Deiseb a wrthodwyd Defnyddio gwaith cwrs i lunio graddau Safon UG a Safon Uwch ar gyfer blwyddyn 2020-21.

Yn dilyn defnydd echrydus o algorithm i safoni graddau disgyblion y llynedd, rwy’n cynnig y dylid pennu graddau yn seiliedig ar waith cwrs eleni. Nid oes digon o amser i asesiadau a arweinir gan athrawon gael eu sefydlu’n effeithiol. Byddai’n rhyddhad i nifer o ddisgyblion gael gwybod eu bod yn derbyn marciau teg.

Rhagor o fanylion

"A level results day: How coursework would've helped" 11 Awst 2020 - John Dunford, Cyn-bennaeth ac ysgrifennydd cyffredinol y Gymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau. Cyn-gadeirydd Sefydliad Siartredig yr Aseswyr Addysgol a Chadeirydd y Comisiwn Annibynnol ar Esgeulustod Arholi 2018-19.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi