Deiseb a gwblhawyd Dylai penderfyniadau ar y cyd ac adolygu cynlluniau gofal iechyd meddwl misol fod yn ofyniad cyfreithiol

Ar 27 Awst 2020, lladdodd ein Bronwen annwyl ei hun ar ôl brwydr hir gyda'i hiechyd meddwl.

Rydym ni, fel teulu, wir yn credu y gallai hynny fod wedi cael ei atal. Yn ystod 6 mis olaf ei bywyd, dirywiodd iechyd meddwl Bronwen yn sylweddol. Gwnaeth sawl ymdrech i ladd ei hun, gan roi ei hun mewn sefyllfaoedd peryglus yn rheolaidd. Roedd Bronwen mewn anobaith—nid oedd ei chynllun gofal yn addas at y diben ac roedd hi a'r teulu'n erfyn ar i rywbeth newid.

Rhagor o fanylion

Gwnaethom ni, a Bronwen hithau, erfyn ar i rywun wrando arnom. Cawsom ein hanwybyddu.

Rydym yn ymdrechu am benderfyniadau ar y cyd ac adolygiadau rheolaidd o gynlluniau gofal a thriniaeth iechyd meddwl. Rydym hefyd yn galw am gyfle i'r berthynas agosaf gyfrannu i’r adolygiadau hynny. Mae canllawiau presennol NICE yn nodi bod penderfyniadau ar y cyd yn hanfodol er mwyn diwallu anghenion y claf.

Mae NICE yn nodi bod penderfyniadau ar y cyd yn bwysig er mwyn:

  • trefnu bod dewisiadau gwahanol ar gael i'r claf ac i’r rhain gael eu trafod yn agored.

  • trefnu i’r penderfyniad terfynol gael ei wneud ar y cyd gan y gweithiwr iechyd proffesiynol a'r claf.

  • helpu gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i addasu'r gofal neu'r driniaeth yn ôl anghenion yr unigolyn.

Nid felly y bu hi yn achos Bronwen. Mae penderfyniadau ar y cyd yn HANFODOL i gleifion gael y gofal gorau sydd wedi'i addasu yn ôl eu hanghenion unigol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,462 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Busnes arall y Senedd

Ymgynghoriad ar anghydraddoldebau iechyd meddwl

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd wedi lansio ymgynghoriad ar anghydraddoldebau iechyd meddwl ac mae ar agor tan ddydd Iau 24 Chwefror 2022: https://busnes.senedd.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=444&RPID=1027951132&cp=yes.