Deiseb a gwblhawyd Cyflwyno moratoriwm ar gymeradwyo unrhyw losgyddion gwastraff newydd ar raddfa fawr yng Nghymru.

O ystyried yr ymdrech i ddod yn economi gylchol, ddiwastraff, dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno moratoriwm ar ddatblygu unrhyw losgyddion gwastraff newydd (gan gynnwys ynni o wastraff) ac atal dilyniant unrhyw geisiadau i gynllunio llosgyddion sydd ar y camau cyn ymgeisio/cyn cymeradwyo. Mae llosgi gwastraff yn arwain at allyriadau, gan gynnwys CO2 nad yw’n cael ei gyfyngu ar hyn o bryd o dan reoliadau losgyddion.

Rhagor o fanylion

Wrth ddatblygu ei Strategaeth Economi Gylchol, mae'n amlwg bod y rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru yn teimlo'n gryf yn erbyn llosgi:
https://llyw.cymru/sites/default/files/consultations/2020-09/tu-hwnt-i-ailgylchu-crynodeb-o-ymatebion_1.pdf
Fel y nodir yn y linc uchod: “Er bod rhanddeiliaid yn cytuno â dadgymell llosgi ac yn cydnabod y gallai treth llosgi leihau’r farchnad ar gyfer peidio ag ailgylchu gwastraff, dywedwyd sawl gwaith nad yw treth yn mynd yn ddigon pell. Wrth symud tuag at economi gylchol, roedd ymatebwyr o’r farn y byddai llai o wastraff yn cael ei gynhyrchu ac, felly, byddai presenoldeb llosgwyr yn anghydnaws â’r cysyniad.”
O ystyried bod llosgyddion newydd yng Nghymru ar y cam cyn ymgeisio/cyn cymeradwyo, dylai Llywodraeth Cymru atal datblygiad unrhyw losgyddion newydd, yn enwedig wrth iddi ddatblygu ei Strategaeth Economi Gylchol a ddylai gynnwys ystyriaeth o’i chapasiti llosgi presennol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

891 llofnod

Dangos ar fap

5,000