Deiseb a gwblhawyd Dileu arholiadau TGAU a Safon Uwch

Mae myfyrwyr ar hyd a lled Cymru wedi bod o dan ddigon o straen addysgol heb orfod wynebu’r pwysau ychwanegol o hunan-ynysu o fewn grwpiau blwyddyn. Ni ddylai Covid roi straen ychwanegol ar ddisgyblion sy’n pryderu am eu harholiadau neu fynd i brifysgol yn y dyfodol. Athrawon, sydd wedi bod yn dilyn ein cynnydd drwy gydol y flwyddyn, ddylai fod yn gyfrifol am ein graddau diwedd blwyddyn, gan mai nhw sydd fwyaf ymwybodol o’n gallu ymenyddol. Ni ddylid dibynnu ar arholiadau digynsail.

Rhagor o fanylion

Mae myfyrwraig mewn coleg lleol wedi gorfod hunan-ynysu 4 gwaith am fod aelodau o’i dosbarth wedi cael profion Covid cadarnhaol. Mae hyn yn golygu ei bod wedi colli 2 fis o’i haddysg. Ond, ar hyn o bryd, mae disgwyl iddi sefyll arholiadau o hyd, mewn sefyllfa sydd y tu hwnt i’w rheolaeth.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,088 llofnod

Dangos ar fap

5,000