Deiseb a gwblhawyd Ail-werthuso ac egluro’r sefyllfa o ran asesiadau TGAU, Safon UG a Safon Uwch

Fel y gwyddom, mae disgyblion wedi bod yn dysgu'r cwrs Safon UG/Safon Uwch/TGAU, boed hynny yn yr ysgol neu ar-lein. O ystyried y wybodaeth ddiweddar gan Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Cymru, bydd yr asesiadau mewnol 'yn digwydd rhwng 22 Chwefror a 23 Ebrill’. Mae hyn yn llawer cynt nag yr oedd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn ei ddisgwyl, a chyda'r ymyriadau sydd ar waith ar hyn o bryd, nid yw myfyrwyr yn barod i eistedd yr asesiadau hyn yr adeg hon o’r flwyddyn.

Rhagor o fanylion

Byddai sefyll yr asesiadau hyn rhwng y cyfnod hwn yn gwbl annheg oherwydd nad yw disgyblion yn barod, ac yn annhebygol o fod wedi gorffen dysgu eu cwrs. Mae hyn yn sicr wedi effeithio ar iechyd meddwl myfyrwyr oherwydd ansicrwydd y sefyllfa. Yn ystod y cyfnod hwn, mae myfyrwyr wedi colli anwyliaid, a byddai hyn yn effeithio ar eu hiechyd meddwl gymaint fel na fyddent yn gallu perfformio hyd eithaf eu gallu. Nid yw'r athrawon wedi cael y deunyddiau sydd eu hangen i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr asesiadau hyn, ac nid ydynt yn gwybod a ydynt yn addysgu’r deunyddiau cywir. Nid yw disgyblion yn barod yn feddyliol nac yn addysgol i sefyll yr asesiadau hyn, hyd yn oed yn yr haf. Nid yw'r mwyafrif ohonom wedi sefyll arholiadau terfynol TGAU, ac felly nid ydym yn gwybod sut i adolygu na chreu nodiadau mor effeithiol. Mae angen i ni gael gwybod yn awr beth sy’n mynd i ddigwydd, er mwyn paratoi’n effeithiol.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

1,583 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Cyhoeddiad Cymwysterau Cymru - 8 Ionawr

Mae Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi (8 Ionawr 2021) fod ffenestr asesu fewnol y gwanwyn wedi cael ei chanslo ac y bydd trefniadau newydd yn cael eu gwneud: https://www.qualificationswales.org/cymraeg/newyddion/cymwysterau-cymru-yn-canslo-ffenestr-asesiadau-mewnol-y-gwanwyn/

Ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau

Yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2021, trafododd y Pwyllgor y ddeiseb fel rhan o’i drafodaeth o ddeiseb P-05-1128 Canslo ‘asesiadau’ allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig. Penderfynodd y Pwyllgor gau’r holl ddeisebau sy’n ymwneud â’r mater hwn, ar sail penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru i ganslo asesiadau allanol ar gyfer 2021.