Deiseb a wrthodwyd Dylid penderfynu nawr i gynnal etholiadau 2021 drwy'r post.

Yn sgil y pandemig parhaus, newidiwch etholiadau mis Mai 2021 ar frys i’w cynnal yn gyfan gwbl drwy'r post tra bod digon o amser o hyd i wneud hynny heb golli dim o'r mesurau diogelwch presennol, gan gynnwys llofnod a dyddiad geni.

Rhagor o fanylion

Mae gohirio etholiadau eto oherwydd y pandemig yn annymunol o safbwynt democrataidd. Mae cyfaddawdu ar ddiogelwch etholiadol y broses bleidleisio drwy'r post ar fyr rybudd hefyd yn annymunol o safbwynt uniondeb ein hetholiadau. Os caiff y trefniadau eu gadael tan fis Chwefror neu fis Mawrth, byddai’n rhy hwyr i symud i bleidleisio drwy'r post heb beryglu uniondeb etholiadol oherwydd y byddai'n rhy hwyr i gasglu'r manylion dilysu arferol, fel llofnod a dyddiad geni, yn ddiogel. Mae’n rhaid gweithredu ym mis Ionawr.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi