Deiseb a gwblhawyd Dylid diogelu Gwarchodfa Natur Cynffig gan ddefnyddio pwerau prynu gorfodol

Mae un o’r gwarchodfeydd natur gorau yng Nghymru o dan fygythiad.
Mae angen rheoli’r cynefinoedd twyni tywod o bwysigrwydd rhyngwladol yng Nghynffig, neu fel arall byddant yn colli eu gwerth eithriadol. Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr oedd yn gwneud y gwaith hwn ers blynyddoedd lawer, ond bu’n rhaid iddo roi’r gorau i’r gwaith oherwydd pwysau ariannol.
Nid yw perchennog y safle, sef corff cyfrinachol ac anatebol o’r enw Corfforaeth Cynffig, wedi bod yn barod i gytuno ar unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol. Efallai mai prynu gorfodol yw’r unig ddewis sydd ar ôl.

Rhagor o fanylion

Caiff twyni tywod Cynffig eu cydnabod fel Ardal Cadwraeth Arbennig, sef dynodiad cadwraeth natur uchaf Ewrop.
Mae gan Gorfforaeth Cynffig statws elusennol, ac felly mae’n ofynnol iddo, yn ôl y gyfraith, wneud penderfyniadau er budd y cyhoedd. Bu Cyfoeth Naturiol Cymru, sef asiantaeth cadwraeth natur gyhoeddus y wlad, yn ceisio trafod gyda’r gorfforaeth i sicrhau dyfodol y safle, ond mae’r trafodaethau hyn wedi cyrraedd pwynt amhosibl ei ddatrys. Nid fu’r Gorfforaeth yn barod i gytuno i unrhyw un o’r opsiynau a ginigwyd, er nid yw’n eglur pam. Mae’n bryd i’r penderfyniad gael ei gymryd allan o’u dwylo.
Mewn achosion eithriadol, pan fydd budd amlwg i’r cyhoedd, mae gan
Lywodraeth Cymru y grym i brynu’n orfodol er mwyn amddiffyn safle fel Cynffig. Nid oes yn rhaid i orchymyn prynu gorfodol fod yn gostus: nid oes gwerth masnachol i’r safle, ac felly nid oes dim rheswm pam na all Corfforaeth Cynffig ei werthu i Lywodraeth Cymru am swm enwol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

8,435 llofnod

Dangos ar fap

5,000

Penderfynodd y Pwyllgor Deisebau beidio â chyfeirio’r ddeiseb hon ar gyfer dadl

Penderfynodd y Pwyllgor fod gwaith craffu gan bwyllgor yn gyfrwng mwy addas ar gyfer ymdrin â’r mater a godwyd na dadl yn y Cyfarfod Llawn.