Deiseb a wrthodwyd Grantiau ar gyfer cwmnïau cyfyngedig a hepgorwyd o gymorth yn sgil COVID-19

Mae'r llywodraeth wedi cefnogi cwmnïau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer TAW a busnesau sydd â mwy na £50,000 o drosiant. Mae'r cwmnïau llai o faint sydd â llai o drosiant a HEB eu cofrestru ar gyfer TAW wedi'u hepgor o unrhyw gymorth nad oes angen ei ad-dalu. Mae'r Gronfa Cadernid Economaidd wedi bod yn rhoi £10,000 i fusnesau sy'n bodloni'r meini prawf ac mae’r busnesau llai o faint sy'n ceisio goroesi'r pandemig a thyfu yn y dyfodol wedi’u hanghofio a'u hanwybyddu. Mae angen cywiro'r driniaeth annheg hon.

Rhagor o fanylion

Rwy'n gwybod bod llawer o fusnesau wedi’u gwthio yn erbyn wal heb ddim cymorth ariannol, yn union fel fy un i.

Mae fy musnes yn gweithredu yn y sector lletygarwch yn cefnogi sefydliadau eraill. Mae gennyf weithwyr TWE. Oherwydd y pandemig, rhwng 03/2020 a 08/2020, incwm fy musnes oedd £0.00. Cefais 3 wythnos o waith yn ystod y cynllun bwyta allan i helpu allan a daeth fy incwm i ben yr un pryd â’r cynllun. Rwyf am allu masnachu a pharhau i fasnachu ar ôl y pandemig ond nid wyf wedi cael dim cymorth ariannol ar gyfer fy musnes heblaw am gael cynnig benthyciad adfer nad oeddwn barod i'w gymryd, gan ei fod yn creu dyled ar gyfer y dyfodol. Pe gallai'r llywodraeth gynnig grant am 25 y cant o drosiant blynyddol busnes ar gyfer cwmnïau sy'n ennill llai na £50,000, byddai'n gyfle i gwmnïau llai o faint oroesi, symud ymlaen, cyflawni a chyflogi yn y dyfodol. Rydym wedi cael ein hepgor, ein hanghofio a'n hanwybyddu. Rydym am gael cyfle cyfartal a theg fel y mae eraill wedi’i gael.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi