Deiseb a gwblhawyd Dylid gwneud rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon ac yn weithred o greulondeb yng Nghymru, ni waeth a oes gan y ceffylau gysgod neu beidio

Ar hyn o bryd, nid yw rhwymo ceffylau yn anghyfreithlon yng Nghymru. Mae pawb siŵr o fod wedi gweld ceffyl hyfryd yn rhwym wrth gadwyn fer yn ymyl y ffordd, heb gysgod rhag y tywydd garw.

Ymddengys nad oes gan yr RSPCA bŵer i wneud dim am y peth! Pe bai ci wedi cael ei glymu yn ymyl ffordd brysur, byddai dicter. Mae'r ddau anifail yn bwysig!

Rhaid pasio deddfau i atal y creulondeb ofnadwy hwn i greaduriaid mor sensitif! Nid oes gan yr anifeiliaid hyn unrhyw ansawdd bywyd; mae'n sgandal llwyr.

Rhagor o fanylion

Creodd yr elusen les HorseWorld ymgyrch #BreaktheChain gyda'r gobaith o newid y gyfraith. Er i’r arfer hwn gael ei alw’n greulon a pheryglus, mae’n aros yn gyfreithiol.

Ewch i'r wefan www.BreakTheChain.org.uk am ragor o wybodaeth.

Byddwn mor falch o Gymru pe bae’n arwain y ffordd i atal yr arfer ofnadwy hwn o'r diwedd. Mae'r RSPCA hefyd yn gwrthwynebu'r arfer, gan ddweud ei fod yn peryglu lles anifeiliaid mewn sawl ffordd.

Mae cod ymarfer Defra er lles ceffylau a chod ymarfer Llywodraeth Cymru yn nodi nad yw rhwymo ceffylau yn ddull addas ar gyfer rheoli’r anifeiliaid. Rhaid gofyn pam, felly, nad yw'n anghyfreithlon?

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

4,637 llofnod

Dangos ar fap

10,000

Busnes arall y Senedd

Cyfarfod y Pwyllgor - 10 Ionawr 2022

Yn y cyfarfod ar 10 Ionawr 2022, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i rannu’r pryderon a’r awgrymiadau a godwyd gan RSPCA Cymru a Blue Cross ac i ofyn am eglurhad ynghylch a oes unrhyw drefniadau i roi cymorth ariannol i orfodi o ran gweithredu deddfwriaeth a rheoliadau ar waith yn y maes hwn. https://busnes.senedd.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=37967&Opt=3.

Cyfarfod y Pwyllgor - 7 Mawrth 2022

Yng nghyfarfod y Pwyllgor Deisebau ar 7 Mawrth, trafododd y Pwyllgor y ddeiseb hon a nododd fod Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd wedi rhoi mwy o fanylion am sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu bwrw ymlaen â'i hymrwymiadau lles anifeiliaid, gan gynnwys gwella hyfforddiant a sgiliau swyddogion gorfodi awdurdodau lleol a bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag asiantaethau gorfodi a sefydliadau lles anifeiliaid ac yn bwriadu ymgynghori ar eu blaenoriaethau. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. https://busnes.senedd.cymru/ieIssueDetails.aspx?IId=37967&Opt=3