Deiseb a gaewyd Cynnal ymchwiliad annibynnol i farwolaeth Glyn Summers a gweithredoedd Coleg y Cymoedd

Rydym yn galw ar Senedd Cymru i gynnal ymchwiliad annibynnol cyhoeddus llawn, fel y gall teulu Glyn gael eglurder o’r diwedd ynglŷn â’r digwyddiadau sy’n gysylltiedig â’i farwolaeth drasig bron i 10 mlynedd yn ôl.

Mae gan deulu Glyn reswm i gredu bod staff y coleg wedi rhoi caniatâd i Glyn yfed alcohol pan oedd yn iau na 18 oed, ac wedi gadael iddo fynd i mewn i far ar gyfer pobl dros 21 oed heb oruchwyliaeth tra roedd ar daith coleg. Yn fuan ar ôl hynny cwympodd Glyn o falconi ei westy a bu farw wythnos yn ddiweddarach o'i anafiadau.

Rhagor o fanylion

Cynhaliodd Coleg y Cymoedd ei ymchwiliad mewnol ei hun ond mae'n gwrthod rhyddhau hwn i deulu Glyn. Rydym yn cynnig y dylid deddfu i sicrhau nad oes yn rhaid i unrhyw deulu frwydro gyda gwasanaethau cyhoeddus i ryddhau gwybodaeth sy'n ymwneud â digwyddiadau angheuol. Mae angen gweithredu i sicrhau bod prosesau priodol ar waith ar gyfer mynd i’r afael ag argyfyngau a diogelwch myfyrwyr yng Nghymru.

Mae teulu Glyn yn mynnu ymddiheuriad am gamymddwyn difrifol staff y coleg mewn cysylltiad â’r digwyddiadau a arweiniodd at farwolaeth drasig Glyn a'r ymchwiliad na chafodd unrhyw effaith.

Gofynnwn hefyd i Senedd Cymru gyflwyno deddfwriaeth ddigonol ar gyfer herio gwasanaethau cyhoeddus mewn achosion o gamymddwyn proffesiynol. Bydd hyn yn helpu i ddiogelu’r bobl sydd fwyaf agored i niwed.

Mae colli Glyn wedi bod yn brofiad dinistriol i'w deulu. Mae’r sefyllfa wedi’i waethygu gan y ffaith bod y corff addysgol yn gwrthod cymryd cyfrifoldeb am eu gweithredoedd a dysgu'r gwersi sydd eu hangen i sicrhau na fydd unrhyw farwolaethau fel hyn yn digwydd eto.

Mae’r Pwyllgor Deisebau bellach yn ystyried y ddeiseb hon

Bydd y Pwyllgor Deisebau yn trafod pob deiseb sydd â mwy na 250 llofnod

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

834 llofnod

Dangos ar fap

10,000