{"links":{"self":"https://deisebau.senedd.cymru/deisebau/244233.json"},"data":{"type":"petition","id":244233,"attributes":{"action":"Mae hyfforddwyr cymwys o bob camp yn cael eu hatal rhag hyfforddi plant yn y chwaraeon o’u dewis yn eu priod glybiau oherwydd ffiniau’r cyfyngiadau lleol.","background":"Mae clybiau wedi cyflwyno gweithdrefnau diogel o ran Covid ac maent yn dilyn canllawiau’r Corff Llywodraethu Cenedlaethol. Caniateir i hyfforddwyr o fewn y ffiniau sirol hyfforddi, ond ni all y rhai sy'n byw y tu allan i'r ardaloedd lle mae eu clwb chwaraeon wedi’i leoli wneud hynny. Mae hyn yn golygu bod llawer o blant yn dal i fethu â hyfforddi yn y chwaraeon o’u dewis gan fod eu hyfforddwr / hyfforddwyr yn byw y tu allan i'r sir lle mae'r clwb wedi’i leoli. Yn dilyn cyhoeddiad diweddar Llywodraeth Cymru y gall plant bellach deithio ar draws ffiniau sirol i hyfforddi, mae'n hanfodol bod hyfforddwyr ar gael i hwyluso hyfforddiant o'r fath.","additional_details":"Mae llawer o hyfforddwyr yn wirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser hamdden i hyfforddi plant yn eu priod chwaraeon ac maent yn hanfodol i chwaraeon ar lawr gwlad. Hoffem i'r Senedd ganiatáu i Hyfforddwyr fynychu eu clybiau chwaraeon, a'i gwneud yn “esgus rhesymol” dros fynd i mewn i ardal sy’n destun cyfyngiadau symud, fel y gall plant barhau i hyfforddi yn y chwaraeon o'u dewis.","state":"rejected","signature_count":93,"threshold_for_referral":50,"threshold_for_debate":10000,"created_at":"2020-10-11T13:31:11.976Z","updated_at":"2021-05-11T10:58:43.526Z","rejected_at":"2020-11-16T10:49:10.810Z","opened_at":"2020-10-14T09:50:44.655Z","closed_at":"2021-04-14T22:59:59.999Z","completed_at":null,"moderation_threshold_reached_at":"2020-10-11T20:55:37.000Z","referral_threshold_reached_at":"2020-10-14T17:22:47.000Z","referred_at":null,"debate_threshold_reached_at":null,"scheduled_debate_date":null,"debate_outcome_at":null,"archived_at":"2021-05-11T10:58:42.330Z","submitted_on_paper":false,"submitted_on":null,"creator_name":null,"rejection":{"code":"withdrawn","details":"Yng sgil newidiadau i reoliadau Coronavirus, sy'n golygu bod y camau y gofynnwyd amdanynt gan y ddeiseb bellach wedi'u cymryd, tynnodd y deisebydd y ddeiseb yn ôl."},"debate":null,"topics":[{"code":"covid-19","name":"COVID-19"},{"code":"diwylliant","name":"Diwylliant"}]}}}