Deiseb a gwblhawyd Hysbysu pob person 18 oed sydd wedi derbyn gofal cymdeithasol fod ganddynt yr hawl i wneud cais am eu gwybodaeth bersonol

Dylai pawb sydd wedi bod yng ngofal y gwasanaethau cymdeithasol gael gwybod am yr hawl sydd ganddynt i wneud cais am eu gwybodaeth bersonol gan y gwasanaethau cymdeithasol wrth iddynt droi’n 18 oed. Gall y broses o adolygu papurau nifer o flynyddoedd ar ôl y digwyddiad dan sylw gael effaith niweidiol sylweddol ar les unigolion a theuluoedd.

Mae gan bob person hawliau dynol, a dylid hysbysu pobl ynghylch yr hawl i weld eu ffeiliau.

Rhagor o fanylion

Gan fy mod i mor angerddol ynghylch helpu plant eraill, penderfynais wneud gradd mewn gwaith ieuenctid a chymunedol. Yn ystod sgwrs gyda fy narlithydd, a oedd yn ymwybodol fy mod i wedi derbyn gofal yn sgil sgyrsiau blaenorol, gofynnwyd imi a oeddwn wedi gwneud cais i weld fy ffeil diogelu data. Doedd gen i ddim syniad beth oedd y ffeil honno, nac ychwaith at beth yr oedd fy narlithydd yn cyfeirio. Rhoddodd fy narlithydd gyngor wrthyf ynghylch yr hyn y dylwn ei wneud. Dilynais y weithdrefn dan sylw a chefais y ffeil. Edrychodd y dyn arnaf gydag empathi, gan ei fod wedi ei darllen. Roedd yr empathi yr oedd yn ei ddangos imi yn destun peth syndod a dryswch i mi.

Mi es i adref â’r ffeil hon, ac roedd gen i gryn ddiddordeb mewn darllen y cynnwys ar yr adeg honno, yn enwedig yn sgil mynegiant wyneb y dyn, a’r ffaith fy mod i’n gwybod ei fod wedi ei darllen hefyd. Fodd bynnag, doedd gen i ddim syniad beth oedd o’m mlaen i. Roeddwn yn agored i’r trawma plentyndod a'r esgeulustod yr oeddwn wedi'u dioddef. Cefais gymaint o sioc, bu’n rhaid imi weld seiciatrydd gan fy mod i wedi ail-fyw trawma'r gorffennol.

Nid wyf yn beio’r gwasanaethau cymdeithasol am y modd y cefais fy nhrin gan fy rhieni. Nid eu bai nhw oedd hynny.

Mae’r Pwyllgor Deisebau wedi trafod y ddeiseb hon

Rhagor o wybodaeth am drafodaethau’r Pwyllgor Deisebau ynghylch y ddeiseb hon

260 llofnod

Dangos ar fap

10,000