Deiseb a gwblhawyd Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth

Nid yw swyddogion yr heddlu ar y rhestr flaenoriaeth i gael y brechlyn COVID-19, er eu bod mewn swyddi risg uchel.

Rhagor o fanylion

Mae fy mab yn heddwas a gafodd ei heintio â COVID wrth arestio aelod o'r cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am 4 wythnos a phennwyd na fydd yn dychwelyd tan ddiwedd mis Rhagfyr. Trosglwyddodd y feirws i'w wraig oedd yn feichiog iawn, ac aeth hi yn ei thro i’r ward COVID yn yr ysbyty. Bu'n rhaid iddi gael toriad Cesaraidd ar frys, a ganed yr efeilliaid ddeufis yn rhy gynnar. Dyw’r heddlu ddim yn unig yn peryglu eu hunain o ddydd i ddydd, maen nhw hefyd yn peryglu eu teuluoedd. At hynny, mae colli amser plismona’n gryn straen ar yr heddlu pan fod ei swyddogion adre’n sâl gyda COVID.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

10,879 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Cynhaliwyd dadl yn y Senedd ar y pwnc hwn

Cynhaliwyd dadl ar y pwnc hwn ar 3 Mawrth 2021

Gwyliwch y ddeiseb ‘Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth’ yn cael ei thrafod

Trafodwyd y ddeiseb gan y Senedd yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Mawrth 2021.