Deiseb a wrthodwyd CADWCH YSGOLION AR AGOR – ni ddylid BYTH ailadrodd y camgymeriad trasig o’u cau

Colli cyfleoedd dysgu. Mae cau ysgolion yn golygu bod plant o bob cefndir yn colli’r cyfle i gael yr addysg sydd ei hangen arnynt i adeiladu dyfodol disglair. Amcangyfrifir bod pob diwrnod y mae ysgolion ar gau yn cyfateb i golli 40,000 o flynyddoedd o addysg.

Iechyd meddwl; Ers dechrau cyfnod y cyfyngiadau symud, roedd ymchwilwyr sy'n gweithio ym maes iechyd meddwl, hunan-niweidio a hunanladdiad yn poeni am effeithiau ynysu cymdeithasol (Gunnell, 2020). Mae unigrwydd yr un mor niweidiol ag ysmygu a gordewdra o ran effeithiau iechyd tymor hir.

Rhagor o fanylion

Rhaniad digidol. Mae diffyg mynediad i'r rhyngrwyd, cyfrifiaduron addas ac adnoddau addysgu yn golygu bod llawer o blant yn cael eu heithrio o ddysgu ar-lein. Mae amrywiadau mewn mynediad at dechnoleg yn cynyddu anghydraddoldebau o ran cyrhaeddiad academaidd ac ymgysylltu cymdeithasol.

Mae ymchwil gan Brifysgol Rhydychen yn dangos bod pobl ifanc wedi bod yn unig yn ystod y cyfyngiadau symud, yn fwy unig na rhieni (ARC, 2020). Mae ymchwil Prifysgol Caerfaddon yn dangos bod unigrwydd yn gysylltiedig â phroblemau iechyd meddwl fel iselder a gorbryder hyd at 9 mlynedd yn ddiweddarach (Loades, et al., 2020)

Maeth; mae miloedd o blant yn dibynnu ar brydau ysgol am ddim; gall cau ysgolion yn y tymor hir yn annisgwyl gael effaith andwyol o ran maeth a chanlyniadau addysgol. Mae ansicrwydd bwyd yn uwch yn ystod y pandemig.

Cam-drin ac anafu plant; Mae ysgolion yn chwarae rhan hanfodol o ran diogelu plant, ac yn aml, staff addysgol yw’r cyntaf i roi gwybod am achosion posibl o gam-drin plant. Dangosodd ymchwil gan Brifysgol Birmingham ostyngiad sylweddol o 39 y cant yn nifer yr atgyfeiriadau ar gyfer archwiliadau meddygol diogelu plant.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi