Deiseb a gwblhawyd Dylid gwahardd lladd cywion diwrnod oed yng Nghymru

Er mwyn creu ieir dodwy, dim ond cywennod sydd eu hangen. Mae cywion yn cael eu lladd yn fuan ar ôl deor. Mae’r cywion yn cael eu lladd drwy eu nwyo neu eu mwydo. Mae’n debygol bod nwyo’n hynod anghymhellol, ac mae mwydo’n greulon. Mae technoleg yn bodoli sy’n gallu pennu rhyw wy, felly mae’n bosibl atal wyau gwrywaidd rhag deor. Bydd Ffrainc yn gwahardd lladd cywion erbyn 2021, a’r Almaen yn yr un modd erbyn 2022. Dylai Cymru wahardd yr arfer hwn hefyd a darparu arweiniad i weddill y DU.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

413 llofnod

Dangos ar fap

10,000