Deiseb a gwblhawyd Dylid caniatáu i aciwbigwyr traddodiadol yng Nghymru weithio yn ystod cyfnodau clo

Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i roi aciwbigo traddodiadol yn yr un dosbarth â thriniaethau meddygol tebyg ar gyfer salwch neu anafiadau, fel y gall clinigau aciwbigo aros ar agor yn ystod y cyfnod clo hwn ac yn y dyfodol. Yn ystod cyfnod atal byr Cymru, mae ceiropractyddion, osteopathiaid a ffisiotherapyddion wedi cael trin cleifion sydd angen gofal brys. Fe'u hystyrir yn ddarparwyr gwasanaethau iechyd hanfodol.

Rhagor o fanylion

Fodd bynnag, cafodd aciwbigwyr eu henwi gan Lywodraeth Cymru yn ddarparwyr gwasanaeth cysylltiad agos (wedi'u rhestru ochr yn ochr â gwasanaethau tatŵ a gwallt a harddwch) sy'n gorfod cau yn ystod y cyfnod atal byr, er gwaethaf y ffaith eu bod yn aml yn gweld cleifion sydd angen gofal brys.
Teimlwn yn gryf y dylid caniatáu i aciwbigwyr barhau i drin cleifion, gan y bydd hynny yn ei dro yn helpu i ysgafnhau’r pwysau ar y GIG. Cymeradwyir aciwbigo gan NICE ar gyfer trin llawer o gyflyrau, ac mae'r Awdurdod Safonau Proffesiynol wedi cytuno â Chyngor Aciwbigo Prydain y gellir cymharu aciwbigo yn uniongyrchol ag osteopatheg a cheiropracteg.
Defnyddir aciwbigo traddodiadol i drin cyflyrau nad oes gan y GIG fawr i'w gynnig ar eu cyfer, gan gynnwys poen difrifol yng ngwaelod y cefn, clunwst, gorbryder, straen, meigryn a chyflyrau cronig fel Covid hir.
Ystyriwch lofnodi'r ddeiseb hon fel y gall ein Llywodraeth weld faint o bobl sy'n credu bod aciwbigo traddodiadol yn wasanaeth gofal iechyd hanfodol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

1,022 llofnod

Dangos ar fap

10,000