Deiseb a gwblhawyd Dylid cynghori pawb yng Nghymru sy'n eithriadol o agored i niwed neu a fu’n cysgodi gynt i aros gartref, nid mynd i’r gwaith, yn ystod cyfnodau pan fo lefel uchel o haint Covid-19 yn y gymuned

Dylid ystyried les ac ofn gwirioneddol pobl eithriadol o agored i niwed yn ymwneud â Covid-19 mewn cyfnodau o gyfraddau haint uchel yn y gymuned. Mae llawer o bobl eithriadol o agored i niwed yng Nghymru yn arswydo rhag mynd allan bob dydd i weithio hyd at wyth awr a mwy mewn amgylchiadau sydd, fel y gwŷr pawb, yn anniogel.

Rhagor o fanylion

Ni chydnabyddir y ffaith bod llawer ohonom yn gweithio mewn mannau caeedig gyda nifer sylweddol o unigolion eraill ac ychydig iawn o awyru. Ni allwn ni leihau cysylltiadau, ac er y bydd masgiau yn lleihau lledaeniad y feirws, ni fyddant yn atal trosglwyddo, fel heintiadau a geir mewn ysbytai a gronynnau Covid-19 aerosol sy'n aros yn yr awyr mewn mannau caeedig am oriau. Rydym wedi dychryn ac yn wynebu’r risg o broblemau iechyd meddwl difrifol, anafiadau corfforol neu farwolaeth oherwydd Covid-19.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

252 llofnod

Dangos ar fap

10,000