Deiseb a wrthodwyd Dylid ailenwi Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd ar ôl y diweddar Howard Marks.

Cafodd Howard Marks enw drwg am ei gampau smyglo a threuliodd flynyddoedd ar ffo cyn cael ei ddal a’i estraddodi i’r Unol Daleithiau.
Flwyddyn ar ôl ei ryddhau o garchar yn America, daeth ei hunangofiant, sef Mr Nice yn un o’r gwerthwyr gorau a’i droi’n ffilm. Hefyd, treuliodd Marks flynyddoedd yn ymgyrchu i ddiwygio cyfreithiau cyffuriau.
Mae’n briodol y dylai ffigwr diwylliannol a gwleidyddol oedd mor totemig, ysbrydolus a dylanwadol gael ei goffa yn enw maes awyr cenedlaethol Cymru.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi