Deiseb a gwblhawyd Dylid caniatáu i athletwyr amatur mewn ardal sydd o dan gyfyngiadau lleol barhau i hyfforddi a chael hyfforddiant y tu allan i'r ardal honno

Mae canolfan sglefrio Glannau Dyfrdwy ar hyn o bryd yn cael ei defnyddio fel ysbyty maes, sy’n golygu bod ein sglefrwyr yn gorfod teithio i ganolfan sglefrio Widnes gan mai honno yw’r ganolfan sglefrio agosaf. Mae rheolau cyfyngiadau lleol bellach yn eu atal rhag hyfforddi gan nad ydynt yn cael teithio allan o'r ardal. I’r rhan fwyaf o chwaraeon yn ardal y cyfyngiadau lleol mae cyfleusterau ar gael o hyd, ond nid ar gyfer sglefrio iâ. Gall peidio â gadael i'r sglefrwyr hyn hyfforddi gael effaith niweidiol ar eu lles corfforol a’u lles meddyliol.

Rhagor o fanylion

Mae hefyd effaith negyddol ar yr hyfforddwyr sglefrio gan eu bod yn cael teithio at ddibenion gwaith, ond byddant yn colli incwm am nad yw eu disgyblion yn cael teithio i’r gwersi.
Gadewch i’r ffaith nad oes ganddynt gyfleuster i hyfforddi fod yn esgus rhesymol iddynt gael teithio ar gyfer chwaraeon.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

176 llofnod

Dangos ar fap

5,000