Deiseb a gwblhawyd Canslo asesiadau allanol ar ffurf arholiadau ar gyfer TGAU yn 2021 ac ymddiried yn ein hathrawon

Cafodd arholiadau TGAU eu canslo ym mis Rhagfyr a rhoddodd Llywodraeth Cymru y trefniadau a ganlyn ar waith:

Hoffwn i Lywodraeth Cymru ganslo’r asesiadau allanol ac ymddiried yn yr athrawon.

Rhagor o fanylion

Trwy ddileu asesiadau allanol a defnyddio asesiadau mewnol, gwaith cwrs a gwaith gwerthuso athrawon, byddai gan fyfyrwyr gyfle teg i sicrhau eu graddau targed a byddai’n lliniaru’r straen ar athrawon a myfyrwyr.

Mae angen i Lywodraeth Cymru gydnabod bod y cyfyngiadau symud a’r cyfnodau ynysu afreolaidd ledled y wlad a’r ffaith nad yw pob ysgol yn gyfartal wedi amharu ar addysg myfyrwyr.

Mae hyn yn golygu na chafodd pob myfyriwr gyfleoedd dysgu cyfartal yn ystod y cyfyngiadau symud ac mae gweddill y flwyddyn yn parhau i fod yn ansicr.

Byddai hyn yn sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfle cyfartal i sicrhau’r graddau y mae’n eu haeddu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

322 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau

Yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2021, trafododd y Pwyllgor y ddeiseb fel rhan o’i drafodaeth o ddeiseb P-05-1128 Canslo ‘asesiadau’ allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig. Penderfynodd y Pwyllgor gau’r holl ddeisebau sy’n ymwneud â’r mater hwn, ar sail penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru i ganslo asesiadau allanol ar gyfer 2021.