Deiseb a gwblhawyd Capiwch holl dreth gyngor sir Cymru ar 3 y cant. Rhaid cynnal refferendwm o’r cyhoedd os dymunir mynd dros 3 y cant

Dwi wedi bod yn byw yn Sir Conwy y rhan fwyaf o fy mywyd, cefais fy ngeni yn y Rhyl, o rieni o Gymru, ac erbyn hyn dwi wedi ymddeol ac fel pawb arall rydym wedi gorfod dioddef cynnydd o 14.5 y cant yn y dreth gyngor yn ystod y dwy flynedd ddiwethaf. Rydym ar fin cyrraedd sefyllfa lle y bydd yn rhaid i bobl sy'n byw yng Nghymru naill ai leihau maint eu cartrefi neu symud i Loegr lle mae capio ar dreth o’r fath yn parhau i fod mewn grym. Bydd hyn, ynghyd â Llywodraeth Cymru a fydd yn rheoli 50 y cant o’n treth incwm cyn bo hir, yn gyrru pobl a busnesau allan o Gymru.

Rhagor o fanylion

Mae'r dreth gyngor ar gyfer 2 o bensiynwr sy'n byw gyda'i gilydd mewn eiddo safonol y gwnaethon nhw ei adeiladu eu hunain bellach yn dileu dros 1/6 o gyfanswm incwm eu pensiynau. Yna, ar hyn o bryd mae £1000 o gyfanswm incwm eu pensiwn yn cael ei drethu ymhellach ar gyfradd o 20 y cant.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

524 llofnod

Dangos ar fap

10,000