Deiseb a gwblhawyd Agorwch ysgolion yn llawn i bob oedran yng Nghymru fel y cam nesaf o 15 Mawrth

Mae addysg plant wedi cael ei ddrysu am bron i flwyddyn. Nid ydynt wedi bod i’r ysgol ers cyn y Nadolig. Mae’r straen ar eu hiechyd meddwl ar ei anterth.
Rhoddwyd addewid y byddent yn flaenoriaeth ond nawr gyda’r achosion o covid yn gostwng, rydym yn gweld agor siopau nwyddau nad ydynt yn hanfodol yn cael ei ystyried cyn i’r plant ddychwelyd i’r ysgol.
Mae rhai bellach ar y dibyn ac yn methu wynebu 6 wythnos arall o ddysgu gartref heb obaith/dyddiad ar gyfer dychwelyd.
Peidiwch â gadael plant Cymru i lawr! Agorwch bob blwyddyn ysgol.

Rhagor o fanylion

Mae llawer o blant yn dioddef, nid yn unig yn addysgol, ond hefyd yn emosiynol. Ond eto, mae’n edrych fel pe bai hyn yn cael ei ddiystyru a’r effaith andwyol y mae cau ysgolion yn ei chael ar blant yn cael ei hanwybyddu.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

2,094 llofnod

Dangos ar fap

10,000