Deiseb a wrthodwyd Gohiriwch asesiadau wedi'u personoli mewn Rhifedd a Darllen

Pam bydd ein disgyblion ieuengaf yn sefyll profion, ac arholiadau TGAU a Safon Uwch wedi cael eu gwaredu am fod Covid wedi tarfu ar addysg?

Rhagor o fanylion

A minnau’n athrawes i ddisgyblion blwyddyn 2, rwyf wedi anghytuno â'r angen am brofion ers amser maith. Mae'r broses yn gyffredinol yn peri gofid i ddisgyblion ac nid yw'n darparu unrhyw wybodaeth amdanyn nhw na fyddwn yn ei gwybod yn barod o’r asesu ffurfiannol ohonyn nhw bob dydd.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn eithriadol: collodd plant lawer iawn o addysgu wyneb yn wyneb o fis Mawrth ac maen nhw’n llai parod i allu sefyll profion o'r fath. Gan fod TGAU a Safon Uwch wedi cael eu gwaredu ar gyfer y flwyddyn academaidd hon, ni allaf ddeall pam mae angen i'r asesiadau hyn fynd yn eu blaen. Mae llawer o blant wedi gorfod hunanynysu am gyfnodau ers mis Medi ac mae hyn yn golygu bod y disgyblion hyn dan anfantais o’u cymharu ag eraill.

Mae gorbryder yn destun pryder i blant mewn ysgolion ar yr adeg hon beth bynnag, wrth i ysgolion gael eu rhedeg mewn ffordd wahanol ac oherwydd eu pryderon eu hunain am eu ffrindiau a'u teuluoedd. Nid dyma’r amser i roi pwysau diangen arnynt. Dylem fod yn canolbwyntio ar eu cadw’n ddiogel ac yn hapus. Byddai'r data y byddem yn eu casglu yn amherthnasol ar y gorau.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi