Deiseb a gwblhawyd Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad

Ar 21 Gorffennaf 2020 cyhoeddwyd y tri adroddiad ynghylch llesddaliad a chyfunddaliad preswyl gan Gomisiwn y Gyfraith (gweler y manylion ychwanegol). Rydym o’r farn y dylai’r argymhellion o’r adroddiadau hyn gael eu gweithredu ar unwaith yng nghyfraith Cymru, heb oedi, er mwyn gwella bywydau dros 400,000 o lesddeiliaid Cymru. Mae dros wyth mlynedd ers i’r Alban arwain y ffordd a diddymu lesddaliad o’u tai, ac yn sgil yr adroddiad hwn mae gan y Senedd fandad clir, bellach, i gymhwyso mesurau deddfwriaethol.

Rhagor o fanylion

https://www.lawcom.gov.uk/project/residential-leasehold-and-commonhold/

Cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith dri adroddiad gan argymell diwygiadau i dri maes o fewn y gyfraith:
(1.) rhyddfreinio lesddaliad, sef yr hawl i bobl sy'n berchen ar eiddo ar lesddaliad hir (“lesddeiliaid”) brynu'r rhydd-ddaliad neu ymestyn eu lesddaliad
(2.) yr hawl i reoli, sy'n hawl i lesddeiliaid gymryd yr awenau o ran rheoli eu hadeilad heb brynu'r rhydd-ddaliad
(3.) cyfunddaliad, sy'n caniatáu perchnogaeth rhydd-ddaliadol fflatiau, gan gynnig ffordd arall o fod yn berchen ar eiddo sy'n osgoi diffygion perchnogaeth lesddaliadol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

425 llofnod

Dangos ar fap

10,000