Deiseb a gwblhawyd Polisi a chyllid clir ar gyfer ysbytai a chartrefi gofal ar gyfer ymweliadau rhithwir yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud

Yn anffodus, dim yr unig rai oedd heb gyswllt ag anwyliaid mewn ysbytai a chartrefi gofal. Mae gan fy mam glefyd alzheimer ac ni all godi’r ffôn na defnyddio sgwrs fideo i gadw mewn cysylltiad. Yn ystod y cyfyngiadau symud gwreiddiol, welson ni ddim sut roedd yn edrch am 9 wythnos, ac roedd yn ofnadwy. Nid yw canllawiau Llywodraeth Cymru yn ddigon clir ac nid oes gan bob lleoliad yr arian ar gyfer offer. Mae’n rhaid i hyn newid. Dylai fod cynllun clir ym mhob man, a'r gallu i gadw teuluoedd mewn cysylltiad.

Rhagor o fanylion

Er fy mod yn deall yr anghenion diogelwch o ran cadw pobl sy'n agored i niwed yn ddiogel rhag covid, nid wyf yn deall y diffyg ystyriaeth o ran iechyd meddwl cyffredinol pobl. Rwyf yn adnabod llawer o bobl yn yr un sefyllfa gyda rhywun annwyl ac nid oes yr un ysbyty na chartref gofal yn gwneud yr un peth. Siawns y dylai cyfleusterau ac ysbytai gael cyllid ar gael a chanllawiau clir ar gadw teuluoedd mewn cysylltiad fel rhan o ofal cyfannol yr unigolyn hwnnw. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi y dylai pobl ag anableddau dysgu neu ddementia gael ymwelwyr os na fyddai gwneud hynny'n achosi gofid. Ceisiwch brofi bod diffyg cyswllt yn achosi pryder i rywun nad yw weithiau'n gwybod pwy ydych chi. Mae canllawiau'n nodi bod diwedd oes yn rheswm dros ymweliadau, ond pwy sy'n penderfynu ar ba adeg yn yr achos hwnnw y gallwch ymweld? pan nad yw'r person yn ymwybodol eich bod yno? Nid yw'n ddigon clir. Mae amser yn werthfawr ac mae angen arweiniad a chyllid clir arnom fel bod pobman yn dilyn yr un peth a bod teuluoedd yn gwybod bod gobaith o gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

187 llofnod

Dangos ar fap

5,000