant bach yn hanfodol i lesiant rhieni newydd sy’n ysu iddynt ddychwelyd ar ôl y cyfyngiadau symud. Mae darparwyr yn cael trafferth i ailagor oherwydd canllawiau anghyson. Rydym yn galw ar y Llywodraeth i gyhoeddi canllawiau wedi'u targedu a chynllun talebau ar gyfer y sector hwn sy'n cael ei anwybyddu.

Bydd canllawiau pwrpasol yn galluogi busnesau i ddychwelyd ac yn achub rhieni newydd rhag cyfnod estynedig o ynysu.

Rhagor o fanylion

Ni fydd llawer o rieni yn gallu fforddio dosbarthiadau sy’n ddiogel o ran covid, tra bod Canolfannau Plant yn dal ar gau. Byddai cynllun talebau yn helpu'r sector i adfer ac yn cefnogi iechyd meddwl ôl-enedigol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

91 llofnod

Dangos ar fap

10,000