Deiseb a wrthodwyd Dylid canslo asesiadau mewnol TGAU a Safon Uwch oherwydd diffyg dysgu

O ganlyniad i’r cyfyngiadau symud, a’r ffaith bod plant wedi bod i ffwrdd o fyd addysg ers cyn y Nadolig. Mae nifer heb gael yr addysg o’r radd flaenaf y bydden nhw wedi’i chael wyneb yn wyneb mewn ystafell ddosbarth. Mae hynny, ynghyd â llwyth gwaith a phwysau meddyliol, wedi golygu bod nifer heb ddysgu cymaint ac ar ei hôl hi, o ganlyniad. Bydd yr asesiadau hyn o fudd i'r ychydig ffodus a breintiedig, yn hytrach na’r niferoedd. O ganlyniad dylid eu canslo a'u disodli gyda'r un system â'r llynedd er tegwch, ac er mwyn lleddfu’r straen ar ddisgyblion sy'n ei chael hi'n anodd.

Pam gwrthodwyd y ddeiseb hon?

Ni chasglwyd digon o lofnodion i gyfeirio’r ddeiseb at y Pwyllgor Deisebau.

Mae angen o leiaf 250 llofnod ar ddeiseb cyn y gellir ei hystyried yn y Senedd.

Dim ond deisebau nad ydynt yn bodloni’r safonau ar gyfer deisebau y byddwn yn eu gwrthod

Mae deisebau a wrthodwyd yn cael eu cyhoeddi yn yr iaith y cawsant eu cyflwyno ynddi