Deiseb a gaewyd Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Credwn fod llawer o’r rheini sy’n gadael gofal yn cerdded allan o'u lleoliadau gan nad oes llawer o ystyriaeth yn cael ei rhoi i'w profiadau blaenorol na’u lles meddyliol er bod gan fabi hawl i aros gyda'i riant/rhieni os yw'n ddiogel gwneud hynny.

Rhagor o fanylion

Mae llawer o rheini sy’n gadael gofal yn profi ymyrraeth gan wasanaethau cymdeithasol pan fyddant yn rhoi genedigaeth. Mae hyn yn aml oherwydd eu hanes a/neu ddiffyg canllawiau gan eu rhieni eu hunain. Heb os, mae’r rhai sy'n gadael gofal wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod ac yn aml yn dioddef o orbryder yn eu bywydau fel oedolion. Yn aml nid ydyn nhw erioed wedi teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi yn ystod eu plentyndod ac mae cael eu lle eu hunain wedi bod yn hafan ddiogel iddynt lle maen nhw’n gallu ymlacio'n llwyr. Ar hyn o bryd, os oes unrhyw bryderon, mae rhiant yn cael ei gludo o’i gartref, ei deulu a’i ffrindiau ac yna’n cael ei roi mewn cartref maeth neu gartref preswyl i’w asesu heb fawr o ystyriaeth i’r hyn sy’n sbarduno’r rhiant, a’i les meddyliol. Credwn fod hyn yn aml yn achosi cyfnod emosiynol dros ben ac yna mae rhieni'n gadael eu lleoliadau gan ddifaru am byth y penderfyniad brys a wnaed mewn eiliad bryderus na fyddai wedi digwydd pe bai'r sefyllfa wedi cael ei thrin â mwy o empathi. Rydym am wybod y ffeithiau i weld a oes angen ateb gwell ar gyfer y rhiant a'r plentyn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

60 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 12 Gorffennaf 2023

Gwyliwch y ddeiseb ‘Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn ’ yn cael ei thrafod

Cafodd dadl ar y cyd y Pwyllgor Deisebau a’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, ei drafod gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 12 Gorffennaf 2023.

Busnes arall y Senedd

Adroddiad y Pwyllgor

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deisebau ei adroddiad ar Ddeiseb P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn ar 02 Mawrth 2023: https://senedd.cymru/media/ra4amykw/cr-ld15703-w.pdf.

Cafodd ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor ei cyhoeddi ar 14 Mehefin 2023: https://senedd.cymru/media/lc2bv220/gen-ld15892-w.pdf.