Deiseb a gwblhawyd Cefnogwch fusnesau teithio a thwristiaeth Cymru

Mae’r coronafeirws wedi effeithio’n sylweddol ar bob busnes ledled Cymru, ond mae wedi cael effaith ariannol enfawr ar y diwydiant teithio a thwristiaeth ers y dechrau.

O'r rheol 5 milltir wreiddiol, i gael caniatâd i fasnachu am 7 wythnos yn unig, a bellach mae cyfyngiadau teithio lleol wedi cael eu gosod eto ar draws rhannau helaeth o Gymru.

Rhagor o fanylion

Mae'r diwydiant twristiaeth, yn enwedig gwyliau bysiau, yn mynd â phobl i lan y môr, i drefi ac i ddinasoedd, gan roi digonedd o arian i fusnesau lletygarwch a manwerthu lleol.

Ychydig iawn o arian gawson ni, ac ni fydd y cyhoeddiad diweddaraf ynghylch y Gronfa Cadernid Economaidd yn ddigon i gefnogi'r holl fusnesau ledled Cymru y mae angen y gefnogaeth arnynt.

Mae pecynnau cymorth wedi’u rhoi ar waith ar gyfer llawer o fathau o fusnesau, ond mae’n ymddangos mai ein maes ni sydd wedi’i effeithio waethaf ac sydd wedi cael y lleiaf o gymorth.

Rydym yn gofyn yn garedig am eich cefnogaeth i annog Llywodraeth Cymru i drafod cynllun i helpu ein diwydiant i oroesi’r pandemig hwn.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

138 llofnod

Dangos ar fap

10,000