Deiseb a gwblhawyd Codi blaenoriaeth gweithwyr allweddol nad ydynt yn gweithio i’r GIG sy’n wynebu'r cyhoedd wrth gyflwyno'r brechlyn ar gyfer Covid-19

Rwy'n beiriannydd telathrebu ac wedi gweithio fel gweithiwr allweddol drwy gydol y pandemig. Fel rhan o’m swydd, mae disgwyl i mi fynd i mewn i dai dan ganllawiau llym i gynnal gwasanaethau hanfodol megis band eang. Rai dyddiau, gallaf fynd i mewn i eiddo tri neu bedwar cwsmer. Gyda straen newydd, mwy heintus o COVID-19 wedi’i gofnodi’n ddiweddar yng Nghymru, mae angen brechu gweithwyr allweddol eraill y tu allan i'r GIG rhag COVID-19 yn gynnar neu maent yn wynebu risg uwch o heintio'r cyhoedd neu ddal y feirws.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

117 llofnod

Dangos ar fap

10,000