Deiseb a gwblhawyd Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol

Mae gormod o blant yn dioddef mewn distawrwydd, yn hunan-niweidio neu'n cyflawni hunanladdiad. Nid yw annog plant i fod yn garedig wrth ei gilydd yn gweithio. Nid yw bwlis yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd. Dylid gwneud bwlio ac aflonyddu yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol (10 oed+).

Rhagor o fanylion

Yn amlach na pheidio y dioddefwyr a'u teuluoedd sy'n gorfod ymdopi â chanlyniadau bwlio, nid y bwlis. Mae llawer o blant yn cyflawni hunanladdiad neu yn cael eu bywydau wedi'u dinistrio, ond mae bwlis yn byw gweddill eu bywydau heb wynebu unrhyw ganlyniadau am eu gweithredoedd. Yn aml ni fydd plant yn codi llais oherwydd eu bod yn teimlo'n ddi-rym ac yn credu nad oes modd atal y bwlio. Os byddai hyn yn gyfraith yna fe allai plant deimlo'n fwy hyderus i godi llais yn erbyn eu bwlis. Mae bwlio ac aflonyddu yn y gweithle wedi'i warchod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Pam na all plant gael yr un amddiffyniad?

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

94 llofnod

Dangos ar fap

10,000